Lleoliad: Siambr - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd M.J.A. Lewis. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig. |
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
|
TRAWSFFURFIO, ARLOESEDD A NEWID (TAN), GAN GYNNWYS CYLLIDEBAU YSGOLION Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o'r Rhaglen Trawsnewid Ysgolion a gyflwynwyd yn 2017 i gynorthwyo ysgolion i wynebu heriau ariannol sylweddol. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y rhaglen yn ceisio defnyddio egwyddorion trawsnewid craidd yr Awdurdod o weithio ar y cyd a herio arferion presennol i helpu ysgolion i fanteisio ar gyfleoedd i arbed costau a gwelliannau i wasanaethau, drwy ddull cynaliadwy, ar draws amrywiaeth eang o weithgareddau, yn ogystal â chynnal deilliannau da i ddisgyblion.
Ar hynny, cafodd y Pwyllgor gyflwyniad a oedd yn nodi'r cynnydd a oedd wedi'i wneud hyd yn hyn i gyflawni'r meysydd blaenoriaeth allweddol, fel a ganlyn:
· Meincnodi – cynhaliwyd ymarfer meincnodi gwariant arferol a chwricwlwm ar draws ysgolion uwchradd yn 2022/23 i rannu arferion da ymhlith ysgolion. · Templedi Effeithlonrwydd Ariannol– lluniwyd y templedi hyn i gefnogi trafodaethau â 9 ysgol mewn sefyllfaoedd ariannol heriol. · Gwasanaeth 'Tasgfan' Eiddo Ysgolion – cynllun peilot 2 flynedd wedi'i ariannu'n llawn ar waith ar draws ysgolion cynradd er mwyn gwella gwerth am arian. · Adolygiad o'r Gwasanaeth Cynnal a Chadw Tiroedd Ysgolion – datblygwyd manyleb Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) wedi'i ailfodelu i ddarparu mwy o hyblygrwydd i ysgolion sicrhau arbedion effeithlonrwydd drwy ddarparu dull pwrpasol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer. · Gweithredu canfyddiadau'r Adolygiad o Gytundebau Lefel Gwasanaeth ysgolion – darparu dull gweithredu cyson â llinellau cyfathrebu clir er mwyn galluogi ysgolion i ddelio â materion. · Gweinyddu – Archwilio dulliau newydd, gan ddefnyddio modelau sy'n seiliedig ar glystyrau, o ran swyddogaethau cefn swyddfa a chymorth mewn ysgolion cynradd. · Caffael - Nodi cyfleoedd i wneud arbedion, gan gynnwys arbedion maint a dulliau o gaffael sy'n sicrhau'r gwerth gorau. · Cyfathrebu - ymgysylltu'n rheolaidd a rhannu arferion da rhwng ysgolion. · Arolygon Addasrwydd Ysgolion – lluniwyd templed newydd ac arolygon parhaus o bob ysgol i gefnogi sylfaen dystiolaeth ar gyfer Adolygiad o Gynlluniau Gwella Ysgol. · Polisi Plant sy'n Codi'n 4 oed - wedi'i ohirio tan 2024 wrth aros am ymchwiliad pellach i'r effaith a'r goblygiadau. · Modelau ariannu Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) - ymgysylltu â phenaethiaid i ddatblygu modelau ariannu newydd i gyd-fynd â Thrawsnewid ADY. · Adolygiad o Ddalgylchoedd Ysgolion i gael ei gynnal yn unol â'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:
Yn sgil y cyflwyniad ac mewn ymateb i ymholiad, eglurodd y Rheolwr Trawsnewid a Newid Ysgolion fod yr ymarfer meincnodi ar gyfer 2022/23 wedi'i gwblhau ar gyfer ysgolion uwchradd yn unig oherwydd materion logistaidd a dywedodd mai pwrpas yr ymarfer hwn oedd rhoi gwybodaeth i ysgolion i ysgogi trafodaethau a chefnogi prosesau gwneud penderfyniadau. Cyfeiriwyd at ymarfer meincnodi blaenorol a gynhaliwyd ar draws ysgolion cynradd a oedd wedi'u rhannu yn ôl grwpiau maint. Fodd bynnag, cydnabuwyd na fyddai grwpiau o'r fath o reidrwydd yn adlewyrchu carfanau ysgolion, yn enwedig oherwydd oedran amrywiol ystadau ysgolion, ac roedd hwn yn faes a fyddai'n cael ei ystyried yn y dyfodol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant y byddai cais yn cael ei wneud i benaethiaid ysgolion uwchradd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
ADRODDIAD INTERIM AR ADOLYGU ADDYSG ÔL 16 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r cynnydd a wnaed i sefydlu egwyddorion cyffredinol o ran Hawliau ar gyfer Dysgu i ddatblygu'r dirwedd ôl-16 yn Sir Gaerfyrddin ac yn cynnig strwythur llywodraethu wedi'i ailfodelu yn seiliedig ar yr adborth a roddwyd gan ysgolion uwchradd ynghylch yr hyn yr oedd dysgwyr yn rhoi gwerth arno yn eu profiad a'u darpariaeth addysgol. Yn hyn o beth, rhoddwyd crynodeb i'r Pwyllgor o'r themâu allweddol a oedd yn sail i'r egwyddorion hynny fel a ganlyn:
· Perthynas, Perthyn, Llesiant ac Ethos. · Gwell Canllawiau Llwybrau a Sgiliau ar gyfer Annibyniaeth ac ar gyfer llwyddiant academaidd, a llwyddiant mewn gwaith a bywyd. · Tegwch drwy fwy o opsiynau Cymraeg. · Tegwch drwy ystod eang o opsiynau, yn enwedig opsiynau galwedigaethol.
Wrth ystyried yr adroddiad, nodwyd bod y canfyddiadau yn cyd-fynd yn uniongyrchol â'r argymhellion sy'n deillio o Adolygiad Estyn o'r cwricwlwm 16-19 presennol yng Nghymru.
Cyfeiriwyd hefyd at y gweithdy ymgynghori a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2023 a oedd yn rhoi cyfle i Aelodau'r Pwyllgor roi adborth ar yr adolygiad o addysg ôl-16.
Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:
Mynegwyd pryderon ynghylch y prinder cenedlaethol parhaus o ran recriwtio athrawon a allai atal yr Awdurdod rhag bodloni'r galw am opsiynau cyrsiau ychwanegol. Cyfeiriodd y Pennaeth Strategaeth a Chymorth i Ddysgwyr at y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru o £800,000 o gyllid grant sydd ar gael ledled Cymru, drwy broses ymgeisio gystadleuol, i recriwtio a hyfforddi athrawon i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg. Hefyd, eglurodd y Rheolwr Cwricwlwm a Rhwydweithiau Dysgu fod yr Awdurdod yn archwilio datblygu dysgu hybrid ymhellach, gan gynnwys menter 'e-sgol' i sicrhau bod amrywiaeth o bynciau yn cael eu darparu i ddysgwyr ledled Sir Gaerfyrddin.
I gydnabod yr adborth a roddwyd gan ddysgwyr o ran y gwerth a roddir ar berthynas, rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor y byddai disgyblion yn cael model dysgu cymysg, a byddai pynciau craidd ar gael wyneb yn wyneb ar lefel leol, a phynciau ychwanegol yn cael eu cyflwyno ar-lein yn bennaf, gydag elfen o ddarpariaeth dysgu wyneb yn wyneb, i ddarparu profiad boddhaus i baratoi pobl ifanc ar gyfer addysg uwch, gan gynnal ymdeimlad o gymuned a pherthyn hefyd.
Cyfeiriwyd at adroddiad a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg a oedd yn nodi gostyngiad sylweddol yn nifer yr athrawon newydd gymhwyso sy'n gallu darparu addysg cyfrwng Cymraeg. Amlinellodd y Pennaeth Strategaeth a Chymorth i Ddysgwyr y mesurau sydd ar gael i'r Awdurdod feithrin gallu drwy system hyfforddi gynhwysfawr i athrawon ddysgu Cymraeg neu wella'r hyder i gyflwyno gwersi drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd ynghylch y lefel uchel o fyfyrwyr nad ydynt yn cwblhau eu Tystysgrif Addysg i Raddedigion, cymeradwyodd y Pennaeth Strategaeth a Chymorth i Ddysgwyr yr awgrym a wnaed i ymchwilio ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
CYNLLUNIAU DARPARU GWASANAETHAU IS-ADRANNOL DDRAFFT 2023-24 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Cynlluniau Cyflawni Gwasanaeth Is-adrannol Drafft sy'n berthnasol i'r gyfarwyddiaeth Addysg a Gwasanaethau Plant ar gyfer 2023/24 fel a ganlyn:
· Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant · Mynediad i Addysg · Strategaeth a Chymorth i Ddysgwyr · Gwasanaethau Plant
Roedd y Cynlluniau Cyflawni Gwasanaeth Is-adrannol Drafft yn pennu'r camau a'r mesurau strategol i'w gweithredu ym mhob is-adran er mwyn i'r Cyngor wneud cynnydd mewn perthynas â'i amcanion llesiant, ei flaenoriaethau thematig a blaenoriaethau'r gwasanaeth. Yn hyn o beth, cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg at y sesiwn ymgynghori a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2023 a oedd yn gyfle i'r Aelodau roi adborth ar y Strategaeth Gorfforaethol, a gymeradwywyd wedyn gan y Cyngor yn ei gyfarfod ar 01 Mawrth 2023.
O ran y Cynllun Cyflawni Gwasanaeth - Gwasanaethau Plant, cydnabuwyd bod yr elfennau sy'n berthnasol i'r Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg yn ymwneud â'r meysydd canlynol:
· Seicoleg Addysg · Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:
O ystyried y cwricwlwm newydd, cafwyd ymholiad ynghylch y dulliau cymorth sydd ar waith i gynorthwyo ysgolion o ran y gofyniad i gadw cofnodion systematig i roi gwybod am gynnydd a galluogi arferion myfyriol. Eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod mesurau rheolaidd ar waith ar gyfer y flwyddyn bresennol hyd nes i Lywodraeth Cymru ddatblygu amgylchedd data newydd. Rhoddwyd sicrwydd bod yr Awdurdod, ynghyd â Partneriaeth, yn ymateb i'r gofynion newydd i ysgolion gefnogi a dangos tystiolaeth o ddilyniant sgiliau dysgwyr unigol yn unol â'r 6 maes dysgu a phrofiad, a byddai'r system hon yn cael ei chryfhau ymhellach a'i chyflwyno'n gyson ymhlith clystyrau ysgolion.
Roedd yr aelodau yn croesawu'r pwys sy'n cael ei roi ar y gwasanaeth cerdd ar gyfer Sir Gaerfyrddin a oedd yn cael ei ystyried yn wasanaeth hanfodol o ran elfen greadigol y cwricwlwm newydd. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod cyllid ychwanegol wedi ei dderbyn i alluogi'r Awdurdod i barhau i ddarparu'r gwasanaeth a chydnabuwyd bod yr Awdurdod mewn sefyllfa gadarnhaol i gael darpariaeth cerddoriaeth fewnol a oedd yn ymateb i anghenion disgyblion a chymunedau. Dywedodd yr Arweinydd Strategol ar gyfer Effeithiolrwydd Ysgolion fod yr Awdurdod wedi arwain ei gynllun cenedlaethol ei hun ar gyfer cerddoriaeth i sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ar gyfer cerddoriaeth yn cyrraedd cynifer o ddysgwyr â phosibl.
Hefyd, roedd yr Arweinydd Strategol ar gyfer Effeithiolrwydd Ysgolion yn falch iawn o nodi y byddai'r gwasanaeth cerdd yn rhannu datblygiadau digidol yng Nghynhadledd Bett 2023 drwy arddangos pecyn 'soundtrap' a oedd yn cyfuno cerddoriaeth a phrofiadau digidol a ddatblygwyd ar y cyd ag ysgolion yn America. Mewn ymateb i gais, cytunwyd y byddai arddangosiad a diweddariad cyffredinol yn cael eu cynnig i aelodau maes o law.
Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd wrth y Pwyllgor fod y nifer uchel o benaethiaid a fyddai'n ymddeol yn fuan yn peri risg i'r Awdurdod. Fodd bynnag, roedd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant yn falch o nodi bod sawl penodiad o ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad craffu ynghylch y Strategaeth Gorfforaethol.
PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad. |
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Adolygodd y Pwyllgor y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn ei gyfarfod nesaf i'w gynnal ar 05 Mai 2023, a oedd wedi deillio o Flaengynllun Gwaith y Pwyllgor am 2022/23. Pwysleisiodd y Cadeirydd fod y Blaengynllun Gwaith yn ddogfen hyblyg y gellid ei diweddaru yn ôl y gofyn trwy gydol y flwyddyn wrth i wybodaeth newydd ddod i'r amlwg.
Cyfeiriwyd at y ddau adroddiad diweddaru a oedd yn deillio o'r Grwpiau Gorchwyl a Gorffen blaenorol. Cytunodd y Pwyllgor i adolygu'r adroddiadau mewn sesiwn anffurfiol ar ddiwedd y cyfarfod ar 05 Mai 2023 lle gallai'r Pwyllgor ofyn am unrhyw wybodaeth bellach i'w hystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol, os bydd hynny'n berthnasol.
PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 5 Mai, 2023. |
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 23 IONAWR 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2023 yn gofnod cywir. |