Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio - Dydd Iau, 26ain Ionawr, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd M.Palfreman.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

H. Shepardson

4 - Ymgynghori ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Deiliad Tocyn ar gyfer y meysydd parcio ym Mharc Arfordirol y Mileniwm a Deiliad Tocyn Tymor i Barc Gwledig Pen-bre

R. Sparks

4 - Ymgynghori ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26

Mae ganddo fusnes nofio a gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig ond nid pleidleisio

 

 

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2023/24 TAN 2025/26 pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr H. Shepardson a R. Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganwyd y buddiant hwnnw ganddynt ac arhosont yn y cyfarfod tra oedd yr adroddiad yn cael ei ystyried)

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar Strategaeth Cyllideb Refeniw'r Cyngor  2023/24 hyd at 2025/26, fel y'i cymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Ionawr 2023.  Roedd yr adroddiad yn darparu'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2023/2024, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2024/2025 a 2025/2026, yn seiliedig ar ragamcanion ynghylch gofynion gwariant y swyddogion ac yn ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 14 Rhagfyr 2022.

 

Dywedodd y Pwyllgor, er bod y setliad amodol a gyhoeddwyd yn cynrychioli cynnydd cyfartalog o 8.0% ledled Cymru ar setliad 2022/23, fod cynnydd Sir Gaerfyrddin wedi bod yn 8.5% (£26.432m) gan felly gymryd y Cyllid Allanol Cyfun i £338.017m ar gyfer 2023/24. Er bod y setliad yn sylweddol uwch na'r ffigwr dangosol cychwynnol, sef cynnydd o 3.4%, ac yn darparu tua £15.5m yn fwy na rhagdybiaeth wreiddiol y Cyngor, roedd Llywodraeth Cymru wedi cydnabod na fyddai'r ffigwr cynyddol yn ddigonol o hyd i ymdopi â'r pwysau chwyddiant oedd yn wynebu cynghorau, dyfarniadau cyflog, a'r cynnydd mewn prisiau tanwydd, ac roedd penderfyniadau anodd i'w gwneud.

 

Tra bo cynigion y gyllideb yn tybio bod yr holl gynigion am arbedion yn cael eu cyflawni'n llawn, nodwyd byddai angen gwneud gwaith pellach i ddatblygu'r gostyngiadau mewn costau ar gyfer blynyddoedd ariannol 2024/25 a 2025/26 er mwyn gallu cynnal y Strategaeth Cyllideb a'r lefel Treth Gyngor presennol. 

 

Dywedwyd, o ystyried risgiau presennol Strategaeth y Gyllideb a'r cefndir parhaus o ran chwyddiant ynghyd â gwasgfeydd cyllidebol eraill, fod y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2023/24 wedi'i osod yn 7% i liniaru gostyngiadau i wasanaethau critigol. Ym mlynyddoedd 2 a 3 roedd y darlun ariannol dal yn ansicr, ac, o'r herwydd, roedd codiadau dangosol enghreifftiol o 4% a 3% yn y Dreth Gyngor wedi cael eu gwneud at ddibenion cynllunio'n unig, gan geisio taro cydbwysedd gyda'r gostyngiadau yn y gyllideb. Byddai'r cynigion hynny yn cael eu hystyried gan y Cyngor wrth bennu lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2023/24 yn ei gyfarfod ar 1 Mawrth 2023. Yn ogystal, roedd ffigur setliad terfynol Llywodraeth Cymru i gael ei gyhoeddi ar 7 Mawrth 2023 a byddai unrhyw ddiwygiadau yr oedd yn ofynnol eu hystyried i strategaeth y gyllideb o'r cyhoeddiad hwnnw hefyd yn cael eu hystyried gan y Cyngor.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:

 

·       Atodiad A(i)– Crynodeb o'r arbedion effeithlonrwydd ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden, Lle a Chynaliadwyedd a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai;

·       Atodiad A(ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer y Gwasanaethau Lle a Chynaliadwyedd, - dim un ar gyfer meysydd Adfywio, Hamdden a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai;  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

GRWP GORCHWYL A GORFFEN - PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU, CARTREFI AC ADFYWIO: POLISI DYRANNU TAI CYMDEITHASOL BRYS pdf eicon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad ei Gr?p Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd i ddatblygu Polisi Dyraniadau Tai Cymdeithasol Brys ar gyfer Sir Gaerfyrddin, er mwyn mynd i'r afael â'r sefyllfa ddigynsail lle'r oedd y Cyngor, fel yn achos pob Awdurdod Lleol Cymreig a Landlord Cymdeithasol Cofrestredig, yn wynebu mwy o alw am y cyflenwad o dai cymdeithasol.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar waith y Gr?p, ac yn cynnwys Polisi Dyraniadau Brys arfaethedig, a oedd yn cynnig y byddai dyraniadau tai cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol drwy 'baru uniongyrchol' lle byddai'r Cyngor yn dyrannu'r holl eiddo oedd ar gael yn unol â meini prawf penodol, a hynny i'r rhai oedd yn ddigartref a'r rhai oedd â'r angen mwyaf o ran tai. Pe bai'r cynnig yn cael ei fabwysiadu, cynigiwyd ymhellach y byddai'r polisi brys yn ei le am tua blwyddyn er mwyn galluogi cynnal adolygiad llawn o'r 'Polisi Dyraniadau Cyffredin', y byddai angen ei atal tra bo'r polisi brys yn weithredol. Dywedwyd hefyd, pe bai'r polisi'n cael ei fabwysiadu, ac nad oedd modd dyrannu'r holl eiddo oedd ar gael ar adeg benodol, y byddai'r rhai oedd heb eu dyrannu ar gael trwy 'Canfod Cartref' i bobl gynnig amdanynt, fel oedd yn digwydd ar hyn o bryd.

 

Diolchodd y Pwyllgor i aelodau'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen a'r swyddogion fu'n rhan o'r adolygiad am eu gwaith wrth ddatblygu'r Polisi Dyraniadau Brys arfaethedig.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

·       Cadarnhawyd os na fyddai eiddo oedd ar gael yn cael ei baru'n uniongyrchol, yn unol â meini prawf penodol, byddai'n cael ei hysbysebu ar 'Canfod Cartref' i'r rhai ar y Gofrestr Tai gynnig amdano, fel oedd yn digwydd ar hyn o bryd.

·       Cyfeiriwyd at y system bresennol ar gyfer cynnig am eiddo, lle roedd eiddo'n cael eu hysbysebu am hanner nos ar ddydd Iau tan hanner nos y dydd Llun canlynol, ac at y ffaith bod rhai pobl yn aros lan hyd at hanner nos ar y dydd Iau i gyflwyno eu cais yn gynnar. Awgrymwyd bod yr amser cychwyn yn cael ei newid i dyweder 6.00am ar fore Gwener.

 

Er byddai hynny'n bosibl, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y ffenestr i bobl gyflwyno cais ar agor am bedwar diwrnod, a gellid cyflwyno cais unrhyw bryd o fewn y ffenestr honno. Cadarnhawyd hefyd mai'r angen oedd yn bwysig wrth ddyrannu eiddo, ac nid pryd cyflwynwyd cais. Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel y byddai'n bwrw golwg ar y geiriad ar Canfod Cartref fel ei fod yn egluro'n well y broses o wneud cynnig.

·       O ran cwestiwn ar faint o lety dros dro oedd yn cael ei ddarparu i'r digartref, dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel, er bod dyrannu eiddo yn ffordd o fynd i'r afael â digartrefedd, fod dulliau eraill ar gael i'r Cyngor yn hynny o beth gan gynnwys adeiladu mwy o eiddo, defnyddio'r sector rhentu preifat, a phrynu eiddo.

 

Cadarnhaodd ymhellach, er bod y Cyngor bob amser yn ymdrechu i gartrefu'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

STRATEGAETH RHAGLEN CYMORTH TAI 2022-2026 pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad am Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai 2022-2026, a luniwyd yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru, a oedd yn manylu ar flaenoriaethau strategol y Cyngor, a'i asiantaethau partner, ar wasanaethau atal digartrefedd a gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai dros y 4 blynedd nesaf (2022-26). Roedd y Strategaeth yn diweddaru'r blaenoriaethau cynharach oedd yn hen strategaeth ddigartrefedd yr Awdurdod Lleol a Chynllun Cyflawni'r Grant Cymorth Tai ar gyfer 2021-22, ac roedd ymarfer asesu anghenion cynhwysfawr yn llywio datblygiad y blaenoriaethau, a oedd yn cynnwys ymgysylltu'n uniongyrchol â rhanddeiliaid yn yr Awdurdod Lleol, darparwyr gwasanaethau cymorth, a defnyddwyr gwasanaeth.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·       Cyfeiriwyd at y ffynonellau ariannu a nodwyd yn yr adroddiad a cheisiwyd eglurhad sut byddai hynny'n cefnogi'r camau gweithredu oedd yng nghynllun gweithredu'r adroddiad.

 

Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod y defnydd o ffynonellau ariannu yn dibynnu a oedd y cam gweithredu'n ymwneud â gwariant cyfalaf neu refeniw. Rhoddodd sicrwydd fod pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau bod cymaint o arian ag oedd yn bosibl ar gael gan gynnwys cyllid ar y cyd, Cyfrif Refeniw Tai ynghyd ag Arian Llywodraeth Cymru.

·       O ran y Grant Cymorth Tai gwerth £8.8m gan Lywodraeth Cymru, dyraniad dangosol oedd hwnnw hyd at fis Mawrth 2025. Yn unol â hynny, roedd yn cael ei gymryd y byddai'r grant yn dod i law hyd at yr amser hwnnw. Fodd bynnag, byddai lefelau ariannu'r dyfodol y tu hwnt i'r dyddiad hwnnw yn dibynnu ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

·       Dywedwyd bod y camau gweithredu yn y Cynllun hyd at fis Mawrth 2023, a cheisiwyd eglurhad sut byddai'r cynllun yn cael ei ddiwygio rhywfaint ar ôl yr amser hwnnw. Cadarnhawyd bod telerau ac amodau'r Grant Cymorth Tai yn nodi rheidrwydd i ddiweddaru'r Cynllun Gweithredu bob dwy flynedd, ac, yn unol â'r gofyniad hwnnw, byddai hynny'n digwydd eleni.

·       O ran cyflwyno Hysbysiadau Adran 21 gan landlordiaid preifat, adroddwyd bod gostyngiad bach wedi bod yn nifer yr hysbysiadau oedd wedi'u cyflwyno ers gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) ym mis Rhagfyr 2022. Fodd bynnag, roedd hawl cyflwyno hysbysiadau i denantiaid oedd ar gontractau treigl hyd at 23 Mehefin. Y gobaith oedd y byddai'r polisi dyraniadau newydd yn galluogi'r awdurdod i gartrefu pobl ddigartref heb orfod eu gosod mewn llety dros dro.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai 2022-2026.

7.

CYNLLUN PONTIO AILGARTREFU CYFLYM 2022 - 2027 pdf eicon PDF 139 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym 2022-27, a luniwyd yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru, a oedd yn cynnwys cyfres o Gamau Gweithredu Lefel Uchel er mwyn galluogi'r Cyngor i bontio i ddull Ailgartrefu Cyflym i helpu i wneud digartrefedd yn Sir Gaerfyrddin yn brin ac yn fyr, ac i sicrhau nad yw'n digwydd dro ar ôl tro.  

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Cadarnhawyd, er bod yr amser roedd y digartref yn ei dreulio mewn llety dros dro yn Sir Gaerfyrddin yn amrywio, mai'r amser ar gyfartaledd oedd 3 – 4 mis. Fodd bynnag, fe wnaed pob ymdrech i osod pobl oedd mewn llety brys cyn gynted ag yr oedd yn bosibl.

·       Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel y gellid monitro'r amser roedd pobl yn ei dreulio mewn llety dros dro fel rhan o'r gwaith o fonitro'r Polisi Dyrannu Brys.

·       Cyfeiriwyd at waith y timau digartref a mynegodd y Pwyllgor ei werthfawrogiad iddynt am eu holl waith caled. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym 2022-2027.

8.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM GRONFA FFYNIANT GYFFREDIN Y DU pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad diweddaru am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn Sir Gaerfyrddin, a oedd wedi derbyn cyfanswm o £37m allan o gyfanswm y gronfa o £138m. Nodwyd bod yr adroddiad hefyd yn cynnwys, er gwybodaeth, ffurflen gais a meini prawf asesu ar gyfer y Prosiectau Angori a'r Prosiectau Annibynnol, a bod dogfen ganllawiau i gynorthwyo ymgeiswyr yn cael ei pharatoi ar hyn o bryd a fyddai ar gael yn fuan.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ym mis Hydref 2022, wedi cymeradwyo'r model cyflawni ar gyfer gweithredu'r gronfa rhwng y prosiectau Angori, y prosiectau Annibynnol, a'r prosiectau a Gomisiynwyd, a bod y prosiectau Angori â thema canlynol wedi cael eu cymeradwyo:

 

Angori Cymunedol – darparu grant trydydd parti i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a chreu gweithgareddau i gyd-fynd â'r themâu canlynol.

 

·       Tlodi

·       Economi Gylchol

·       Llesiant / Hamdden

·       Mynediad i Wasanaethau

·       Amgylchedd a Gwyrdd

·       Twristiaeth, Diwylliant / Treftadaeth

·       Ymgysylltu â'r Gymuned

Angori Gwledig - yn cynnwys 3 elfen:

·         Menter Deg Tref

·         Cronfa Arloesi Gwledig

·         Hwb Fach y Wlad

Angori Lle: - cefnogi canol trefi drwy Gronfa Eiddo Gwag, Cronfa Digwyddiadau Canol Trefi, a phecyn cymorth i gyflawni prosiectau allweddol a nodwyd yn ein Cynlluniau Adfer Canol Trefi, er mwyn mynd i'r afael â'r heriau parhaus.

 

Angori Cynorthwyo Busnesau Lleol: cynnig cymorth ariannol i fusnesau lleol i'w cefnogi ym mhob cam o'u datblygiad trwy Grantiau Cychwyn Busnes a Thwf, Cronfa Ynni Adnewyddadwy i Fusnesau, a hefyd Cronfa Datblygu Eiddo.

 

Yn ogystal, un ffocws allweddol fydd helpu busnesau Sir Gâr i elwa ar wariant caffael cyhoeddus.

 

Angori Cyflogadwyedd a Sgiliau: Roedd rhaglen gyflogadwyedd newydd symlach yn cael ei datblygu a byddai ffocws ar weithgarwch y tu allan i gylch gwaith y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol a phrosiect Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

 

Roedd y cyllidebau gwaith ar gyfer y themâu yn Sir Gaerfyrddin fel yr isod. Fodd bynnag, gallai'r rheiny newid wrth i'r rhaglen gychwyn a byddai angen hyblygrwydd i alluogi trosglwyddo arian o fewn pob thema a rhyngddynt er mwyn cyflawni gofynion y Cynllun Buddsoddi. 

 

Thema Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Cyllideb Weithio (cyllideb weinyddol o 4% wedi'i thynnu o'r ffigurau isod)

Cymuned a Lle

£10,240,933.76

Cefnogi Busnesau Lleol

£10,240,933.76

Pobl a Sgiliau

£10,240,933.76

Lluosi

£6,413,012

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad;

·       Cadarnhawyd bod y thema Lluosi yn ymwneud â'r rhaglen rifedd newydd i oedolion lle'r oedd y Cyngor yn gweithio gyda Choleg Sir Gâr a rhanddeiliaid ehangach ar ei gyflawni. Roedd ystyriaeth hefyd yn cael ei rhoi i'r posibiliad o gynnwys sgiliau digidol yn y thema.

·       Cadarnhawyd bod y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar hyn o bryd yn mynd drwy broses ddemocrataidd pedwar awdurdod cyfansoddol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sef Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Powys ac Abertawe, a'r gobaith oedd trefnu digwyddiad lansio ar y cyd yn yr wythnos yn dechrau ar 27 Chwefror.

·       Soniwyd bod rhaid defnyddio cyllid 2022/23 erbyn Mawrth '23, a holwyd a oedd unrhyw risgiau yn gysylltiedig â hynny. Er bod adroddiadau blaenorol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

PEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 71 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol

 

·       Cynlluniau Busnes

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiadau.

10.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 23 Chwefror 2023.

 

 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 23 Chwefror 2023.

11.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 19 RHAGFYR 2022 pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2022 yn gofnod cywir.