Lleoliad: Siambr - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr H.A.L. Evans a D. Harries.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig. Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2022-2023. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Blynyddol ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth 2022-23 fel y'i cyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Adnoddau.
Roedd yr adroddiad yn rhestru'r gweithgareddau a wnaed yn 2022-2023 o dan y penawdau canlynol: · Buddsoddiadau · Benthyca · Gwarant · Hylifedd a Chynnyrch · Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys · Dangosyddion Darbodus · Prydlesu · Aildrefnu
Rhoddwyd sylw i'r materion a’r ymholiadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:
Cyfeiriwyd at gyfradd gyfartalog enillion buddsoddiadau'r Awdurdod o 1.82% a oedd yn fwy na'r cyfraddau meincnod. Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y cyfraddau meincnod, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol gefndir a sefyllfa bresennol y broses feincnodi. Yn ogystal, yn dilyn penderfynu ar darged newydd ar gyfer y cyfnod dan sylw, dywedwyd mai'r "gyfradd SONIA heb ei hadlogi 90-diwrnod" gyfartalog oedd 1.81% ond mai 1.82% oedd y gyfradd wirioneddol a enillodd y Cyngor, sy'n cyfateb i berfformiad gwell o 0.01%. Rhoddwyd esboniad o'r newid o'r meincnod blaenorol o'r gyfradd LIBID 7 diwrnod.
· Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r acronym DMADF, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod yr acronym yn golygu Cyfleuster Adneuo Cyfrifon Rheoli Dyledion, sef Trysorlys Canolog Ei Fawrhydi y Llywodraeth, sy'n cael ei ystyried yn un o'r cyfleusterau mwyaf diogel i roi arian.
|
|
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor yr adroddiad "peidio â chyflwyno" mewn perthynas â Chofnodion y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer y cyfarfod ym mis Mai a nododd yr esboniad a'r dyddiad cyflwyno diwygiedig, sef 18 Hydref 2023.
|
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r Pwyllgor yn cynnal cyfarfod anffurfiol i dderbyn gwybodaeth am Ganolfan Alwadau'r Cyngor. Yn dilyn hynny, byddai'r Pwyllgor yn ystyried a ddylid cynnwys hyn yn y Flaenraglen Waith i'w ystyried ymhellach.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf.
|
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 16EG MEHEFIN 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2023 gan eu bod yn gofnod cywir.
|