Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol - Dydd Mercher, 19eg Hydref, 2022 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd J. P. Hart a'r Cynghorydd D. Nicholas.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

K. Madge

8 – Adroddiad Alldro'r Gyllideb Refeniw 2021-22;

9 – Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2022-23;

Ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

A.   Evans

8 – Adroddiad Alldro'r Gyllideb Refeniw 2021-22;

9 – Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2022-23;

Ei fam yn gweithio i'r adain Gwasanaethau Democrataidd.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

4.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2021/22 pdf eicon PDF 163 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu Adroddiad Blynyddol drafft y Cyngor ar gyfer 2021/22 ynghyd â'r adroddiadau manwl perthnasol ar Amcanion Llesiant sy'n dod o fewn cylch gwaith y pwyllgor sef:

 

·     Amcan Llesiant 5 - Creu mwy o swyddi a thwf ledled y sir;

·     Amcan Llesiant 8 - Cefnogi cydlyniant cymunedol, cydnerthedd a diogelwch;

·    Amcan Llesiant 13 - Llywodraethu a Defnyddio Adnoddau yn well.

 

Nodwyd ei bod yn ofynnol o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) i'r Awdurdod gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar berfformiadau blaenorol erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:

 

Amcan Llesiant 5

·       Mewn ymateb i bryder fod gan Sir Gaerfyrddin y gyfradd gyflogaeth drydedd isaf yng Nghymru, cynghorwyd y pwyllgor bod proses recriwtio a theitlau/proffiliau swyddi y Cyngor yn cael eu hailasesu a nodwyd bod Pentre Awel a datblygiadau eraill y Fargen Ddinesig yn debygol o greu llawer o gyfleoedd newydd am waith. Cydnabuwyd hefyd yn ehangach, ers y pandemig Covid, bod llawer o bobl wedi gwneud dewisiadau ffordd o fyw ac nad oeddent bellach yn chwilio am waith;

·       Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud â'r fenter 10 tref, pwysleisiwyd bod y Cyngor yn ddibynnol ar fod busnesau a chymunedau lleol yn gwneud y gorau o'r cyfleoedd a'r cyllid sydd ar gael, a allai ddenu rhagor o gyllid ac yn hyn o beth roedd gan yr aelodau lleol rôl bwysig i'w chwarae hefyd;

·       Nodwyd bod gan yr Awdurdod nifer o fentrau ar waith i gau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau;

 

Amcan Llesiant 8

·       Soniodd yr aelodau am y ffyrdd cadarnhaol yr oedd cymunedau wedi cyd-dynnu yn ystod ac ers y pandemig COVID ac roeddent o'r farn y byddai cydlyniant cymunedol a chydnerthedd yn parhau i fod yn hollbwysig yn ystod y misoedd nesaf, yn enwedig gyda golwg ar y sefyllfa economaidd. Yn hyn o beth cyfeiriwyd at fentrau i'w croesawu fel banciau bwyd a 'mannau croeso cynnes' yn y llyfrgelloedd cyhoeddus ac mewn lleoliadau eraill;

·       Cydnabuwyd bod Covid wedi peri heriau enfawr i'r gweithlu a chafodd y Pwyllgor wybod bod adolygiad 'gwersi a ddysgwyd' wedi'i gynnal gyda'r bwriad o ddatblygu ffyrdd o weithio a fu'n fuddiol i staff, y Cyngor a defnyddwyr gwasanaeth ac adeiladu arnynt. Roedd arolwg staff a gynhaliwyd fel rhan o'r adolygiad wedi rhoi adborth cadarnhaol;

·       Cyfeiriwyd at y cyllid sydd ar gael o'r Gronfa Dlodi i gynorthwyo gyda sefydlu clybiau cinio neu gaffis cymunedol;

 

 

Amcan Llesiant 13

·       Nodwyd bod salwch staff, ar wahân i Covid, ar y lefel darged;

·      Mewn ymateb i gwestiwn cafodd yr aelodau wybod nad oedd cais gan undebau llafur am gyflwyno lwfans gweithio gartref yn cael ei gefnogi gan gyflogwyr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Cabinet fod y fersiwn ddrafft o Adroddiad Blynyddol 2021/22 yn cael ei gymeradwyo. 

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU 2021/22 pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau am flwyddyn y cyngor 2021/22 a oedd yn rhoi golwg gyffredinol ar waith y Pwyllgor gan gynnwys:-

·       Trosolwg ar y Rhaglenni Gwaith Craffu;

·       Y materion allweddol a ystyriwyd;

·       Materion oedd wedi'u cyfeirio at y Cabinet neu Bwyllgorau Craffu Eraill neu ganddynt;

·       Presenoldeb yr Aelodau yn y cyfarfodydd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad. 

 

6.

CYNLLUN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU PERFFORMIAD AC ADNODDAU CORFFORAETHOL AR GYFER 2022/23 pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Flaenraglen Waith ar gyfer 2022/2023 a baratowyd yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Craffu ddatblygu a chyhoeddi blaenraglen waith bob blwyddyn gan glustnodi materion ac adroddiadau sydd i'w hystyried mewn cyfarfodydd yn ystod blwyddyn y cyngor.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau, yn dilyn cyhoeddi Blaengynllun y Cabinet yn ddiweddar ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Hydref 2022 a 29 Rhagfyr 2023, y byddai trefniadau yn cael eu gwneud ar gyfer sesiwn ddatblygu er mwyn i aelodau'r Pwyllgor ystyried a oedd yno unrhyw eitemau o fewn cylch gwaith y Pwyllgor y byddai'n dymuno eu cynnwys yn ei Flaenraglen Waith ei hun. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu - Perfformiad Corfforaethol ac Adnoddau ar gyfer 2022/23.  

 

7.

COFNODION BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS (PSB) SIR GÂR - GORFFENNAF 2022 pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd gofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2022.

 

Roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol bod pwyllgor craffu llywodraeth leol dynodedig yn cael ei benodi i graffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn Sir Gaerfyrddin, penodwyd Pwyllgor Craffu – Perfformiad Corfforaethol ac Adnoddau y Cyngor fel y Pwyllgor Craffu perthnasol.

 

Estynnwyd llongyfarchiadau i'r Arweinydd ar gael ei benodi'n Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a thalwyd teyrnged i'r cyn-Gadeirydd Mr. Barry Liles.

 

Cafodd yr aelodau wybod, fel oedd yn digwydd yn flaenorol, y dylent gysylltu â'r Rheolwr Polisi Corfforaethol, Perfformiad a Phartneriaeth os oedd ganddynt ddiddordeb mewn mynd i gyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fel arsylwr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2022. 

 

8.

ADRODDIAD ALLDRO CYLLIDEB REFENIW 2021/22 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, arhosodd y Cynghorwyr A. Evans a K. Madge yn y cyfarfod wrth iddi gael ei hystyried.]

 

Aeth yr Aelod Cabinet dros Adnoddau ati i gyflwyno Adroddiad Alldro Cyllideb Gorfforaethol 2021/22 yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol. Yn gyffredinol, sefyllfa net yr Awdurdod oedd tanwariant o £1,433k gydag Adrannau'r Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol yn dangos amrywiant net o -£2,014k yn erbyn cyllidebau cymeradwy 2021/22. Ar ddiwedd y flwyddyn roedd £281k o arbedion Rheolaethol wedi'u cyflawni yn erbyn targed o £451k.

 

Mewn ymateb i bryder ynghylch y 12 swydd wag yn y canolfannau gwasanaethau cwsmeriaid, dywedwyd wrth y Pwyllgor bod yna anawsterau yngl?n wrth lenwi'r swyddi oherwydd i rai aelodau staff gael eu hadleoli yn ystod y pandemig Covid.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

9.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2022/23 pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, arhosodd y Cynghorwyr A. Evans a K. Madge yn y cyfarfod wrth iddi gael ei hystyried.]

 

Aeth yr Aelod Cabinet dros Adnoddau ati i gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 30 Mehefin 2022 gyda golwg ar flwyddyn ariannol 2022/23. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys atodiad a oedd yn rhoi manylion Monitro Arbedion 2022/23. 

 

Roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld y byddai gorwariant diwedd blwyddyn o £4,767k ar gyllideb refeniw net yr

Awdurdod ac y byddai gorwariant o £4,735k ar lefel adrannol. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. 

 

10.

ADRODDIAD CHWARTEROL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1 2022 I MEHEFIN 30 2022 pdf eicon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Aeth yr Aelod Cabinet dros Adnoddau ati i gyflwyno'r Adroddiad Chwarterol ynghylch Rheoli'r Trysorlys a'r Dangosyddion Darbodaeth ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2022 - 30 Mehefin 2022 a oedd yn rhestru gweithgareddau rheoli'r trysorlys a ddigwyddodd yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn yn unol â Pholisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2022-2023 a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 2 Mawrth 2022.

 

Nid oedd yr Awdurdod wedi torri unrhyw un o'i Ddangosyddion Darbodus yn ystod y cyfnod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad.

 

11.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad nad oedd wedi'i gyflwyno.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

12.

COFNODION - 16EG MAWRTH 2022 pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 16  Mawrth 2022 gan eu bod yn gywir.