Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr N. Evans ac R. Evans.

 

Croesawodd y Cadeirydd Esme Chapman i'r cyfarfod a oedd yn cysgodi'r Cynghorydd M. Palfreman.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

A Davies

7 – Cynllun cyflawni gwasanaeth yr adran adfywio 2023-24

Llwybr Beicio Dyffryn Tywi

R. Sparks

5 – Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2022/23

Mae ganddo fusnes nofio a gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig ond nid pleidleisio.

R. Sparks

6 – Cynlluniau Cyflawni Rhanbarthol Drafft 2023-24 ar gyfer Tai a Diogelu'r Cyhoedd, Eiddo Tai a Phrosiectau Strategol a Hamdden

Mae ganddo fusnes nofio a gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig ond nid pleidleisio.

M. Palfreman

6 – Cynlluniau Cyflawni Rhanbarthol Drafft 2023-24 ar gyfer Tai a Diogelu'r Cyhoedd, Eiddo Tai a Phrosiectau Strategol a Hamdden

Mae'n rhedeg gwasanaeth ymgynghori ar Ofal Cymdeithasol i Awdurdodau Lleol ac wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig ond nid pleidleisio.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.  

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

ARFARNIADAU ARDALOEDD CADWRAETH pdf eicon PDF 170 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar arfarniadau a gynhaliwyd ar y 10 ardal gadwraeth ganlynol o fewn Sir Gaerfyrddin a'r diwygiadau arfaethedig i'w ffiniau, lle bo'n berthnasol. Roedd yr adroddiad yn manylu ar ganlyniad yr ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd rhwng 24 Mehefin a 26 Awst 2022, ac amlinellodd y camau nesaf a'r camau ar gyfer y dyfodol tuag at fabwysiadu'r arfarniadau a'u canlyniadau. Nodwyd hefyd bod yr arfarniadau wedi'u cynnal yn unol â dyletswyddau cyfreithiol y Cyngor o dan y Ddeddf Cynllunio (Ardaloedd Rhestredig Adeiladu a Chadwraeth) 1990:

 

·       Tref Caerfyrddin,

·       Heol y Prior, Caerfyrddin

·       Heol Awst, Caerfyrddin

·       Heol Picton, Caerfyrddin

·       Talacharn,

·       Sanclêr,

·       Cydweli,

·       Llanelli,

·       Llandeilo

·       Castellnewydd Emlyn.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

·       Cyfeiriwyd at y 27 Ardal Gadwraeth yn Sir Gaerfyrddin, a llawer ohonynt heb gael eu hadolygu ers eu creu, rhai mor bell yn ôl â'r 1970au. Cadarnhawyd bod diffyg unrhyw adolygiadau dilynol wedi'u cydnabod, ac felly cynhaliwyd y 10 arfarniad uchod. Er bod yr oedi yn yr adolygiadau wedi'u priodoli'n rhannol i fater adnoddau, nodwyd, gan fod lefelau staffio o fewn yr uned bellach yn llawn, y byddai arfarniadau o'r 17 ardal sy'n weddill yn cael eu cynnal yn fewnol fel rhan o raglen waith yr Uned yn y dyfodol.

·       Cyfeiriwyd at yr elfennau o fewn yr adroddiad yn ymwneud â chelfi stryd gormodol o fewn rhai o'r ardaloedd cadwraeth, er enghraifft yn Llanelli, a gofynnwyd am eglurhad ynghylch a fyddent yn cael eu dileu yn ôl-weithredol ar ôl i'r adroddiad gael ei fabwysiadu. Nodwyd, er nad oedd yr ardaloedd cadwraeth wedi cael eu hadolygu am gyfnod sylweddol, y byddai angen gwneud unrhyw ystyriaeth ynghylch gwaredu celfi stryd fel rhan o archwiliad o fannau cyhoeddus yn eu cyfanrwydd a chael ei gweld fel cyfle i benderfynu ar y ffordd orau o gadw a gwella golygfa'r stryd tra'n rhoi sylw i'w gadwraeth. Gallai hynny gynnwys, er enghraifft, cynigion adfywio a datblygu glasbrint ar gyfer celfi stryd a phlannu coed.

·       Codwyd pwynt ynghylch yr ymgynghoriadau arfarnu a sut y byddai preswylwyr yn cael gwybod bod eu heiddo o fewn ardal gadwraeth.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod ymgynghoriadau helaeth wedi'u cynnal gyda'r cyhoedd ar yr arfarniadau a oedd yn cynnwys cynnal digwyddiadau, gweminarau ar-lein, holiadur cyn ymgynghori a thrwy borth 'Dweud eich dweud' ar wefan y Cyngor. O ran ymgysylltu â'r cyhoedd yn dilyn mabwysiadu'r adroddiad, dywedodd y Pennaeth Lle a Seilwaith y gallai'r adran ystyried sut y gellid cyflawni hynny orau, er enghraifft cynnal gweithdai.

·       Cyfeiriwyd at y darpariaethau presennol sy'n atal codi soseri haul ar flaen eiddo o fewn ardaloedd cadwraeth, gofynnwyd am eglurhad a fyddai'r un meini prawf yn cael berthnasol i osod paneli haul i leihau allyriadau carbon a helpu i gyflawni carbon sero net.

 

Dywedodd yr Uwch-swyddog Treftadaeth Adeiledig fod polisïau cynllunio ar waith yng nghyswllt paneli haul o Ganllawiau Llywodraeth Cymru, a chafodd cyngor penodol hefyd ei gynnwys ar Borth Cynllunio'r Cyngor. Os yw perchnogion tai mewn ardal gadwraeth am godi paneli haul ar eu cartrefi, byddai angen iddynt wneud cais am ganiatâd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2022/23 pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd R. Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried)

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2022/23 ar gyfer y Gwasanaethau Tai, Adfywio ac Eiddo, Lle a Chynaliadwyedd a Hamdden ac Adloniant ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Rhagfyr 2022. Nodwyd bod y prif bwysau cyllidebol yn cael eu hwynebu o fewn Gwasanaethau Hamdden a oedd wedi rhagweld gorwariant o £907k erbyn diwedd y flwyddyn. Ar y cyfan, roedd y gyllideb refeniw yn rhagweld gorwariant o £407k ond, yn seiliedig ar y gostyngiadau presennol, dylai fod yn agos at y targed ar ddiwedd y flwyddyn. Roedd y gyllideb gyfalaf yn rhagweld tanwariant o £25,999k, tra bod y Cyfrif Refeniw Tai yn rhagweld tanwariant o £651k.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·       Cyfeiriwyd at y diffyg incwm o fewn y marchnadoedd darpariaethau, oherwydd cyfraddau deiliadaeth isel, a gofynnwyd am eglurhad ar ba gamau adferol oedd yn cael eu cymryd i gynyddu'r cyfraddau hynny.

 

Dywedodd y Pennaeth Adfywio fod un o'r materion yn ymwneud â lefel y rhent yr oedd darpar lesddalwyr yn gallu ei dalu am unedau yn y marchnadoedd o'i gymharu â rhenti targed. Roedd ystyriaeth yn cael ei roi i sut y gellid gwneud yr unedau'n fwy deniadol i lesddalwyr posibl ac i sut y gellid marchnata'r rheiny. Er enghraifft, er bod unedau gwag yn cael eu hysbysebu ar hyn o bryd drwy gyfrwng dogfennau tendro, gallai marchnata yn y dyfodol gynnwys hyrwyddo drwy'r cyfryngau cymdeithasol.

·       Cyfeiriwyd at y cynnydd mewn incwm o barcio ceir yn y meysydd parcio yn Harbwr Porth Tywyn ac a allai fod yn bosibl i'r incwm hwnnw gael ei ddefnyddio i ddarparu cyfleusterau toiled ychwanegol yn yr harbwr. Ar hyn o bryd, dim ond un ciwbicl toiled oedd ar gael yng nghefn y siop goffi ar gyfer 2 draeth.

 

Dywedodd y Pennaeth Adfywio fod yr Is-adran Hamdden yn trafod gyda'r Cyngor Tref yn hynny o beth ac y byddai'n codi'r mater gyda'r Pennaeth Hamdden ac i ymateb gael ei anfon ymlaen at y Cynghorydd.

·       Cyfeiriwyd at yr adroddiad oedd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hyd at ddiwedd Rhagfyr 2022, wedi dyddio rhyw dri mis. Gofynnwyd a allai adroddiadau yn y dyfodol gynnwys gwybodaeth fwy diweddar.

·       O ran y gorwariant o £907k a ragwelwyd yn Is-adran y Gwasanaethau Hamdden, gofynnwyd am eglurhad ynghylch pa fesurau oedd yn cael eu cyflwyno i fynd i'r afael â'r gostyngiad yn sgil covid ac annog mwy o bobl i ddefnyddio'r cyfleusterau hamdden.

 

Cafodd y Pwyllgor wybod fod yr adroddiad nesaf ar yr agenda i'r Pwyllgor ei ystyried y bore hwnnw yn ymwneud â Chynllun Busnes Drafft y Gwasanaethau Hamdden 2023-24 a oedd yn mynd i'r afael â'r pwynt hwnnw yn manylu ar amcanion ac amserlenni ar gyfer camau gweithredu.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Cyfarwyddwr Cymunedau fod cyfleusterau hamdden dan do y Cyngor wedi cau yn ystod pandemig covid a bod y grant gan y llywodraeth i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

DRAFFT CYNLLUNIAU CYFLAWNI GWASANAETH 2023-24 - TAI A DIOGELU'R CYHOEDD, EIDDO TAI A PHROSIECTAU STRATEGOL A HAMDDEN pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER:

Roedd y Cynghorydd R. Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried.

 

Datganodd y Cynghorydd M. Palfreman fuddiant yn r eitem hon ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried)

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Cynlluniau Cyflawni Is-adrannol Drafft 2023-24 ar gyfer yr Is-adrannau Tai a Diogelu'r Cyhoedd, Eiddo Tai a Phrosiectau Strategol a Hamdden o fewn yr Adran Cymunedau oedd yn manylu ar y camau a'r mesurau strategol i'w cymryd er mwyn galluogi'r Cyngor i wneud cynnydd yn erbyn ei Amcanion Llesiant, ei flaenoriaethau thematig a'i flaenoriaethau gwasanaeth.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiadau:

·       Mewn ymateb i gwestiwn ar Gam Gweithredu A2 ar y Cynllun Tai a Diogelu'r Cyhoedd, i ailymgartrefu ffoaduriaid mewn ffordd gydgysylltiedig er mwyn sicrhau bod llety ar gael i fodloni eu hanghenion, cadarnhaodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod y Cyngor yn cyflawni ei rwymedigaethau a bod cyflwyno'r Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol Newydd yn cynorthwyo.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ar Gam Gweithredu A17 ar y Cynllun Tai a Diogelu'r Cyhoedd, i gyfrannu at 'Sir Gaerfyrddin Ymhellach, Ynghynt' gan sicrhau cynnig llety ychwanegol yn y gymuned ar gyfer pobl h?n, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor ei fod yn ymwneud ag atal pobl oedrannus rhag cael eu derbyn i'r ysbyty drwy ddarparu llety priodol iddynt er mwyn bodloni eu hanghenion. Yn yr un modd, y nod oedd cynorthwyo i ryddhau pobl oedrannus o'r ysbyty ar y cyfle cyntaf drwy roi'r llety cywir ar yr adeg gywir gyda chefnogaeth briodol lle bo angen. Roedd yr Adran hefyd yn gweithio'n agos gyda'r tîm Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i sicrhau bod pobl yn cael eu rhyddhau'n gynnar.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod gan y Cyngor gynlluniau i ddatblygu mwy o dai fforddiadwy a bod eu cyflawni'n allweddol. Byddai angen cydnabod hefyd y byddai problemau o ran capasiti ar adegau, ond trwy weithredu mewn ffordd gydgysylltiedig dylai'r adran barhau i reoli eu darpariaeth a bodloni'r galw.

 

·       Cyfeiriwyd at yr elfen Camau Gweithredu a Mesurau'r adroddiad a gwnaeth awgrym y gellid eu defnyddio fel sail i adroddiadau i'r Pwyllgor yn y dyfodol i fonitro cynnydd.

·       Mewn ymateb i gwestiwn am y risgiau uchel y manylir arnynt yn y Cynllun Tai a Diogelu'r Cyhoedd, dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod angen statws er mwyn sicrhau bod risgiau'n cael eu rheoli mewn modd priodol.

·       O ran y cyfeiriad yn yr adroddiad Eiddo Tai a Phrosiectau Strategol yn cofnodi gostyngiad yn lefel yr eiddo gwag o dros 400 i 280, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod nifer yr eiddo gwag wedi gostwng ymhellach i 239.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ar ddefnyddio contractwyr lleol i ymgymryd â gwaith i Dai Cyngor, atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Eiddo Tai a Phrosiectau Strategol fod fframwaith contractwyr newydd yn cael ei baratoi ar hyn o bryd a fyddai, gobeithio, yn annog contractwyr llai i wneud cais i'w cynnwys. Nodwyd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

IS-ADRAN ADFYWIO CYNLLUN GWEITHREDU GWASANAETH 2023-24 pdf eicon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd A. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried)

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Cynllun Cyflawni Gwasanaeth 2023-24 ar gyfer yr Is-adran Adfywio yn Adran y Prif Weithredwr oedd yn manylu ar y camau gweithredu a'r mesurau strategol sydd i'w cymryd a fyddai'n galluogi'r Cyngor i wneud cynnydd yn erbyn ei Amcanion Llesiant, ei flaenoriaethau thematig a'i flaenoriaethau gwasanaeth.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiadau:

·       Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, o ran y Gronfa Ffyniant Gyffredin a'r rhaglen Arfor 2, mai'r sefyllfa bresennol oedd bod cam cyntaf y Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi cau erbyn hyn, a chafwyd ymateb dda iddo, a bod y rhaglen Arfor 2 wedi'i lansio. Cadarnhawyd y gellid rhoi adroddiad diweddaru ar y cynlluniau hynny i gyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol.

·       Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Pennaeth Adfywio y gellid darparu adroddiad diweddaru ar ddatblygiad Pentre Awel i gyfarfod yn y dyfodol ar ôl cwblhau trafodaethau ynghylch prydlesi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Cyflawni Gwasanaeth 2023-24 ar gyfer yr Is-adran Adfywio.

8.

IS-ADRAN LLE A CHYNALIADWYEDD CYNLLUN CYFLAWNI GWASANAETH 2023-24 pdf eicon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Cynllun Cyflawni Gwasanaeth 2023-24 ar gyfer yr Is-adran Lle a Chynaliadwyedd yn yr Adran Lle a Seilwaith oedd yn manylu ar y camau gweithredu a'r mesurau strategol i'w cymryd a fyddai'n galluogi'r Cyngor i wneud cynnydd yn erbyn ei Amcanion Llesiant, ei flaenoriaethau thematig a'i flaenoriaethau gwasanaeth.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiadau:

·       O ran cwestian ynghylch gorfodi rheolau cynllunio, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr adran wedi lleihau nifer yr achosion gorfodi sydd heb eu cwblhau o dros 1,000 i 392 dros y flwyddyn flaenorol, sef gostyngiad o dros 600. Hefyd, roedd 600 o achosion newydd pellach hefyd wedi eu prosesu sy'n gyfradd ymchwilio o 66.8% o'i gymharu â'r 38% blaenorol.

·       Gan gyfeirio at Gytundebau Adran 106, atgoffwyd y Pwyllgor o'r angen i aelodau lleol a Chynghorau Tref a Chymuned gyflwyno sylwadau yn y cyfnod cyn ymgeisio ar yr hyn yr oeddent yn teimlo y dylid ei gynnwys mewn unrhyw gytundeb i fod o fudd i'r gymuned, gan ei fod yn anodd iawn i'w newid ar ôl ei lofnodi. Nodwyd hefyd bod yr adran wedi cynnal gweithdai ar gyfer cynghorau tref a chymuned i'w cynorthwyo i ddeall proses A106 a sut y gallent gymryd rhan.

·       Gan gyfeirio at hyrwyddo'r Gymraeg, dywedodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd fod y Cynllun Datblygu Lleol yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd ac roedd yr adran yn gweithio'n agos gyda Llais o Wynedd ar ddatblygu cynllun i sicrhau bod y Gymraeg a phobl leol yn rhan annatod o'r CDLl. Y gobaith oedd y byddai'r cynllun yn cael ei gwblhau erbyn mis Ebrill i fwydo i mewn i'r CDLl. Cydnabuwyd hefyd y byddai'r CDLl yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd cyn iddo gael ei gyflwyno i Arolygydd Llywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Cyflawni Gwasanaeth 2023-24 ar gyfer yr Is-adran Lle a Chynaliadwyedd.

9.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CWARTER 3 - 2022/23 (01/04/22-31/12/22) YN ARBENNIG I'R PWYLLGOR CRAFFU HWN pdf eicon PDF 164 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 2022/23 ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill hyd at 31 Rhagfyr mewn perthynas â'r meysydd oedd o fewn ei gylch gwaith.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol ac ar gyflawni'r 13 Amcan Llesiant. Dywedodd y Pwyllgor y byddai'r Cyngor yn parhau i adrodd ar yr amcanion drwy gydol 2022/23 hyd nes byddent yn cael eu disodli gan y Strategaeth Gorfforaethol newydd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

10.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 15 Mai 2023.

 

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 15  Mai 2023.

11.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 23 CHWEFROR 2023 pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau