Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg - Dydd Mawrth, 21ain Ionawr, 2025 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Nodyn: moved from 29.01.25 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr H. Jones ac E. Skinner.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd / Swyddog

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd B. W. Jones

4. Ymgynghori ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw 2025/26 hyd at 2027/28

Mae ei mab yn bennaeth ysgol yn Sir Gaerfyrddin.  Mae'r Cynghorydd Jones wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau sy'n caniatáu iddi siarad a chyflwyno sylwadau yn unig.

 

Y Cynghorydd S. Allen

Y Cynghorydd K.V. Broom

D. Elias

E. Enoch

Y Cynghorydd M.J.A. Lewis

V. Kenny

Y Cynghorydd E.M.J.G. Schiavone

Y Cynghorydd S. Williams

5. Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2024/25

 

Mae'n Llywodraethwr Ysgol mewn ysgol/ysgolion a restrir yn yr adroddiad.

Y Cynghorydd B. W. Jones

5. Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2024/25

Mae ei mab yn bennaeth ysgol yn Sir Gaerfyrddin.  Mae'r Cynghorydd Jones wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau sy'n caniatáu iddi siarad a chyflwyno sylwadau yn unig.

 

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.  

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2025/26 TAN 2027/28 pdf eicon PDF 90 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorydd B.W. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried ond ni phleidleisiodd].

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw y Cyngor 2025/26 hyd at 2027/28 a oedd yn rhoi golwg gyfredol i'r Aelodau ar y gyllideb refeniw ar gyfer 2025/2026 ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2026/2027 a 2027/2028. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion y swyddogion ynghylch gofynion gwariant, ac roedd yn rhoi ystyriaeth i'r setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 11 Rhagfyr 2024.

 

Er bod llawer o waith eisoes wedi'i wneud wrth baratoi'r gyllideb, dywedwyd mai datganiad sefyllfa cychwynnol oedd yr adroddiad hwn a fyddai'n cael ei ddiweddaru yn dilyn y broses ymgynghori. Yn unol â hynny, atgoffwyd Aelodau bod yr adroddiad wedi'i ystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 13 Ionawr 2025 a bod aelodau'r Pwyllgor wedi mynychu digwyddiadau ymgynghori yn ddiweddar, a oedd yn rhoi cyfle i ddadansoddi a chael eglurhad ynghylch gwahanol agweddau ar y gyllideb.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y setliad dros dro a gyhoeddwyd yn cynrychioli cynnydd o 4.1% ar gyfer Sir Gaerfyrddin, a oedd yn cyfateb i £25.1m gan ystyried y 'trosglwyddiadau'. Er bod gwerth arian parod y setliad ychydig yn uwch na ffigur cynllunio'r Cyngor, roedd diffyg ariannol sylweddol o hyd oherwydd maint y pwysau costau ychwanegol sy'n wynebu Sir Gaerfyrddin, yn enwedig o ran y cynnydd i gyfraddau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr.

 

O ran Grantiau Gwasanaethau Penodol Llywodraeth Cymru, byddai'r rhan fwyaf yn aros yr un gwerth ariannol â'r blynyddoedd blaenorol, a byddai'n hynny'n cael effaith niweidiol ar allbynnau oherwydd y cynnydd mewn chwyddiant yn gyffredinol a dyfarniadau cyflog. Roedd cyllid Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn llai nag union gost y gwasanaeth, sy'n golygu y byddai angen i drethdalwyr Sir Gaerfyrddin ariannu'r bwlch. Rhoddwyd gwybod bod yr un maes lle gwelwyd cynnydd yn gysylltiedig â Grantiau Addysg yr Awdurdod Lleol (LAEG). Ond hyd yn oed yma roedd y cynnydd o £22 miliwn ar sail tebyg yn debyg (tua 6%) ac y byddai'n ddigon i dalu costau ychwanegol dyfarniadau cyflog yn unig, ond nid mewn gwirionedd i gynyddu allbynnau.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau at gyfanswm o £15m o ran pwysau gwariant newydd a glustnodwyd gan adrannau ac a oedd yn angenrheidiol er mwyn i'r Cyngor ddarparu ei brif wasanaethau ar y lefel bresennol.  Yn hyn o beth, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai £1.5m ychwanegol yn cael ei ddyrannu ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cymorth Ymddygiadol, a gwella gwasanaethau Addysg a Seicoleg Plant.

 

Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at adran 3.5 o strategaeth y gyllideb lle rhoddwyd trosolwg o'r sefyllfa o ran cyllidebau dirprwyedig yr ysgolion i'r Aelodau.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am gamau gweithredu parhaus yr Awdurdod i liniaru'r gorwariant cyllidebol, ond arhosodd y gorwariant a ragwelir ar lefel gritigol ar draws nifer fawr o ysgolion yn y sir ac roedd posibilrwydd y byddai hyn yn ansefydlogi cyllid ehangach yr Awdurdod. Felly, bernid ei  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2024/25 pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODIADAU: 

 

  • Roedd y Cynghorydd B.W. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried ond ni phleidleisiodd].

 

·       Roedd y Cynghorwyr S. Allen, K.V. Broom, D. Elias, E. Enoch, M.J.A. Lewis, V. Kenny, E.M.J.G. Schiavone ac S. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, a bu iddynt aros yn y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried.]

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Monitro ynghylch y Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2024/25 ar gyfer Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd am y cyfnod hyd at 31 Hydref 2024. Nodwyd y rhagwelid gorwariant o £5,721k yn y gyllideb refeniw, a bod £5,077k o hynny'n berthnasol i Gyllidebau Dirprwyedig Ysgolion.  Adolygodd y Pwyllgor y prif amrywiannau ar gynlluniau cyfalaf a oedd yn dangos gwariant net rhagweladwy o £4,453k o gymharu â chyllideb net weithredol o £19,959k gan roi amrywiant o £15,506k.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:

 

Cyfeiriwyd at y tanwariant y gellir ei briodoli i'r nifer isel o achosion o ddileu swyddi a gymeradwywyd yn y flwyddyn gyfredol. Cafodd y Pwyllgor wybod am yr amrywiaeth o fesurau a roddwyd ar waith gan yr Awdurdod i leihau costau dileu swyddi, a bod y Panel Adolygu Newid yn adolygu pob achos busnes ac yn archwilio opsiynau amgen i leihau costau yn hyn o beth.

 

Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â rheoli cyllid ysgolion sydd â chyllideb dros ben, eglurwyd nad oedd bwriad i adolygu'r Fformiwla ar gyfer Ariannu Teg ac felly byddai ysgolion yn parhau i fod yn gyfrifol am eu cyllidebau. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai'r system Power BI yn cael ei chyflwyno i gynorthwyo ysgolion o ran rheolaeth ariannol.

 

O ran cronfeydd wrth gefn, cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol at achos penodol a gymeradwywyd gan y Cabinet lle cyfrannodd Ysgol Bryngwyn tuag at y cynllun cyfalaf. Cytunwyd y byddai rhagor o fanylion am y prosiect yn cael eu dosbarthu i'r Pwyllgor.

 

Cyfeiriwyd at gostau parhaus safleoedd ysgolion sydd wedi cau yn dilyn ad-drefnu ysgolion. Yn unol â hynny, sicrhawyd y Pwyllgor o ddull rhagweithiol yr Awdurdod o leihau costau safleoedd lle bo hynny'n bosibl, gydag adeiladau a safleoedd yn cael eu cynnig at ddefnydd cymunedol lle bo hynny'n briodol.

 

Roedd y Pwyllgor yn cydnabod yr heriau sy'n gysylltiedig â natur anrhagweladwy cyllid grant, ac felly roedd angen dull gofalus o ran gosod cyllideb ar ddechrau'r flwyddyn ariannol, gyda'r disgwyl y byddai pethau'n newid a'r sefyllfa'n gwella dros amser ar ôl cael unrhyw ddyfarniadau cyllid grant.  Cafwyd trafodaeth ynghylch cynhyrchu incwm ar gyfer ysgolion lle tynnodd y Cyfarwyddwr Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd sylw at y gwaith parhaus i gefnogi ysgolion gyda chyfleoedd cyllid grant.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y camau parhaus i fynd i'r afael â diffygion yng nghyllidebau ysgolion, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y gellid ystyried ymyrraeth statudol o dan amgylchiadau priodol, gyda bwrdd ymyrraeth yn goruchwylio ac yn adolygu ymhellach; fodd bynnag,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUNIAU BUSNES 2025/26 pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Cynlluniau Busnes sy'n berthnasol i'r adran Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar gyfer 2025/26 fel a ganlyn:

 

  • Cynllun y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant
  • Cynllun Effeithiolrwydd Ysgolion ac Ymgysylltu â Disgyblion
  • Yr Iaith Gymraeg (o fewn y Cynllun Pobl, Digidol a Pholisi)

 

Roedd y Cynlluniau'n pennu'r camau a'r mesurau strategol i'w gweithredu ym mhob is-adran er mwyn i'r Cyngor wneud cynnydd mewn perthynas â'i amcanion llesiant, ei flaenoriaethau thematig a blaenoriaethau'r gwasanaeth. Adolygodd y Pwyllgor priodoldeb y camau a'r mesurau arfaethedig o ran cyflawni yn erbyn Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor a chynnal swyddogaethau allweddol y Cyngor.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:

 

Cyfeiriwyd at gofrestr risg y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant mewn perthynas â'r methiant i ddarparu cymorth priodol i ddysgwyr sy'n agored i niwed. Eglurwyd bod yr Awdurdod yn sianelu adnoddau i liniaru yn erbyn y pwysau sy'n wynebu ysgolion, ond byddai methu â pharhau yn hyn o beth yn peri risg sylweddol i'r Awdurdod.

 

Mewn ymateb i sylwadau a wnaed mewn perthynas ag asesiadau risg, amlygwyd y dylai'r mesurau lliniaru adlewyrchu sgôr is gyffredinol ar gyfer risgiau rheoledig o gymharu â risgiau heb eu rheoli. Yn unol â hynny, rhoddwyd gwybod bod trefniadau wedi’i wneud i’r gofrestr risg cael ei hadolygu a'i diwygio fel y bo'n briodol.

 

Yn dilyn ymholiad yngl?n â'r risg sy'n gysylltiedig â'r diffyg cyfleoedd chwaraeon mewn ysgolion, darparwyd sicrwydd fod hyn yn rhan annatod o'r cwricwlwm a'i fod yn cael ei ystyried yn unol â Risg EC100001 - 'Methu â chodi safonau mewn ysgolion' a Risg EC100002 – 'Methu â chefnogi ysgolion i ailfodelu'r cwricwlwm yng ngoleuni adolygiadau Llywodraeth Cymru'. Roedd Pennaeth Dros Dro Effeithiolrwydd Ysgolion ac Ymgysylltu â Disgyblion wedi darparu crynodeb o'r cymorth di-rif a ddarparwyd i ysgolion o ran iechyd a lles disgyblion, gan gynnwys addysg gorfforol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynlluniau Busnes sy'n berthnasol i'r gyfarwyddiaeth Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoeddar gyfer 2025/26 yn cael eu cymeradwyo.

7.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 84 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad craffu ynghylch Diweddariadau'r Gr?p Penaethiaid.  Rhoddwyd gwybod y byddai adroddiad cynhwysfawr yn crynhoi'r materion a godwyd yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod nesaf ac, yn ogystal, gellid gwahodd cadeiryddion y cyfarfodydd hynny i annerch y Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol pe bai'r Pwyllgor yn gofyn am hynny.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.

8.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 86 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 1 Ebrill 2025.

 

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 1 Ebrill 2025.

 

9.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 04 RHAGFYR 2024 pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2024 yn gofnod cywir.