Lleoliad: Siambr - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kelly Evans 01267 224178
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd G. John, K. Madge a P. Hughes |
||||||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.
|
||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.
|
||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i’r Pwyllgor, ar ôl cytuno, mewn egwyddor, i gynnal adolygiad Gorchwyl a Gorffen o Ganolfan Gyswllt y Cyngor yn ei gyfarfod anffurfiol a gynhaliwyd ar 27 Medi, dderbyn y Ddogfen Cynllunio a Chwmpasu Ddrafft Gorchwyl a Gorffen ar adolygiad o berfformiad a datblygiad y Ganolfan Gyswllt Gorfforaethol.
Wrth gyflwyno’r ddogfen, pwysleisiodd y Cadeirydd fod hwn yn faes y teimlai’r Pwyllgor yn gryf y byddai’n elwa’n fawr ar adolygiad, gan ei fod yn fodd sylfaenol i’r cyhoedd roi gwybod am broblemau a cheisio gwybodaeth. Felly, wrth ystyried y nodau a'r amcanion a nodir yn y ddogfen, y Pwyllgor fyddai orau i gynnal ymchwil i'r systemau presennol sydd yn eu lle, y perfformiad a chynhyrchu argymhellion i'r Cabinet.
Er mwyn ffurfio Gr?p Gorchwyl a Gorffen gwleidyddol gytbwys, gofynnodd y Cadeirydd am hyd at 6 enwebiad gan y Pwyllgor. Wrth gydnabod bod yr enwebiadau a ddaeth i law wedi'u pwysoli tuag at Blaid Cymru, cytunodd y Pwyllgor ar yr aelodaeth, yn amodol ar benderfyniad y Cyngor ar aelodaeth pwyllgorau a fyddai'n digwydd yn y Cyngor llawn ar 8 Tachwedd, 2023. Byddai hyn yn rhoi cyfle i aelod o'r Gr?p Llafur ymuno â'r gr?p i sicrhau cydbwysedd gwleidyddol. Pe bai enwebiad yn dod o'r gr?p Llafur cyn y cyfarfod cyntaf ym mis Tachwedd, cytunwyd y byddai'r Cynghorydd Jean Lewis yn rhoi'r gorau iddi.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
4.1 Derbyn y Ddogfen Cynllunio a Chwmpasu ddrafft – Adolygu
Perfformiad a Datblygiad y Ganolfan
Gyswllt Gorfforaethol; 4.2 cymeradwyo nodau a chwmpas gwaith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen fel y nodir yn y Ddogfen Cynllunio a Chwmpasu;
4.3 bod Aelodaeth y Gr?p Gorchwyl a Gorffen ar Berfformiad a Datblygiad y Ganolfan Gyswllt Gorfforaethol fel a ganlyn:-
|
||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYNGOR SIR GAR AR GYFER 2022-23 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorydd A. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried.]
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol drafft y Cyngor ar gyfer 2022/23 ynghyd ag adroddiadau manwl ar Amcanion Llesiant newydd y Cyngor sy'n dod o fewn cylch gwaith y pwyllgor sef:
· WBO1 - Galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau'n Dda) · WBO2 - Galluogi ein preswylwyr i fyw a heneiddio'n dda (Byw a Heneiddio'n Dda) · WBO3 - Galluogi ein cymunedau a'n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus (Cymunedau Ffyniannus) · WBO4 - Moderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor cydnerth ac effeithlon (Ein Cyngor)
Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd yr Arweinydd fod yr adroddiad hwn yn ofyniad statudol, a thrwy ddefnyddio’r amcanion llesiant i fframio’r hunanasesiad, roedd yn galluogi'r Cyngor i integreiddio gofynion adrodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) mewn un adroddiad.
Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am sut yr ymgysylltai’r Cyngor â dinasyddion a rhanddeiliaid ar draws holl swyddogaethau allweddol y Cyngor.
Ymatebwyd i'r sylwadau/arsylwadau fel a ganlyn:
· Rhoddwyd sylw i'r grantiau penodol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru gan eu bod yn cyfateb i'r cyfanswm o 16% y mae'r Cyngor yn ei dderbyn o'r dreth gyngor. Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd yr Arweinydd fod y swm a dderbyniodd y Cyngor o dreth y cyngor yn y gwariant cyffredinol yn fach o gymharu â phwysigrwydd y Grant Cynnal Refeniw (RSG) a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd trafodaethau ar y gweill ar lefel Cymru gyfan. Dywedodd yr Arweinydd wrth yr aelodau y byddai'r Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn ymweld â Sir Gaerfyrddin yn ystod yr wythnos nesaf lle byddai trafodaeth yn cael ei chynnal yngl?n â sefyllfa bresennol y grantiau a'r posibilrwydd o gydgrynhoi'r Grant Cynnal Refeniw. Byddai gwybodaeth yn cael ei dosbarthu i Aelodau'r Pwyllgor y tu allan i'r cyfarfod.
· Esboniodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y Cyngor yn dibynnu ar grantiau i gynnal y gyllideb refeniw.
· Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod y gyfradd gasglu annomestig yn 97.97% a oedd ychydig bach yn is na'r flwyddyn flaenorol. Mae ardrethi annomestig yn cael eu cronni ledled Cymru ac felly, byddai unrhyw or-gasgliad neu dan-gasgliad o fewn awdurdod lleol unigol yn mynd i’r gronfa ac yn cael ei rannu ledled Cymru. Mae'r awdurdod wedi'i ddiogelu rhag unrhyw amrywiad o ran ffactorau economaidd lleol.
· Bu i'r Pennaeth Adfywio, Polisi a Digidol, wrth ymateb i ymholiad ynghylch safleoedd adwerthu gwag ac adwerthwyr yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, gadarnhau byddai'n rhaid i'r landlord dalu ardrethi, er bod cyfnod dros dro o 3 mis pan fo'r eiddo'n wag
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch gostyngiad yn y targedau ymateb statudol i gwynion, eglurodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a' Phartneriaeth, y bu cynnydd yn nifer y cwynion a ddaeth i law yr Awdurdod yn ystod yr un cyfnod. Roedd y cwynion a ddaeth i law yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD ALLDRO CYLLIDEB REFENIW 2022/23 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorydd A. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried.]
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiadau Alldro Cyllideb Gorfforaethol 2022/23 yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol. Yn gyffredinol, sefyllfa net yr awdurdod oedd tanwariant o £1,288k.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2023/24 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorydd A. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried.]
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol 2023/24 yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 30 Mehefin 2023 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2023/24.
Roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld y byddai gorwariant diwedd blwyddyn o £4,504k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai gorwariant o £7,399k ar lefel adrannol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorydd A. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried.]
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Chwarterol ynghylch y Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli’r Trysorlys ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2023 - 30 Mehefin 2023. Roedd yr adroddiad yn rhestru'r gweithgareddau rheoli'r trysorlys a oedd wedi digwydd yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn yn unol â Pholisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2023-2024 a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 1 Mawrth 2023.
Nododd y Pwyllgor nad oedd yr Awdurdod wedi torri unrhyw un o'i Ddangosyddion Darbodus yn ystod y cyfnod.
Ymatebwyd i'r sylwadau/arsylwadau a godwyd fel a ganlyn:-
· Cyfeiriwyd at y WAYield isel ar gyfer Banc Lloyds. Mewn ymateb i ymholiad ynghylch cyfradd y farchnad, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau wrth y Pwyllgor fod y Cyngor wedi ail-fuddsoddi gyda Banc Lloyds ar gyfradd uwch o 6.22%.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad.
|
||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn cynnwys diweddariad ar y camau a gymerwyd hyd at ddiwedd Chwarter 1 – 2023/24, o'r Camau Gweithredu a'r Mesurau sy'n gysylltiedig â'r Strategaeth Gorfforaethol a'r amcanion Llesiant.
Ymatebwyd i'r sylwadau/arsylwadau a godwyd fel a ganlyn:-
· O ran prentisiaethau, nodwyd bod gwaith yn cael ei wneud i edrych ar ffyrdd o ail-lansio'r cynllun.
· Cytunodd y Rheolwr Datblygu a Dysgu i ddarparu ffigyrau ar gyfer prentisiaethau ar draws yr Awdurdod.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
||||||||||||||||||||||
COFNODION BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS (PSB) SIR GAR EBRILL 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor gofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2023. Roedd yn ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fod Pwyllgor Craffu Llywodraeth Leol penodol yn cael ei benodi i graffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn Sir Gaerfyrddin, penodwyd Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau y Cyngor fel y Pwyllgor Craffu perthnasol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2023.
|
||||||||||||||||||||||
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor yr adroddiad "peidio â chyflwyno" mewn perthynas â chofnodion y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer y cyfarfod ym mis Gorffennaf a nododd yr esboniad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.
|
||||||||||||||||||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 12 Rhagfyr 2023.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 12 Rhagfyr 2023.
|
||||||||||||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 19 GORFFENNAF 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2023 yn gofnod cywir.
|