Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol - Dydd Mercher, 6ed Tachwedd, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kelly Evans  01267 224178

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law. 

 

4.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CYNGOR 2023/24 (DRAFFT) pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol drafft y Cyngor ar gyfer y cyfnod 2023/24 a oedd wedi ei lunio i fodloni'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. 

 

Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn seiliedig ar bedwar Amcan Llesiant y Cyngor, fel yr amlinellir yn y Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer 2022-27. Roedd y strwythur adrodd wedi'i fireinio i sicrhau aliniad di-dor rhwng y Strategaeth Gorfforaethol a sut yr oedd y Cyngor yn adrodd ar ei gynnydd, gan roi mwy o bwyslais ar ddull rheoli perfformiad sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.

 

Ystyriwyd y wybodaeth a nodir yn yr Adroddiad Blynyddol mewn perthynas â'r amcanion llesiant a blaenoriaethau thematig a gwasanaeth sy'n berthnasol i gylch gorchwyl y Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol.

 

Rhoddwyd sylw i'r sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:

 

·       Canmolodd y Pwyllgor yr adroddiad a oedd yn adlewyrchu ystod ac ehangder gweithgareddau'r Cyngor yn ystod hinsawdd economaidd heriol iawn.

 

·       Gofynnwyd a oes data cymharol ynghylch plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru, gan ystyried ei effaith ar y gyllideb. Dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth y byddai'r wybodaeth yn cael ei darparu ar ôl y cyfarfod.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch yr ystadegau rhwng aelwydydd mewn tlodi a chynnydd mewn enillion gros, dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth fod y data hwn yn cael ei archwilio, gan fod newid o ran mathau o gyflogaeth yn y sir.

 

·       Roedd cyflwyno'r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim i bob disgybl ar draws ysgolion cynradd yn gwanhau'r cymhelliant i deuluoedd wneud cais am statws prydau ysgol am ddim, a oedd yn effeithio'n andwyol ar lefel y cyllid oedd ar gael i ysgolion drwy'r Grant Datblygu Disgyblion.  Gwneir ymdrechion i godi ymwybyddiaeth o'r manteision i deuluoedd yn sgil gwneud cais am statws prydau ysgol am ddim.  Canmolodd y Pwyllgor y cymorth a roddir gan staff y canolfannau HWB i breswylwyr wrth wneud cais am brydau ysgol am ddim.  Rhoddodd yr Arweinydd sicrwydd y byddai'r mater hwn yn cael ei drafod yn y cyfarfod sydd ar ddod gyda swyddogion Llywodraeth Cymru.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch effaith y gyllideb ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, pwysleisiodd yr Arweinydd fod yr holl wybodaeth berthnasol wedi'i chynnwys yn adroddiad blynyddol y Cyfarwyddwr a bod Sir Gaerfyrddin yn rhannu ei harferion gorau i'w cyflwyno ledled Cymru.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch data ar y nifer uwch o fusnesau sydd wedi cau yr adroddwyd amdanynt yn y sir, dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth y byddai'r wybodaeth yn cael ei darparu ar ôl y cyfarfod.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y cynllun rheoli llifogydd a d?r, dywedodd yr Arweinydd fod y strategaeth llifogydd yn cael ei chyflwyno i'r Cabinet yn ddiweddarach y mis hwn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. 

 

 

5.

ADRODDIAD ALLDRO CYLLIDEB REFENIW 2023/24 pdf eicon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad alldro cyllideb gorfforaethol 2023/24 yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol.  Yn gyffredinol, sefyllfa net yr awdurdod oedd gorwariant o £755K.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y gorwariant o ganlyniad i gyfuniad o'r canlynol:

 

-          codiadau cyflog a bennir yn genedlaethol yn uwch na'r lefelau y cyllidebwyd ar eu cyfer, gan gyfrif am orwariant o £3m ar draws pob adran.

 

-          mwy o wariant ar ofal cymdeithasol i oedolion i ateb y galw cronedig wrth i'r pwysau o ran recriwtio leihau ychydig ar draws y sector.

 

-          gorwariant parhaus mewn meysydd gwasanaeth lle rhoddwyd gostyngiadau yn y gyllideb ar waith, ond mae heriau o ran cyflawni wedi ei gwneud hi'n amhosibl cadw i fyny â lefel yr arbedion sydd eu hangen.  Mae'r monitro'n dangos bod £1.4m o arbedion adrannol nas cyflawnwyd ar gyfer 2023/24 a £0.6m pellach yn cael ei ddwyn ymlaen o'r flwyddyn flaenorol.

 

-          gorwariant sylweddol yn y Gwasanaethau Plant, wedi'i yrru gan lefelau galw uwch ynghyd â chymhlethdod, nas gwelwyd cyn y pandemig. Bu nifer uwch o leoliadau preswyl a chost uwch, costau asiantaeth uwch a mwy o gymorth i blant ag anableddau.

 

Dangosodd Gwasanaethau Perfformiad ac Adnoddau Corfforaetholamrywiant net o -£3,890k mewn perthynas â'r gyllideb a gymeradwywyd ar gyfer 2023/24.

 

Nodwyd, ar ddiwedd y flwyddyn, y cyflawnwyd arbedion rheolaethol o £866k mewn perthynas â tharged o £1,046k.

 

Ymatebwyd fel a ganlyn i'r sylwadau a roddwyd:-

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch taliadau banc, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod y tâl am daliadau â cherdyn, yn hytrach na chontractau banc.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol wrth y Pwyllgor y byddai'r wybodaeth yn cael ei darparu ar ôl y cyfarfod.

 

·       Cyflwynwyd ymholiad ynghylch y costau asiantaeth cyffredinol ar gyfer staff.  Ymatebodd y Rheolwr Trawsnewid drwy ddweud bod gan yr awdurdod ar hyn o bryd raglen beilot fewnol yn yr Adran Cymunedau.  Roedd y rhaglen beilot hon wedi bod yn llwyddiannus, ac roedd yr awdurdod bellach yn ystyried datblygu achosion busnes i gefnogi ei gweithredu mewn rhannau eraill o'r sefydliad.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch yswiriant gwladol a chodiadau cyflog, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol nad yw'r awdurdod ar hyn o bryd yn sicr ynghylch y cymorth sydd ar gael o ran cyllid.

 

·      Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol y byddai ymateb yn cael ei roi ar ôl y cyfarfod, o ran pam mae cynnydd yn nifer yr achosion sy'n cael eu hatgyfeirio at y crwner yn gyffredinol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

6.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2024/25 pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod 2024/25 ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 30 Mehefin 2024 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2024/25.  

 

Roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld y byddai gorwariant diwedd blwyddyn o £9.6m ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai gorwariant o £17.9m ar lefel adrannol gan gynnwys cyllidebau ysgolion. 

 

Ymatebwyd fel a ganlyn i'r sylwadau a roddwyd:-

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch swyddi gwag, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod y swyddi gwag yn cael eu cymhwyso ar draws y gwasanaethau yn gorfforaethol.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch swyddi gwag yn yr adran TG, dywedodd y Prif Swyddog Digidol y bu aildrefnu yn yr adran TG.  Roedd yr awdurdod yn wynebu heriau parhaus wrth symud ymlaen, oherwydd toriadau cyllidebol. Drwy fuddsoddi ymhellach mewn staff ac uwchsgilio, gall y gwasanaethau wella.

 

·       Mynegwyd pryderon ynghylch y ffaith bod cyllidebau'r ysgolion mewn diffyg a cheisiwyd eglurhad.  Cydnabu Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod hyn yn peri pryder difrifol a bod llythyr wedi ei anfon at bob ysgol yn y sir i'w hannog i gymryd camau i adolygu eu rhagolygon.  Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod swyddogion yn gweithio gydag ysgolion ar hyn o bryd i weld beth y gellir ei wneud i helpu. Mae dyletswydd ar bob ysgol i sicrhau ei bod yn cael ei gweithredu mewn ffordd mor effeithlon â phosibl. Cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio ei bryderon at y Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a’r Gymraeg yn ffurfiol.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch gorwariant ar gludiant ysgol, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod hyn yn cael ei briodoli i brisiau tendr cynyddol, sy'n achosi pwysau cyllidebol.  Cydnabu'r Pwyllgor fod y cynnydd yn nifer y diwrnodau gweithredol o ganlyniad i gyfnod gwyliau'r Pasg.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y gorwariant ar brydau ysgol, nododd y Pennaeth Datblygu Economaidd ac Eiddo nad oedd y cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru yn ddigonol i dalu am y gwariant.  Mae'r awdurdod yn archwilio strategaethau gweithredol amgen ac mae hefyd yn canolbwyntio ar ddatrys yr heriau o ran staffio. 

 

·       Gofynnwyd am y wybodaeth ddiweddaraf am D? Elwyn.  Dywedodd y Pennaeth Datblygu Economaidd ac Eiddo y byddai'r wybodaeth yn cael ei darparu ar ôl y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

6.1      dderbyn yr adroddiad.

 

6.2      bod y Pwyllgor Craffu yn cyfeirio ei bryderon at yr Pwyllgor Craffu

          Addysg, Pobl Ifanc a’r Gymraeg yn ffurfiol.

 

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2023-2024 pdf eicon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Blynyddol ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth 2023-24 fel y'i cyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Adnoddau.

 

Roedd yr adroddiad yn rhestru'r gweithgareddau a wnaed yn 2023-2024 o dan y penawdau canlynol:

 

·      Buddsoddiadau

·      Benthyca

·      Diogelwch, Hylifedd ac Arenillion

·      Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth

·      Dangosyddion Darbodus

·      Meincnod Atebolrwydd

·      Prydlesu

·      Aildrefnu

 

Codwyd y materion a'r ymholiadau canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y benthyciadau i ariannu'r rhaglen gyfalaf, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol y byddai'n darparu gwybodaeth y tu allan i'r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Blynyddol 2023-24 ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth yn cael ei dderbyn.

 

8.

ADRODDIAD CHWARTEROL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1 2024 I MEHEFIN 30 2024 pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Adroddiad ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth o 1 Ebrill 2024 hyd at 30 Mehefin 2024 - diweddariad.

 

Roedd adroddiad y trysorlys yn rhestru gweithgareddau rheoli'r trysorlys a oedd wedi digwydd yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2024 a 30 Mehefin 2024, yn unol â Pholisi a Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2024-2025. Nododd yr adroddiad mai cyfanswm y llog gros a gafwyd ar fuddsoddiadau am y cyfnod oedd £2.43m a'r llog a dalwyd ar fenthyciadau oedd £0.92m.

 

Nododd y Pwyllgor nad oedd yr Awdurdod wedi torri unrhyw un o'i ddangosyddion darbodaeth yn ystod y cyfnod.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn. 

 

9.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CWARTER 1- 2024/25 (01/04/24 - 30/06/24) YN BRIODOL I'R PWYLLGOR CRAFFU HWN pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a roddai ddiweddariad cynnydd diwedd Chwarter 1 - 2024/25 o ran y camau gweithredu a'r mesurau sy'n gysylltiedig â'r Strategaeth Gorfforaethol a'r Amcanion Llesiant.

 

Ymatebwyd fel a ganlyn i'r sylwadau a roddwyd:-

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y cynnydd mewn salwch tymor byr, dywedodd y Rheolwr Trawsnewid y byddai adroddiad llawn yn cael ei roi i'r Pwyllgor yn y cyfarfod craffu nesaf.

 

·       Canmolodd y Pwyllgor staff y Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol gan gydnabod bod yr ymweliad diweddar â'r swyddfa wedi rhoi dealltwriaeth werthfawr iddynt.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y ffaith na chyflawnwyd targed y Dreth Gyngor yn y chwarter cyntaf, dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol nad oedd rheswm amlwg dros y diffyg.  Roedd y Pwyllgor yn cydnabod bod y targed wedi gwella yn yr ail chwarter a bod y targed bellach ar y trywydd iawn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. 

 

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CWYNION I'R CYNGOR 2023-24 pdf eicon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Cwynion 2023-24 y Cyngor a roddai fanylion am broses gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chorfforaethol, yn ogystal â data am gwynion/canmoliaeth a ddaeth i law yn ystod 2023-24.

 

Mae'r Polisi Cwynion Corfforaethol wedi cael ei ddatblygu yn unol â "Pholisi Pryderon a Chwynion ar gyfer Darparwyr Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru" Awdurdod Safonau Cwynion - Cymru”.  Mae Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014 yn amlinellu'r weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion am faterion Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·       Canmolodd y Pwyllgor y swyddogion am yr adroddiad a'r gwaith a wnaed.

 

·       Nodwyd bod cwynion y gwasanaethau gwastraff wedi cynyddu yn y flwyddyn ariannol flaenorol, yn bennaf oherwydd newid yn y gwasanaeth casglu. Fodd bynnag, yn y flwyddyn ariannol bresennol, mae nifer y cwynion wedi dechrau gostwng.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y broses cyfathrebu â phreswylwyr ynghylch cwynion, dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth fod yr awdurdod yn archwilio ffyrdd o wella'r elfen hon a'u bod yn trafod yn gyson â'r adrannau perthnasol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

11.

COFNODION BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS (PSB) SIR GAR - MAI 2024 pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor gofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd ar 14 Mai.Roedd yn ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fod Pwyllgor Craffu Llywodraeth Leol penodol yn cael ei benodi i graffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn Sir Gaerfyrddin, penodwyd Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau y Cyngor fel y Pwyllgor Craffu perthnasol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 14 Mai 2024.

 

12.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 82 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o eitemau ar gyfer y dyfodol a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 18 Rhagfyr 2024. 

 

 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a fyddai'n cael eu hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 18 Rhagfyr 2024. 

 

 

13.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 9 GORFFENNAF 2024 pdf eicon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9  Gorffennaf 2024 yn gofnod cywir.