Lleoliad: Siambr - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr T. Davies a H.A.L. Evans ac Aelodau Cabinet y Cynghorwyr P. Hughes, A. Lenny a D. Price.
|
|||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.
|
|||||||||||||
ADRODDIAD MONITRO ABSENOLDEB SALWCH HANNER BLWYDDYN/CH2 2022/23 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr R. James a K. Madge wedi datgan buddiant yn yr eitem hon ond arhosant yn y cyfarfod wrth iddi gael ei hystyried.] Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi data am absenoldeb salwch ar gyfer y cyfnod Ch2 yn ystod blwyddyn ariannol 2022/23 yn ogystal â chrynodeb o'r camau gweithredu.
Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:
· Ystyriwyd bod yr opsiynau cynyddol i staff weithio mewn aml-leoliadau yn gam cadarnhaol o ran lefelau absenoldeb salwch gan y gallai staff, lle bo modd, barhau i weithio gartref ac efallai na fyddent wedi teithio i'r gwaith o'r blaen; · O ran swyddi gwag, pwysleisiwyd bod y gwaith o recriwtio'n parhau o hyd er cydnabyddid ei bod yn anodd denu ymgeiswyr ar gyfer rhai swyddi. Fel y nodwyd eisoes roedd rhai disgrifiadau swyddi wedi cael eu hail-ystyried mewn ymdrech i annog mwy o bobl i wneud cais am swyddi ac mewn rhai achosion roedd yr Awdurdod hefyd yn gallu ychwanegu taliadau atodol ar sail y farchnad at y cyflog. Cafodd aelodau wybod bod yr Awdurdod wedi cyflawni Achrediad Aur yn ddiweddar yn dilyn adroddiad gan asesydd gan Fuddsoddwyr Mewn Pobl oedd yn adlewyrchiad o'r gefnogaeth a roddodd i'w weithwyr; · Cytunodd swyddogion fod angen gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y mesurau absenoldeb salwch yn berthnasol yn deg ar draws yr holl staff waeth beth oedd eu rôl a oeddent yn weithwyr mewn swyddfa neu'n weithwyr rheng flaen; · Cytunodd y Rheolwr Llesiant Gweithwyr i ddarparu dadansoddiad adrannol o'r 70 o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl; · O ran Iechyd Galwedigaethol a'r galwadau ar y gwasanaeth, nodwyd bod gwaith yn cael ei wneud i edrych ar ffyrdd o ail-lunio'r gwasanaeth gydag ymagwedd fwy masnachol o bosib. Byddai hyn yn cael ei adrodd yn ôl i'r Pwyllgor maes o law.
Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am roi'r gefnogaeth i'r staff.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|||||||||||||
GWELEDIGAETH AR GYFER CAM NESAF RHAGLEN DRAWSNEWID Y CYNGOR Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar weledigaeth/achos busnes ar gyfer cam newydd rhaglen drawsnewid y Cyngor, a fyddai'n cael eu defnyddio er mwyn llywio Strategaeth Drawsnewid dros y 5 mlynedd nesaf. Nod y strategaeth fyddai dylunio a gweithredu rhaglen drawsnewid mewnol er mwyn cefnogi'r Cyngor i wireddu ei weledigaeth a'i flaenoriaethau fel y'u nodir yn ei Strategaeth Gorfforaethol.
Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:
· Cydnabuwyd bod angen gwella rhannu arferion gorau ar draws yr awdurdod; · Nodwyd y byddai gweithdrefnau'n cael eu cyflwyno i fonitro canlyniadau ac i benderfynu a oedd angen unrhyw gymorth pellach ar ôl i drawsnewidiadau a argymhellir gael eu gwreiddio.
Talodd y Rheolwr Rhaglen TIC deyrnged i Bernadette Dolan, aelod gwerthfawr o dîm TIC, a fu farw'n ddiweddar.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|||||||||||||
COFNODION BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS (PSB) SIR GÂR - MEDI 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd ar 28 Medi 2022. Roedd yn ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fod Pwyllgor Craffu Llywodraeth Leol penodol yn cael ei benodi i graffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn Sir Gaerfyrddin, penodwyd Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau y Cyngor fel y Pwyllgor Craffu perthnasol.
Dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol, Perfformiad a Phartneriaeth fod y man Ffyrdd Newydd o Weithio yn Llandeilo y cyfeirir ato yn y cofnodion bellach ar agor i'w ddefnyddio. Ychwanegodd fod gweithdy wedi'i gynnal yn ddiweddar ar gyfer pob cynrychiolydd y BGC o ystyried nifer yr aelodau newydd lle codwyd y mater o bresenoldeb mewn cyfarfodydd y BGC.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 28 Medi 2022.
|
|||||||||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2022/23 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr A. Evans a K. Madge wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ond arhosant yn y cyfarfod wrth iddi gael ei hystyried.]
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 31 Awst 2022 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2022/23. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys atodiad a oedd yn rhoi manylion Monitro Arbedion 2022-23.
Roedd y canlynol ymhlith y materion ac ymholiadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:
· Mewn ymateb i bryder ynghylch nifer y swyddi gwag yn y canolfannau gwasanaethau cwsmeriaid, ailadroddwyd bod y swyddi gwag yn parhau i gael eu hysbysebu; · Mewn ymateb i sylw, cadarnhawyd bod y bwriad i ad-drefnu'r adran marchnata a'r cyfryngau yn mynd yn ei flaen; · Nodwyd mai dim ond un swydd wag oedd yn yr adran TG nid 5 fel y nodir yn yr adroddiad; · Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol i ostyngiad posib mewn taliadau banc.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Canol Blwyddyn ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2022 a 30 Medi 2022 i sicrhau bod y gweithgareddau a wnaed yn gyson â gofynion Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2022-23 a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 2 Mawrth, 2022.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|||||||||||||
DIWEDDARIAD AR GAMAU GWEITHREDU Y PWYLLGOR CRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad yn manylu ar gamau gweithredu, ceisiadau neu atgyfeiriadau a oedd yn deillio o gyfarfodydd craffu blaenorol.
O ran cam gweithredu cyf. P&R 008 21/22, dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol, Perfformiad a Phartneriaeth y byddai'r Pwyllgor Craffu - Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio yn ystyried adroddiad diweddaru ynghylch y cynnydd a wnaed ar y Fenter Deg Tref yn ei gyfarfod ar 19 Rhagfyr 2022, ac y byddai'n trefnu i hyn gael ei ddosbarthu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu.
|
|||||||||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf.
|
|||||||||||||
COFNODION - 19EG HYDREF, 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2022 yn gofnod cywir.
|