Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Davies, R. James ac A.G. Morgan.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

T. Davies*

5 - Cynlluniau Cyflawni Is-adrannol, Adran y Prif Weithredwr - Rheoli Pobl;

Partner ei fab yn gweithio yn yr Adran Addysg a Phlant;

A. Evans

 

5 - Cynlluniau Cyflawni Is-adrannol, Adran y Prif Weithredwr - Y Gyfraith a Gweinyddiaeth

Ei fam yn gweithio i'r adain Gwasanaethau Democrataidd;

M.J.A. Lewis*

5 - Cynlluniau Cyflawni Is-adrannol, Adran y Prif Weithredwr - Rheoli Pobl;

Ei nith yn gweithio yn yr Adran Addysg a Phlant;

K. Madge

5 - Cynlluniau Cyflawni Is-adrannol, Adran y Prif Weithredwr - Rheoli Pobl;

Ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol;

D. Nicholas

5 - Cynlluniau Cyflawni Is-adrannol, Adran y Prif Weithredwr - Rheoli Pobl;

Ei ferch yn gweithio yn yr Adran Gynllunio

 

[*Gwnaeth y datganiad yn union cyn i'r eitem gael ei thrafod.]

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law. 

 

4.

CYNLLUN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU PERFFORMIAD AC ADNODDAU CORFFORAETHOL AR GYFER 2023/24 pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Flaenraglen Waith ar gyfer 2023/2024 a baratowyd yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Craffu ddatblygu a chyhoeddi blaenraglen waith bob blwyddyn gan glustnodi materion ac adroddiadau sydd i'w hystyried mewn cyfarfodydd yn ystod blwyddyn y cyngor.

 

Atgoffwyd yr aelodau, yn ystod y cyfarfod anffurfiol a gynhaliwyd o ran Blaenraglen Waith ddrafft y Pwyllgor y cafwyd consensws, yn dilyn y pryderon a fynegwyd yn ddiweddar, y byddai'n briodol i'r Pwyllgor yn y lle cyntaf i gael  adroddiad a chyflwyniad ar weithrediad canolfannau cyswllt y Cyngor mewn sesiwnanffurfiol

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

4.1 gymeradwyo Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu - Perfformiad Corfforaethol ac Adnoddau ar gyfer 2023/24;

4.2 bod trefniadau'n cael eu gwneud i'r Pwyllgor dderbyn adroddiad a chyflwyniad ar weithrediad canolfannau cyswllt y Cyngor mewn sesiwn anffurfiol. 

 

 

5.

CYNLLUNIAU DARPARU GWASANAETH ADRAN Y PRIF WEITHREDWR pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd, ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor, Cynlluniau Cyflawni Is-adrannol Adran y Prif Weithredwr ar gyfer 2023-24 a oedd yn cynnwys:

 

·  TGCh a Pholisi Corfforaethol;

·  Rheoli Pobl;

Y Gyfraith a Gweinyddiaeth;

Y Gwasanaethau Etholiadol a Chofrestru Sifil;

Gwasanaethau Marchnata a'r Cyfryngau/Cyfieithu;

Cymorth Busnes a'r Cabinet.

 

Roedd y cynlluniau yn pennu'r camau a'r mesurau strategol y byddai'r gwasanaethau yn eu cymryd er mwyn i'r Cyngor wneud cynnydd mewn perthynas ag Amcanion Llesiant, blaenoriaethau thematig a blaenoriaethau gwasanaeth y Cyngor.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad/cynlluniau:

 

 

TGCh a Pholisi Corfforaethol

·       Sicrhawyd yr aelodau fod seiberddiogelwch yn cael ei ystyried yn ddifrifol iawn ac roedd yr Awdurdod yn cymryd dull amlweddog a chadarn o ran atal ymosodiadau seiber;

·       Mewn ymateb i sylw dywedodd y Pennaeth TGCh a Pholisi Corfforaethol yr ymatebwyd i dros 90% o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a hynny o fewn 20 diwrnod gwaith;

·      Nodwyd y byddai'r system gefn swyddfa newydd a'r Porth Ar-lein ar gyfer mwy o Fynediad i Bobl a Hunanwasanaeth yn galluogi aelodau'r cyhoedd i dderbyn adborth ar faterion/ceisiadau a gyflwynwyd ganddynt;

·      Mewn ymateb i ymholiad dywedodd yr Arweinydd y byddai'r Panel Ymgynghorol ynghylch Trechu Tlodi yn cael ei gadeirio gan y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Gartrefi gydag aelodaeth wleidyddol gytbwys. Dywedodd y gallai adroddiadau i'r Panel fod ar gael i'r Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol pe bai'n dymuno. Diolchodd i bob aelod am eu mewnbwn i'r agenda trechu tlodi;

 

Rheoli Pobl

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd K Madge wedi datgan buddiant yn y Cynllun Cyflawni Is-adrannol yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei ystyried.

Roedd y Cynghorydd T. Davies wedi datgan diddordeb yn y Cynllun Cyflawni Is-adrannol gan fod partner ei fab yn gweithio yn yr Adran Addysg a Phlant ond arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei ystyried.

Roedd y Cynghorydd M.J.A. Lewis wedi datgan diddordeb yn y Cynllun Cyflawni Rhanbarthol hwn gan fod ei nith yn gweithio yn yr Adran Addysg a Phlant ond arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei ystyried.

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y galw cynyddol ar y tîm Iechyd Galwedigaethol fe wnaeth y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) gydnabod bod atgyfeiriadau, yn enwedig at y gwasanaeth llesiant, wedi cynyddu o ganlyniad i Covid. Roedd atgyfeiriadau a oedd yn deillio o faterion covid hir yn parhau'n isel;

·       Cydnabuwyd bod targed Mehefin 2023 i 'adolygu polisïau Adnoddau Dynol perthnasol i gefnogi datblygiad gweithlu mwy hyblyg a deinamig' yn uchelgeisiol ond roedd rheolwyr yn cael hyfforddiant pwrpasol yn enwedig o ran rheoli gweithlu 'hybrid' wedi'r pandemig a oedd yn gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref. Y gobaith oedd y byddai hyblygrwydd o fudd i unigolion a'r Awdurdod;

·       Mewn ymateb i gwestiwn fe ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) ei fod wedi gofyn i’r tîm TIC (Trawsnewid i Wneud Cynnydd) adolygu ei raglen yn benodol gyda'r nod o gryfhau'r gwasanaeth. Mynegwyd y gobaith y gallai tîm TIC sydd ag adnoddau priodol gynhyrchu incwm o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUNIAU DARPARU GWASANAETH ADRAN Y GWASANAETHAU CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau Cynlluniau Cyflawni Is-adrannol yr Adran Gwasanaethau Corfforaethol ar gyfer 2023-24 i’r Pwyllgor eu hystyried a oedd yn cynnwys:

 

·       Cynllun Cyflawni Gwasanaethau Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol 2023-24;

·       Cynllun Cyflawni Gwasanaethau Ariannol 2023-24.

 

Roedd y cynlluniau yn pennu'r camau a'r mesurau strategol y byddai'r gwasanaethau yn eu cymryd er mwyn i'r Cyngor wneud cynnydd mewn perthynas ag Amcanion Llesiant, blaenoriaethau thematig a blaenoriaethau gwasanaeth y Cyngor.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad/cynlluniau:

 

Cynllun Cyflawni Gwasanaethau Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol 2023-24

·      Mewn ymateb i gwestiwn eglurodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol fod 'Trethi Lleol' o ran Cyllideb 2023/2024 yn ymwneud yn benodol â chostau staffio'r dreth gyngor - y tîm adennill ar gyfer y dreth gyngor [Ardrethi Annomestig Cenedlaethol] a staff gweinyddu'r Ardrethi Annomestig Cenedlaethol. Er y derbyniwyd rhywfaint o incwm am gostau gweinyddu drwy gymhorthdal ni oedd hyn yn cynnwys yr holl gostau. Roedd yr incwm a gafwyd hefyd yn adlewyrchu'r ffioedd a gafodd eu hadennill yn ar ôl i ddyledion gael eu had-dalu. 

  

PENDERFYNWYD yn UNFRYDOL y dylid derbyn Cynlluniau Cyflawni Is-adrannol yr AdranGwasanaethau Corfforaethol.

 

7.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf.

 

8.

COFNODION - 31AIN MAWRTH 2023 pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 31 Mawrth 2023.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau