Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan yr aelod cyfetholedig D. Elias a'r Cynghorydd L. Bowen.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Aelod

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd Llinos Davies

5. Ymgynghori Ynghylch Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2023/24 i 2025/26

 

Ei g?r yn dysgu cerddoriaeth mewn ysgol uwchradd.

Carys Jones

5. Ymgynghori Ynghylch Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2023/24 i 2025/26

2.              

Ei merch-yng-nghyfraith yn gweithio dan Adran Addysg a Gwasanaethau Plant y Cyngor mewn ysgol yn y sir.

Betsan Jones

5. Ymgynghori Ynghylch Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2023/24 i 2025/26

Ei mab yn Bennaeth mewn ysgol yn y sir.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip.

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

CWRICWLWM I GYMRU A CHYMORTH A DDARPERIR I YSGOLION pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o'r cymorth oedd ar gael i ysgolion, lleoliadau arbenigol ac Unedau Cyfeirio Disgyblion Sir Gaerfyrddin gan y Cyngor Sir a'r consortiwm rhanbarthol, Partneriaeth, wrth iddynt hwyluso gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru. Yn unol â Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, roedd ysgolion cynradd wedi gweithredu'r cwricwlwm newydd ym Medi 2022, tra byddai ysgolion uwchradd Sir Gaerfyrddin yn cyflwyno'r cwricwlwm newydd o fis Medi 2023 ymlaen.

 

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad ar ddatblygiad y Cwricwlwm newydd i Gymru a oedd yn ceisio sicrhau addysgeg gadarn ac effeithiol i ddiwallu anghenion disgyblion unigol ar bob lefel, er mwyn galluogi ysgolion i symud ymlaen yn effeithiol yn unol ag amcanion y Genhadaeth Genedlaethol. Yn unol â hynny, roedd y Cwricwlwm newydd i Gymru wedi'i drefnu ar sail 6 Maes Dysgu a Phrofiad, ac yn cael ei ategu gan Gyfrifoldebau Traws Gwricwlaidd Llythrennedd, Rhifedd, Cymhwysedd Digidol a'r Sgiliau Ehangach.

 

Roedd y cyflwyniad yn manylu ar natur y cymorth a ddarperir i fynd i'r afael â'r heriau mae ysgolion yn eu hwynebu wrth gadw at yr ystod o elfennau cymhleth a gorfodol sy'n ofynnol wrth ddatblygu a darparu'r cwricwlwm newydd. Yn hyn o beth, darparwyd trosolwg o Gynllun Busnes Partneriaeth i'r Pwyllgor. Roedd y cwricwlwm newydd yn greiddiol i amcanion strategol a Chynnig Dysgu Proffesiynol Partneriaeth, yn ogystal â darparu cefnogaeth bwrpasol, leol i ysgolion. 

 

Derbyniodd y Pwyllgor grynodeb o Strategaeth Wella Adran Addysg a Gwasanaethau Plant yr Awdurdod, a oedd yn cyd-fynd â Chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwella Ysgolion a'r nod oedd gweithio ochr yn ochr ag ysgolion i adlewyrchu ar gynnydd y disgyblion o ganlyniad i ddarpariaeth y cwricwlwm. Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i gynnig Dysgu Proffesiynol Sir Gâr ar gyfer ysgolion.  Daeth y cyflwyniad i'r casgliad fod y meysydd blaenoriaeth ar gyfer 2022-2023 yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:

 

·       Llywodraeth Cymru a chyfarfodydd traws rhanbarthol; rhannu meysydd a disgwyliadau ffocws allweddol mewn modd amserol

·       Strategaeth a dysgu proffesiynol mewn perthynas â Dylunio'r Cwricwlwm; rhoi'r ddamcaniaeth ar waith

·       Defnydd effeithiol o adnoddau ariannol

·       Dilyniant sgiliau

·       Gweithio mewn clwstwr 

·       Pontio 

·       Asesiad a chynnydd (o fewn pob maes dysgu a phrofiad) 

·       Rhannu arferion effeithiol ar draws ysgolion

 

Croesawodd y Pwyllgor y gwaith cadarnhaol oedd yn cael ei ddatblygu ar draws yr ysgolion yn Sir Gaerfyrddin, ond roedd yn cael ei gydnabod bod lefel y cynnydd yn amrywio ar draws ysgolion.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr heriau o ran y nifer fach oedd yn manteisio ar y dysgu proffesiynol oedd yn cael ei gynnig gan Partneriaeth, a'r diffyg cefnogaeth ganfyddedig i ysgolion ar gyfer datblygu'r cwricwlwm.  Roedd problemau capasiti mewn ysgolion wedi'u nodi fel rhwystr allweddol i gael mynediad at hyfforddiant ac roedd lefel y cynnydd yn amrywio ar draws ysgolion. Yn unol â hynny, roedd dull pwrpasol ar lefel Awdurdod Lleol wedi cael ei weithredu ar gyfer Sir Gaerfyrddin i gefnogi anghenion ysgolion ac a oedd yn canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant i ddeall cynnydd disgyblion (3-16  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2023/24 TAN 2025/26 pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorwyr L.M. Davies ac A.C. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganwyd y buddiant hwnnw ganddynt a gadawsant y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried.  At hynny, ar y pwynt hwn, datganodd y Cynghorydd B.W. Jones ddiddordeb personol ar y sail bod ei mab yn cael ei gyflogi fel Pennaeth mewn ysgol yn y sir.  Arhosodd y Cynghorydd B. Jones yn y cyfarfod tra oedd yr eitem hon yn cael ei hystyried].

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw y Cyngor 2023/24 i 2025/26 a oedd yn rhoi golwg gyfredol ar y gyllideb refeniw ar gyfer 2023/2024 ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2024/25 a 2025/26.  Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion y swyddogion ynghylch gofynion gwariant, ac roedd yn rhoi ystyriaeth i'r setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 14 Rhagfyr 2022.

 

Er bod llawer o waith eisoes wedi'i wneud wrth baratoi'r gyllideb, pwysleisiwyd mai datganiad sefyllfa cychwynnol oedd yr adroddiad hwn a fyddai'n cael ei ddiweddaru yn dilyn y broses ymgynghori.  Yn unol â hynny, atgoffwyd Aelodau bod yr adroddiad wedi'i ystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 09 Ionawr 2023 a bod aelodau'r Pwyllgor wedi mynychu digwyddiadau ymgynghori yn ddiweddar, a oedd yn rhoi cyfle i ddadansoddi a chael eglurhad ynghylch gwahanol agweddau ar y gyllideb.

 

Nododd yr adroddiad, ar ôl addasiadau ar gyfer trosglwyddiadau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, mai 8.5% (£26.432 miliwn) oedd y cynnydd yn y setliad dros dro ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Roedd y Cyllid Allanol Cyfun wedi cynyddu felly i £338.017 miliwn yn 2023/24.  Er bod y setliad yn gynnydd sylweddol o'r ffigwr dangosol o 3.4%, roedd y model ariannol yn rhagweld gofyniad i arbed £20m dros gyfnod o dair blynedd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig.

 

Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at adran 3.5 o strategaeth y gyllideb lle rhoddwyd trosolwg o gyllidebau dirprwyedig yr ysgolion i'r Aelodau. Nodwyd y byddai llawer o grantiau sy'n benodol i wasanaethau yn parhau ar lefel eithaf tebyg (gwerth arian parod) i flynyddoedd blaenorol, a fyddai, mewn gwirionedd, yn lleihau allbynnau o ystyried effaith dyfarniadau cyflog a chwyddiant cyffredinol.  Fodd bynnag, roedd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau yn falch o allu dweud bod y Grant Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Grant Datblygu Disgyblion wedi cynyddu, ac, ar ben hynny, fod cyllid LlC wedi'i ddarparu i wastatau'r grant Recriwtio, Adfer, Codi Safonau, yn lle'r gostyngiad arfaethedig, a byddai hyn yn galluogi ysgolion i barhau â'u gweithgareddau adfer ar ôl covid.

 

Cyfeiriwyd at argymhelliad y corff adolygu cyflogau annibynnol o gynnydd o 5% i'r holl Athrawon, a oedd wedi cael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, cydnabuwyd bod aelodau'r Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) wedi pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol mewn ymgais i gael codiad cyflog o 12%.  Nododd y pwyllgor fod y gyllideb ddrafft yn cynnwys y "catchup" o 1% i 5%, ond ni fyddai unrhyw gynnydd pellach wedi ei ariannu a byddai'n cynrychioli pwysau ariannol ychwanegol o oddeutu £1m ar gyfer pob cynnydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 70 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol:

 

  • Cynllun Busnes drafft y Gwasanaethau Addysg a Phlant a'r Strategaeth Gorfforaethol
  • Strategaeth Gwasanaethau Cymdeithasol 10 mlynedd

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiadau.

 

7.

DIWEDDARIAD AR GAMAU GWEITHREDU Y PWYLLGOR CRAFFU pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â cheisiadau neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol yn ystod blwyddyn y cyngor 2022/23.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

8.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 82 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adolygodd y Pwyllgor y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn ei gyfarfod nesaf i'w gynnal ar 16 Mawrth 2023, a oedd wedi deillio o Flaengynllun Gwaith y Pwyllgor am 2022/2023. Pwysleisiodd y Cadeirydd fod y Blaengynllun Gwaith yn ddogfen hyblyg y gellid ei diweddaru yn ôl y gofyn trwy gydol y flwyddyn wrth i wybodaeth newydd ddod i'r amlwg. O ganlyniad, byddai sesiwn arall i gynllunio'r Blaengynllun Gwaith yn cael ei chynnal ar ddiwedd y cyfarfod i adolygu blaenoriaethau'r Pwyllgor ar gyfer 2022/23, yn unol â Blaengynllun Gwaith y Cabinet.

 

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 16 Mawrth, 2023.

 

9.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 01 RHAGFYR 2022 pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2022 yn gofnod cywir. 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau