Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin Davies 01267 224059
Rhif | eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd J. P. Hart a'r Cynghorydd D. Nicholas.
|
||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.
|
||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2021/22 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu Adroddiad Blynyddol drafft y Cyngor ar gyfer 2021/22 ynghyd â'r adroddiadau manwl perthnasol ar Amcanion Llesiant sy'n dod o fewn cylch gwaith y pwyllgor sef:
· Amcan Llesiant 5 - Creu mwy o swyddi a thwf ledled y sir; · Amcan Llesiant 8 - Cefnogi cydlyniant cymunedol, cydnerthedd a diogelwch; · Amcan Llesiant 13 - Llywodraethu a Defnyddio Adnoddau yn well.
Nodwyd ei bod yn ofynnol o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) i'r Awdurdod gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar berfformiadau blaenorol erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn.
Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:
Amcan Llesiant 5 · Mewn ymateb i bryder fod gan Sir Gaerfyrddin y gyfradd gyflogaeth drydedd isaf yng Nghymru, cynghorwyd y pwyllgor bod proses recriwtio a theitlau/proffiliau swyddi y Cyngor yn cael eu hailasesu a nodwyd bod Pentre Awel a datblygiadau eraill y Fargen Ddinesig yn debygol o greu llawer o gyfleoedd newydd am waith. Cydnabuwyd hefyd yn ehangach, ers y pandemig Covid, bod llawer o bobl wedi gwneud dewisiadau ffordd o fyw ac nad oeddent bellach yn chwilio am waith; · Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud â'r fenter 10 tref, pwysleisiwyd bod y Cyngor yn ddibynnol ar fod busnesau a chymunedau lleol yn gwneud y gorau o'r cyfleoedd a'r cyllid sydd ar gael, a allai ddenu rhagor o gyllid ac yn hyn o beth roedd gan yr aelodau lleol rôl bwysig i'w chwarae hefyd; · Nodwyd bod gan yr Awdurdod nifer o fentrau ar waith i gau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau;
Amcan Llesiant 8 · Soniodd yr aelodau am y ffyrdd cadarnhaol yr oedd cymunedau wedi cyd-dynnu yn ystod ac ers y pandemig COVID ac roeddent o'r farn y byddai cydlyniant cymunedol a chydnerthedd yn parhau i fod yn hollbwysig yn ystod y misoedd nesaf, yn enwedig gyda golwg ar y sefyllfa economaidd. Yn hyn o beth cyfeiriwyd at fentrau i'w croesawu fel banciau bwyd a 'mannau croeso cynnes' yn y llyfrgelloedd cyhoeddus ac mewn lleoliadau eraill; · Cydnabuwyd bod Covid wedi peri heriau enfawr i'r gweithlu a chafodd y Pwyllgor wybod bod adolygiad 'gwersi a ddysgwyd' wedi'i gynnal gyda'r bwriad o ddatblygu ffyrdd o weithio a fu'n fuddiol i staff, y Cyngor a defnyddwyr gwasanaeth ac adeiladu arnynt. Roedd arolwg staff a gynhaliwyd fel rhan o'r adolygiad wedi rhoi adborth cadarnhaol; · Cyfeiriwyd at y cyllid sydd ar gael o'r Gronfa Dlodi i gynorthwyo gyda sefydlu clybiau cinio neu gaffis cymunedol;
Amcan Llesiant 13 · Nodwyd bod salwch staff, ar wahân i Covid, ar y lefel darged; · Mewn ymateb i gwestiwn cafodd yr aelodau wybod nad oedd cais gan undebau llafur am gyflwyno lwfans gweithio gartref yn cael ei gefnogi gan gyflogwyr.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Cabinet fod y fersiwn ddrafft o Adroddiad Blynyddol 2021/22 yn cael ei gymeradwyo.
|
||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU 2021/22 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau am flwyddyn y cyngor 2021/22 a oedd yn rhoi golwg gyffredinol ar waith y Pwyllgor gan gynnwys:- · Trosolwg ar y Rhaglenni Gwaith Craffu; · Y materion allweddol a ystyriwyd; · Materion oedd wedi'u cyfeirio at y Cabinet neu Bwyllgorau Craffu Eraill neu ganddynt; · Presenoldeb yr Aelodau yn y cyfarfodydd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad.
|
||||||||||
CYNLLUN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU PERFFORMIAD AC ADNODDAU CORFFORAETHOL AR GYFER 2022/23 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Flaenraglen Waith ar gyfer 2022/2023 a baratowyd yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Craffu ddatblygu a chyhoeddi blaenraglen waith bob blwyddyn gan glustnodi materion ac adroddiadau sydd i'w hystyried mewn cyfarfodydd yn ystod blwyddyn y cyngor.
Dywedwyd wrth yr aelodau, yn dilyn cyhoeddi Blaengynllun y Cabinet yn ddiweddar ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Hydref 2022 a 29 Rhagfyr 2023, y byddai trefniadau yn cael eu gwneud ar gyfer sesiwn ddatblygu er mwyn i aelodau'r Pwyllgor ystyried a oedd yno unrhyw eitemau o fewn cylch gwaith y Pwyllgor y byddai'n dymuno eu cynnwys yn ei Flaenraglen Waith ei hun.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu - Perfformiad Corfforaethol ac Adnoddau ar gyfer 2022/23.
|
||||||||||
COFNODION BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS (PSB) SIR GÂR - GORFFENNAF 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd gofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2022.
Roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol bod pwyllgor craffu llywodraeth leol dynodedig yn cael ei benodi i graffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn Sir Gaerfyrddin, penodwyd Pwyllgor Craffu – Perfformiad Corfforaethol ac Adnoddau y Cyngor fel y Pwyllgor Craffu perthnasol.
Estynnwyd llongyfarchiadau i'r Arweinydd ar gael ei benodi'n Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a thalwyd teyrnged i'r cyn-Gadeirydd Mr. Barry Liles.
Cafodd yr aelodau wybod, fel oedd yn digwydd yn flaenorol, y dylent gysylltu â'r Rheolwr Polisi Corfforaethol, Perfformiad a Phartneriaeth os oedd ganddynt ddiddordeb mewn mynd i gyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fel arsylwr.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2022.
|
||||||||||
ADRODDIAD ALLDRO CYLLIDEB REFENIW 2021/22 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: Wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, arhosodd y Cynghorwyr A. Evans a K. Madge yn y cyfarfod wrth iddi gael ei hystyried.]
Aeth yr Aelod Cabinet dros Adnoddau ati i gyflwyno Adroddiad Alldro Cyllideb Gorfforaethol 2021/22 yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol. Yn gyffredinol, sefyllfa net yr Awdurdod oedd tanwariant o £1,433k gydag Adrannau'r Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol yn dangos amrywiant net o -£2,014k yn erbyn cyllidebau cymeradwy 2021/22. Ar ddiwedd y flwyddyn roedd £281k o arbedion Rheolaethol wedi'u cyflawni yn erbyn targed o £451k.
Mewn ymateb i bryder ynghylch y 12 swydd wag yn y canolfannau gwasanaethau cwsmeriaid, dywedwyd wrth y Pwyllgor bod yna anawsterau yngl?n wrth lenwi'r swyddi oherwydd i rai aelodau staff gael eu hadleoli yn ystod y pandemig Covid.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
||||||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2022/23 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: Wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, arhosodd y Cynghorwyr A. Evans a K. Madge yn y cyfarfod wrth iddi gael ei hystyried.]
Aeth yr Aelod Cabinet dros Adnoddau ati i gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 30 Mehefin 2022 gyda golwg ar flwyddyn ariannol 2022/23. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys atodiad a oedd yn rhoi manylion Monitro Arbedion 2022/23.
Roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld y byddai gorwariant diwedd blwyddyn o £4,767k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai gorwariant o £4,735k ar lefel adrannol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Aeth yr Aelod Cabinet dros Adnoddau ati i gyflwyno'r Adroddiad Chwarterol ynghylch Rheoli'r Trysorlys a'r Dangosyddion Darbodaeth ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2022 - 30 Mehefin 2022 a oedd yn rhestru gweithgareddau rheoli'r trysorlys a ddigwyddodd yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn yn unol â Pholisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2022-2023 a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 2 Mawrth 2022.
Nid oedd yr Awdurdod wedi torri unrhyw un o'i Ddangosyddion Darbodus yn ystod y cyfnod.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad.
|
||||||||||
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad nad oedd wedi'i gyflwyno.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.
|
||||||||||
COFNODION - 16EG MAWRTH 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 16 Mawrth 2022 gan eu bod yn gywir.
|