Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr T. Davies a H.A.L. Evans ac Aelodau Cabinet y Cynghorwyr P. Hughes, A. Lenny a D. Price.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

A. Evans

 

7 – Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2022-23;

Ei fam yn gweithio i'r adain Gwasanaethau Democrataidd;

R. James

 

4 – Adroddiad Monitro Absenoldeb Salwch - Hanner Blwyddyn/Ch2 2022/23;

Ei bartner yn gweithio i'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd;

K. Madge

4 – Adroddiad Monitro Absenoldeb Salwch - Hanner Blwyddyn/Ch2 2022/23;

7 – Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2022-23;

Ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law. 

 

4.

ADRODDIAD MONITRO ABSENOLDEB SALWCH HANNER BLWYDDYN/CH2 2022/23 pdf eicon PDF 264 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr R. James a K. Madge wedi datgan buddiant yn yr eitem hon ond arhosant yn y cyfarfod wrth iddi gael ei hystyried.]

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi data am absenoldeb salwch ar gyfer y cyfnod Ch2 yn ystod blwyddyn ariannol 2022/23 yn ogystal â chrynodeb o'r camau gweithredu.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:

 

·       Ystyriwyd bod yr opsiynau cynyddol i staff weithio mewn aml-leoliadau yn gam cadarnhaol o ran lefelau absenoldeb salwch gan y gallai staff, lle bo modd, barhau i weithio gartref ac efallai na fyddent wedi teithio i'r gwaith o'r blaen;

·       O ran swyddi gwag, pwysleisiwyd bod y gwaith o recriwtio'n parhau o hyd er cydnabyddid ei bod yn anodd denu ymgeiswyr ar gyfer rhai swyddi. Fel y nodwyd eisoes roedd rhai disgrifiadau swyddi wedi cael eu hail-ystyried mewn ymdrech i annog mwy o bobl i wneud cais am swyddi ac mewn rhai achosion roedd yr Awdurdod hefyd yn gallu ychwanegu taliadau atodol ar sail y farchnad at y cyflog. Cafodd aelodau wybod bod yr Awdurdod wedi cyflawni Achrediad Aur yn ddiweddar yn dilyn adroddiad gan asesydd gan Fuddsoddwyr Mewn Pobl oedd yn adlewyrchiad o'r gefnogaeth a roddodd i'w weithwyr; 

·       Cytunodd swyddogion fod angen gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y mesurau absenoldeb salwch yn berthnasol yn deg ar draws yr holl staff waeth beth oedd eu rôl a oeddent yn weithwyr mewn swyddfa neu'n weithwyr rheng flaen;

·       Cytunodd y Rheolwr Llesiant Gweithwyr i ddarparu dadansoddiad adrannol o'r 70 o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl;

·       O ran Iechyd Galwedigaethol a'r galwadau ar y gwasanaeth, nodwyd bod gwaith yn cael ei wneud i edrych ar ffyrdd o ail-lunio'r gwasanaeth gydag ymagwedd fwy masnachol o bosib. Byddai hyn yn cael ei adrodd yn ôl i'r Pwyllgor maes o law.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am roi'r gefnogaeth i'r staff.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. 

 

5.

GWELEDIGAETH AR GYFER CAM NESAF RHAGLEN DRAWSNEWID Y CYNGOR pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar weledigaeth/achos busnes ar gyfer cam newydd rhaglen drawsnewid y Cyngor, a fyddai'n cael eu defnyddio er mwyn llywio Strategaeth Drawsnewid dros y 5 mlynedd nesaf. Nod y strategaeth fyddai dylunio a gweithredu rhaglen drawsnewid mewnol er mwyn cefnogi'r Cyngor i wireddu ei weledigaeth a'i flaenoriaethau fel y'u nodir yn ei Strategaeth Gorfforaethol.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:

 

·      Cydnabuwyd bod angen gwella rhannu arferion gorau ar draws yr awdurdod;

·       Nodwyd y byddai gweithdrefnau'n cael eu cyflwyno i fonitro canlyniadau ac i benderfynu a oedd angen unrhyw gymorth pellach ar ôl i drawsnewidiadau a argymhellir gael eu gwreiddio.

 

Talodd y Rheolwr Rhaglen TIC deyrnged i Bernadette Dolan, aelod gwerthfawr o dîm TIC, a fu farw'n ddiweddar.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. 

 

6.

COFNODION BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS (PSB) SIR GÂR - MEDI 2022 pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd ar 28 Medi 2022. Roedd yn ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fod Pwyllgor Craffu Llywodraeth Leol penodol yn cael ei benodi i graffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn Sir Gaerfyrddin, penodwyd Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau y Cyngor fel y Pwyllgor Craffu perthnasol.

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol, Perfformiad a Phartneriaeth fod y man Ffyrdd Newydd o Weithio yn Llandeilo y cyfeirir ato yn y cofnodion bellach ar agor i'w ddefnyddio.  Ychwanegodd fod gweithdy wedi'i gynnal yn ddiweddar ar gyfer pob cynrychiolydd y BGC o ystyried nifer yr aelodau newydd lle codwyd y mater o bresenoldeb mewn cyfarfodydd y BGC.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 28 Medi 2022. 

 

7.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2022/23 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr A. Evans a K. Madge wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ond arhosant yn y cyfarfod wrth iddi gael ei hystyried.]

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 31 Awst 2022 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2022/23. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys atodiad a oedd yn rhoi manylion Monitro Arbedion 2022-23.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion ac ymholiadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:

 

·       Mewn ymateb i bryder ynghylch nifer y swyddi gwag yn y canolfannau gwasanaethau cwsmeriaid, ailadroddwyd bod y swyddi gwag yn parhau i gael eu hysbysebu;

·       Mewn ymateb i sylw, cadarnhawyd bod y bwriad i ad-drefnu'r adran marchnata a'r cyfryngau yn mynd yn ei flaen;

·       Nodwyd mai dim ond un swydd wag oedd yn yr adran TG nid 5 fel y nodir yn yr adroddiad;

·       Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol i ostyngiad posib mewn taliadau banc.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

8.

ADRODDIAD CHWARTEROL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2022 I MEDI 30AIN 2022 pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Canol Blwyddyn ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2022 a 30 Medi 2022 i sicrhau bod y gweithgareddau a wnaed yn gyson â gofynion Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2022-23 a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 2 Mawrth, 2022. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. 

 

 

9.

DIWEDDARIAD AR GAMAU GWEITHREDU Y PWYLLGOR CRAFFU pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad yn manylu ar gamau gweithredu, ceisiadau neu atgyfeiriadau a oedd yn deillio o gyfarfodydd craffu blaenorol.

 

O ran cam gweithredu cyf. P&R 008 21/22, dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol, Perfformiad a Phartneriaeth y byddai'r Pwyllgor Craffu - Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio yn ystyried adroddiad diweddaru ynghylch y cynnydd a wnaed ar y Fenter Deg Tref yn ei gyfarfod ar 19 Rhagfyr 2022, ac y byddai'n trefnu i hyn gael ei ddosbarthu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu. 

 

10.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 86 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf.

 

11.

COFNODION - 19EG HYDREF, 2022 pdf eicon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2022 yn gofnod cywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau