Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig. |
|||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
|||||||
DIWEDDARIAD TRAWSNEWID ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL (ADY) PDF 102 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad i'w ystyried ynghylch gweithredu'r darpariaethau sydd wedi'u hymgorffori yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a oedd yn ceisio trawsnewid disgwyliadau, profiadau a deilliannau plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Roedd yr adroddiad yn nodi cynnydd yr Awdurdod hyd yma, meysydd o arferion gorau, meysydd i'w gwella a'r datblygiadau yn y dyfodol sydd eu hangen i gefnogi diwygio parhaus. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr Awdurdod ar y trywydd iawn i drosglwyddo pob plentyn i'r system ADY newydd erbyn diwedd blwyddyn academaidd 2024/2025.
Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad oedd yn manylu ar brofiadau Ysgol y Bedol, Ysgol Peniel ac Ysgol Sant Ioan Llwyd wrth ymgorffori'r system ADY yn eu hysgolion nhw.
Bu'r Pwyllgor yn adolygu'r meysydd yr ystyriwyd eu bod yn gweithio'n dda a'r rhai yr oedd angen mynd i'r afael â hwy o ran rôl y Cydgysylltwyr ADY, hyfforddiant a chymorth, dulliau Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn a'r gwaith partneriaeth parhaus gyda gweithwyr iechyd proffesiynol. Roedd y Pwyllgor yn cydnabod ymdrechion yr Awdurdod i ymgorffori system oedd yn sicrhau bod darpariaeth o ran adnoddau dwyieithog, asesiadau a staffio ar gael a bod digon o ddarpariaeth arbenigol. Yn hyn o beth, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor mai'r Awdurdod oedd yr Arweinydd Cenedlaethol ar gyfer y Gymraeg o ran gweithio ar draws Awdurdodau Lleol i sicrhau bod darpariaeth Gymraeg yn ei lle a bod adnoddau Cymraeg yn cael eu datblygu i gefnogi Trawsnewid ADY.
Wrth ystyried yr heriau o ran gweithredu ADY, nodwyd bod y prif feysydd yn canolbwyntio ar gapasiti staffio, cysondeb o ran adnabod ADY, ariannu a dyrannu adnoddau, sicrhau ansawdd Cynlluniau Datblygu Unigol, cydweithio amlasiantaethol ac ymgysylltu â lleoliadau nas cynhelir a chyflawni cyfrifoldebau o ran dysgwyr ôl-16.
Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:
Mynegodd y Pwyllgor bryderon ynghylch oedi annerbyniol y GIG o ran plant sy'n cael asesiadau awtistiaeth ac Anhwylder Gorfywiogrwydd a Diffyg Canolbwyntio ond anogwyd y Pwyllgor i nodi bod cymorth ar gael i'r holl ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, waeth beth yw eu diagnosis meddygol ffurfiol.
Mewn ymateb i ymholiad, rhoddodd Rheolwr y Ddarpariaeth Anghenion Ychwanegol wybod i'r Pwyllgor am yr amrywiaeth o fesurau a roddwyd ar waith gan yr Awdurdod i wella cysondeb o ran gweithdrefnau ADY ar draws ysgolion. Roedd y rhain yn cynnwys gofynion o ran darpariaeth gyffredinol, rhannu arferion gorau, darparu rhaglen hyfforddiant a chymorth gynhwysfawr a threfniadau cydweithio agos gydag ysgolion.
Dywedwyd wrth yr aelodau fod deddfwriaeth yn pennu bod disgwyl i Gynlluniau Datblygu Unigol gael eu cwblhau o fewn cyfnod o 12 wythnos gan ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac i wybodaeth gael ei chasglu o amrywiaeth o ffynonellau / rhanddeiliaid priodol. Yn ogystal, sefydlwyd protocol trosglwyddo ADY gwell yn yr Awdurdod i sicrhau y gellid rhannu gwybodaeth briodol am ddisgyblion yn ddi-dor o fewn cyfyngiadau protocolau diogelu data. Yn unol â hynny, barnwyd bod Cynlluniau Datblygu Unigol yn ddogfennau hyblyg a fyddai'n trosglwyddo gyda'r disgyblion a fyddai'n symud i ysgol ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|||||||
STRATEGAETH Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG (RHMA) PDF 118 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i fersiwn drafft yr Awdurdod o Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg a luniwyd i gyfarwyddo cyflawni’r Rhaglen Moderneiddio Addysg newydd yn y dyfodol. Roedd y strategaeth ddrafft yn cael ei harwain gan gyfres o amcanion strategol ac roedd yn seiliedig ar egwyddor dull cyfannol a'r gofyniad i wella a chefnogi ystod o amcanion cenedlaethol, corfforaethol ac addysgol. At hynny, roedd y strategaeth ddrafft yn manylu ar feini prawf hyfywedd a buddsoddi sy'n ofynnol i sicrhau dull priodol a thryloyw o ddatblygu trefniadaeth ysgolion a chynigion buddsoddi.
Wrth gyflwyno'r adroddiad, atgoffwyd y Pwyllgor gan yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg fod ymgynghoriad cyhoeddus cynhwysfawr ar y strategaeth ddrafft wedi'i gynnal rhwng 13 Chwefror 2024 a 12 Mawrth 2024 a byddai'r holl adborth a ddarperir yn cael ei ystyried gan y Cabinet.
Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:
Mewn ymateb i'r pryderon a godwyd mewn perthynas ag adeiladau ysgol newydd yn cyrraedd capasiti o ran disgyblion o fewn cyfnod byr, rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant wybod i'r Pwyllgor am ganllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch dylunio adeiladau ysgol newydd. Dywedwyd bod y Cabinet, ar brydiau, wedi rhoi cyfrif blaenorol am ofynion capasiti arfaethedig ysgolion newydd yn y dyfodol yn ystod cam dylunio'r adeiladau lle'r oedd y wybodaeth a oedd ar gael yn rhagweld twf yn y dyfodol. Serch hynny, mentrwyd gwneud penderfyniadau o'r fath a gallent arwain at gosbau ariannol gan Lywodraeth Cymru oni lwyddir i gyrraedd yr amcanestyniadau o ran y capasiti yn y dyfodol. Gwnaed cais bod dyluniadau adeiladau newydd yn y dyfodol yn bodloni'r potensial i ychwanegu estyniadau pe bai'r gofod a'r gofyniad yn caniatáu hynny.
Eglurodd Rheolwr y Rhaglen Moderneiddio Addysg, mewn ymateb i ymholiad ynghylch yr amserlenni sylweddol sy'n gysylltiedig â chyflawni prosiectau adeiladu ysgolion newydd, fod yr Awdurdod yn gallu rhoi amcanestyniadau am gyfnod o 5 mlynedd, ac adolygir cynlluniau prosiectau o bryd i'w gilydd i sicrhau cywirdeb cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau. Ar ben hynny, roedd cyfle hefyd i ddiwygio cwmpas prosiect gyda Llywodraeth Cymru pe bai angen, ond roedd hyn yn amodol ar gydymffurfio ag amodau penodol.
Cyfeiriwyd at y pwysau ariannol sylweddol o fewn y rhaglen gyfalaf Addysg a Phlant lle eglurwyd bod gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ysgolion yn cael blaenoriaeth yn unol â'r meysydd sydd â'r anghenion mwyaf; ond nodwyd nad oedd digon o gyllideb i fodloni anghenion ysgolion.
O ran gwella ansawdd adeiladau, mynegwyd pryder bod y strategaeth ddrafft yn cyfeirio at adeiladau ysgolion newydd yn unig.Cafwyd trafodaeth ynghylch Egwyddorion Addysg Gynradd Sir Gaerfyrddin a nodir yn yr adroddiad. Yn hyn o beth, awgrymwyd bod y Cabinet yn ystyried dileu'r egwyddor addysg sy'n ymwneud â dim mwy na 2 gr?p blwyddyn yn cael eu dyrannu i bob dosbarth addysgu ar y sail y byddai hyn yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG, POBL IFANC A'R GYMRAEG 2023/24 PDF 128 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg a oedd yn rhoi manylion am y gwaith a gyflawnwyd gan y Pwyllgor yn ystod blwyddyn y cyngor 2023/24. Roedd yr adroddiad wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor ac roedd yn rhoi trosolwg o'r rhaglen waith a'r materion allweddol dan sylw, gan gynnwys hefyd unrhyw faterion a gyfeiriwyd at neu gan y Cabinet, adolygiadau Gorchwyl a Gorffen, sesiynau datblygu a phresenoldeb aelodau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad. |
|||||||
BLAENGYNLLUN GWAITH Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG, POBL IFANC A'R GYMRAEG AR GYFER 2024/25 PDF 114 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn adolygu ei Flaengynllun Gwaith drafft ar gyfer 2024/25, a ddatblygwyd yn dilyn sesiwn cynllunio anffurfiol y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 10 Ebrill 2024 ac adborth dilynol a ddaeth i law gan aelodau a swyddogion. Pwysleisiwyd bod y Blaengynllun Gwaith yn ddogfen hyblyg y gellid ei diweddaru trwy gydol y flwyddyn yn ôl y gofyn.
CYTUNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Blaengynllun Gwaith y Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg ar gyfer 2024/25. |
|||||||
DIWEDDARIAD AR GAMAU GWEITHREDU Y PWYLLGOR CRAFFU PDF 103 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â cheisiadau neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg yn ystod blwyddyn y cyngor 2023/24.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant y byddai'r wybodaeth y gofynnir amdani gan y Pwyllgor mewn perthynas â chyfrifo'r fformiwla ariannu a dyraniad cyllideb ysgolion fesul pen yn cael ei dosbarthu i'r Pwyllgor yn fuan. Byddai rhagor o wybodaeth am hyn hefyd yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad cyllidebau ysgolion a'r bwriad oedd y byddai'n cael ei ystyried gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad. |
|||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 17 MAI 2024 PDF 92 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 17 Mai 2024 yn gofnod cywir. |