Lleoliad: Siambr - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan F. Healy-Benson, y Cynghorydd S. Godfrey-Coles a V. Kenny. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig. |
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
|
SESIYNAU YMGYSYLLTU YSGOLION Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad i'r Pwyllgor a oedd yn esbonio bod strwythur amgen, ar ffurf sesiynau ymgysylltu ag ysgolion ar-lein, wedi'i gyflwyno i gymryd lle ymweliadau ysgol dros dro yn ystod pandemig Covid-19, a fyddai'n galluogi'r Pwyllgor i barhau â'i swyddogaeth gwerthuso a gwella ysgolion. Yn hyn o beth, roedd y Pwyllgor yn gobeithio y byddai ymweliadau safle yn ailddechrau yn ystod 2023.
Ar hynny, cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan Bennaeth Ysgol Bryn Teg a oedd yn canolbwyntio ar y ffordd yr oedd Ysgol Bryn Teg wedi cefnogi lles disgyblion, teuluoedd a staff ers Covid-19. Roedd y cyflwyniad yn manylu ar y daith gwella sylweddol a gyflawnwyd yn yr ysgol, er gwaethaf heriau ariannol, i ddod yn hynod effeithiol o ran ei dysgu a'i threfniadaeth, ac roedd wedi croesawu newid er mwyn cyflawni diwylliant o ragoriaeth.
Roedd y pwyntiau allweddol a gafodd sylw yn y cyflwyniad yn cynnwys canfyddiadau arolygiad Estyn a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2022 yn y meysydd canlynol:
Arweinyddiaeth · Roedd Arweinyddiaeth a Rheolaeth effeithiol yn cael eu dangos ym mhob rhan o'r ysgol, a oedd yn cael eu hwyluso drwy gyfathrebu agored a thryloyw i gefnogi anghenion disgyblion. · Roedd awyrgylch o garedigrwydd, cynhwysiant ac anogaeth yn cael ei ymgorffori yn yr ysgol ac roedd hynny wedi cyfrannu at y gwelliant sylweddol o ran lles a safonau disgyblion. · Roedd rolau a chyfrifoldebau clir wedi'u diffinio'n dda ar waith ac yn cael eu llunio yn ôl dull seiliedig ar gryfderau a buddsoddiad priodol yn natblygiad staff. · Roedd dull blaengar a rhagweithiol o wneud penderfyniadau yn cael ei gefnogi gan Lywodraethwyr yr Ysgol. Roedd cyllid grant wedi'i ddyrannu i wella'r ddarpariaeth anogaeth yn yr ysgol, penodi Ymarferydd Iechyd Meddwl a Swyddog Cynhwysiant Teuluol a phrynu beiciau trydan a bysiau mini trydan i gefnogi a gwella teithiau ysgol. Gofal, Cymorth ac Arweiniad · Roedd gan yr ysgol ethos cynhwysol, gyda dull tîm o amgylch y teulu yn seiliedig ar barch gan y naill at y llall ymhlith y staff, disgyblion a rhieni/gwarcheidwaid. · Roedd gwerthoedd craidd yr ysgol yn canolbwyntio ar y meysydd lles, annibyniaeth a pharch. · Roedd rhwydweithiau effeithiol wedi'u sefydlu gydag asiantaethau eraill, gan gynnwys ysgolion eraill a gwasanaethau cymdeithasol, a oedd wedi arwain at gyflwyno platfform diogelu. · Roedd darpariaeth gadarn ar waith ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a oedd yn cael ei hwyluso gan Gydlynydd ADY. · Roedd amrywiaeth o ymyriadau ac asesiadau wedi'u sefydlu yn yr ysgol i ychwanegu gwerth a dangos cynnydd mesuradwy. Profiadau Dysgu ac Addysgu · Roedd cwricwlwm eang a chytbwys wedi'i gyflwyno gydag amrywiaeth o fentrau a grwpiau disgyblion ar draws yr ysgol. · Roedd buddsoddiad priodol wedi'i wneud o ran datblygiad staff, gyda gwerth ychwanegol drwy hyfforddiant staff a rennir a chydweithio ag asiantaethau ac ysgolion eraill i rannu arferion gorau, hyfforddi a mentora. Lles ac Agweddau at Ddysgu · Roedd Swyddog Arweiniol Lles, â chyfrifoldeb am iechyd a lles, wedi bod yn allweddol i gymuned yr ysgol yn ystod pandemig Covid-19. · Roedd cynllun gwaith o'r enw 'jigsaw' wedi'i roi ar waith, a oedd yn cyd-fynd â'r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A PHLANT 2021/22 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol ynghylch y gwaith a gyflawnwyd gan y Pwyllgor yn ystod blwyddyn y cyngor 2021/22. Roedd yr adroddiad wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor ac roedd yn rhoi trosolwg o'r rhaglen waith a'r materion allweddol dan sylw, gan gynnwys hefyd unrhyw faterion a gyfeiriwyd at neu gan y Cabinet, adolygiadau Gorchwyl a Gorffen, sesiynau datblygu a phresenoldeb aelodau.
Cyfeiriwyd at gywiriad teipograffigol i adran 6.2.3 yr adroddiad a fyddai'n cael ei ddiweddaru i ddangos bod y pwyllgor wedi ystyried ei adroddiad yn 2021.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, yn amodol ar wneud y gwelliant teipograffigol i adran 6.2.3 yr adroddiad.
|
|
BLAENGYNLLUN GWAITH Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG, POBL IFANC A'R GYMRAEG AR GYFER 2002/23 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn adolygu ei Flaengynllun Gwaith drafft ar gyfer 2022/23, a ddatblygwyd yn dilyn sesiwn datblygu anffurfiol y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 1 Medi 2022.
Rhoddwyd sylw i nifer o arsylwadau ac ymholiadau, fel a ganlyn:
· Pwysleisiwyd bod y Blaengynllun Gwaith yn ddogfen hyblyg y gellid ei diweddaru yn ôl y gofyn trwy gydol y flwyddyn wrth i wybodaeth newydd ddod i'r amlwg. Yn benodol, nodwyd y byddai'r Blaengynllun Gwaith yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru, yn ôl y gofyn, yn dilyn cyhoeddi Blaengynllun Gwaith y Cabinet.
· Gwnaed cais am gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am argymhellion adroddiad y Gr?p Gorchwyl a Gorffen ynghylch y Broses Ymgynghori ar Drefniadaeth Ysgolion yn y Blaengynllun Gwaith.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Blaengynllun Gwaith y Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg 2022/23, yn amodol ar gynnwys adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr argymhellion gan y Gr?p Gorchwyl a Gorffen ynghylch y Broses Ymgynghori ar Drefniadaeth Ysgolion. |
|
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno Adroddiad Blynyddol y Cyngor ar Amcanion Llesiant.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rheswm dros beidio â chyflwyno'r adroddiad. |
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 1 Rhagfyr 2022. Eglurwyd i'r Pwyllgor, yn dilyn ad-drefnu portffolios y Cabinet, y byddai'r Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael gwahoddiad i'r cyfarfod i gyflwyno adroddiad ar Gynllun Cyfiawnder Ieuenctid Sir Gaerfyrddin.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 1 Rhagfyr 2022. |
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 16 MAWRTH 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 16 Mawrth, 2022 yn gywir. |