Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol - Dydd Llun, 30ain Ionawr, 2023 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Evans a H.A.L. Evans.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

H. Jones

 

4 - Ymgynghori ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 hyd at 2025/26;

Yn ymgymryd â gwaith cyfieithu;

K. Madge

 

4 - Ymgynghori ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 hyd at 2025/26;

Ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

4.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2023/24 TAN 2025/26 pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 hyd at 2025/26 a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Cabinet at ddibenion ymgynghori yn ei gyfarfod ar 9 Ionawr 2023.

 

Nododd yr adroddiad, ar ôl addasiadau ar gyfer trosglwyddiadau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, mai 8.5% (£26.432 miliwn) oedd y cynnydd yn y setliad dros dro ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Roedd y Cyllid Allanol Cyfun wedi cynyddu felly i £338.017 miliwn yn 2023/24. Er bod y setliad yn sylweddol uwch na'r ffigwr dangosol cychwynnol, sef cynnydd o 3.4%, ac yn darparu tua £15.5m yn fwy na rhagdybiaeth wreiddiol y Cyngor, roedd Llywodraeth Cymru wedi cydnabod na fyddai'r ffigwr cynyddol yn ddigonol i ymdopi â'r pwysau chwyddiant oedd yn wynebu cynghorau ar hyn o bryd a byddai penderfyniadau anodd i'w gwneud.

 

Er bod llawer o waith eisoes wedi'i wneud wrth baratoi'r gyllideb, nodwyd mai datganiad sefyllfa cychwynnol oedd yr adroddiad hwn a fyddai'n cael ei ddiweddaru dros y misoedd i ddod wrth i'r gyllideb gael ei datblygu ymhellach. Fodd bynnag, oherwydd yr oedi yn y setliad dros dro, a'r effaith ganlyniadol ar gwblhau'r gyllideb gan Lywodraeth Cymru, ni fyddai'r setliad terfynol yn cael ei gyhoeddi tan 7 Mawrth 2023.

 

Wrth gydnabod y pwysigrwydd hanfodol o leihau'r cynnydd yn y Dreth Gyngor i drigolion yn ystod yr argyfwng costau byw presennol, ystyriwyd bod angen ymateb i'r risgiau presennol ynghylch Strategaeth y Gyllideb a'r cefndir chwyddiant parhaus. Roedd Strategaeth y Gyllideb, yn unol â'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn cynnig y dylid cynyddu'r Dreth Gyngor ar gyfer 2023/24 i 7%, a oedd yn ceisio lliniaru gostyngiadau i wasanaethau critigol. Byddai'r cynnig yn cael ei ystyried fel rhan o'r broses o gwblhau'r gyllideb dros y mis nesaf a phan fyddai'r Awdurdod yn derbyn eglurhad pellach ynghylch y costau a chyllid grant gyda'r bwriad o gyfyngu ar y cynnydd yn y Dreth Gyngor cyn belled ag y bo modd. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai cynigion terfynol y gyllideb yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet ganol/diwedd Chwefror, a fyddai'n galluogi cyflwyno cyllideb gytbwys i'r Cyngor Sir ar 1 Mawrth 2023.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

·       Cytunodd y Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol i ddosbarthu rhestr o'r ysgolion hynny oedd â diffyg yn y gyllideb ar hyn o bryd;

·       Mewn ymateb i bryder ynghylch cynnwys y 'Gostyngiad yn y Rhaglen Amnewid Caledwedd' arfaethedig, gan gynnwys gliniaduron staff ac ati, fel cynnig am arbedion dywedodd y Pennaeth TGCh a Pholisi Corfforaethol ei fod yn hyderus y gellid lleihau'r effaith cymaint â phosibl.

·       Mynegwyd pryderon ynghylch cynnwys y cynnig i gael gwared ar y cerbyd dinesig a'r cerbyd ar gyfer y cabinet fel cynnig am arbedion.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo'r Crynhoad Taliadau yn amodol ar y cais i'r Cabinet gadw'rcerbyd dinesig a cherbyd y cabinet.

 

5.

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD - 2023/24 - 2027/28 pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet drosAdnoddau'r rhaglen gyfalaf 5 mlynedd a oedd yn rhoi golwg gychwynnol ar y Rhaglen Gyfalaf 5 mlynedd rhwng 2023/24 a 2027/28. Roedd yr adroddiad yn sail i'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb gyda'r Aelodau a phartïon perthnasol eraill a byddai unrhyw adborth, ynghyd â'r setliad terfynol, yn llywio'r adroddiad terfynol ynghylch y gyllideb a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r Cyngor ym mis Mawrth 2023.

 

Y gwariant gros arfaethedig ar y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2023/24 oedd £154.530m, a'r bwriad oedd i'r Cyngor Sir gyllido £90.527m o'i adnoddau ei hun drwy ddefnyddio benthyciadau, arian wrth gefn, ariannu drwy refeniw uniongyrchol, derbyniadau cyfalaf a grant cyfalaf cyffredinol, a bod y £64.003m o gyllid oedd yn weddill yn dod o ffynonellau allanol. Roedd y ffigurau hynny'n cynnwys prosiectau a ohiriwyd yn 2022/23, a oedd wedi'u cario drosodd a'u cynnwys yng nghyllidebau'r blynyddoedd i ddod.

 

Er bod y rhaglen gyfalaf newydd wedi'i hariannu'n llawn dros y cyfnod o bum mlynedd cynigiwyd peidio ag ymrwymo'r holl gyllid sydd ar gael er mwyn rhoi hyblygrwydd ar draws y rhaglen i dalu am unrhyw gostau ychwanegol annisgwyl a chaniatáu ystyriaeth bellach i adolygiad y Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu pan fydd yn cael ei gwblhau. Roedd y rhaglen yn cynnwys gwariant rhagamcanol ar brosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe y byddai'r Awdurdod yn benthyca yn eu herbyn, a byddai'r cyllid yn cael ei ddychwelyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU dros gyfnod o 15 mlynedd (o 2018/19).

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

·       Mewn ymateb i sylw dywedodd y Pennaeth Adfywio y byddai rownd tri o'r gronfa Ffyniant Bro yn Sir Gaerfyrddin yn cael ei chyfyngu i geisiadau gan Etholaeth Seneddol Llanelli gan fod y ddwy etholaeth arall eisoes wedi elwa ar arian ar gyfer trawsnewid hen siop Debenhams a Llwybr Beicio Dyffryn Tywi;

·       Cyfeiriwyd at y gwaith sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael ag amddifadedd yn wardiau Glan y Môr a Thyisha yn ne Llanelli a'r manteision oedd yn debygol o ddeillio o gynllun Pentre Awel;

·      Mynegwyd pryder na chafodd arian i reoli llifogydd ei gynnwys ym mlynyddoedd 2-5 y rhaglen 5 mlynedd yn enwedig yn sgil y cynnydd mewn achosion o lifogydd a chynhesu byd eang. Cytunodd y Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol i gyfleu'r pryder i'r Cyfarwyddwr Lle a Seilwaith.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd 2023/24 - 2027/28.

 

6.

POLISI RHEOLI'R TRYSORLYS A STRATEGAETH 2023-24 pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau Bolisi y Strategaeth Rheoli'r Trysorlys arfaethedig ar gyfer 2023/24 a fyddai'n cael ei ystyried gan y Cabinet ar 13 Chwefror, 2023. Fel rhan o ofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys, roedd yn ofynnol i'r Cyngor feddu ar Bolisi Rheoli'r Trysorlys a oedd yn manylu ar bolisïau ac amcanion ei weithgareddau o ran rheoli'r trysorlys a chymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn flynyddol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol yr oedd yn ymwneud â hi. Hefyd, dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo ei Ddangosyddion Darbodaeth o ran Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2023/24 a'r atodiadau cysylltiedig.

 

7.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2022/23 pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 31 Hydref 2022 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2022/23.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys atodiad a oedd yn rhoi manylion Monitro Arbedion 2022-23.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:

·       Diolchwyd i'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol am y broses hwylus lle'r oedd staff wedi derbyn ad-daliad yn ddiweddar a chytunodd i edrych i ymholiad ynghylch ad-daliad mamolaeth;

·       Mewn ymateb i ymholiad cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau y byddai'r Cabinet yn ystyried y mater o ran ffermydd sirol maes o law.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

8.

COFNODION BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS (PSB) SIR GÂR - TACHWEDD 2022 pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd, 2022. Roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol bod pwyllgor craffu llywodraeth leol ddynodedig yn cael ei benodi i graffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn Sir Gaerfyrddin, penodwyd Pwyllgor Craffu - Perfformiad Corfforaethol ac Adnoddau y Cyngor fel y Pwyllgor Craffu perthnasol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 23Tachwedd 2022.

 

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 86 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn UNFRYDOL bod y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 9 Chwefror 2023 yn cael ei ganslo a

 

9.1 bod yr Adroddiad Chwarterol ynghylch y Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys a'r Adroddiad ar y wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd/materion a gyfeiriwyd yn cael eu hystyried yn y cyfarfod sydd i'w gynnal ar 31 Mawrth 2023;

 

9.2 bod Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 2022/23 yn cael ei e-bostio at aelodau'r Pwyllgor.

 

10.

COFNODION - 13EG RHAGFYR 2022 pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13  Rhagfyr 2022 yn gofnod cywir.