Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin J Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | |||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr H. Davies, H. Shepardson ac M. Thomas.
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd S. Rees i'w gyfarfod cyntaf wedi iddo gael ei benodi yn ddiweddar gan y Cyngor yn aelod o'r Pwyllgor. |
||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig. |
||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
||||||||||||||||
POLISI DYRANNU TAI CYMDEITHASOL NEWYDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: Gadawodd y Cynghorydd H. Evans y Siambr tra oedd yr eitem hon yn cael ei hystyried gan ei bod wedi datgan buddiant yn y mater yn gynharach)
Atgoffwyd y Pwyllgor fod y Cabinet, yn dilyn sefydlu Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol Brys, a ddatblygwyd gan ei Gr?p Gorchwyl a Gorffen, yn ei gyfarfod ym mis Ebrill 2023, wedi mabwysiadu'r polisi hwnnw a chytunodd y dylid datblygu polisi parhaol newydd yn amodol ar ymarfer ymgynghori 12 wythnos. Daeth yr ymarfer hwnnw i ben ddiwedd Mai 2024, gyda'i ganfyddiadau wedi'u cyflwyno i'r Pwyllgor Craffu yn ei gyfarfod ar 8 Gorffennaf, 2024. Yn dilyn y cyfarfod hwnnw, cyflwynwyd y Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol newydd arfaethedig i'r Pwyllgor ar gyfer ei sylwadau, cyn iddo gael ei ystyried gan y Cabinet, gyda'r prif newidiadau a nodir isod.
· Bydd angen i ymgeiswyr ailgofrestru bob 6 mis yn hytrach na 12 mis, er mwyn sicrhau bod y gofrestr yn cael ei hadolygu'n rheolaidd a'i diweddaru, · Bydd Paru Uniongyrchol nawr yn cael ei wneud i bob band o fewn y Polisi ac nid yn gyfyngedig i Fandiau A a B, · Gwnaed gwelliannau i enwau pob un o'r bandiau blaenoriaeth er mwyn sicrhau cysondeb â’r ddeddfwriaeth tai, · Mae'r meini prawf paru wedi'u nodi'n glir mewn trefn o ran sut y caiff ymgeiswyr eu blaenoriaethu, · Diwygiwyd Ardaloedd Cysylltiad Cymunedol i sicrhau eu bod yn gwneud synnwyr daearyddol o ran dyraniadau, · Argymhellir rhoi pwerau dirprwyedig i'r Pennaeth Tai i alluogi Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig newydd i ymuno â'r gofrestr tai, ac, · Mae meini prawf dyraniad y Gofrestr Tai Hygyrch wedi'u cynnwys fel Atodiad i'r Polisi Dyraniadau ehangach.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad: · Cadarnhawyd, yn yr un modd â'r Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol Brys presennol, y gellid darparu adroddiadau monitro rheolaidd o'r polisi newydd i gyfarfodydd y pwyllgor yn y dyfodol bob yn ail fis. Cadarnhawyd hefyd y gellid datblygu taflen ffeithiau ar gyfer aelodau etholedig i'w helpu i gynorthwyo eu hetholwyr ar unrhyw ymholiadau a allai fod ganddynt am y polisi newydd. · Cyfeiriwyd at ddarparu tai i breswylwyr sy'n destun Oedi wrth Drosglwyddo Gofal brys o'r ysbyty. Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd, er bod nifer yr achosion Oedi wrth Drosglwyddo Gofal yn isel, roedd y ddarpariaeth yn y polisi yn galluogi swyddogion i weithredu'n gyflym i ddarparu llety addas pan fo angen. · O ran cwestiwn ynghylch y rhesymeg y tu ôl i'r Ardaloedd Cysylltiad Cymunedol sydd wedi'u grwpio, er enghraifft gosod Lliedi yn Ward Gogledd Llanelli, dywedwyd wrth y Pwyllgor mai'r bwriad oedd cyfyngu ar nifer yr ardaloedd cysylltiadau cymunedol ac yn hytrach cael ardaloedd llai mwy diffiniedig a oedd yn haws eu rheoli na'r hyn a geir ar hyn o bryd e.e. gallai’r cysylltiad fod yn gyflogaeth neu faterion teuluol. Fodd bynnag, byddai angen darparu tystiolaeth i gefnogi'r cysylltiad hwnnw ac yn achos cyflogaeth byddai'n cynnwys prawf o gyflogaeth neu gynnig cyflogaeth. · Cyfeiriwyd at 2.14 yn y polisi lle na fyddai blaenoriaeth yn cael ei rhoi i ymgeiswyr ar y gofrestr mewn achosion o ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
||||||||||||||||
OPSIYNAU PERCHENTYAETH COST ISEL AR GYFER SIR GAERFYRDDIN Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: Gadawodd y Cynghorydd H. Evans, a oedd wedi datgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon, Siambr y Cyngor tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried)
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar gynyddu'r opsiynau sydd ar gael ar gyfer Perchentyaeth Cost Isel yn Sir Gaerfyrddin a oedd yn manylu ar yr opsiynau presennol, opsiynau ychwanegol posibl i'w hystyried, ac argymhellion ar gyfer camau gweithredu yn y dyfodol er mwyn cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy i breswylwyr.
Nodwyd, er mwyn sicrhau bod y bobl gywir yn cael mynediad at Berchentyaeth Cost Isel, byddai angen i'r cyngor gymhwyso meini prawf cymhwysedd llym a oedd yn cynnwys: · Ymgeiswyr yn gallu sicrhau morgais a gallu fforddio'r ad-daliadau a'r costau sy'n gysylltiedig â phrynu cartref, · Pobl gymwys yn gallu dangos cysylltiad lleol cryf â'r ardal lle’r oeddent yn ceisio prynu cartref
Pe bai'n cael ei fabwysiadu, byddai'r polisi yn helpu pobl leol i aros yn eu cymunedau, a thrwy hynny helpu i ddiogelu'r iaith a'r diwylliant Cymraeg a sicrhau bod y cynnyrch Cartrefi Cost Isel ond ar gael i'r rhai oedd eu hangen.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad: · O ran cwestiwn yn ymwneud ag isafswm ac uchafswm y bandiau trothwy incwm tai ar gyfer pob un o'r pedwar Ardaloedd Gweithredu Tai Fforddiadwy y manylir arnynt yn yr adroddiad, dywedwyd wrth y pwyllgor mai Llywodraeth Cymru oedd wedi penderfynu ar y rhain ac y bu'n rhaid i'r Cyngor lynu wrthynt. · Cyfeiriwyd at yr hinsawdd economaidd bresennol ac at yr effaith y gallai hynny ei chael ar allu unigolyn i dalu morgais ar eiddo a brynwyd o dan y polisi. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Buddsoddi a Datblygu, er bod angen sicrhau ar y cychwyn bod y gallu gan unigolyn i dalu morgais, cyfrifoldeb yr unigolyn oedd y sicrhau'r taliad yn y pendraw. · Cadarnhawyd, er mai ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn unig oedd cyllid Prynu Cartref – Cymru, Llywodraeth Cymru, roedd argymhelliad 3 yn yr adroddiad yn argymell bod y Cyngor yn archwilio i ariannu cynhyrchion Perchentyaeth Cost Isel yn uniongyrchol drwy'r Cyfrif Refeniw Tai ar safleoedd adeiladu newydd dethol. · O ran cwestiwn yn ymwneud â chynlluniau 'rhentu i berchen', cadarnhawyd mai dim ond i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yr oedd cyllid Llywodraeth Cymru ar gael, ond nid oedd cyllid ar gyfer y cynllun wedi bod ar gael ers tair blynedd. Fodd bynnag, roedd hwn yn rhywbeth y gallai'r Cyngor ystyried ei gynnig yn y dyfodol o dan y Cyfrif Refeniw Tai.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL cymeradwyo Opsiynau Perchentyaeth Cost Isel ar gyfer Sir Gaerfyrddin. |
||||||||||||||||
MENTER Y DEG TREF - DIWEDDARIAD CYNNYDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â'i Flaengynllun Gwaith, bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad cynnydd a oedd yn rhoi diweddariad cynhwysfawr ar Fenter y Deg Tref, nod y fenter oedd cefnogi twf economaidd yn y deg tref farchnad wledig a nodwyd yn yr adroddiad. Amlinellodd yr adroddiad y gefnogaeth a sicrhawyd i ddatblygu mentrau amrywiol ar lefel leol, gan bwysleisio'r ymdrechion cydweithredol rhwng rhanddeiliaid a hefyd tynnu sylw at ddatblygu cynlluniau twf economaidd wedi'u teilwra ar gyfer pob un o'r trefi gan ganolbwyntio ar wella seilwaith lleol, hybu twristiaeth a chefnogi busnesau lleol.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad: · Cyfeiriwyd at gynllun y Gronfa Ffyniant Gyffredin y a oedd yn dod i ben erbyn diwedd 2024 ac i weld ac a oedd unrhyw risgiau posibl i brosiectau nad oeddent wedi'u cwblhau erbyn hynny wedi cael eu nodi a'u rheoli. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Economaidd fod pob prosiect yn cael ei fonitro'n barhaus am risgiau er mwyn sicrhau'r gwariant mwyaf posibl. Roedd rhywfaint o hyblygrwydd hefyd yn y cynllun i ganiatáu cwblhau prosiectau cyfalaf i ymestyn hyd at ddiwedd mis Chwefror 2025. · O ran cwestiwn a oedd unrhyw gynllun arall i olynu’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, dywedodd y Rheolwr Datblygu Economaidd er i'r cynllun presennol ddod i ben ym mis Mawrth 2025, ni fyddai cadarnhad o gynllun arall i olynu hwn, neu fel arall, yn hysbys tan gyllideb Hydref Llywodraeth y DU ar ddiwedd mis Hydref 2024. Fodd bynnag, roedd yr Awdurdod yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth y DU ar gynllun i olynu hwn ar gyfer y tymor byr a'r tymor hir. · Cyfeiriwyd at lefel yr ymgysylltu cymunedol fel rhan o'r Rhaglen Deg Tref a rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am y trefniadau ymgysylltu a fabwysiadwyd. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor ymhellach, pe bai unrhyw aelod yn dymuno derbyn cyngor ar ymgysylltu â'r gymuned, a dilyniant cynlluniau/cynigion o fewn eu wardiau unigol, bod croeso iddynt gysylltu â'r adran.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad cynnydd. |
||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 2024/25 ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Mis Mehefin, 2024 mewn perthynas â'r meysydd sy'n dod o fewn ei gylch gwaith yn manylu ar y cynnydd a wnaed ynghylch y camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol ac ynghylch cyflawni'r Amcanion Llesiant.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
||||||||||||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2024/25 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorydd R. Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw ac arhosodd yn y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried)
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2024/25 y Gwasanaethau Tai, Adfywio, Cynllunio a Hamdden ar gyfer y cyfnod hyd at 30 Mehefin 2024. Nodwyd y rhagwelid gorwariant o £287k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £7,784k yn y gyllideb gyfalaf, a gorwariant o £1,742k yn y Cyfrif Refeniw Tai.
Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:- · Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud â lefel gordewdra ymhlith plant yn y Sir, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod y Cyngor yn chwartel isaf Awdurdodau Lleol Cymru. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor Craffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar ôl nodi gordewdra ymhlith plant fel mater o fewn y Sir, wedi sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen i archwilio'r mater, ar y cyd â'i bartneriaid niferus. Roedd canfyddiadau a chasgliadau'r Gr?p bellach wedi'u cwblhau ac roedd adroddiad ar hynny yn mynd drwy broses wleidyddol y Cyngor. · Cyfeiriwyd at ffrwd incwm Canolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn nad oedd wedi cyrraedd y targed a dywedodd y Pennaeth Hamdden fod hwn oherwydd bod rhan o’r cyfleuster wedi cael ei gau yn gynnar yn y tymor er mwyn caniatáu i waith cynnal a chadw hanfodol gael ei gwblhau. Rhoddodd wybodaeth hefyd i'r Pwyllgor am y cynigion ar gyfer y dyfodol y safle a fyddai'n golygu cau'r safle ar ddiwedd Hydref 2025 a darparu cyfleuster newydd ym Mharc Gwledig Pen-bre fel rhan o'r model addysg awyr agored diwygiedig a fydd yn dechrau yn ystod Gwanwyn 2026. · O ran y saib yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer y gronfa Ffyniant Bro yn Llanelli, y cyfeirir ato yn Atodiad E, cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Economaidd fod y saib yn gysylltiedig â chynigion Llywodraeth y DU sydd i'w disgwyl ddiwedd mis Hydref ac y byddai cynllun newydd, gobeithio, yn dod i'r amlwg fel rhan o'r cynigion hynny.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf yn cael ei dderbyn. </AI8> |
||||||||||||||||
ADRODDIAD ALLDRO CYLLIDEB REFENIW 2023/24 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorydd R. Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw ac arhosodd yn y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried)
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Alldro y Gyllideb Refeniw 2023/24 mewn perthynas â gwasanaethau Tai, Adfywio ac Eiddo, Lle a Chynaliadwyedd a Hamdden sy'n rhan o'i gylch gwaith. Nododd fod y gwasanaethau, ar y cyfan, yn nodi tanwariant o £492k, gyda'r Cyfrif Refeniw Tai yn cofnodi gorwariant o £404k.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol ag Erthygl 6 (6) o gyfansoddiad y Cyngor, bu'r Pwyllgor yn ystyried Cais am Eitem ar Agenda'r Pwyllgor Craffu a dderbyniwyd gan y Cynghorydd Martyn Palfreman sef bod y Pwyllgor yn sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen i gynnal adolygiad cynhwysfawr i broses Ymgynghori Cynllunio y Cyngor i fynd i'r afael â diffygion posibl yn y system bresennol.
Rhoddwyd cyfle i'r Cynghorydd Palfreman annerch y Pwyllgor i gefnogi ei gais a dywedodd, er bod y broses bresennol yn cydymffurfio ag isafswm y gofynion statudol, ei fod o'r farn nad oedd hyn yn ddigonol, ac nad oedd hysbysiadau cyhoeddus am geisiadau cynllunio bob amser yn cael eu harddangos mewn lleoliadau priodol amlwg, ac ar adegau'n diflannu cyn diwedd y cyfnod rhybudd gyda dim ond preswylwyr y tai cyfagos yn cael gwybod am gynigion yn ysgrifenedig, sy'n golygu efallai na fyddai gan eraill yn y cyffiniau unrhyw wybodaeth am gynlluniau a allai effeithio arnynt yn uniongyrchol ac yn faterol. Er mwyn mynd i'r afael â'r diffygion posibl hynny, teimlai y gallai adolygiad cynhwysfawr nodi gwelliannau i roi cyfle ystyrlon i drigolion gael dweud eu dweud ar ddatblygiadau arfaethedig yn eu hamgylchedd lleol gyda gwelliannau posibl i fynd i'r afael â'r diffygion hynny i gynnwys:
· Rhoi rhybudd ysgrifenedig ynghylch ceisiadau i breswylwyr pob eiddo o fewn radiws rhesymol i ddatblygiadau arfaethedig, ac yn sicr y rhai yr effeithir arnynt yn weledol a chan ffactorau fel llai o barcio a’r cynnydd disgwyliedig mewn llif traffig. · Sicrhau bod hysbysiadau cyhoeddus bob amser yn cael eu harddangos mewn lleoliadau sy'n rhesymol hygyrch i'r cyhoedd a bod y lleoliadau hyn yn cael eu monitro drwy gydol y cyfnod rhybudd i sicrhau nad yw’r hysbysiadau yn cael eu difrodi, eu difwyno na'u tynnu. · Gwelliannau i'r porth cynllunio ar-lein i resymoli gwybodaeth a hwyluso mynediad cyhoeddus at ddogfennaeth ategol.
Awgrymodd y Cynghorydd Palfreman, pe bai ei gais am adolygiad Gorchwyl a Gorffen yn cael ei dderbyn, gallai ystyried hyfywedd y gwelliannau uchod, ac eraill fel y bo'n briodol, gan ystyried hefyd:
1. Gofynion Deddfwriaethol, 2. Goblygiadau ymrwymiadau ehangach y Cyngor i ymgysylltu'n effeithiol â chymunedau 3. Tystiolaeth o arfer gorau mewn ardaloedd eraill a 4. Goblygiadau y newidiadau sy'n cael eu hawgrymu ar adnoddau gan arwain at argymhellion ar gyfer gwella i'w hystyried gan bwyllgor priodol o'r Cyngor.
Wrth ystyried y cais, cafodd y Pwyllgor wybod am y gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol sy'n gysylltiedig â'r broses ymgynghori cynllunio (a oedd yn amrywio yn dibynnu ar y math o gais cynllunio), canlyniad Adolygiad Cullen a gafwyd yn ddiweddar (nad oedd yn argymell unrhyw newidiadau i'r trefniadau presennol) a goblygiadau posibl o ran costau diwygio'r trefniadau presennol. O ganlyniad, mynegwyd barn o ystyried bod y materion a godwyd yn berthnasol i bob aelod o'r cyngor, byddai'n fuddiol, yn y lle cyntaf, pe gellid trefnu seminar i aelodau ar y broses ymgynghori cynllunio fel ffordd o ehangu eu dealltwriaeth.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
|
||||||||||||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at adroddiad arfaethedig Pentre Awel i'w ystyried yn ei gyfarfod nesaf a'r ffaith fod seminar ar y sefyllfa bresennol wedi ei threfnu ar gyfer 9 Hydref 2024. Yn sgil y seminar arfaethedig, holwyd a oedd y Pwyllgor yn dymuno gohirio'r adroddiad tan ei gyfarfod ym mis Ionawr.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 11 Tachwedd, 2024 yn amodol ar nodi bod adroddiad Pentre Awel yn cael ei ohirio i'r cyfarfod a fyddai'n cael ei gynnal ar 20 Ionawr 2025. |
||||||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 8FED GORFFENNAF 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2024 yn gofnod cywir. |