Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr H.A.L. Evans a D. Harries.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law. 

 

 

4.

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2022-2023. pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Blynyddol ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth 2022-23 fel y'i cyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Adnoddau.

 

Roedd yr adroddiad yn rhestru'r gweithgareddau a wnaed yn 2022-2023 o dan y penawdau canlynol:

·      Buddsoddiadau

·      Benthyca

·      Gwarant

·      Hylifedd a Chynnyrch

·      Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys

·      Dangosyddion Darbodus

·      Prydlesu

·      Aildrefnu

 

Rhoddwyd sylw i'r materion a’r ymholiadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

  • Yn sgil sylwi bod yr adroddiad yn cynnwys sawl acronym, gofynnwyd a allai adroddiadau yn y dyfodol gynnwys geirfa, er lles y darllenydd.  Cytunodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, gyda chefnogaeth Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol, i gynnwys geirfa er mwyn helpu i ddeall y derminoleg a'r acronymau yn yr adroddiad.

 

Cyfeiriwyd at gyfradd gyfartalog enillion buddsoddiadau'r Awdurdod o 1.82% a oedd yn fwy na'r cyfraddau meincnod.  Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y cyfraddau meincnod, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol gefndir a sefyllfa bresennol y broses feincnodi.  Yn ogystal, yn dilyn penderfynu ar darged newydd ar gyfer y cyfnod dan sylw, dywedwyd mai'r "gyfradd SONIA heb ei hadlogi 90-diwrnod" gyfartalog oedd 1.81% ond mai 1.82% oedd y gyfradd wirioneddol a enillodd y Cyngor, sy'n cyfateb i berfformiad gwell o 0.01%. Rhoddwyd esboniad o'r newid o'r meincnod blaenorol o'r gyfradd LIBID 7 diwrnod.

 

  • Cyfeiriwyd at fenthyca a'r cyfraddau llog.  Wrth gydnabod bod y cyfraddau llog a briodolwyd i fenthyca £20m yn gymharol isel, mynegwyd pryderon am y risg bosibl y gallai cyfraddau llog gynyddu, felly gofynnwyd a oedd unrhyw fwriadau i wneud benthyciadau pellach.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol y bu cynnydd sylweddol mewn cyfraddau llog, yr uchaf ers y cwymp ariannol yn 2008, ond yn ystadegol dros nifer o ddegawdau nid oedd y cynnydd mewn cyfraddau mor uchel ag yr oedd yn hanesyddol.  Hefyd, eglurwyd bod Strategaeth Flynyddol y Trysorlys a gymeradwywyd ym mis Mawrth gan y Cyngor llawn yn cynnwys y benthyca gofynnol i ariannu rhaglen gyfalaf 2023/24.  Byddai benthyca yn cael ei reoli yn unol â'r cyngor a gafwyd gan ymgynghorwyr allanol rheoli'r trysorlys a'i fonitro'n barhaus yn erbyn cyfraddau llog.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r acronym DMADF, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod yr acronym yn golygu Cyfleuster Adneuo Cyfrifon Rheoli Dyledion, sef Trysorlys Canolog Ei Fawrhydi y Llywodraeth, sy'n cael ei ystyried yn un o'r cyfleusterau mwyaf diogel i roi arian.

 

  • Gofynnwyd pa mor aml yr oedd y Daliannau Partïon i Gontract yn cael eu hadolygu.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod cyfarfodydd chwarterol yn cael eu cynnal gyda Link, Ymgynghorwyr allanol Rheoli Trysorlys y Cyngor, a hefyd, fel rhan o system rhybuddio dyddiol, y byddai unrhyw newidiadau yng nghyfradd credyd partïon i gontract yn cael eu rheoli'n gyflym os bernir bod hynny'n angenrheidiol.

 

  • Cyfeiriwyd at derfyn y DMADF (Cyfleuster Adneuo Cyfrifon Rheoli Dyledion) a gynyddwyd ym mis Ebrill 2022 i £125m o £100m gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol dan bwerau brys.  Wrth geisio eglurder ynghylch 'pwerau brys' dywedwyd y byddai'n fuddiol cynnwys adran yn yr adroddiad ynghylch pam y cafodd y pwerau brys eu defnyddio.  Eglurodd Pennaeth y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor yr adroddiad "peidio â chyflwyno" mewn perthynas â Chofnodion y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer y cyfarfod ym mis Mai a nododd yr esboniad a'r dyddiad cyflwyno diwygiedig, sef 18 Hydref 2023.

 

 

6.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r Pwyllgor yn cynnal cyfarfod anffurfiol i dderbyn gwybodaeth am Ganolfan Alwadau'r Cyngor.  Yn dilyn hynny, byddai'r Pwyllgor yn ystyried a ddylid cynnwys hyn yn y Flaenraglen Waith i'w ystyried ymhellach.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf.

 

 

7.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 16EG MEHEFIN 2023. pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2023 gan eu bod yn gofnod cywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau