Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kelly Evans 01267 224178
Rhif | eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Darren Price, yr Arweinydd.
|
||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.
|
||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law. |
||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Noder: Bu i'r Cynghorydd A. Evans, ar ôl datgan buddiant yn gynharach, ailadrodd ei ddatganiad a gadael y cyfarfod]
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn darparu data absenoldeb salwch ar gyfer Ch2 2024/25. Roedd y targed oedd wedi'i osod gan y Tîm Rheoli Corfforaethol ar gyfer gwella am 2024/25 wedi'i adolygu ar sail cyfartaledd dros y tair blynedd diwethaf ac wedi'i osod ar 10.68 cyfwerth ag amser llawn (ac eithrio 2020/21 oherwydd effaith argyfwng covid).
Diolchodd y Pwyllgor i'r staff am yr adroddiad gwybodus ac am eu holl waith caled.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad: · Dywedodd y Rheolwr Adnoddau Dynol (Partneriaeth Busnes) wrth y Pwyllgor fod gweithio hybrid, yn ddull o weithio gartref ac mewn gwahanol leoliadau ar draws y Sir, yn amodol ar ystyriaethau o ran cyflawni gwasanaethau. Roedd disgwyl i staff weithio gyda'i gilydd o leiaf ddau ddiwrnod o'r wythnos. Er nad oedd staff gweithredol yn elwa ar weithio hybrid, roeddent yn gallu gofyn am i opsiynau gweithio gwahanol gael eu hystyried. · Rhoddwyd gwybod i'r aelodau nad oedd yr un adran wedi cyrraedd ei tharged ar gyfer Ch2 2024/25. Roedd absenoldeb tymor byr wedi cynyddu 24.1%. Y rhesymau mwyaf dros absenoldeb oedd straen a phroblemau iechyd meddwl, gyda rhai ffactorau'r tu hwnt i'r gwaith hefyd yn cyfrannu. · Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau, oherwydd amseroedd aros hir yn y GIG, fod meddygon teulu yn cynghori cleientiaid i ofyn am help trwy wasanaethau Iechyd Galwedigaethol eu cyflogwyr. · Nododd y Pwyllgor fod wythnos llesiant rheolwyr wedi bod yn ddiweddar, oherwydd cynnydd mewn absenoldeb salwch ymysg rheolwyr. · Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod Cynllun Absenoldeb Staff Ysgolion yn bodoli, a bod 86 o ysgolion yn rhan ohono. Mae'r cynllun hwn yn cynnig cyngor ac arweiniad rhagweithiol mewnol i Benaethiaid, gan olygu nad oes angen i ysgolion brynu premiymau yswiriant ar wahân. · Cafwyd cais am gynnwys colofn ychwanegol yn adroddiadau'r dyfodol, i ddangos codiadau cyflog y staff, er mwyn gweld y cynnydd o un flwyddyn i'r llall. · Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod cyfres o ganllawiau a pholisïau ar-lein, yn rhoi gwybodaeth i staff am wyliau ac absenoldeb. · Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu wrth yr aelodau y byddai'r Tîm Rheoli Corfforaethol yn ailgyflwyno'r arfer o wahodd y Pennaeth Gwasanaeth cyfrifol i gyfarfodydd lle roedd cyfraddau salwch ar eu huchaf. · Dywedodd y Rheolwr Llesiant Gweithwyr wrth y pwyllgor, gan fod sawl aelod wedi methu ymweld â'r ganolfan Iechyd Galwedigaethol yn gynharach eleni, y byddai ymweliad arall yn cael ei drefnu ar gyfer y flwyddyn oedd i ddod.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
4.1 derbyn Adroddiad Chwarter 2 Perfformiad Absenoldeb Salwch Cronnus 2024/25 y Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol
4.2 derbyn y diweddariad diwedd blwyddyn.
|
||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL RHAGLEN DRAWSNEWID 2023/24 A DIWEDDARIAD CYNYDD 2024/25 BOB 6 MIS PDF 106 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn adolygu ymagwedd yr Awdurdod at drawsnewid yn ystod 2023/24 a chwe mis cyntaf y flwyddyn gyfredol. Roedd y rhaglen yn amlinellu pa gynnydd oedd wedi'i wneud o ran gweithredu'r nodau a'r amcanion allweddol sydd wedi'u cynnwys yn Strategaeth Drawsnewid y Cyngor. Dyma'r 8 blaenoriaeth thematig sydd wedi'u cynnwys yn y Strategaeth Drawsnewid:
· Cwsmeriaid a Digidol · Incwm a Masnacheiddio · Dylunio Gwasanaeth a Gwella Gwasanaethau · Y Gweithlu · Y Gweithle · Arbedion a Gwerth am Arian · Datgarboneiddio · Ysgolion
Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-
· Mewn ymateb i gwestiwn, dywedwyd wrth yr aelodau fod 220 o ddefnyddwyr o fewn yr awdurdod yn treialu'r co-pilot. Roedd y co-pilot yn gynorthwyydd personol gyda'r bwriad o helpu defnyddwyr i lunio adroddiadau, cofnodion a chynnwys yn fwy effeithiol. Sir Gaerfyrddin yw'r awdurdod cyntaf yng Nghymru i ryngweithio â Deallusrwydd Artiffisial. Yn dilyn y cyfnod prawf o 10 mis, bydd penderfyniad corfforaethol yn cael ei wneud ar gyflwyno Deallusrwydd Artiffisial i ddefnyddwyr yn yr awdurdod. · O ran nifer y swyddi gwag o fewn yr awdurdod, hysbyswyd yr aelodau fod trefniadau recriwtio wedi'u rhewi ar hyn o bryd ar gyfer pob swydd nad oedd yn cael ei hystyried yn un hanfodol. · Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod staff yn gallu cyflawni hyfforddiant ar-lein drwy system newydd Thinqui. Mae'r system yn haws i'r defnyddiwr ei defnyddio ac mae'r staff yn gallu penderfynu pryd maent yn gwneud yr hyfforddiant. Bydd gwybodaeth am sut y mesurir y niferoedd sy'n gwneud yr hyfforddiant a'r adborth gan y staff am yr hyfforddiant gorfodol, yn cael ei rhoi'r tu allan i'r cyfarfod.
Diolchodd y Pwyllgor i'r swyddogion am gynhyrchu adroddiad llawn gwybodaeth.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL -
5.1 derbyn adroddiad Blynyddol y Rhaglen Trawsnewid 2023/24 5.2 derbyn diweddariad chwemisol 2024/25.
|
||||||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2024/25 PDF 126 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [Noder: Bu i'r Cynghorydd A. Evans, ar ôl datgan buddiant yn gynharach, ailadrodd ei ddatganiad ac aros yn y cyfarfod]
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod 2024/25 ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 31 Awst 2024 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2024/25.
Roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld y byddai gorwariant diwedd blwyddyn o £10.2m ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai gorwariant o £19.5m ar lefel adrannol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau i'r Pwyllgor fod hon yn sefyllfa bryderus iawn, a oedd wedi gwaethygu dros y misoedd diwethaf. Roedd cyllid y Cyngor dan bwysau cynyddol, a'r canlynol oedd yn bennaf cyfrifol:
· galw mawr parhaus a chymhlethdod o fewn gofal cymdeithasol i oedolion
· pwysau pellach o fewn y gwasanaethau plant, yn bennaf oherwydd cyfuniad o gynnydd pellach yn nifer y lleoliadau preswyl uchel iawn eu cost, a heriau wrth ddarparu rhaglen newid fawr ac amlochrog o fewn y gwasanaeth. Yn y cyd-destun hwn, roedd costau cynyddol wedi bod o ran darpariaeth fewnol, gan gynnwys gwariant ar asiantaethau i gefnogi nifer fach o blant ag anghenion cymhleth.
· gwariant cynyddol ar drafnidiaeth oherwydd costau cynyddol cyflenwyr a chynnydd gweithredol y flwyddyn benodol hon, oherwydd y ffordd roedd y flwyddyn ysgol yn disgyn achos y Pasg.
PENDERFYNWYD bod adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2024/25 yn cael ei dderbyn.
|
||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Canol Blwyddyn ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2024 a 30 Medi 2024 i sicrhau bod y gweithgareddau a wnaed yn gyson â gofynion Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2024-25, a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 28 Chwefror, 2024.
Cyfanswm y llog gros cyfartalog a gafwyd ar fuddsoddiadau ar gyfer y cyfnod oedd £4.51m. Mae hyn yn cynnwys llog o £1.54m ar y balans cyfartalog o £60.51m a ddelir ar gyfer Rhanbarth Bargen Ddinesig Bae Abertawe.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, mewn perthynas â buddsoddiad yr Awdurdod yn y cyfnod dan sylw:
• bod y balans buddsoddi yn £138.5m ddiwedd Medi;
• bod cyfanswm y buddsoddiadau a wnaed ac a ad-dalwyd (y trosiant) yn dod i £855.5m;
• a bod y llog gros a enillwyd am y cyfnod yn £4.51m.
Dywedodd y Pwyllgor fod y lefel fuddsoddi bresennol yn dal i fod yn sylweddol gyda balans o £135m.
Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau wybodaeth i'r aelodau mewn perthynas â gweithgaredd benthyca'r Awdurdod yn y cyfnod dan sylw:
• roedd cyfanswm y benthyciadau oedd dal yn ddyledus ychydig dros £400m.
• ni wnaed unrhyw fenthyca o'r newydd yn ystod y cyfnod
• a'r llog a dalwyd oedd £8.27m.
Cadarnhawyd bod y Dangosyddion Darbodus o fewn terfynau Cyllideb 2024-2025 a Pholisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2024-2025.
PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad Canol Blwyddyn ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys rhwng 1Ebrill 2024 a 30 Medi 2024.
|
||||||||||
COFNODION BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS (PSB) SIR GAR - MEDI 2024 PDF 90 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor gofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd ar 17 Medi 2024. Roedd yn ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fod Pwyllgor Craffu Llywodraeth Leol penodol yn cael ei benodi i graffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn Sir Gaerfyrddin, penodwyd Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau y Cyngor fel y Pwyllgor Craffu perthnasol.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad: · Cydnabu'r aelodau y byddai cais i fonitro absenoldeb salwch yn cael ei anfon ymlaen i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. · Mynegodd yr aelodau siom nad oedd aelodau o'r bwrdd iechyd yn y cyfarfod. · Amlygwyd yr heriau oedd yn wynebu cymunedau o ran dod o hyd i dir addas ar gyfer cynhyrchu bwyd. Nododd yr aelodau fod Bwyd Sir Gâr wrthi'n chwilio am opsiynau ar gyfer tyfu bwydydd mewn cymunedau yn Sir Gaerfyrddin.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 17 Medi 2024.
|
||||||||||
DIWEDDARIAD AR GAMAU GWEITHREDU Y PWYLLGOR CRAFFU PDF 108 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â cheisiadau neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau Corfforaethol yn ystod blwyddyn y cyngor 2024/25.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu.
|
||||||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 82 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 31 Ionawr 2025.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf.
|
||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 6 TACHWEDD 2024 PDF 166 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd, 2024 gan eu bod yn gywir
|