Agenda a chofnodion drafft

Budget and Rent setting, Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio - Dydd Mawrth, 7fed Ionawr, 2025 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin Runeckles  01267 224674

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

H.A.L. Evans

4. CYFRIF REFENIW TAI A PHENNU RHENTI TAI 2025/26 A 5. CYNLLUN BUSNES Y CYFRIF REFENIW TAI 2025-28 RHAGLEN BUDDSODDIADAU TAI SIR GAERFYRDDIN

Ei chwaer yn brif weithredwr cymdeithas tai

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

CYFRIF REFENIW TAI A PHENNU RHENTI TAI 2025/26 pdf eicon PDF 139 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd H.A.L Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried)

 

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar Gyllideb y Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2025/26 a gyflwynir fel rhan o broses ymgynghori'r gyllideb a ddygai ynghyd y cynigion diweddaraf ar gyfer y cyllidebau Refeniw a Chyfalaf ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai a fydd yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet a'r Cyngor er mwyn iddynt benderfynu yn eu cylch.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan adlewyrchu'r cynigion diweddaraf a oedd wedi'u cynnwys yng Nghynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu a chynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ar gyfer y dyfodol. Roedd y buddsoddiad arfaethedig a geir yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni STSG erbyn 2015 (i'r cartrefi hynny lle'r oedd tenantiaid wedi cytuno i gael y gwaith), wedi darparu buddsoddiad i gynnal STSG+ ac wedi parhau â'r buddsoddiad yn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn manylu ar sut y byddai rhenti'n cynyddu ar gyfer 2025/26 gyda chyllideb y Cyfrif Refeniw Tai yn cael ei gosod i adlewyrchu'r canlynol:

 

-       Y Polisi Rhenti Tai Cymdeithasol (a bennir gan Lywodraeth Cymru)

-       Cynigion yng Nghynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai Sir Gaerfyrddin

-       Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod buddsoddiad cyfalaf o fwy na £230m wedi'i wneud i gyflawni Safon Tai a Mwy Sir Gaerfyrddin, ac ers ei gyflawni mae £134m pellach wedi'i wario ar gynnal y safon. Dros y tair blynedd nesaf mae'r awdurdod yn disgwyl gwario £62m ymhellach ar gynnal a gwella'r stoc dai. Mae'r gyllideb hefyd yn darparu cyllid o £50m dros y tair blynedd nesaf i gefnogi'r rhaglen datblygu tai.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod canllawiau ar lefelau rhent yn cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru. Ar gyfer 2025/26 mae'r canllawiau'n nodi cynnydd o ddim mwy na 2.7%. Pennwyd hyn yn seiliedig ar lefel chwyddiant MPD o 1.7%. Gan fod chwyddiant nawr ar 2.6%, mae hyn ynghyd â phwysau ariannol eraill megis costau contractwyr, codiadau cyflog a'r cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr wedi rhoi baich ychwanegol ar y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Byddai hyn yn golygu rhent o £108.59 ar gyfartaledd, cynnydd o £2.85 a rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y bydd y cynnydd ychydig yn llai sef 2.62% i 8,500 o denantiaid sydd eisoes yn talu'r rhent targed,  ac y bydd tenantiaid sy'n talu llai na'r rhent targed yn talu 2.62% a mwy hyd at £1.00 ychwanegol yr wythnos. Cynigiwyd hefyd i gynyddu rhenti garej o £0.26 yr wythnos i £9.86 a pharhau â'r polisi ynghylch tâl am wasanaethau lle mae taliadau'n cael eu gosod i dalu am wasanaethau ychwanegol nad ydynt yn dod o dan y rhent.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor pe bai'r lefelau rhent yn cael eu derbyn, y byddai gan yr awdurdod un  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

CYNLLUN BUSNES 2025-28 Y CYFRIF REFENIW TAI RHAGLEN BUDDSODDIADAU TAI SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd H.A.L Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried)

 

Cafodd y Pwyllgor adroddiad ar Gynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai 2025-28 Rhaglen Buddsoddiadau Tai Sir Gaerfyrddin, a oedd yn tynnu sylw at bwysigrwydd bod y Cyngor yn cefnogi ei denantiaid a'i breswylwyr ym mhopeth y mae'n ei wneud, gan nodi'r pum thema allweddol ganlynol fel rhai sy'n gyrru'r busnes am y tair blynedd nesaf:

 

·       Thema 1 – Gwrando ar denantiaid a'n dull o reoli ystadau a thenantiaethau.

·       Thema 2 – Buddsoddi mewn Cartrefi.

·       Thema 3 - Darparu rhagor o dai

·       Thema 4 - Economi leol, budd i'r gymuned a chaffael.

 

Cefnogwyd y pedair thema hynny gan nifer o gamau gweithredu a nodwyd yn yr adroddiad

  

Codwyd y cwestiynau neu faterion canlynol ynghylch yr adroddiad:

 

·       Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, mewn ymateb i gwestiwn ynghylch maint disgwyliedig paneli solar sy'n cael eu hychwanegu at gartrefi, y byddai'r ffocws cychwynnol ar welliannau 'ffabrig yn gyntaf' i effeithlonrwydd ynni h.y. inswleiddio. Byddai ffocws ar welliannau fel paneli solar ar gartrefi newydd, a chanolbwyntio ar sicrhau bod tenantiaid yn gallu gweithredu'r systemau'n effeithiol.

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch eiddo gwag, rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y sefyllfa bresennol, bod 144 o eiddo gwag, sef 1.53% o gyfanswm y stoc dai. Dywedwyd y gall fod proses hir i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd, gan nad yw 10% o'r stoc dai yn cydymffurfio â'r safonau presennol oherwydd amharodrwydd rhai tenantiaid i ganiatáu gwaith mawr.

·       Holodd y Pwyllgor am y ffigurau ynghylch y mathau o wresogi yn y stoc dai. Dywedwyd bod y ffigwr gwresogi cymunedol o 4.7% yn cynnwys tai gwarchod. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor hefyd o'r bwriad i osod pympiau gwres o'r aer mewn rhai eiddo ôl-osod ac eiddo newydd.

·       Mewn ymateb i gwestiwn am gefnogi tenantiaid i fyw'n annibynnol, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod yr adran tai yn cysylltu'n agos â gofal cymdeithasol, Llesiant Delta, a'r tîm addasiadau i wneud hyn.

·       Croesawyd y fenter 'Cyfeillion Beirniadol; rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod 200 o denantiaid wedi mynegi diddordeb mewn bod yn rhan o'r cynllun i ddechrau a bod yr adran yn adeiladu ar y diddordeb hwn i barhau i ychwanegu mwy o denantiaid at y rhaglen.

·       Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am i adroddiad ar Gynlluniau Tai â Chymorth i bobl ifanc gael eu dwyn gerbron y pwyllgor yn ddiweddarach. Bydd hyn yn cael ei ychwanegu at y Blaengynllun Gwaith ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.

·       Roedd yna sylw ynghylch Atodiad C o'r adroddiad lle'r oedd rhai ffigurau'n dangos canran y tenantiaid oedd yn fodlon â gwasanaethau penodol, ac roedd rhai ffigurau'n dangos canran y tenantiaid nad oeddent yn fodlon - gallai hyn fod wedi cael ei gyflwyno'n well yn unffurf fel y canrannau oedd yn fodlon.

·       Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor mewn ymateb i gwestiwn ynghylch atgyweiriadau ymatebol fod canran y gwaith atgyweirio brys a gwblhawyd o fewn 24 awr yn uchel iawn,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 20 Ionawr 2025.

 

Wrth nodi'r agenda drom, cynigiodd y Cadeirydd y dylid dosbarthu'r eitemau agenda canlynol ar yr agenda i'w harchwilio drwy e-bost:

 

Monitro Perfformiad (Ch2) a Monitro Cyllideb Refeniw a Chyfalaf 2024/25 (Ebrill i Hydref 2024)

 

Byddai rheoli'r agenda yn galluogi i'r Pwyllgor gynnal gwaith craffu ansawdd.  Eiliwyd y cynnig.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y byddai'r Swyddog Craffu yn casglu unrhyw ymholiadau mewn perthynas â'r adroddiadau a ddosbarthwyd drwy e-bost a byddai'r ymatebion yn cael eu cynnwys ar yr eitemau sydd ar ddod yn y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r rhestr o eitemau sydd ar ddod ar gyfer y cyfarfod nesaf ar 20 Ionawr 2025 gyda'r diwygiad y dylid craffu ar yr adroddiadau uchod drwy e-bost.

7.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 11 TACHWEDD 2024 pdf eicon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 11  Tachwedd 2024 yn gywir.