Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio - Dydd Mercher, 15fed Tachwedd, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd B. Davies.  

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

R. Sparks

4 - Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Gronfa Ffyniant Gyffredin 

Wedi derbyn grant o dan y cynllun

R. Sparks

5 - Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Raglen Arfor 2

Wedi derbyn grant o dan y cynllun

R. Sparks

6 – Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2023/24

Mae ganddo fusnes nofio a gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig ond nid pleidleisio

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

DIWEDDARIAD Y GRONFA FFYNIANT GYFFREDIN pdf eicon PDF 168 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Gan fod y Cynghorydd R. Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon eisoes, nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r eitem gan y Pwyllgor).

 

Yn unol â chais a wnaed yn ei Sesiwn Blaen-gynllunio ym mis Ebrill 2023, derbyniodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru ar gynnydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (SPF) yn Sir Gaerfyrddin yn rhoi sylw i'r canlynol:

 

·       Llywodraethu a Gwneud penderfyniadau lleol

·       Tîm Rheoli Rhaglen

·       Gweithredu a Chyflawni

·       Hawlio a Monitro Ariannol

 

Nododd y Pwyllgor, ar ôl cymeradwyo'r Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol ym mis Rhagfyr 2022, fod dyraniad Sir Gaerfyrddin o £38.6m o'r gronfa wedi'i ddatgloi ac er mwyn i'r Cyngor allu bodloni'r terfynau amser tynn a osodwyd gan Lywodraeth y DU, sef 31 Mawrth 2025, roedd datblygiad y SPF yn y Sir wedi symud ymlaen yn gyflym. Hyd yn hyn, ers lansio'r cynllun ar 6 Mawrth 2023, roedd cyfanswm o £19.68m o brosiectau Angor a Strategol wedi'u cymeradwyo ynghyd â £5.5m pellach ar gyfer y Rhaglen Rhifedd Oedolion ‘Lluosi’ gan ddod â chyfanswm y gwariant presennol i £25.18m

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·       Mewn perthynas â chwestiwn ar broses a llywodraethu Prosiectau Unigol a gymeradwywyd gan Gabinet y Cyngor, cadarnhawyd bod meini prawf a chanllawiau llym yn eu lle i sicrhau cydymffurfiaeth ar gyfer pob grant a gymeradwywyd. O ran sicrwydd a phwysiad prosiectau'r Cyngor, roedd Partneriaeth Adfywio wedi'i sefydlu gyda rhanddeiliaid o ystod eang o sefydliadau a rhoddwyd ystyriaeth i'r holl brosiectau gan y Bartneriaeth cyn i'r Cabinet eu cymeradwyo.

 

O ran Llywodraethu, er mai Dinas a Sir Abertawe oedd yr awdurdod arweiniol ar gyfer y SPF, roedd 4% o'r gronfa gyffredinol ar gyfer Sir Gaerfyrddin wedi'i ddefnyddio i sefydlu Swyddfa Rheoli Rhaglen i fonitro'r holl brosiectau a oedd wedyn yn bwydo gwybodaeth yn ôl am allbynnau yn erbyn meini prawf i’r Cabinet a Llywodraeth y DU.

·       Yngl?n â chwestiwn ar fonitro allbynnau ac effeithiau dyfarniadau grant, cadarnhawyd bod tîm monitro wedi'i sefydlu i sicrhau'r gwariant mwyaf posibl o ddyraniadau grant. Cadarnhawyd ymhellach y gellid darparu adroddiad monitro diweddaru ar wariant, allbynnau a chanlyniadau prosiectau i gyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol.

·       Mewn ymateb i ymholiad ar Atodiad 2 ac absenoldeb unrhyw eglurhad ar natur y dyfarniadau grant, cadarnhawyd y byddai'r wybodaeth berthnasol yn cael ei dosbarthu i aelodau'r pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru ynghylch y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

5.

Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM RAGLEN ARFOR 2 pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Gan fod y Cynghorydd R. Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon eisoes, nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r eitem gan y Pwyllgor).

 

Yn unol â chais a wnaed yn ei Sesiwn Blaen-gynllunio ym mis Ebrill 2023, derbyniodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru ar gynnydd Rhaglen Arfor 2 yn Sir Gaerfyrddin a oedd yn rhoi cyfleoedd i gefnogi'r gwaith o adfywio economi'r Sir ynghyd â chyfrannu at dwf yr Iaith Gymraeg.

 

Nodwyd mai amcanion strategol allweddol Arfor 2 oedd:-

·    Creu cyfleoedd i bobl ifanc a theuluoedd (dan 35 oed) aros yn eu cymunedau brodorol neu ddychwelyd iddynt – gan eu cefnogi i lwyddo’n lleol drwy gymryd rhan mewn menter neu ddatblygu gyrfa.

·    Creu cymunedau mentrus o fewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith – drwy gefnogi mentrau masnachol a chymunedol sy’n ceisio cadw a chynyddu cyfoeth lleol drwy fanteisio ar hunaniaeth a rhinweddau unigryw eu hardaloedd.

·    Sicrhau bod y budd mwyaf posibl yn deillio o weithgaredd drwy gydweithio – sicrhau bod arfer da a gwersi a ddysgwyd yn cael eu rhannu a bod monitro parhaus yn digwydd i sicrhau gwelliant parhaus.

·        Cryfhau hunaniaeth cymunedau drwy sicrhau nifer uchel o siaradwyr Cymraeg – trwy gefnogi defnydd ac amlygrwydd y Gymraeg, gan annog ymdeimlad o le a theyrngarwch lleol.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       O ran y dyraniad o £1.18m i Sir Gaerfyrddin i gyflawni'r Rhaglen Cymunedau  Mentrus, cadarnhawyd bod pob un o'r 4 awdurdod lleol o fewn y rhaglen  sef Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin wedi derbyn yr un dyraniad. Nodwyd hefyd y gellid cyflwyno ceisiadau am gyllid i bob un o'r 4 awdurdod.

·       Mewn perthynas â monitro'r Rhaglen, tra bo Cyngor Sir Gwynedd, fel yr awdurdod arweiniol, yn gyfrifol am ei gwerthuso a'i monitro, roedd pob un o'r 4 awdurdod yn darparu adroddiadau monitro misol iddo a oedd wedyn yn cael eu cyflwyno i  Fwrdd Rhaglen Arfor 2, yn cynnwys arweinwyr pob awdurdod, a Llywodraeth Cymru.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor hefyd, yn sgil argymhellion yn codi ar Raglen Arfor1, a oedd yn tynnu sylw at fonitro a gwerthuso fel rhan allweddol o'r rhaglen, fod Wavehill wedi'i benodi i ddatblygu fframwaith monitro i'w ddefnyddio ar draws pob un o'r ffrydiau gwaith i ddangos tystiolaeth o effaith y rhaglen.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru ynghylch Rhaglen Arfor 2.

6.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2023/24 pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Gan fod y Cynghorydd R. Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon eisoes, ailddatganodd y buddiant hwnnw ac arhosodd yn y cyfarfod.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2023/24 y Gwasanaethau Tai, Adfywio ac Eiddo, Lle a Chynaliadwyedd a Hamdden ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Awst 2023.  Nodwyd y rhagwelid gorwariant o £36k yn y gyllideb refeniw, tanwario o £28,568k yn y gyllideb gyfalaf, a gorwariant o £81k yn y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·     Mewn ymateb i ymholiad ynghylch diffyg o £26k yn yr incwm ar gyfer Harbwr Porth Tywyn yn cael ei briodoli i ddiffyg mewn incwm meysydd parcio, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod y rhesymau dros y diffyg yn rhai amrywiol eu natur. Roedd y rheini'n cynnwys y sefyllfa bresennol gyda thenantiaid yr Harbwr wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr (a oedd wedi effeithio ar nifer y perchnogion cychod oedd yn defnyddio'r harbwr), cost uwchraddio'r maes parcio ynghyd ag absenoldeb gorfodaeth yn y maes parcio. Fodd bynnag, roedd trafodaethau'n mynd rhagddynt gyda'r Is-adran Priffyrdd ynghylch yr adnoddau gorfodi o fewn yr holl feysydd parcio arfordirol i wella incwm parcio. 

·       O ran y sefyllfa bresennol gyda Harbwr Porth Tywyn, ar ôl i'r tenantiaid fynd i ddwylo'r gweinyddwyr, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod trafodaethau rheolaidd yn cael eu cynnal gyda'r gweinyddwyr a rhagwelwyd y byddai adroddiad opsiynau yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn y flwyddyn newydd ar sefyllfa'r Harbwr yn y dyfodol. Nodwyd hefyd fod cyfarfodydd rhanddeiliaid misol yn cael eu cynnal gydag aelodau lleol a rhanddeiliaid eraill â diddordeb i roi gwybod iddynt am y sefyllfa bresennol.

·       Mewn perthynas â'r diffyg o £78k a ragwelwyd yng ngweithrediad Canolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn, adroddodd y Pennaeth Hamdden, er bod arbedion effeithlonrwydd a'r gwaith o ailfodelu'r Cynnig Addysg Awyr Agored wedi'u cytuno'n flaenorol, daeth yn angenrheidiol i fwrw'r rhain ymlaen blwyddyn pan ddaeth yn amlwg na fyddai'r amserlen ar gyfer cyflawni gwasanaeth wedi'i ailfodelu'n llwyr yn cael ei bodloni. Fodd bynnag, roedd y targed incwm yn dal yn y gyllideb ac roedd hynny wedi cyfrannu tuag at y gorwariant.

 

O ran y defnydd o'r ganolfan ei hun, er bod ysgolion yn dal i'w harchebu, roedd y cyfleusterau yn dod i ddiwedd eu hoes ac ymhen hir, ni fyddent yn ddiogel i’w defnyddio’n barhaus.

·       O ran y gorwariant o £211k ar Brosiect Denu Twristiaid Pentywyn, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod hynny yn ymwneud â phenderfyniad y Cyngor i beidio â rhyddfreinio ei waith ond i'w reoli’n fewnol a’r costau cychwyn sy’n gysylltiedig â’r penderfyniad hwnnw. Fodd bynnag, rhagwelwyd y byddai'r ganolfan yn adennill costau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol bresennol ac, wedi hynny, yn gwneud elw.

·       O ran y gyllideb o £219k ar gyfer Cyd-fenter Llanelli, cadarnhaodd y Pennaeth Adfywio, Polisi a Digidol ei fod yn gytundeb rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru i ddod â safleoedd ymlaen o fewn ardal a ddiffinnir o fewn Cyd-fenter Llanelli ar gyfer datblygu economaidd ac adfywio gyda’r incwm o’u gwerthu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

SEFYDLU GRWP GORCHWYL A GORFFEN AR ADDASIADAU pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â'r penderfyniad a wnaed yn ei gyfarfod ar 28 Medi i sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen ar y gwasanaeth addasiadau o fewn yr Is-adran Tai, Eiddo a Phrosiectau Strategol, ystyriodd y Pwyllgor adroddiad yn tynnu sylw at aelodaeth arfaethedig y Gr?p ynghyd â'i gylch gorchwyl arfaethedig.

 

Nodwyd mai aelodaeth arfaethedig y Gr?p oedd:

·    Y Cynghorydd D. Cundy (Cadeirydd - Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio)

·    Y Cynghorydd B. Jones (Is-gadeirydd - Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio)

·    Y Cynghorydd R. Sparkes

·    Y Cynghorydd K. Howell

·    Y Cynghorydd M. Palfreman

·    Y Cynghorydd H. Shepardson

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo aelodaeth a Chylch Gorchwyl y Gr?p Gorchwyl a Gorffen ar Addasiadau.

8.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 71 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol:-

 

·         Y Gronfa Ffyniant Bro

·         Defnydd Canol Tref Amgen

·         Cynllun Datblygu Lleol - Canllawiau Cynllunio Atodol Diwygiedig

·         Cynnig Addysg Awyr Agored Amgen

·         Cynllun Cymell Tenantiaid

 

 PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiadau.

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 13 Rhagfyr, 2023.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 13 Rhagfyr 2023. 

10.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 28 MEDI 2023 pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 28 Medi 2023, gan eu bod yn gywir.