Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr H. Davies a D. Owen. 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

R. Sparks

6 – Cynnig Addysg Awyr Agored amgen ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

 

7 - Adroddiad Blynyddol Cyngor Sir Caerfyrddin

 

8 - Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 2022/23 (01/07/22 - 30/09/22 - sy'n berthnasol i'r maes craffu hwn

 

9 - Y diweddaraf ar Fenter y Deg Tref

 

Mae ganddo fusnes nofio ac mae wedi cael caniatâd gan y Pwyllgor Safonau i siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig ond nid pleidleisio ynghylch darparu gwasanaethau hamdden yn y sir ond nid mewn perthynas â phwll nofio Canolfan Hamdden Caerfyrddin na darparu gwersi nofio yn y pwll hwnnw.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

HOUSING REVENUE ACCOUNT BUDGET AND HOUSING RENT SETTING FOR 2023/24 pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar Gyllideb y Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2023/24 a gyflwynir fel rhan o broses ymgynghori'r gyllideb a ddygai ynghyd y cynigion diweddaraf ar gyfer y cyllidebau Refeniw a Chyfalaf ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai a fydd yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet a'r Cyngor er mwyn iddynt benderfynu yn eu cylch.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan adlewyrchu'r cynigion diweddaraf a oedd wedi'u cynnwys yng Nghynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu a chynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ar gyfer y dyfodol. Roedd y buddsoddiad arfaethedig yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni STSG erbyn 2015 (i'r cartrefi hynny lle'r oedd tenantiaid wedi cytuno i gael y gwaith), wedi darparu buddsoddiad i gynnal STSG+ ac wedi parhau â'r buddsoddiad yn y Cynllun Cyflawni Tai ac Adfywio.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn manylu ar sut y byddai rhenti'n cynyddu ar gyfer 2023/24 gyda chyllideb y Cyfrif Refeniw Tai yn cael ei gosod i adlewyrchu'r canlynol:-

 

·       Y Polisi Rhenti Tai Cymdeithasol (a bennir gan Lywodraeth Cymru)

·       Cynigion yng Nghynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai Sir Gaerfyrddin

·       Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai

 

O ran pennu Rhenti Tai, atgoffwyd y Pwyllgor fod yr Awdurdod wedi mabwysiadu Polisi Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar 24 Chwefror 2015 am gyfnod o bedair blynedd hyd at 2018/19, a roddodd gysondeb dros y cyfnod hwnnw. Roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu polisi interim ar gyfer 2019/20 wrth iddi aros am ganlyniadau'r Adolygiad o'r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy.Yn dilyn yr adolygiad hwnnw, roedd Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cadw'r polisi am gyfnod pellach o 5 mlynedd rhwng 2020/21 – 2024/25 gyda rhai gofynion ychwanegol/diwygiedig, fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Roedd y polisi hwn yn caniatáu i Awdurdodau Lleol gynyddu cyfanswm y rhent gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) +1% ar gyfer pob un o'r pum mlynedd hyd at 5/25. Roedd hefyd yn caniatáu i lefel y rhent ar gyfer tenantiaid unigol godi hyd at £2 ychwanegol ar ben CPI+1% ar gyfer cysoni rhenti, ar yr amod na fyddai cyfanswm yr incwm rhent a gasglwyd gan y landlord cymdeithasol yn cynyddu mwy na CPI+1%.

 

Fodd bynnag, os bydd CPI y tu allan i'r ystod o 0% i 3%, mae'r polisi'n darparu i'r Gweinidog â chyfrifoldeb am Dai benderfynu ar y newid priodol i lefelau rhent i'w gymhwyso ar gyfer y flwyddyn honno yn unig. Gan fod CPI yn 10.1% ym mis Medi 2022, roedd y cymal hwnnw wedi'i actifadu eleni ac roedd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Newid yn yr Hinsawdd wedi dweud na ddylai'r cynnydd mwyaf yn yr amlen rent ar gyfer unrhyw awdurdod lleol fod yn fwy na 6.5%. 

 

O ystyried yr uchod, roedd yr adroddiad yn argymell cynnydd rhent tai cyfartalog o 5.5% (£5.18) fesul preswylfa. Pe bai'r Pwyllgor yn cymeradwyo'r cynnydd hwnnw, byddai'n arwain at ddiffyg o £4.6m ar y Cyfrif Refeniw Tai. Fodd bynnag, cynlluniwyd ar gyfer hynny  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

HOUSING REVENUE ACCOUNT BUSINESS PLAN 2023-26 CARMARTHENSHIRE'S HOUSING INVESTMENT PROGRAMME pdf eicon PDF 180 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad ar Gynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai 2023-26 Rhaglen Buddsoddiadau Tai Sir Gaerfyrddin, a oedd yn:

 

·       egluro gweledigaeth a manylion y rhaglen buddsoddiadau tai dros y tair blynedd nesaf, gan gynnwys cynlluniau gwella stoc tai, y rhaglen adeiladu tai newydd, cynlluniau carbon sero net, a'r hyn roeddent yn ei olygu i'r tenantiaid.

·       cydnabod effaith yr argyfwng costau byw ar denantiaid y Cyngor.

·       cadarnhau'r incwm fyddai'n dod i law drwy renti tenantiaid a ffynonellau cyllid eraill dros y tair blynedd nesaf a sut roedd hynny'n galluogi datblygu rhaglen gyfalaf oedd yn fwy na £103m,

·       cadarnhau'r proffil ariannol, yn seiliedig ar y rhagdybiaethau presennol, ar gyfer cyflawni'r rhaglen buddsoddiadau tai a thai cyngor newydd dros y tair blynedd nesaf

·       llunio cynllun busnes ar gyfer y cais blynyddol i Lywodraeth Cymru am Grant Lwfans Atgyweiriadau Mawr (MRA) ar gyfer 2023/24, a oedd yn cyfateb i £6.2m.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd bod y Cyngor yn cefnogi ei denantiaid a'i breswylwyr ym mhopeth y mae'n ei wneud, gan nodi'r pum thema allweddol ganlynol fel rhai sy'n gyrru busnes am y tair blynedd nesaf:-

 

-        Thema 1 – Cefnogi Tenantiaid a Phreswylwyr;

-        Thema 2 – Buddsoddi mewn Cartrefi a'n Hystadau;

-        Thema 3 - Darparu rhagor o dai;

-        Thema 4 – Darparu Cynhesrwydd Fforddiadwy a Datgarboneiddio'r Stoc Dai;

-        Thema 5 - Yr Economi Leol, Budd i'r Gymuned a Chaffael

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·       Cyfeiriwyd at gyflwr sawl eiddo yn Dan y Banc, Felinfoel, Llanelli. Cadarnhawyd bod archwiliadau'n cael eu cynnal mewn perthynas â phroblemau draenio yn yr ardal a bod bwriad i fuddsoddi er mwyn gallu defnyddio'r eiddo hyn unwaith eto.

·       O ran tai gwag, cadarnhawyd bod problemau yn y diwydiant adeiladu ar ôl covid, megis argaeledd contractwyr a chodiadau ym mhris deunyddiau, yn cael effaith wael ar yr amserlenni o ran trefnu dychweliad tai gwag i'r stoc dai. Roedd y Cyngor wedi cymryd sawl cam i ostwng y lefelau dros y misoedd diwethaf, a oedd wedi arwain at ostyngiad o 25% yn lefelau'r tai gwag, ac, er bod tua 300 o dai gwag ar hyn o bryd, y nod oedd lleihau hynny i tua 200. Fodd bynnag, dylid derbyn byddai rhai tai gwag yn bodoli bob amser gan y byddai angen gwneud gwelliannau / gwaith cynnal a chadw ar eiddo cyn ei ail-osod. Ymhlith y mesurau eraill fyddai'n cael eu cyflwyno er mwyn lleihau tai gwag fyddai datblygu fframwaith mân waith newydd i gynnwys contractwyr bach lleol, a datblygu tîm mewnol i ymgymryd â gwaith ar dai gwag.

·       O ran Thema 1 a chefnogi tenantiaid, roedd y Cyngor wedi cyflwyno ardaloedd llai i swyddogion tai eu rheoli, er mwyn iddynt allu rhoi cyngor a chymorth i denantiaid oedd angen help. Byddai'r Gwasanaeth Ailgartrefu Cyflym hefyd yn darparu gofal cofleidiol i'r rheiny mewn angen, ac roedd y cynigion ar gyfer datblygu'r gwasanaeth gyda Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd i'w cymeradwyo

·       Cyfeiriwyd at Thema 4 a'r cynigion i ddarparu 2,000  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

AN ALTERNATIVE OUTDOOR EDUCATION OFFER FOR CARMARTHENSHIRE pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd R Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw)

 

Gofynnwyd i'r Pwyllgor gyfrannu at adroddiad y Cabinet fyddai'n adolygu Cynnig Addysg Awyr Agored presennol y Cyngor, ac ymchwilio i opsiynau ar gyfer darparu model cyflawni amgen, a hynny o fewn terfynau'r adnoddau presennol. Gan fod y cyfleuster addysg awyr agored presennol ym Mhentywyn wedi cyrraedd diwedd ei oes, ac nad oedd gan y Cyngor unrhyw gyllid cyfalaf ar gyfer cael un arall yn ei le, dywedwyd bod sylw'n cael ei roi i fodel cyflawni amgen, gyda phwrpas newydd yn cael ei gynnig a'i ail-ddiffinio yn dilyn ymgynghori ag ysgolion a rhanddeiliaid allweddol eraill, fel a ganlyn:

 

·             Darparu cyfleoedd addysg awyr agored, heriol o safon, yn bennaf i ddisgyblion Sir Gâr, gan gyd-fynd â'r cwricwlwm newydd.

·             Darparu amrywiaeth o gyfleoedd preswyl i blant ddatblygu eu deallusrwydd cymdeithasol ac emosiynol a chael profiad o fod oddi cartref.

·             Darparu cyfleoedd addysg awyr agored o ansawdd da mewn amrywiaeth o safleoedd a lleoliadau hamdden awyr agored, gan gynnwys mewn ysgolion.

·             Ystyried cyfleoedd ehangach, masnachol o bosib, a fydd yn helpu i dyfu a chynnal y cynnig Addysg Awyr Agored ar draws Sir Gaerfyrddin.

 

Byddai'r adroddiad adolygu yn rhoi sylw i ystod o opsiynau amgen, a oedd yn cynnwys gwneud y defnydd gorau o adnoddau/cyfleusterau/darparwyr amgen presennol, cynnig ar-lein, cynnig symudol, cynnig man sefydlog fyddai'n cyfuno cynnig addysg â chynnig masnachol, er mwyn sicrhau'r defnydd mwyaf drwy gydol y flwyddyn ac er mwyn lleihau costau net a / neu gyfuniad o'r mathau hyn o gynigion. Dewis arall, ond yr opsiwn lleiaf dymunol, fyddai dod â'r gwasanaeth i ben a cholli'r  cyfleuster awyr agored preswyl i bobl ifanc ar draws Sir Gaerfyrddin.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol gan yr aelodau:-

·       Cytunodd y Pwyllgor yn unfrydol ar bwysigrwydd y cynnig addysg awyr agored presennol ym Mhentywyn i'r sir gyfan, ac, yn benodol, y profiad preswyl roedd yn ei roi i blant ysgol. Roedd yn cefnogi'n llwyr yr angen am i'r ddarpariaeth addysg awyr agored barhau

·       Gwnaed cyfeiriadau ac awgrymiadau gan gynnwys cyfleoedd posib i gael cymorth grant, ystyried profiad gwersylla/glampio, defnyddio'r cyfleuster hostel newydd ym Mhentywyn a chadw rhan o'r cynnig yn lleol, gwerthu'r safle presennol a defnyddio'r arian i gyllido symud i gyfleuster newydd posibl a phartneriaid masnachol. 

·       Cadarnhawyd, fel rhan o'r adolygiad, y byddai ystod o opsiynau yn cael eu cyflwyno er ystyriaeth y Cabinet, gyda golwg ar weithredu ym mis Medi 2024.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn

 

7.

CARMARTHENSHIRE COUNTY COUNCIL'S ANNUAL REPORT FOR 2021/22 pdf eicon PDF 162 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd R Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw)

 

Cafodd y Pwyllgor adroddiad am Adroddiad Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2021/22, a gynhyrchwyd yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor lunio adroddiad blynyddol ar ei amcanion Llesiant ac i adrodd ar berfformiad, yn seiliedig ar ddull hunan-asesu.

 

Roedd yr adroddiad yn cyfeirio yn ei dro at bob un o 13 Amcan Llesiant y Cyngor ac yn asesu'r cynnydd a'r addasiadau a wnaed yn ystod y flwyddyn. Canolbwyntiodd y Pwyllgor ar yr adrannau canlynol yn y ddogfen sy'n berthnasol i'w faes gorchwyl:

 

·       Amcan Llesiant 2 - Helpu plant i ddilyn ffyrdd iach o fyw

·       Amcan Llesiant 4 - Trechu tlodi

·       Amcan Llesiant 5 – Creu mwy o swyddi a thwf ledled y sir

·       Amcan Llesiant 6 – Cynyddu faint o dai rhent a thai fforddiadwy sydd ar gael

·       Amcan Llesiant 7 – Helpu pobl i fyw bywydau iach (mynd i'r afael ag ymddygiad peryglus a gordewdra)

·       Amcan Llesiant 10 - Gofalu am yr Amgylchedd (Polisi Cynllunio)

·       Amcan Llesiant 12 – Hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru

·       Atodiadau

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

·       Cyfeiriwyd at y cynnydd o 4% a gofnodwyd mewn gordewdra ymhlith plant gyda 30.4% o blant 3-4 oed yn ordew yn Sir Gaerfyrddin, sef y lefel 5ed waethaf yng Nghymru. Dywedodd y Pennaeth Hamdden, er bod y cynnydd yn destun siom, nad oedd eglurhad penodol clir dros y cynnydd, a bod y gwasanaethau hamdden yn gweithio gyda'r Adran Addysg a phartneriaid eraill, fel Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru, i geisio lleihau'r cyfraddau hynny.

·       O ran Amcan 4 a threchu tlodi, pwysleisiwyd pwysigrwydd rhoi cyngor a chymorth i'r rheiny a wynebai dlodi, gan gynnwys eu cyfeirio at asiantaethau eraill i'w helpu i ymgeisio am y budd-daliadau mae hawl ganddynt iddynt.

·       O ran cymorth i fanciau bwyd, cadarnhawyd bod y Cyngor, ers dechrau pandemig Covid, wedi cynorthwyo 13 o fanciau a'i fod yn dal i ddarparu cymorth i 8 o'r rheiny drwy'r Gronfa Tlodi Aelwydydd.

·       Cadarnhaodd y Pennaeth Adfywio fod canlyniadau'r Cynllun Adfer Economaidd y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, yn gyson â'r targed ar gyfer 9 mis cyntaf y cynllun 2 flynedd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2021/22 yn cael ei dderbyn.

 

8.

2022/23 QUARTER 2 - PERFORMANCE REPORT (01/07/22-30/09/22) RELEVANT TO THIS SCRUTINY pdf eicon PDF 164 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd R Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw)

 

Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 2022/23 am y cyfnod 1Gorffennaf i 30 Medi 2022 mewn perthynas â'r meysydd oedd o fewn ei gylch gwaith.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol ac ar gyflawni'r 13 Amcan Llesiant. Dywedodd y Pwyllgor y byddai'r Cyngor yn parhau i adrodd ar yr amcanion drwy gydol 2022/23 hyd nes byddent yn cael eu disodli gan y Strategaeth Gorfforaethol newydd.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Cyfeiriwyd at Ddangosydd Perfformiad PAM/013 - canran yr eiddo preifat gwag oedd yn cael eu defnyddio unwaith eto. Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai wastad rhywfaint o eiddo gwag, ond bod gwaith yn cael ei wneud ar ddatblygu Polisi Eiddo Gwag a fyddai'n cael ei gyflwyno cyn bo hir i'w ystyried drwy Broses Ddemocrataidd y Cyngor.

·       O ran Cam Gweithredu 15532 - grantiau ynni adnewyddadwy gwerth hyd at £10,000, dywedodd y Pennaeth Adfywio mai menter gan y Cyngor ydoedd a sefydlwyd fel rhan o gynllun adfer Covid i helpu busnesau bach. Y gobaith oedd y gallai trothwy grant uwch fod ar gael, drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

 

9.

UPDATE ON THE TEN TOWNS INITIATIVE pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd R Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw)

 

Cafodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru ar waith Menter Deg Tref y Cyngor, a amlinellai'r gefnogaeth oedd wedi'i sicrhau er mwyn datblygu mentrau ar lefel leol.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor fod Menter y Deg Tref wedi'i sefydlu fel ymateb uniongyrchol i Gynllun Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen y Sir, a oedd wedi nodi bod angen cynyddu gwytnwch a thwf trefi marchnad gwledig Sir Gaerfyrddin a'u hardaloedd cyfagos yn y dyfodol. Cafodd y cynllun ei lansio'n swyddogol ym mis Hydref 2019, ac roedd datblygu cynlluniau twf Economaidd yn rhan allweddol o'r rhaglen, er mwyn bwrw ymlaen ag agenda ar gyfer newid i ddeg o drefi gwledig ledled y sir. Sicrhawyd cyllid ar gyfer y fenter drwy Gynllun Datblygu Gwledig i gomisiynu ymgynghorwyr allanol i ddatblygu cynlluniau ar gyfer pob un o'r priod drefi h.y. Cwmaman, Cross Hands, Cydweli, Llandeilo, Llanymddyfri, Llanybydder, Sanclêr, Hendy-gwyn ar Daf, Talacharn a Chastellnewydd Emlyn.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y gefnogaeth i ardaloedd gwledig nad oeddent yn rhan o Fenter y Deg Tref, dywedwyd wrth y pwyllgor pe bai unrhyw gymuned leol yn dymuno cynnal prosiect yn ei hardal, fe ddylai gysylltu â Biwro Cymunedol y Cyngor a allai roi cyngor ac arweiniad am gael cyllid a grantiau allanol i gefnogi prosiect o'r fath.

·       O ran cyfraniad y gymuned at Fenter y Deg Tref, cadarnhawyd bod timau lleol wedi'u sefydlu i wneud cynnydd o ran y mentrau, ac roedd gwahoddiadau wedi'u hestyn i'r Cynghorau Tref a Chymuned lleol, a sefydliadau eraill, fod yn rhan ohonynt.

·       Cadarnhawyd bod grant Digidol Neuadd y Dref, Hendy-gwyn ar Daf, i wella cysylltedd yr adeilad, ac offer TG i gefnogi gweithgarwch cymunedol, yn debyg i un rhaglen hamdden actif i wella cysylltedd digidol mewn neuaddau pentref ac ati, er mwyn ffrydio gweithgareddau'n fyw i gymunedau.

·       Cadarnhaodd y Pennaeth Adfywio mai pwrpas y fenter oedd cynyddu bywiogrwydd yn y Trefi gyda chymorth buddsoddiad o £1m gan y Cyngor, a bod hynny'n ysgogi buddsoddiad pellach. Y gobaith oedd y gallai mwy o arian fod ar gael yn y dyfodol drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

 

10.

PLANNING OBLIGATION (SECTION 106) - UPDATE pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

(NODER: Am 12.45pm tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol 9 o Weithdrefn y Cyngor – Hyd y cyfarfod – ac, oherwydd bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers bron tair awr, penderfynwyd gohirio ystyried y rheolau sefydlog, yn unol â Rheol 23.1 o Weithdrefn y Cyngor, er mwyn galluogi'r Pwyllgor i gwblhau'r gwaith a oedd yn weddill ar yr agenda.)

 

Cafodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru yn rhoi trosolwg o'r cyfraniadau datblygwr a dderbyniwyd drwy rwymedigaethau cynllunio (a elwir hefyd yn Gytundebau Adran 106) yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22.

 

Nododd y Pwyllgor fod yr adroddiad yn amlinellu gwybodaeth gefndirol yn ymwneud â rhwymedigaethau cynllunio, y broses o wneud cais am gyfraniadau datblygwr ynghyd â trosolwg o'r incwm a'r gwariant yn ystod 2021/22, yn ogystal â rhoi diweddariad ar y sefyllfa ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·       Mewn ymateb i bryderon ynghylch ymwneud Aelodau Lleol â Chytundebau Adran 106, soniodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd pa mor bwysig oedd hi fod aelodau'n gwneud sylwadau mor gynnar â phosibl ar ôl cael gwybod am gais cynllunio yn eu wardiau. Roedd yr adran gynllunio hefyd yn gweithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned ar sut y gallen nhw gyfrannu at y broses. Dywedodd y gallai, os oedd angen, ddarparu hyfforddiant ychwanegol i aelodau etholedig ar Gytundebau Adran 106. Gallai hefyd edrych ar sut gellid gwneud y broses yn gliriach a sut gallai aelodau gyfrannu'n gynt.

 

Pwysleisiwyd pwysigrwydd ymwneud cynnar gan yr aelod lleol / cymuned, oherwydd ar ôl cytuno ar Gytundeb Adran 106 a'i lofnodi, roedd yn anodd iawn newid a dargyfeirio cyllid i feysydd eraill nas nodwyd yn y Cytundeb.

·       O ran tynnu cyllid i lawr, cadarnhawyd taw Biwro Cymunedol y Cyngor oedd yn gyfrifol am ddyrannu a dyfarnu cyllid, a dylai aelodau gysylltu â'r biwro os oedd ganddynt brosiect yn eu wardiau a allai elwa ar gyllid Adran 106.

·       Cadarnhawyd ei bod yn ofynnol gan Lywodraeth Cymru fod cyfran o'r cyllid Adran 106 yn cael ei neilltuo ar gyfer darparu tai fforddiadwy.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

11.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 26 Ionawr 2023.

 

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 26 Ionawr 2023.

 

 

12.

TO SIGN AS A CORRECT RECORD THE MINUTES OF THE MEETING OF THE COMMITTEE HELD ON THE 16TH NOVEMBER, 2022 pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau