Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio - Dydd Mercher, 13eg Rhagfyr, 2023 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr B. Davies a R. Evans.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

R. Sparks

7 - Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 2023/24 (01/04/23 - 30/09/23) - sy'n berthnasol i'r maes craffu hwn

Mae ganddo fusnes nofio a gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig ar hamdden ond nid pleidleisio 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

CYFRIF REFENIW TAI A PHENNU RHENTI TAI 2024/25 pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar Gyllideb y Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2024/25 a gyflwynir fel rhan o broses ymgynghori'r gyllideb a ddygai ynghyd y cynigion diweddaraf ar gyfer y cyllidebau Refeniw a Chyfalaf ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai a fydd yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet a'r Cyngor er mwyn iddynt benderfynu yn eu cylch.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan adlewyrchu'r cynigion diweddaraf a oedd wedi'u cynnwys yng Nghynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu a chynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ar gyfer y dyfodol. Roedd y buddsoddiad arfaethedig a geir yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni STSG erbyn 2015 (i'r cartrefi hynny lle'r oedd tenantiaid wedi cytuno i gael y gwaith), wedi darparu buddsoddiad i gynnal STSG+ ac wedi parhau â'r buddsoddiad yn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn manylu ar sut y byddai rhenti'n cynyddu ar gyfer 2024/25 gyda chyllideb y Cyfrif Refeniw Tai yn cael ei gosod i adlewyrchu'r canlynol:-

 

·       Y Polisi Rhenti Tai Cymdeithasol (a bennir gan Lywodraeth Cymru)

·       Cynigion yng Nghynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai Sir Gaerfyrddin

·       Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai

 

O ran pennu Rhenti Tai, atgoffwyd y Pwyllgor fod yr Awdurdod wedi mabwysiadu Polisi Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar 24  Chwefror 2015 am gyfnod o bedair blynedd hyd at 2018/19, a roddodd gysondeb dros y cyfnod hwnnw. Roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu polisi interim ar gyfer 2019/20 wrth iddi aros am ganlyniadau'r Adolygiad o'r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy.Yn dilyn yr adolygiad hwnnw, roedd Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cadw'r polisi am gyfnod pellach o 5 mlynedd o 2020/21 gyda rhai gofynion ychwanegol/diwygiedig, fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Roedd y polisi hwn yn caniatáu i awdurdodau lleol gynyddu cyfanswm y rhent gan y CPI +1% ar gyfer pob un o'r pum mlynedd o 2020/21 i 2024/25. Roedd hefyd yn caniatáu i lefel y rhent ar gyfer tenantiaid unigol godi hyd at £2 ychwanegol ar ben CPI+1% ar gyfer cysoni rhenti, ar yr amod na fyddai cyfanswm yr incwm rhent a gasglwyd gan y landlord cymdeithasol yn cynyddu mwy na CPI+1%.

 

Fodd bynnag, os bydd CPI y tu allan i'r ystod o 0% i 3%, mae'r polisi'n darparu i'r Gweinidog â chyfrifoldeb am Dai benderfynu ar y newid priodol i lefelau rhent i'w gymhwyso ar gyfer y flwyddyn honno yn unig. Gan fod CPI yn 6.7% ym mis Medi 2023, roedd y cymal hwnnw wedi'i actifadu eleni ac roedd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Newid yn yr Hinsawdd wedi dweud na ddylai'r cynnydd mwyaf yn yr amlen rent ar gyfer unrhyw awdurdod lleol fod yn fwy na 6.7%.

 

O ystyried yr uchod, roedd yr adroddiad yn argymell cynnydd rhent tai cyfartalog o 6.5% (£6.47) fesul preswylfa yr wythnos. Pe bai'r Pwyllgor yn cymeradwyo'r cynnydd hwnnw, byddai'n arwain at warged o £293m ar y Cyfrif Refeniw Tai. Fodd bynnag, cynlluniwyd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

CYNLLUN BUSNES 2024-27 Y CYFRIF REFENIW TAI RHAGLEN BUDDSODDIADAU TAI SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad ar Gynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai 2024-27 Rhaglen Buddsoddiadau Tai Sir Gaerfyrddin, a oedd yn

 tynnu sylw at bwysigrwydd bod y Cyngor yn cefnogi ei denantiaid a'i breswylwyr ym mhopeth y mae'n ei wneud, gan nodi'r pum thema allweddol ganlynol fel rhai sy'n gyrru'r busnes am y tair blynedd nesaf:-

 

-        Thema 1 – Ein Cynnig Rheoli Ystadau a Thenantiaethau.

-        Thema 2 – Buddsoddi mewn Cartrefi.

-        Thema 3 - Hyrwyddo cynhesrwydd fforddiadwy a datgarboneiddio ein stoc dai.

-        Thema 4 - Darparu rhagor o dai.

-        Thema 5 - Yr Economi Leol, Budd i'r Gymuned a Chaffael

 

Cefnogwyd y pum thema hynny gan y camau canlynol:

·   Cyflwyno "cynnig" rheoli ystadau a thenantiaethau newydd a fydd yn sicrhau bod swyddogion tai yn fwy gweladwy a hygyrch ar ein hystadau. Bydd y "cynnig" hwn yn cydbwyso cefnogaeth i'n tenantiaid gyda gweithgareddau gorfodi lle mae'n briodol gwneud hynny. Bydd hyn hefyd yn cyd-fynd â gweithredu cynllun peilot "tasgmon" newydd ar ystadau blaenoriaeth yng Nghaerfyrddin, Rhydaman, Llanelli ac ardaloedd gwledig.

·   Parhau i gadw nifer yr eiddo gwag ar lefel isel a lleihau'r ôl-groniad presennol o waith atgyweirio o ddydd i ddydd. Rydym yn bwriadu cynyddu ein darpariaeth fewnol o ran gwaith atgyweirio o ddydd i ddydd ac ail-gydbwyso'r rhaniad presennol rhwng contractwyr mewnol ac allanol.

·   Parhau i fuddsoddi i sicrhau bod cartrefi yn rhatach i'w rhedeg ar gyfer ein tenantiaid, ac yn ogystal â gosod paneli solar wrth i ni osod toeau newydd, byddwn yn datblygu achos busnes ar gyfer cyflwyno rhaglen ehangach o baneli solar ar doeau ar ystadau.

·   Oherwydd y galw sylweddol am gartrefi sy'n cael eu hadeiladu o'r newydd, byddwn yn mynd ati i brynu rhagor o dir. Bydd hyn yn cynnwys safleoedd mwy o faint a ddefnyddir ar gyfer tai Cyngor yn unig. Bydd hyn yn cynyddu cyflymder a graddfa ein rhaglen ddatblygu;

·   Buddsoddi pellach mewn tai o fath arbenigol (e.e. anabledd dysgu, tai â chymorth i bobl h?n a phobl ifanc) i sicrhau bod anghenion yn cael eu diwallu yn y ffordd fwyaf priodol. Bydd hyn yn cynnwys llety llai, mwy gwasgaredig mewn gwahanol wardiau. Bydd y buddsoddiad hwn hefyd yn sicrhau symud i ffwrdd o leoliadau drud ac amhriodol y tu allan i'r sir ar gyfer rhai grwpiau o gleientiaid; a

·   Caffael fframwaith mân waith newydd ar gyfer gwaith atgyweirio o ddydd i ddydd a phrosiectau gwella ehangach i sicrhau ymateb cyflymach ac i gefnogi contractwyr lleol llai ledled y Sir.

 

Nododd y Pwyllgor fod incwm gafwyd drwy renti tenantiaid a ffynonellau cyllid eraill yn galluogi llunio rhaglen buddsoddiadau gwerth mwy na £277m (Cyfalaf - £113m a Refeniw - £164m) i gynnal gwasanaethau dros gyfnod y cynllun. I gynnal y lefel honno o fuddsoddiad, drwy gynllunio ariannol gofalus, lefel y cynnydd  rhent rhagamcanol ar gyfer 2024/25 oedd 6.5%, a oedd yn is na chyfradd chwyddiant mis Medi o 6.7% a'r cynnydd rhent uchaf a bennir gan y Gweinidog Tai ar gyfer 2024/25. Roedd y cynllun hefyd yn cynnwys £330k o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD DIWEDDARU - DYRANNU TAI CYMDEITHASOL BRYS YNGHYLCH RHOI'R POLISI DYRANNU NEWYDD AR WAITH (MONITRO) pdf eicon PDF 176 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â'r penderfyniad a wnaed yn ei gyfarfod ar 26 Ionawr 2023, cafodd y Pwyllgor adroddiad monitro ar effeithiolrwydd y Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol Brys newydd a luniwyd gan ei Gr?p Gorchwyl a Gorffen. Nodwyd bod yr adroddiad yn cynnwys data ar gyfer y cyfnod blaenorol yn ymwneud â'r canlynol:

 

1.     Cyfran yr eiddo a barwyd yn uniongyrchol a'r rhai a hysbysebwyd,

2.      Bandiau'r cleientiaid a barwyd yn uniongyrchol,

3.     Nifer yr eiddo a barwyd yn uniongyrchol ac a hysbysebwyd gan bob ardal gymunedol, math o eiddo a landlord,

4.     Cyfran yr achosion o baru uniongyrchol a oedd yn llwyddiannus,

5.     Nifer yr achosion o baru uniongyrchol lle gofynnodd y cleient am adolygiad o'r dyraniad, a chanlyniad yr adolygiadau hynny,

6.     Nifer yr achosion o baru uniongyrchol lle gwrthododd y cleientiaid y dyraniad ond heb ofyn am adolygiad.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Cadarnhawyd, wrth i'r Cyngor symud o'r polisi dyraniadau brys i bolisi newydd ffurfiol, y byddai'r wybodaeth ansoddol a'r profiad enillwyd o'r polisi brys yn cael eu dadansoddi a'u defnyddio i lywio'r polisi newydd hwnnw.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad monitro.

7.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CWARTER 2 - 2023/24 (01/04/23 - 30/09/23) YN BRIODOL I'R PWYLLGOR CRAFFU HWN pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd R. Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried)

 

Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 2023/24 ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 2023 mewn perthynas â'r meysydd sy'n dod o fewn ei gylch gwaith yn manylu ar y cynnydd a wnaed ynghylch y camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol ac ynghylch cyflawni'r Amcanion Llesiant.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·       Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd ar ddichonoldeb fformat yr adroddiad yn cael ei ddiwygio i fformat adrannol â thema er mwyn hwyluso'n haws y gwaith o graffu ar berfformiad, nodwyd y byddai'r mater yn cael ei godi gydag Adran Rheoli Perfformiad y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

8.

DIWEDDARIAD AR GAMAU GWEITHREDU Y PWYLLGOR CRAFFU pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a nodai'r hyn a wnaed mewn perthynas â cheisiadau neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 26 Ionawr 2024.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 26 Ionawr 2024.

10.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 15 TACHWEDD 2023 pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2023 yn gywir.