Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol - Dydd Mercher, 29ain Mai, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kelly Evans  01267 224178

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau'r Pwyllgor.  Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan yr Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau a oedd yn delio â materion arall yn gysylltiedig â gwaith y Cyngor.

</AI1>

 

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

A.   Evans

Eitem 4 – Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2023/24

Mae aelod o'r teulu yn gweithio yn yr adran Gwasanaethau Democrataidd

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law. 

4.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2023/24 pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Bu i'r Cynghorydd Alex Evans, ar ôl datgan buddiant personol yn yr eitem hon yn gynharach, aros yn y cyfarfod a phleidleisio].

 

Aeth Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol, yn absenoldeb yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, ati i gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol ar 29 Chwefror 2024 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2023/24.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

Atodiad A o'r adroddiad

 

·       Gofynnwyd a oedd Swyddogion yn rhagweld unrhyw newidiadau sylweddol rhwng 29 Chwefror 2024 a diwedd y flwyddyn?  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol nad oedd y ffigurau ar gael i'w rhannu ar hyn o bryd, yn anffodus.

 

·       Cyfeiriwyd at ddatblygu cynllun peilot asiantaeth fewnol ar gyfer y cartrefi yn Llanelli i ddarparu cronfa fwy hyblyg o staff achlysurol a nodwyd yn y prif amrywiadau - Pobl H?n - Cartrefi Gofal Preswyl (Darpariaeth Awdurdod Lleol. Gofynnwyd a oedd y peilot wedi dechrau ac a oedd unrhyw arwyddion cynnar o'r effaith?  Eglurodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod y peilot wedi cychwyn o fewn Gofal Cymdeithasol, rhagwelwyd y byddai'r peilot yn rhedeg am 3 mis a'i fod yn cael ei reoli gan un o'r arweinwyr penodedig yn y dyfodol.  Awgrymodd arwyddion cynnar ei fod yn gweithio'n dda, a bod y canlyniad hyd yma wedi'i gyflwyno i'r Bwrdd Trawsnewid a'r Tîm Rheoli Corfforaethol.

 

·       Cyfeiriwyd at y prif amrywiadau - Gweinyddu Budd-daliadau Tai a oedd yn nodi bod 11 swydd wag yn yr adran oherwydd anawsterau recriwtio.  Gofynnwyd am ddiweddariad.  Eglurodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol mai'r heriau gyda'r gwasanaeth penodol hwnnw oedd bod elfen o drosglwyddiad i Gredyd Cynhwysol a'r trosiant sylweddol.  Cydnabuwyd bod 11 swydd wag yn ymddangos yn swm sylweddol, fodd bynnag, roedd y swyddi gwag wedi'u gwasgaru ar draws y tîm gweinyddu Budd-dal Tai a'r tîm Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ac nid oedd rhai o'r swyddi'n llawn amser. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau bod effaith o ran llwyth gwaith, ond roedd yr Aelodau'n sicr bod hyn yn cael ei reoli'n briodol a bod y broses recriwtio yn parhau.  Ychwanegodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol y byddai 2 brentis yn ymuno â'r tîm.

 

·       Cyfeiriwyd at y gorwariant o £114 ar daliadau banc oherwydd cynnydd sylweddol yn nifer y taliadau cardiau fel y nodwyd o dan yr adran Refeniw.  Yn dilyn y trafodaethau diweddar gyda'r banc, gofynnwyd am ddiweddariad.  Esboniodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod hyn o ganlyniad i hyrwyddo dewisiadau di-arian a defnydd cynyddol cardiau credyd a debyd, a'i fod felly yn ychwanegol at y prif gontract bancio.  Eglurodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol ymhellach fod y telerau gyda'r banc wedi cael eu trafod a'u bod bellach yn fwy cystadleuol.  Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod tâl banc yn gysylltiedig â phob trafodiad a wnaed gyda cherdyn.

 

Codwyd bod canran y ffioedd ar drafodion wedi cael eu gostwng yn sylweddol gan ddarparwyr eraill y dylid eu cynnwys o fewn trafodaethau ynghylch contractau yn y dyfodol.  Cytunodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol.  Fodd bynnag, adroddwyd na fyddai'r ganran yn cael ei lleihau i wrthbwyso'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

STRATEGAETH MASNACHEIDDIO pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn cynnwys y Strategaeth Fasnacheiddio newydd i'w hystyried.  Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu yr adroddiad ynghyd â chyflwyniad a ddarparwyd gan y Rheolwr Amddiffyn rhag Llifogydd a Diogelu'r Arfordir a oedd, fel rhan o Fenter Arweinydd y Dyfodol, yn gyfrifol am y prosiect i ddatblygu'r strategaeth gyda'r Rheolwr Trawsnewid. Rhannwyd y cyflwyniad cynhwysfawr gyda'r Aelodau ar y diwrnod a'i nod oedd rhoi gwybod i'r Pwyllgor pam fod angen Strategaeth Fasnachol a'r hyn y byddai'r Strategaeth yn ceisio ei gyflawni.

 

Roedd y Strategaeth yn ei hesboniad o'r pwrpas, yn cydnabod bod y Cyngor yn wynebu pwysau o alw cynyddol am wasanaethau, gyda chyfyngiadau pellach ar adnoddau a dibyniaeth gynyddol ar gynhyrchu refeniw. Roedd y Cyngor wedi datgan argyfwng newid hinsawdd ac roedd yn datblygu cynlluniau i ddod yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030. Roedd mwy o fasnacheiddio a chynhyrchu incwm hefyd yn un o'r blaenoriaethau allweddol a gynhwyswyd yn Strategaeth Trawsnewid y Cyngor ac mai bwriad y Strategaeth Fasnachol oedd atgyfnerthu ffyrdd newydd o weithio.

 

Amlinellodd yr adroddiad fod y Strategaeth Fasnacheiddio wedi'i datblygu i ddarparu ar gyfer dull mwy strategol o ddatblygu a gweithredu gweithgareddau cynhyrchu incwm ar draws y Cyngor. Cynhyrchu incwm/masnacheiddio oedd un o'r prif flaenoriaethau yn Strategaeth Trawsnewid y Cyngor a gallai chwarae rhan hanfodol wrth helpu i liniaru effaith yr heriau sylweddol yn y gyllideb yr oedd y Cyngor yn debygol o barhau i'w hwynebu yn y tymor byr i'r tymor canolig.

 

Gofynnodd yr adroddiad i'r Pwyllgor lunio sylwadau i'w cyflwyno i'r Cabinet i'w hystyried.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·       Diolchodd yr aelodau i'r tîm am strategaeth gynhwysfawr ac roeddent yn ddiolchgar o dderbyn y wybodaeth a gynhwysir yn y cyflwyniad.

 

·       Gofynnwyd a oedd y Strategaeth yn caniatáu i'r Cyngor fanteisio ar y sector preifat er budd masnachol?  Eglurodd y Rheolwr Trawsnewid y byddai arferion masnacheiddio yn cael eu mabwysiadu lle bo'n briodol gan gadw at ddeddfwriaeth.  Mae rhai gwasanaethau yn caniatáu i elw gael ei gynhyrchu, lle nad oedd cynhyrchu elw yn cael ei ganiatáu, drwy'r opsiwn o gyflwyno cwmni annibynnol, sy'n caniatáu mwy o gyfle i fabwysiadu dull mwy masnachol o ran cynhyrchu elw.  Enghraifft lle mae'r Cyngor wedi mabwysiadu arferion y sector preifat oedd cangen fasnachu Llesiant Delta a oedd wedi profi i fod yn llwyddiannus.  Esboniodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol ymhellach, er y gellid manteisio ar fenter breifat, y byddai angen ei chydbwyso gan y byddai'n gysylltiedig â risgiau a heriau.  Yn ogystal, ni fyddai gan y Cyngor unrhyw bwerau ychwanegol uwchlaw'r ddeddfwriaeth.

 

Awgrymwyd y gallai'r Gwasanaethau Hamdden fanteisio ar weithgareddau a allai gynnwys Sioeau Carafanau a oedd yn gyffredin yn Lloegr gyda llwyddiant ysgubol.  Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod posibilrwydd y byddai'r tîm Hamdden yn ystyried hyn fel cyfle.

 

·       Wrth gydnabod pwysigrwydd llywodraethu effeithiol, mynegwyd pryder na ddylai, fodd bynnag, rwystro penderfyniadau yn y dyfodol.  Sicrhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol aelodau y byddai'r risgiau sy'n ymwneud â llywodraethu yn cael eu nodi gan y Bwrdd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU PERFFORMIAD AC ADNODDAU CORFFORAETHOL AR GYFER 2024/25 pdf eicon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Flaenraglen Waith ar gyfer 2024/2025 a baratowyd yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Craffu ddatblygu a chyhoeddi blaenraglen waith bob blwyddyn gan glustnodi materion ac adroddiadau sydd i'w hystyried mewn cyfarfodydd yn ystod blwyddyn y cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu - Perfformiad Corfforaethol ac Adnoddau ar gyfer 2024/25.

 

 

7.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i restr o eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf sydd i'w gynnal ar 9fed Gorffennaf, 2024.
 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf.</AI7>

 

 

8.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR YR 17EG EBRILL 2024 pdf eicon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17eg Ebrill, 2024 yn gofnod cywir.