Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd D. Nicholas.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

K. Madge

4 – Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2022-23

Ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

A.   Evans

4 – Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2022-23

Aelod o'r teulu yn gweithio i'r adain Gwasanaethau Democrataidd.

M.J.A. Lewis

4 – Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2022-23

Ei nith yn gweithio i'r adran Addysg.

 

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip.

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law. 

4.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2022/23 pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, arhosodd y Cynghorwyr A. Evans, K. Madge a M.J.A. Lewis yn y cyfarfod wrth iddi gael ei hystyried.]

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 28 Chwefror 2023 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2022/23.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys atodiad a oedd yn nodi adroddiad Monitro Arbedion 2022-23.

 

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld gorwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £6.159m ac yn rhagweld tanwariant o £470k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a'r ymholiadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:

 

·   Mewn ymateb i ymholiad ynghylch swyddi gwag yn y canolfannau cyswllt, dywedodd y Rheolwr Marchnata a'r Cyfryngau fod rhai swyddi gwag wedi cael eu llenwi'n ddiweddar a bod yr aelodau staff sydd newydd eu penodi yn cael cyfnod o hyfforddiant ar hyn o bryd.  Dywedwyd ymhellach, yn dilyn newid mewn prosesau yn yr adain, fod amseroedd ymateb mewn canolfannau cyswllt cwsmeriaid wedi gwella'n sylweddol; serch hynny, roedd y gallu a'r gwytnwch i ateb y galw yn ystod misoedd prysurach y gaeaf yn flaenoriaeth i'r adain yn y dyfodol.  Rhoddodd y Rheolwr Marchnata a'r Cyfryngau y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am yr ad-drefnu is-adrannol hefyd, gan nodi bod disgwyl i hyn gael ei roi ar waith erbyn canol mis Gorffennaf.

 

·   Mewn ymateb i ymholiad rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau sicrwydd i'r Pwyllgor y byddai'r Cabinet yn ystyried y mater o ran ffermydd sirol ac y byddai gwybodaeth bellach ar gael i'r aelodau maes o law. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol, mewn ymateb i newid i ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, fod y Cyngor wedi dyrannu arian ar gyfer seilwaith slyri yn ei gyllideb ar gyfer 2023/24.

 

·   Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd ynghylch y gorwariant o ran ffioedd y crwner, rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol sicrwydd bod y mater hwn yn cael ei adolygu i gadarnhau a fyddai pwysau cyllidebol yn cael eu nodi ar gyfer cyllideb y Cyngor 2024/25.

 

·   Cyfeiriwyd at y portffolio Eiddo Masnachol lle cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod cyfleoedd cyllido allanol yn cael eu harchwilio yn unol â chyllideb gyfalaf yr awdurdod, ac yn hyn o beth darparwyd crynodeb o'r fenter adfywio Deg Tref i'r Pwyllgor a oedd yn ceisio cefnogi adferiad economaidd a thwf trefi gwledig ledled y sir.  O ran adeiladau nad oes defnydd digonol yn cael ei wneud ohonynt o ganlyniad i gynnydd mewn gweithio ystwyth, rhoddwyd sicrwydd bod ystad y cyngor yn cael ei hadolygu i sicrhau'r elw gorau posibl ar fuddsoddiad.

 

·   Mynegwyd pryderon ynghylch y ddibyniaeth ar weithwyr asiantaeth, yn enwedig yn yr is-adran gwasanaethau cymdeithasol, o ganlyniad i'r argyfwng recriwtio cenedlaethol.  Rhoddwyd sicrwydd bod yr awdurdod yn bwriadu datblygu ei weithlu ei hun yn y maes hwn drwy fenter hyfforddi'r academi; fodd bynnag, nodwyd y byddai hyn yn cymryd amser.

 

·       O ran y diffyg incwm parhaus yn y canolfannau hamdden/chwaraeon  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR CRAFFU PERFFORMIAD AC ADNODDAU CORFFORAETHOL 2022/23 pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol a oedd yn rhoi manylion am y gwaith a gyflawnwyd gan y Pwyllgor yn ystod blwyddyn y cyngor 2022/23. Roedd yr adroddiad wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor ac roedd yn rhoi trosolwg o'r rhaglen waith a'r materion allweddol dan sylw, gan gynnwys hefyd unrhyw faterion a gyfeiriwyd at neu gan y Cabinet, adolygiadau Gorchwyl a Gorffen, sesiynau datblygu a phresenoldeb aelodau.

 

Cyfeiriwyd at gywiriad teipograffyddol i dudalen 2, paragraff 2 yr adroddiad a fyddai'n cael ei ddiweddaru i ddangos bod y pwyllgor wedi ymgynnull yn Hydref 2022.

 

Dywedodd aelod fod lefelau presenoldeb rhai aelodau'r pwyllgor yn cael eu hystyried yn annerbyniol oherwydd bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal gyda'r opsiwn o fod yn bresennol wyneb yn wyneb neu o bell drwy Zoom.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo’r adroddiad, yn amodol ar wneud newid teipograffyddol i dudalen 2, paragraff 2 yr adroddiad.

6.

DIWEDDARIAD AR GAMAU GWEITHREDU Y PWYLLGOR CRAFFU pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â cheisiadau neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol yn ystod blwyddyn y cyngor 2023/24.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

7.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 86 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

7.1

Bod trefniadau'n cael eu gwneud i'r Pwyllgor dderbyn adroddiad a chyflwyniad ar weithrediad canolfannau cyswllt y Cyngor mewn sesiwn anffurfiol ar ôl i gyfarfod y Pwyllgor ar 19 Gorffennaf 2023 ddod i ben.

 

7.2

Bod gwybodaeth am gynnydd a chost Tîm Trawsnewid Tyisha yn cael ei hanfon at y Pwyllgor i'w hystyried.

 

7.3

Derbyn y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf. 

 

8.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 03 MAI 2023 pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a oedd wedi'i gynnal ar 3 Mai 2023 gan eu bod yn gywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau