Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd H. Shepardson.

2.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod yr eitem hon wedi'i chynnwys ar yr agenda yn ddamweiniol.

3.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

5.

POLISI CARTREFI GWAG - EIN DULL O DDEFNYDDIO CARTREFI GWAG UNWAITH ETO pdf eicon PDF 195 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad am Bolisi Cartrefi Gwag y Cyngor a oedd yn cynnwys manylion ar ei ddull, gweledigaeth, a rhaglen waith am y pedair blynedd nesaf, er mwyn mynd i'r afael â chartrefi preswyl preifat gwag yn y sir a'u defnyddio unwaith eto. Dywedwyd bod y Cyngor wedi lleihau nifer y cartrefi gwag preifat yn y sir ers 2017 o 2667 i 1,984, a'r nod oedd lleihau'r nifer hwnnw ymhellach i 1500 erbyn 2026.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

·       Cyfeiriwyd at ddilyn y 6 phwynt bwled blaenoriaeth oedd yn yr adroddiad, mewn trefn flaenoriaeth, gan ganolbwyntio ar gartrefi gwag ta faint o amser roeddent wedi bod yn wag:-

 

1)      Targedu cartrefi gwag mewn ardaloedd lle mae galw mawr am dai neu yn yr ardaloedd deg tref a fydd hefyd yn ysgogi adfywio ehangach.

 

2)      Targedu cartrefi gwag a fydd yn cael eu defnyddio unwaith eto fel tai fforddiadwy i bobl ar y Gofrestr Dewis Tai, a chanolbwyntio'n benodol ar dai gwag yn Ystadau'r Cyngor a oedd wedi'u gwerthu o'r blaen drwy'r cynllun 'hawl i brynu'.

 

3)     Cefnogi defnyddio unwaith eto unedau preswyl gwag uwchben busnesau masnachol yng nghanol ein trefi, ar gyfer pobl a fydd yn cyfrannu at economi canol y dref.

 

4)      Gweithio gyda theuluoedd perchnogion tai gwag sydd mewn gofal, rheoli'r eiddo ar eu rhan a gallai'r incwm dalu'n rhannol am gost eu gofal.

 

5)      Ymateb i gwynion lle mae cartrefi gwag yn niwsans i eiddo cyfagos neu'n denu ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

6)      Clustnodi tai gwag sydd mewn cyflwr gwael ac sy'n niweidiol i'r ardal gyfagos a chymryd camau adfer priodol.

 

Mynegwyd barn na ddylid rhoi llai o flaenoriaeth i bwyntiau 5 a 6 na'r lleill, oherwydd er nad oeddent mor bwysig â hynny o ran adfywio ardaloedd, roeddent yn bwysig i drigolion lleol o achos eu heffaith niweidiol ar amwynder yr ardal a'u hiechyd meddwl yn enwedig, gan fod yr henoed yn byw yn ymyl eiddo sy'n ddiffaith neu'n wag yn y tymor hir.

         

Cadarnhawyd nad oedd y pwyntiau mewn unrhyw drefn a byddai pob un yn cael yr un flaenoriaeth, i alluogi'r Cyngor i gymryd camau wedi'u teilwra a'u targedu er mwyn defnyddio eiddo gwag unwaith eto, boed mewn canol dref neu ardal wledig.

·       O ran cwestiwn ar fabwysiadu amserlenni ar gyfer defnyddio eiddo gwag unwaith eto, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod rhaid caniatáu digon o amser i alluogi defnyddio eiddo unwaith eto, gan fod y rhan fwyaf ond yn wag am amser byr am wahanol resymau e.e. gwneud cais am brofiant. Fodd bynnag, roedd yn bwysig cymryd camau cyn gynted â phosibl ond, beth bynnag, roedd llythyrau'n cael eu hanfon at berchnogion eiddo o'r fath yn flynyddol. Roedd grantiau o hyd at £25k hefyd ar gael i wella cyflwr cartrefi gwag fel bod modd byw ynddynt unwaith eto, i'w gwerthu fel tai fforddiadwy neu eu gosod yn amodol ar delerau'r grant.

·       Gofynnwyd a oedd gan y Cyngor unrhyw bwerau i wneud i berchnogion eiddo ddefnyddio eiddo gwag unwaith eto, er enghraifft,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

POLISI DIGOLLEDU TENANTIAID pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad oedd yn nodi ymagwedd y Cyngor o ran pryd roedd yn briodol digolledu ei denantiaid oedd wedi dioddef colled neu anghyfleustra oherwydd methiant y gwasanaeth, a byddai hefyd yn helpu i roi arweiniad i swyddogion wrth ddelio â thenantiaid, gan sicrhau eglurder a chysondeb wrth ystyried digolledu. Nodwyd bod y polisi wedi'i baratoi mewn ymateb i ddisgwyliad yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol fod gan landlordiaid bolisi digolledu i roi arweiniad ar ddigolledu ac i sicrhau bod landlordiaid yn cael eu diogelu pan gaiff ceisiadau eu gwneud.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi Digolledu Tenantiaid a’i gyfeirio i'r Cabinet i'w ystyried.

7.

POLISI ADENNILL COSTAU AM WAITH ATGYWEIRIO pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn nodi meini prawf arfaethedig ar gyfer pryd byddid yn codi tâl ar denant cyngor am atgyweiriadau a wnaed gan y Cyngor, yr oedden nhw'n gyfrifoldeb amdanynt o dan eu cytundeb tenantiaeth.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

·       Cadarnhaodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel y byddai'n bosib i'r polisi gael ei anfon ymlaen at denantiaid y Cyngor er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau, a chyfrifoldebau'r Cyngor o ran cynnal a chadw eu cartrefi. Yn yr un modd, gallai'r polisi digolledu tenantiaid (gweler Cofnod 6 uchod) hefyd gael ei ddarparu i denantiaid ar ôl i'r Cyngor ei fabwysiadu. Rhagwelwyd y gellid darparu'r polisïau tua diwedd Mehefin 2023 yn electronig i'r tenantiaid hynny oedd wedi rhoi cyfeiriadau e-bost i'r Cyngor, a thrwy'r post i'r gweddill. Er bod traean y tenantiaid wedi rhoi manylion cyswllt electronig, dywedodd hefyd y byddai'r adran yn ceisio cynyddu'r nifer hwnnw dros y misoedd nesaf.

·       Lle nad oedd tenantiaid yn gallu gwneud gwaith atgyweirio ar eu heiddo a oedd yn rhan o'u cyfrifoldeb nhw, cadarnhawyd byddai'r Cyngor yn cyflawni'r gwaith ar eu rhan fesul achos, ac yn adennill costau am hynny, yn dibynnu ar amgylchiadau unigol.

·       O ran cwestiwn ar archwilio eiddo tenantiaid yn rheolaidd, roedd gan yr adran dîm a oedd yn ymweld â chartrefi tenantiaid i asesu cyflwr yr eiddo. Y gobaith oedd cynnal yr ymweliadau hynny yn rheolaidd, yn flynyddol o bosibl.

 

Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel mai un o brif flaenoriaethau'r adran dros y 6 mis nesaf fyddai sut i reoli'r drefn archwilio ar gyfer eiddo tenantiaid, yn debyg i MOT blynyddol. Roedd yna hefyd drothwyon eraill a allai dynnu sylw'r adran at broblemau o ran cyflwr eiddo, er enghraifft, pan fyddai atgyweiriadau ymatebol yn cael eu gwneud a phan fyddai swyddogion yn ymweld i roi cymorth a chefnogaeth i denantiaid.

·       Gofynnwyd pa fesurau oedd ar gael i'r Cyngor pe bai tenantiaid yn mynd i'r arfer o beidio ag ad-dalu unrhyw gostau am waith a wnaed, neu'n difrodi'r eiddo dro ar ôl tro. Cadarnhaodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod gan yr awdurdod bolisi dileu drwgddyledion. Yn y pen draw fodd bynnag, gallai'r Cyngor adfer eiddo drwy'r llysoedd.

·       O ran cwestiwn am adennill costau yn achos difrod damweiniol i eiddo, dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel y byddai'r adran yn ystyried y rheiny fesul achos.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi Adennill Costau am Waith Atgyweirio a'i gyfeirio i'r Cabinet i'w ystyried.

8.

PEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 71 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad craffu canlynol

 

·       Cynlluniau Busnes

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 5 Ebrill 2023.

 

Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Flaengynllun Gwaith y Cabinet, a oedd wedi'i atodi i'r adroddiad, ac at yr eitem ynddo a oedd yn ymwneud ag Arfarniadau o Ardaloedd Cadwraeth. Dywedwyd bod cais wedi dod i law gan y Cabinet yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu'r adroddiad a chyflwyno unrhyw ganfyddiadau yn ôl i'r Cabinet er ystyriaeth. Gofynnwyd i'r Pwyllgor ystyried y cais ac a oedd am gynnwys yr adroddiad ar yr agenda ar gyfer ei gyfarfod nesaf ar 5 Ebrill.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf i'w gynnal ar 5 Ebrill 2023, yn amodol ar gynnwys adroddiad am Arfarniadau o Ardaloedd Cadwraeth.

10.

DIWEDDARIAD AR GAMAU GWEITHREDU Y PWYLLGOR CRAFFU pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a nodai'r hyn a wnaed mewn perthynas â cheisiadau neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

11.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 26 IONAWR 2023 pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2023 yn gofnod cywir.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau