Lleoliad: Siambr - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin Davies 01267 224059
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Davies, R. James ac A.G. Morgan.
|
|||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
[*Gwnaeth y datganiad yn union cyn i'r eitem gael ei thrafod.]
|
|||||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.
|
|||||||||||||||||||
CYNLLUN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU PERFFORMIAD AC ADNODDAU CORFFORAETHOL AR GYFER 2023/24 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Flaenraglen Waith ar gyfer 2023/2024 a baratowyd yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Craffu ddatblygu a chyhoeddi blaenraglen waith bob blwyddyn gan glustnodi materion ac adroddiadau sydd i'w hystyried mewn cyfarfodydd yn ystod blwyddyn y cyngor.
Atgoffwyd yr aelodau, yn ystod y cyfarfod anffurfiol a gynhaliwyd o ran Blaenraglen Waith ddrafft y Pwyllgor y cafwyd consensws, yn dilyn y pryderon a fynegwyd yn ddiweddar, y byddai'n briodol i'r Pwyllgor yn y lle cyntaf i gael adroddiad a chyflwyniad ar weithrediad canolfannau cyswllt y Cyngor mewn sesiwnanffurfiol
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
4.1 gymeradwyo Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu - Perfformiad Corfforaethol ac Adnoddau ar gyfer 2023/24; 4.2 bod trefniadau'n cael eu gwneud i'r Pwyllgor dderbyn adroddiad a chyflwyniad ar weithrediad canolfannau cyswllt y Cyngor mewn sesiwn anffurfiol.
|
|||||||||||||||||||
CYNLLUNIAU DARPARU GWASANAETH ADRAN Y PRIF WEITHREDWR Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd, ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor, Cynlluniau Cyflawni Is-adrannol Adran y Prif Weithredwr ar gyfer 2023-24 a oedd yn cynnwys:
· TGCh a Pholisi Corfforaethol; · Rheoli Pobl; • Y Gyfraith a Gweinyddiaeth; •Y Gwasanaethau Etholiadol a Chofrestru Sifil; • Gwasanaethau Marchnata a'r Cyfryngau/Cyfieithu; • Cymorth Busnes a'r Cabinet.
Roedd y cynlluniau yn pennu'r camau a'r mesurau strategol y byddai'r gwasanaethau yn eu cymryd er mwyn i'r Cyngor wneud cynnydd mewn perthynas ag Amcanion Llesiant, blaenoriaethau thematig a blaenoriaethau gwasanaeth y Cyngor.
Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad/cynlluniau:
TGCh a Pholisi Corfforaethol · Sicrhawyd yr aelodau fod seiberddiogelwch yn cael ei ystyried yn ddifrifol iawn ac roedd yr Awdurdod yn cymryd dull amlweddog a chadarn o ran atal ymosodiadau seiber; · Mewn ymateb i sylw dywedodd y Pennaeth TGCh a Pholisi Corfforaethol yr ymatebwyd i dros 90% o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a hynny o fewn 20 diwrnod gwaith; · Nodwyd y byddai'r system gefn swyddfa newydd a'r Porth Ar-lein ar gyfer mwy o Fynediad i Bobl a Hunanwasanaeth yn galluogi aelodau'r cyhoedd i dderbyn adborth ar faterion/ceisiadau a gyflwynwyd ganddynt; · Mewn ymateb i ymholiad dywedodd yr Arweinydd y byddai'r Panel Ymgynghorol ynghylch Trechu Tlodi yn cael ei gadeirio gan y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Gartrefi gydag aelodaeth wleidyddol gytbwys. Dywedodd y gallai adroddiadau i'r Panel fod ar gael i'r Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol pe bai'n dymuno. Diolchodd i bob aelod am eu mewnbwn i'r agenda trechu tlodi;
Rheoli Pobl [SYLWER: Roedd y Cynghorydd K Madge wedi datgan buddiant yn y Cynllun Cyflawni Is-adrannol yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei ystyried. Roedd y Cynghorydd M.J.A. Lewis wedi datgan diddordeb yn y Cynllun Cyflawni Rhanbarthol hwn gan fod ei nith yn gweithio yn yr Adran Addysg a Phlant ond arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei ystyried. · Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y galw cynyddol ar y tîm Iechyd Galwedigaethol fe wnaeth y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) gydnabod bod atgyfeiriadau, yn enwedig at y gwasanaeth llesiant, wedi cynyddu o ganlyniad i Covid. Roedd atgyfeiriadau a oedd yn deillio o faterion covid hir yn parhau'n isel; · Cydnabuwyd bod targed Mehefin 2023 i 'adolygu polisïau Adnoddau Dynol perthnasol i gefnogi datblygiad gweithlu mwy hyblyg a deinamig' yn uchelgeisiol ond roedd rheolwyr yn cael hyfforddiant pwrpasol yn enwedig o ran rheoli gweithlu 'hybrid' wedi'r pandemig a oedd yn gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref. Y gobaith oedd y byddai hyblygrwydd o fudd i unigolion a'r Awdurdod; · Mewn ymateb i gwestiwn fe ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) ei fod wedi gofyn i’r tîm TIC (Trawsnewid i Wneud Cynnydd) adolygu ei raglen yn benodol gyda'r nod o gryfhau'r gwasanaeth. Mynegwyd y gobaith y gallai tîm TIC sydd ag adnoddau priodol gynhyrchu incwm o ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|||||||||||||||||||
CYNLLUNIAU DARPARU GWASANAETH ADRAN Y GWASANAETHAU CORFFORAETHOL Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau Cynlluniau Cyflawni Is-adrannol yr Adran Gwasanaethau Corfforaethol ar gyfer 2023-24 i’r Pwyllgor eu hystyried a oedd yn cynnwys:
· Cynllun Cyflawni Gwasanaethau Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol 2023-24; · Cynllun Cyflawni Gwasanaethau Ariannol 2023-24.
Roedd y cynlluniau yn pennu'r camau a'r mesurau strategol y byddai'r gwasanaethau yn eu cymryd er mwyn i'r Cyngor wneud cynnydd mewn perthynas ag Amcanion Llesiant, blaenoriaethau thematig a blaenoriaethau gwasanaeth y Cyngor.
Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad/cynlluniau:
Cynllun Cyflawni Gwasanaethau Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol 2023-24 · Mewn ymateb i gwestiwn eglurodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol fod 'Trethi Lleol' o ran Cyllideb 2023/2024 yn ymwneud yn benodol â chostau staffio'r dreth gyngor - y tîm adennill ar gyfer y dreth gyngor [Ardrethi Annomestig Cenedlaethol] a staff gweinyddu'r Ardrethi Annomestig Cenedlaethol. Er y derbyniwyd rhywfaint o incwm am gostau gweinyddu drwy gymhorthdal ni oedd hyn yn cynnwys yr holl gostau. Roedd yr incwm a gafwyd hefyd yn adlewyrchu'r ffioedd a gafodd eu hadennill yn ar ôl i ddyledion gael eu had-dalu.
PENDERFYNWYD yn UNFRYDOL y dylid derbyn Cynlluniau Cyflawni Is-adrannol yr AdranGwasanaethau Corfforaethol.
|
|||||||||||||||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf.
|
|||||||||||||||||||
COFNODION - 31AIN MAWRTH 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 31 Mawrth 2023.
|