Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr B. Davies, M. Palfreman a H. Shepardson.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

R. Sparks

7 - Y Strategaeth Hamdden, Diwylliant a Hamdden Awyr Agored

8 – Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2023/24

9 – Adroddiad Alldro'r Gyllideb Refeniw 2022-23

Mae ganddo fusnes nofio a gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig ond nid pleidleisio, oni bai mewn perthynas ag unrhyw fater yn ymwneud â Chanolfan Hamdden Caerfyrddin

K. Broom

7 - Y Strategaeth Hamdden, Diwylliant a Hamdden Awyr Agored

8 – Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2023/24

 

Personol – Cadeirydd ac Ymddiriedolwr Canolfan Hamdden Trimsaran

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

ADOLYGIAD O'R POLISI YNGHYLCH TALIADAU AM WASANAETHAU TAI pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu’r 3 opsiwn canlynol o ran gweithredu Polisi yn y dyfodol ynghylch Taliadau am Wasanaethau a hynny ar gyfer taliadau a wneir gan Ddeiliaid Contract (tenantiaid neu lesddeiliaid) am wasanaethau ychwanegol a ddarperir gan y Cyngor o ran mannau cymunedol a rennir neu gyfleusterau mewn blociau o fflatiau sy’n eiddo i’r Cyngor, cynlluniau gwarchod neu brosiectau tai â chymorth a oedd yn fwy na’r rhent cyffredinol, fel y nodir yn yr adroddiad:

 

·       Opsiwn 1: Gwneud Dim – Cadw’r Polisi presennol ynghylch Taliadau am Wasanaethau gyda chap ar unrhyw gynnydd blynyddol posibl o ran ei dâl rhent cyffredinol (gan gynnwys Taliadau am Wasanaethau), sef uchafswm o £3 o gynnydd bob wythnos.

·       Opsiwn 2: Gwaredu’r cap yn gynyddrannol – Adolygu a diwygio’r polisi presennol gyda’r bwriad o gyflwyno cynnydd cynyddrannol dros gyfnod o 3 blynedd er mwyn sicrhau bod yr holl daliadau am wasanaethau’n unol ag adennill costau’n llawn. Bydd y cap yn dod i rym dim ond pan fydd taliadau’n fwy na’r cap wythnosol y cytunwyd arno.

·       Opsiwn 3: Gwaredu’r Cap – Gwaredu’r cap yn llwyr o’r polisi presennol gyda deiliaid contract yn talu’r gost yn llawn am ddefnydd o 2024/25.

 

Nododd y Pwyllgor fod y Cyngor, o dan y Polisi presennol ynghylch Taliadau am Wasanaethau, yn gweithredu ‘cap’ a oedd yn golygu bod unrhyw gynnydd o ran taliadau am wasanaethau’n cael ei gyfyngu i uchafswm o £3 yr wythnos, gyda’r cynnydd yn y gost fesul tenant yn amrywio yn ôl y math o lety a lefel y costau am wasanaethau yr eir iddynt. Talwyd unrhyw wahaniaeth rhwng lefel y cynnydd yng nghostau’r Awdurdod, a’r hyn a dalwyd gan ddeiliaid contract o ganlyniad i’r cap, o’r Cyfrif Refeniw Tai (HRA), ac yn seiliedig ar wariant gwirioneddol 2021/22, sef £903k wedi’i osod yn erbyn £762k o gostau a adenillwyd, roedd y Cyfrif Refeniw Tai wedi talu am y diffyg o £141k. Ond, yn dilyn cynnydd sylweddol mewn costau cyfleustodau ar gyfer 2022/23, gallai’r gwariant gwirioneddol yn y dyfodol fod yn sylweddol uwch, a phe byddai’r cap presennol yn cael ei gadw byddai’r bwlch rhwng y costau yr eir iddynt a’r costau a gaiff eu hadennill yn cynyddu, gan effeithio ymhellach ar Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai a’i allu i fuddsoddi mewn darparu gwasanaethau.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Nodwyd bod 40% o denantiaid ar hyn o bryd a oedd yn elwa ar y cap yn cyrraedd uchafswm y cap, sef £3 bob wythnos. Yn flaenorol, roedd hynny’n 25%.

·      Mynegwyd pryderon y gallai gwaredu’r cap arwain at rai tenantiaid yn mynd i ôl-ddyledion. Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd y byddai’r Cyngor, o dan amgylchiadau o’r fath, yn gweithio gyda’r tenantiaid i liniaru yn erbyn hynny ac i helpu i’w hatal rhag mynd i ôl-ddyledion. Yn ogystal, gallai taliadau Budd-daliadau Tai a Chredyd Cynhwysol hefyd gwmpasu rhan o unrhyw gynnydd, ac mai rhan o rolau’r swyddogion oedd sicrhau bod tenantiaid yn cael y budd-daliadau cywir.

·        Cyfeiriwyd at Opsiwn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

CYMHWYSO BWRIADOLDEB I ANGEN BLAENORIAETHOL (GORCHYMYN DIGARTREFEDD) pdf eicon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ynghylch y Cyngor yn cadw bwriadoldeb i bob un o’r 10 categori angen blaenoriaethol a restrir o dan y Ddeddf (Cymru) Tai 2014 (fel y nodwyd yn yr adroddiad ac a fabwysiadwyd gan y Cyngor ym mis Gorffennaf 2015) a hefyd i gymhwyso bwriadoldeb i’r 11eg categori, sef Digartrefedd Stryd, fel y’i cyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2022.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at bwynt 5.1 yn yr adroddiad lle daeth penderfyniadau am ddigartrefedd a wnaed yn 2019-20 i’r casgliad fod 3% o denantiaid yn ddigartref yn fwriadol. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y sefyllfa bresennol a nifer yr apelwyr a glustnodwyd fel rhai sy’n ddigartref yn fwriadol.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod 18 o’r 2,738 o bobl a gyflwynwyd yn ddigartref i’r Cyngor yn 2022/23 wedi’u nodi fel rhai a oedd yn ddigartref yn fwriadol.

·       Nododd y Pwyllgor fod dyletswydd gyfreithiol ar y Cyngor i ddarparu llety dros dro am gyfnod o 56 diwrnod pan fo person wedi cael ei gyflwyno fel unigolyn digartref, a hynny er mwyn gallu cynnal gwiriadau priodol i gadarnhau a oedd digartrefedd gwirioneddol wedi digwydd. Os daeth tystiolaeth i’r casgliad yn ystod y cyfnod hwnnw fod person yn ddigartref yn fwriadol, nid oedd gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol mwyach i ddarparu llety iddynt ar ôl i’r cyfnod o 56 diwrnod ddod i ben a byddai’r unigolyn yn cael gwybod am hynny.

·       Cadarnhawyd bod y rhai sy’n ‘symud o soffa i soffa’ yn dod o dan y 10 categori angen blaenoriaethol yn y Ddeddf Tai

·       Mewn perthynas â chwestiwn ynghylch y math o dystiolaeth/meini prawf sy’n ofynnol i brofi bwriadoldeb, dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd y byddai ymchwiliadau’n cael eu cynnal gydag asiantaethau perthnasol ac aelodau’r teulu ac ati i ganfod a oedd bwriadoldeb wedi digwydd. Os oedd bwriadoldeb wedi’i brofi, roedd gan berson hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw.

·       Cadarnhawyd y gallai person a benderfynwyd yn flaenorol ei fod yn ddigartref yn fwriadol gael ei ailgyflwyno fel rhywun digartref ond y byddai pob ailgyflwyniad yn cael ei bennu fesul achos a byddai’n rhaid i’r person ddangos tystiolaeth fod ei amgylchiadau wedi newid, er enghraifft, byddai’n rhaid iddo brofi nad oedd ei ymdrechion i ddod o hyd i’w lety ei hun wedi bod yn llwyddiannus.

·       Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd, mewn perthynas ag achosion ailadroddus o fwriadoldeb, y byddai’n trefnu i eitem ynghylch hynny gael ei chynnwys yn yr adroddiad monitro nesaf a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ar y Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol Brys

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo cadw bwriadoldeb ar gyfer pob un o'r 10 categori angen blaenoriaethol a restrir o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a bod y Cyngor hefyd yn cymhwyso bwriadoldeb i'r 11eg categori, sef Digartrefedd Stryd.

 

6.

ADRODDIAD DIWEDDARU - DYRANNU TAI CYMDEITHASOL BRYS YNGHYLCH RHOI'R POLISI DYRANNU NEWYDD AR WAITH (MONITRO) pdf eicon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â'r penderfyniad a wnaed yn ei gyfarfod ar 26 Ionawr 2023, cafodd y Pwyllgor adroddiad monitro ar effeithiolrwydd y Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol Brys newydd a luniwyd gan ei Gr?p Gorchwyl a Gorffen. Nodwyd bod yr adroddiad yn cynnwys data ar gyfer y cyfnod blaenorol yn ymwneud â'r canlynol:-

 

1.     Cyfran yr eiddo a barwyd yn uniongyrchol â'r rhai a hysbysebwyd,

2.     Y band os oedd y cleientiaid wedi’u paru’n uniongyrchol,

3.   Nifer yr eiddo a barwyd yn uniongyrchol ac a hysbysebwyd gan bob ardal gymunedol, math o eiddo a landlord,    

4.   Cyfran yr achosion o baru uniongyrchol a oedd yn llwyddiannus,    

5.   Nifer yr achosion o baru uniongyrchol lle roedd y cleient wedi gofyn am adolygiad o'r dyraniad, a chanlyniad yr adolygiadau hynny.  

6.   Nifer yr achosion o baru uniongyrchol lle roedd y cleientiaid wedi gwrthod y dyraniad ond nid oedd wedi gofyn am adolygiad.    

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·      Cyfeiriwyd at ystyriaeth flaenorol y Pwyllgor ynghylch natur dros dro'r Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol a’r angen i’r Cyngor fabwysiadu polisi parhaol. Tynnwyd ei sylw at yr amserlen o fewn yr adroddiad i fabwysiadu polisi ffurfiol yn dechrau ym mis Tachwedd 2023 gyda’r bwriad o fabwysiadu’n ffurfiol erbyn mis Rhagfyr 2024. Cadarnhawyd hefyd yr ymgynghorir â’r Pwyllgor ynghylch y polisi.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ar ostyngiad o ran nifer yr eiddo sy’n paru’n uniongyrchol, priodolwyd hynny’n rhannol i’r galw am lety gwarchod mewn rhai ardaloedd. Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd fod gan y Cyngor 21 o gynlluniau tai gwarchod ar hyn o bryd yn darparu llety ar gyfer 6-700 o bobl, gyda rhai cynlluniau’n anoddach i’w rhentu nag eraill. Awgrymodd y gallai fod yn amserol i adolygu’r ddarpariaeth honno a’i phwrpas wrth symud ymlaen.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad monitro.

 

7.

STRATEGAETH HAMDDEN, DIWYLLIANT, A HAMDDEN AWYR AGORED pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorwyr K. Broom a R. Sparks wedi ailddatgan buddiant yn yr eitem hon ar ôl datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Yn dilyn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2022, rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r Strategaeth Hamdden, Diwylliant a Hamdden Awyr Agored olaf ar ôl y cyfnod ymgynghori a chyn iddi gael ei hystyried gan y Cabinet.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at effeithlonrwydd ynni canolfannau hamdden y Cyngor ac a oedd ystyriaeth wedi’i rhoi i gaffael batris i storio unrhyw ynni oedd dros ben a gynhyrchwyd gan y paneli solar a osodwyd ar yr adeiladau, a hynny er mwyn defnyddio’r ynni yn y canolfannau hamdden yn hytrach na’i ddychwelyd i rwydwaith y grid trydan.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Hamdden, er bod gwaith yn cael ei wneud i sicrhau bod y canolfannau’n effeithlon o ran ynni, roedd angen gwneud rhagor, a chynhaliwyd trafodaethau ynghylch hynny gydag Is-adran Eiddo Corfforaethol y Cyngor ac asiantaethau allanol megis yr Ymddiriedolaeth Garbon. Ond byddai’n codi’r mater ynghylch pecynnau batri gyda'r Is-adran Eiddo Corfforaethol a byddai’n ymateb yn uniongyrchol i’r aelod a gododd y cwestiwn.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y Canlyniadau Economaidd yn yr adroddiad (tudalennau 74-76) a’r £20m o fuddsoddiad ychwanegol yn y gwasanaeth dros gyfnod y Strategaeth, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Hamdden fod hyn yn ymwneud â lefel y buddsoddiad y byddai’r gwasanaeth yn bwriadu ei dynnu i lawr i fuddsoddi yn y meysydd a nodir yn yr adroddiad hwn. Gallai’r buddsoddiad hwnnw ddod o amrywiaeth o ffynonellau megis Rhaglen Gyfalaf y Cyngor, mentrau Buddsoddi i Arbed, grantiau a chyllid allanol arall.

·       O ran cynhyrchu incwm yn yr Is-adran Hamdden, cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden fod hyn bellach wedi dychwelyd i’r lefelau cyn Covid yn y rhan fwyaf o feysydd. Ond roedd y dyfodol yn parhau i fod yn heriol i’r gwasanaeth o ran costau ynni cynyddol a chostau byw yn effeithio’n andwyol ar lefelau incwm a chostau. Roedd yr Is-adran yn ymdrechu i gynyddu nifer y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth ac roedd yn archwilio cyfleoedd newydd i gynyddu nifer y defnyddwyr/incwm wrth iddynt gael eu cyflwyno, er enghraifft gweithio ar y cyd â’r Bwrdd Iechyd i annog pobl i fod yn fwy egnïol.

·       Cyfeiriwyd at un o amcanion y Strategaeth o ran hybu Gweithgarwch Diwylliannol Sir Gaerfyrddin a gofynnwyd am eglurhad ynghylch pa fesurau roedd y Cyngor yn eu cymryd i annog staff i siarad Cymraeg yn y gweithle.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Hamdden fod yr Is-adran yn gweithio gydagg Adran Bolisi’r Cyngor ynghyd â sefydliadau eraill megis yr Urdd, y Cyngor Chwaraeon ac ati i hybu ac i annog y staff i ddefnyddio’r Gymraeg. Ond gellid gwneud rhagor ac roedd hynny’n cydblethu â datblygiad staff a strategaeth gweithlu corfforaethol newydd.

·       Mewn ymateb i gwestiwn am bysgota o fewn y Sir, cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Hamdden ei fod wedi’i gynnwys yn y Strategaeth gyda’r nod o wella lefel y ddarpariaeth o fewn yr amserlen 10 mlynedd. Er mai’r gobaith oedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2023/24 pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorwyr K. Broom a R. Sparks wedi ailddatgan buddiant yn yr eitem hon ar ôl datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2023/24 y Gwasanaethau Tai, Adfywio ac Eiddo, Lle a Chynaliadwyedd a a’r Gwasanaethau Hamdden ar gyfer y cyfnod hyd at 30 Mehefin, 2023. Nodwyd y rhagwelid gorwariant o £10k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £52,709k yn y gyllideb gyfalaf, a thanwariant o £94k yn y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Mewn ymateb i gwestiwn ar lithriadau o fewn y rhaglen Gyfalaf, dywedodd y Pwyllgor nad oedd unrhyw bryder ynghylch cyllid a darpariaeth y prosiectau er bod nifer o resymau dros y llithriadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf yn cael ei dderbyn.

 

9.

ADRODDIAD ALLDRO CYLLIDEB REFENIW 2022/23 pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd R Sparks wedi ailddatgan buddiant yn yr eitem hon ar ôl datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Alldro’r Gyllideb Refeniw 2022/23 mewn perthynas â Thai, Adfywio ac Eiddo, Lle a Chynaliadwyedd a’r Gwasanaethau Hamdden sy’n dod o fewn ei gylch gwaith. Nododd fod y gwasanaethau, yn gyffredinol, wedi cofnodi gorwariant o £236k, ac roedd y Cyfrif Refeniw Tai wedi cofnodi gorwariant o £1,496k.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

10.

PEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 71 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol:-

 

·         Cynllun Cymhelliant i Denantiaid

·         Defnyddiau Canol Tref Amgen

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiadau.

 

11.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau ar gyfer y dyfodol a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 15 Tachwedd, 2023.

 

Cyfeiriwyd at y ffaith nad oedd y Pwyllgor wedi penderfynu eto a ddylid cynnal Gr?p Gorchwyl a Gorffen ar gyfer 2023/24 a gwnaethpwyd awgrym bod un yn cael ei sefydlu ynghylch y modd y mae Gwasanaeth Addasiadau’r Cyngor yn cael ei weithredu o fewn yr Is-adran Eiddo Tai a Phrosiectau Strategol i archwilio’r ôl-groniad presennol o ran gwaith a phrosesau gyda’r bwriad o wella darpariaeth y gwasanaeth.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

11.1

nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 15 Tachwedd 2023.

11.2

sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen i archwilio’r modd y mae Gwasanaeth Addasiadau’r Cyngor yn gweithredu

 

12.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 29 MEHEFIN 2023 pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2023 gan eu bod yn gywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau