Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio - Dydd Mercher, 16eg Tachwedd, 2022 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd B. Jones

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd N Evans i'w chyfarfod cyntaf o'r Pwyllgor wedi iddi gael ei phenodi yn ddiweddar gan y Cyngor yn aelod o'r Pwyllgor.

 

Cyn ystyried yr Agenda, mynegwyd pryderon ynghylch nifer y dogfennau oedd yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor y diwrnod hwnnw i'w hystyried, hyd at 808 o dudalennau, a'r effaith bosibl ar allu'r Pwyllgor i ymgymryd â chraffu effeithiol ac effeithlon. Felly, teimlwyd y dylid ystyried fformat adroddiadau mawr ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd at y ddau Adroddiad ar y Cynllun Datblygu Lleol a oedd yn cael eu cyflwyno y diwrnod hwnnw, a oedd yn dod o dan ei faes gorchwyl ac oddeutu 600 o dudalennau. Gan fod fformat yr adroddiad wedi'i ragnodi gan Lywodraeth Cymru, dywedodd fod yn rhaid i'r Cyngor gydymffurfio â'r fformat hwnnw wrth baratoi adroddiadau’r Cynllun Datblygu Lleol. Fodd bynnag, byddai'n ystyried a oes cyfle i grynhoi adroddiadau yn y dyfodol i gynorthwyo'r Pwyllgor i graffu yn effeithiol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn edrych ar fformat adroddiadau'r Cynllun Datblygu Lleol a gyflwynir i'r pwyllgor yn y dyfodol.  

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

R. Sparks

Cofnod 4 - Y Strategaeth Hamdden, Diwylliant a Hamdden Awyr Agored

Roedd ei fusnes yn ymwneud â nofio

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

STRATEGAETH HAMDDEN, DIWYLLIANT A HAMDDEN AWYR AGORED - YMGYNGHORI pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(SYLWER: Gan fod y Cynghorydd R. Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon eisoes, nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r eitem gan y Pwyllgor)

 

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar gynigion y Cyngor i ymgynghori ar y Strategaeth 10 mlynedd newydd ar gyfer Hamdden a Hamdden Awyr Agored ar gyfer y Sir. Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar y prif themâu canlynol:-

 

·       Lle fuodd yr Awdurdod a'i daith o 2007-2022

·       Ble yr oedd nawr

·       I ble'r oedd yn mynd

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai'r Strategaeth, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, yn destun cyfnod o ymgynghori cyhoeddus gyda'r nod o'i mabwysiadu'n ffurfiol erbyn Pasg 2023. Hefyd, pe bai'n cael ei mabwysiadu, byddai'n rhaid ariannu'r Strategaeth drwy gyllidebau presennol, cyllidebau refeniw a chyfalaf

 

Codwyd nifer o gwestiynau/materion ynghylch yr adroddiad, a oedd yn cynnwys y canlynol:

·       Cyfeiriwyd at y meysydd ffocws yn yr adroddiad ar gyfer y gwasanaeth hamdden awyr agored ac at y ffaith nad oedd unrhyw ddarpariaeth benodol ar gyfer pysgota ledled y sir, yn enwedig, y llynnoedd dan berchnogaeth y Cyngor ym Mharc Arfordirol y Mileniwm.

 

Atgoffodd y Pennaeth Hamdden y Pwyllgor fod pysgota wedi'i wahardd o fewn y llynnoedd hynny ar hyn o bryd oherwydd presenoldeb y rhywogaethau goresgynnol a elwir yn Wyniaid Pendew a bod yr Awdurdod yn gweithio'n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i hwyluso'r gwaith o'u gwaredu. Dywedodd y byddai'n trefnu i'r aelodau lleol gael gwybod am y sefyllfa bresennol.

 

Cydnabu hefyd nad oedd unrhyw gyfeiriad penodol at bysgota yn y Strategaeth, ond y gellid cyfeirio ato yn y fersiwn derfynol.

·       O ran cwestiwn ar y fethodoleg a ddefnyddiwyd i gyfrifo Gwerth Cymdeithasol Chwaraeon a Hamdden Actif, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod y Cyngor wedi cysylltu â 4Global a Phrifysgol Sheffield Hallam ar hynny a gallai drefnu bod y fethodoleg honno yn cael ei rhannu ag aelodau'r Pwyllgor, yn ôl y gofyn.

·       O ran monitro cyfraniad gwasanaethau hamdden o ran mynd i'r afael â thlodi, cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden fod gwaith monitro yn cael ei wneud drwy ddata ysgolion cenedlaethol ar gyfer plant 7 oed ynghyd â data gan Lywodraeth Cymru a'r Cyngor Chwaraeon mewn perthynas ag Oedolion. Cadarnhaodd y byddai'n trefnu bod aelodau'r Pwyllgor yn cael crynodeb lefel uchel o'r data perthnasol.

·       Cyfeiriwyd at y cyfraniad a wneir gan hamdden i iechyd y boblogaeth ac a oedd modd i Fwrdd Iechyd Hywel Dda gyfrannu at gost y ddarpariaeth honno.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr Awdurdod yn gweithio ar y cyd â'r Bwrdd Iechyd lle bynnag y bo modd, ac enghraifft o hyn oedd y Cynllun Cyfeirio gan Feddygon Teulu. Fodd bynnag, cadarnhawyd y byddai cryfhau'r cysylltiad hwnnw a sicrhau mwy o waith iechyd ataliol a gomisiynwyd yn gam allweddol dros gyfnod y Strategaeth.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch lefelau gordewdra yn ystod plentyndod ymhlith y gr?p oedran 4-5 oed, dywedodd y Pennaeth Hamdden, er bod y lefel wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf, bod lefelau bellach yn cynyddu ac roedd gwasanaethau hamdden ynghyd â'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

STRATEGAETH ARLOESI LLEOL pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar gynigion y Cyngor i fabwysiadu Strategaeth Arloesi Leol gan ganolbwyntio ar y pedwar cyfle Arloesi canlynol i gefnogi adferiad ac ailstrwythuro economi Sir Gaerfyrddin.

 

Cyfle 1 – Digidol

·       Gwella ffeibr a chysylltedd ffôn symudol

·       Cyfleoedd i dechnolegau digidol y genhedlaeth nesaf

·       Mynd i’r afael â sgiliau digidol

·       Datblygu canolfan arloesi digidol wledig

 

Cyfle 2 – Iechyd

·       Datblygu labordy byw gwasgaredig i brofi cynhyrchion a gwasanaethau meddygol newydd

Cam 3 - Yr Economi Sylfaenol

·       Caffael bwyd cynaliadwy a datblygu'r gadwyn cyflenwi bwyd leol

Cyfle 4 - Yr Economi Gylchol

·       Manteisio ar ddull ar gyfer yr Agenda Sero Net drwy ailgylchu a lleihau gwastraff.

 

Codwyd nifer o gwestiynau/materion ynghylch yr adroddiad, a oedd yn cynnwys y canlynol:

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch Bargen Ddinesig Bae Abertawe, cadarnhaodd y Pennaeth Adfywio fod yr Awdurdod yn elwa'n gymesur o'i gyfranogiad. Dywedodd fod y Cyngor, fel rhan o'r gwaith o weithredu'r Fargen, yn arwain ar ddau o'i phrosiectau sef Seilwaith Digidol a Sgiliau a Heriau ac y byddai'n rhannu rhagor o fanylion am y manteision lleol sy'n deillio o'r prosiectau hyn gydag aelodau'r Pwyllgor drwy e-bost.

·       O ran y 'Labordy byw', dywedodd y Pennaeth Adfywio er nad oedd yn labordy yng ngwir ystyr y gair, roedd yn gyfleuster lle gallai pobl ymgynnull i rannu a datblygu prosiectau arloesol er enghraifft datblygu technoleg feddygol.

·       Cyfeiriwyd at Dargedau Llywodraeth Cymru o ran gostyngiad mewn cynhyrchu bwyd ac a oedd modd cyrraedd y targedau er mwyn galluogi'r wlad i gynhyrchu ei bwyd ei hun a sicrhau gostyngiadau carbon. Dywedodd y Pennaeth Adfywio y rhagwelwyd bod digon o gyfleoedd arallgyfeirio ar gael i ffermwyr ar sail gwaith a wnaed. Yn ogystal, er bod y naratif a'r cynigion yn yr adroddiad yn dod o Lywodraeth Cymru, nid cynigion y Cyngor oeddent a dywedodd ei fod yn edrych ar gaffael a chynhyrchu bwyd cynaliadwy yn y sir

·       O ran datblygu prosiect Pentre Awel, cadarnhaodd y Pennaeth Adfywio ei fod yn cael ei gyflawni yn unol â'r amserlen, a bod y prif gontract yn cael ei ddyfarnu yn y dyfodol agos. Rhan annatod o'r contract hwnnw oedd y darpariaethau ar gyfer cyflogi masnachwyr lleol, creu prentisiaethau a sicrhau'r budd mwyaf posibl o'r prosiect ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Cabinet fabwysiadu'r Strategaeth Arloesi Lleol

6.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM DROSGLWYDDO ASEDAU CYMUNEDOL pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru ar gynnydd Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Cyngor ynghyd â Dogfen Gweithdrefnau Trosglwyddo Asedau Cymunedol arfaethedig sydd newydd ei diweddaru i'r Cyngor ei mabwysiadu:

 

Codwyd nifer o gwestiynau/materion ynghylch yr adroddiad, a oedd yn cynnwys y canlynol:

 

·       Cadarnhawyd, er bod Parc Howard yn Llanelli o dan berchnogaeth y Cyngor, fod gr?p cydweithredol wedi'i sefydlu sy'n cynnwys gwahanol grwpiau, gan gynnwys y Cyngor Tref, i drafod a hwyluso'r gwaith cynnal a chadw a'i raglen ddatblygu yn y dyfodol.

·       O ran y 3% o Drosglwyddiadau Asedau sy'n aros i gael eu cwblhau, dywedodd y Pennaeth Adfywio y gellid priodoli’r oedi o ran eu cwblhau i nifer o ffactorau gan gynnwys oedi o ran y Gofrestrfa Tir a materion cyfreithiol eraill lle, er enghraifft, roedd y tir yn cael ei gadw mewn ymddiriedolaeth gan y Cyngor. Fodd bynnag, y gobaith oedd y byddai'r ddogfen gweithdrefnau newydd yn gwella'r amserau cwblhau

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cyflwr asedau a drosglwyddwyd, dywedodd y Pennaeth Adfywio fod y rheiny'n cael eu hasesu fesul achos. Roedd y ddogfen gweithdrefnau newydd yn ymrwymo y bydd y Cyngor yn ymdrechu i ddarparu pa bynnag wybodaeth sydd ar gael ac sy'n berthnasol ym mhob achos. Byddai hyn yn cynnwys gwybodaeth am gyflwr yr ased. Byddai'r broses trosglwyddo asedau yn ystyried cyflwr yr eiddo a sut y rhoddir sylw i hyn, fesul achos. Byddai Biwro Cymunedol y Cyngor hefyd yn ymgysylltu â chynghorau tref a chymuned a grwpiau cymunedol ynghylch cael cymorth grant.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

6.1

Derbyn yr Adroddiad Diweddaru ynghylch Trosglwyddo Asedau Cymunedol;

6.2

Argymell i'r Cabinet bod y Ddogfen Gweithdrefnau Trosglwyddo Asedau Cymunedol sydd newydd ei diweddaru yn cael ei mabwysiadu.

 

7.

ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2021/22 CYNLLUN DATBLYGU LLEOL MABWYSIEDIG SIR GAERFYRDDIN AC ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL pdf eicon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Blynyddol 2021/22 ar Gynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Sir Gaerfyrddin, ynghyd â'r Adroddiad Perfformiad Blynyddol. Nodwyd bod yr adroddiad wedi'i baratoi yn unol â Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 a Rheoliadau Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) 2005. Roedd Deddf 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod Cynllunio Lleol baratoi Adroddiad Monitro Blynyddol ar ei CDLl ar ôl ei fabwysiadu a chadw golwg ar yr holl faterion y disgwylid iddynt effeithio ar ddatblygiad ei ardal ac ymgorffori gwybodaeth am y materion hynny i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru, a'u cyhoeddi ar wefan y Cyngor erbyn 31 Hydref bob blwyddyn ar ôl mabwysiadu'r cynllun. Cadarnhawyd bod yr adroddiad wedi'i anfon ymlaen at Lywodraeth Cymru yn unol â'r dyddiad cau gofynnol sef 31 Hydref.

 

Nododd y Pwyllgor y byddai'r Adroddiad yn cael ei ddatblygu ymhellach wrth i dystiolaeth a data ddod ar gael, cyn ei gyflwyno i'r Cabinet a'r Cyngor i'w gymeradwyo'n ffurfiol.

 

Nodwyd hefyd y byddai cynnwys yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn cael ei ddefnyddio i lywio'r gwaith o baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (gweler cofnod 8 isod). 

 

Codwyd nifer o gwestiynau/materion ynghylch yr adroddiad, a oedd yn cynnwys y canlynol:

 

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y lefel isel o B?er Trydan D?r sy'n cael ei gynhyrchu yn y Sir, dywedodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd ar y cyfan, nad oes llawer yn manteisio ar brosiectau ynni ar raddfa fach ledled Cymru. Fodd bynnag, roedd y Cyngor yn ymdrechu i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar hyn yn y sir a thrwy ei ystad ei hun. Byddai'r Cyngor hefyd yn ymgynghori yn 2023 ar brosiectau adnewyddadwy arloesol a fyddai'n cynnwys darparu cyllid sbarduno ar gyfer astudiaethau dichonoldeb

·       Cyfeiriwyd at y cynnydd mewn caniatâd cynllunio ar gyfer cartrefi newydd yn 2021/22 a dywedwyd wrth y pwyllgor er y gellid priodoli hynny'n rhannol i effeithiau'r pandemig Covid-19 diweddar, byddai ffactorau eraill yn dylanwadu. Gellid hefyd defnyddio'r un rhesymau ar gyfer y cynnydd o ran darparu tai fforddiadwy a oedd hefyd yn cael eu hyrwyddo drwy ymgyrch genedlaethol a chan Lywodraeth Cymru.

·       O ran Teithio Llesol, cadarnhawyd bod y CDLl presennol a'r un sy'n cael ei ddatblygu yn cynnwys polisïau ar y mater hwnnw. 

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y gyfradd uwch o unedau adwerthu gwag yn Llanelli o'i gymharu â chanol trefi Caerfyrddin a Rhydaman, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod canolfannau adwerthu mewn trefi yn gyffredinol yn wynebu heriau sylweddol a gellid priodoli hyn, yn rhannol, i'r awydd i gadw unedau adwerthu. Fodd bynnag, roedd y sefyllfa honno bellach yn newid yn genedlaethol ac yn lleol, ac er y byddai'r Cynllun Datblygu Lleol newydd yn canolbwyntio ar ddarpariaeth adwerthu byddai hefyd yn caniatáu ar gyfer darpariaeth fwy cymysg yng nghanol trefi

·       O ran y Gorchymyn Datblygu Lleol ar gyfer Canol Tref Llanelli, cadarnhawyd bod hynny bellach wedi dod i ben ac nad oedd wedi bod mor llwyddiannus â'r disgwyl am nifer o resymau, yn rhannol oherwydd bod canol y dref mewn parth perygl llifogydd. Fodd bynnag,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG SIR GÂR 2018 - 2033 AIL DDRAFFT ADNEUO pdf eicon PDF 155 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran paratoi a mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin 2018-2033 - Ail Fersiwn Adneuo Drafft.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr adroddiad yn nodi gweledigaeth y Cyngor o ran defnydd y tir, Amcanion Strategol a Gofynion Twf Strategol ar gyfer y Sir hyd at 2033 ynghyd â set o bolisïau a darpariaethau cynhwysfawr a manwl - gan gynnwys dyraniadau penodol i safle ar gyfer defnydd tai a chyflogaeth yn ogystal ag ystyriaethau amgylcheddol ac ystyriaethau gofodol eraill.

 

Nodwyd, er bod yr adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol, nodwyd ei fod, ynghyd â dogfennau ategol eraill yn ddogfennau newydd a byddent yn cael eu datblygu'n barhaus hyd nes eu bod yn cael eu cyhoeddi.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai'r cynllun yn cael ei ystyried gan y Cyngor yn ei gyfarfod nesaf i'w gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Ionawr 2023, a fyddai'n cynnwys y map cynigion. Ar ôl hynny, byddai'n destun archwiliad cyhoeddus gan Arolygydd Cynllunio Penodedig Llywodraeth Cymru gyda'r bwriad o'i fabwysiadu'n ffurfiol yn 2024.

 

Codwyd nifer o gwestiynau/materion ynghylch yr adroddiad, a oedd yn cynnwys y canlynol:

 

·       Mewn perthynas â chwestiwn ynghylch nodi tir yn y Cynllun ar gyfer tai fforddiadwy, cadarnhaodd y Rheolwr Blaen-gynllunio y byddai'r Cynllun yn nodi safleoedd addas i'r diben hwnnw. Byddai hefyd yn nodi canran y tai fforddiadwy i'w darparu fel rhan o ddatblygiadau tai. Bu'r Adran Gynllunio hefyd yn gweithio'n agos gydag Is-adran Dai'r Cyngor i sicrhau bod y Cynllun yn cyd-fynd â'i gynigion

·       Cyfeiriwyd at y rhan yn y Cynllun ynghylch y dull Creu Lleoedd a gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut y byddai'n cael ei roi ar waith. Cadarnhaodd y Rheolwr Blaen-gynllunio y byddai gan y Cynllun bolisïau ar waith i osod safon i ddatblygwyr ei dilyn mewn perthynas â ffactorau megis teithio llesol, mannau agored a seilwaith ynghyd â gofyniad iddynt lunio uwchgynlluniau yn dangos dull mwy cyfannol ac integredig o ddatblygu. 

 

Roedd y Cyngor hefyd yn llofnodwr y Siarter Creu Lle ac roedd ei nodau a'i huchelgeisiau'n cael eu hintegreiddio i'r Cynllun. Fodd bynnag, roedd yn bwysig nodi bod paratoadau'r Cynllun yn cynrychioli man cychwyn a, dros amser, byddai Canllawiau Cynllunio Atodol yn cael eu llunio i gefnogi disgwyliadau'r Cyngor a rhoi eglurder ar y disgwyliadau ar ddatblygwyr.

·       Cyfeiriwyd at yr amcanestyniadau o ran Twf Tai yn yr adroddiad ac a fyddent yn gynaliadwy o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol yn y Deyrnas Unedig.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd fod macro-economeg o'r fath wedi'i ystyried wrth fodelu amcanestyniadau hirdymor. Atgoffwyd y Pwyllgor hefyd fod y Cynllun yn ddogfen 'fyw' a byddai'n cael ei diwygio/ei hadnewyddu'n gyson mewn ymateb i amgylchiadau sy'n newid.

·       O ran cwestiwn ynghylch y sefyllfa bresennol o ran effaith y Rheoliadau Ffosffad ar Ddatblygu, cadarnhaodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd fod cynnydd yn cael ei wneud ar hynny, er ei fod yn araf, a bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio ar ei gyfrifiannell ffosffad a'i ganllawiau lliniaru, yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2022/23 pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2022/23 y Gwasanaethau Tai, Adfywio ac Eiddo, Lle a Chynaliadwyedd a Hamdden ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Awst 2022. Nodwyd y rhagwelid gorwariant o £580k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £43,939k yn y gyllideb gyfalaf, a gorwariant o £27k yn y Cyfrif Refeniw Tai.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf yn cael ei dderbyn.

10.

DIWEDDARIAD AR GAMAU GWEITHREDU Y PWYLLGOR CRAFFU pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a nodai'r hyn a wnaed mewn perthynas â cheisiadau neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad

11.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 19 Rhagfyr, 2022.

 

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 19 Rhagfyr, 2022.

12.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 29 MEDI 2002 pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion: