Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg - Dydd Mercher, 4ydd Rhagfyr, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd E. Skinner.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynghorydd / Aelod Cyfetholedig

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd B. W. Jones

4. Atgyfeiriad gan y Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol - Cyllidebau Dirprwyedig Ysgolion

Mae ei mab yn bennaeth ysgol yn Sir Gaerfyrddin.  Mae'r Cynghorydd Jones wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau sy'n caniatáu iddi siarad a chyflwyno sylwadau yn unig.

 

K.V. Broom

4. Atgyfeiriad gan y Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol - Cyllidebau Dirprwyedig Ysgolion

 

Buddiant personol yn unig - Aelod a Chadeirydd Cyrff Llywodraethu Ysgolion.

 

Y Cynghorydd S. M. Allen

D. Elias

A. Enoch

M. Hughes

Y Cynghorydd H. Jones

Y Cynghorydd M.J.A Lewis

V. Kenny

Y Cynghorydd E.M.J.G. Schiavone

Y Cynghorydd J. Williams

Y Cynghorydd S. Williams

4. Atgyfeiriad gan y Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol - Cyllidebau Dirprwyedig Ysgolion

Buddiant personol yn unig - Aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.  

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

ATGYFEIRIAD GAN Y PWYLLGOR CRAFFU PERFFORMIAD AC ADNODDAU CORFFORAETHOL- CYLLIDEBAU DIRPRWYEDIG YSGOLION pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Noder: roedd y Cynghorydd S.M. Allen, y Cynghorydd K.V. Broom, y Cynghorydd B.W. Jones, y Cynghorydd H. Jones, y Cynghorydd M. J. Lewis, y Cynghorydd E.M.J.G. Schiavone, y Cynghorydd J. Williams, y Cynghorydd S. Williams, Ms D. Elias, Mr. A. Enoch, Ms M. Hughes a Ms V. Kenny wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gwnaethant aros yn y cyfarfod tra oedd y mater yn cael ei ystyried].

 

Trafododd y Pwyllgor atgyfeiriad gan y Pwyllgor Craffu - Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol a gafodd ei ddatrys yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2024. Roedd yr atgyfeiriad yn gofyn i'r Pwyllgor Craffu - Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg edrych ar y mater ehangach o gyllidebau dirprwyedig ysgolion.

 

Wrth adolygu'r atgyfeiriad a atodwyd i'r adroddiad, atgoffwyd y Pwyllgor fod adroddiad manwl a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Ysgolion Meithrin, Cynradd, Uwchradd ac Arbennig y sir, ynghyd â gwybodaeth mewn perthynas â ffrydiau cyllido Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau addysg, wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 15 Hydref 2024.  Ymhellach, hysbyswyd y Pwyllgor fod rhaglen o ymweliadau ysgolion ar y gweill i helpu ysgolion i adolygu eu cyllideb a datblygu cynllun adfer priodol.  Yn unol â hynny, gofynnodd yr aelodau am i sesiwn ymwybyddiaeth gael ei darparu i'r Pwyllgor yn gynnar yn 2025 yn amlinellu'r broses a'r sefyllfa bresennol mewn perthynas â'r mecanweithiau cymorth a'r trefniadau monitro o fewn yr Awdurdod i gynorthwyo ysgolion i reoli eu cyllidebau.

 

PENDERFYNWYD:

 

4.1

Bod yr Atgyfeiriad oddi wrth y Pwyllgor Craffu - Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol yn cael ei dderbyn;

 

4.2

Bod sesiwn ddatblygu yn cael ei hymgorffori ym Mlaengynllun Gwaith y Pwyllgor ar gyfer 2024/25 yn amlinellu'r broses a'r sefyllfa bresennol mewn perthynas â'r mecanweithiau cymorth a'r trefniadau monitro o fewn yr Awdurdod i gynorthwyo ysgolion i reoli eu cyllidebau.

 

5.

DIWEDDARIAD CYNNYDD AR ARGYMHELLION AROLYGU ESTYN pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cafodd y Pwyllgor adroddiad i'w ystyried a oedd yn amlinellu'r cynnydd a wnaed o ran yr argymhellion a ddarparwyd gan Estyn yn dilyn eu harolygiad o wasanaethau addysg yn Sir Gaerfyrddin ym mis Gorffennaf 2023. Roedd yr argymhelliad cyntaf yn canolbwyntio ar wella presenoldeb disgyblion yn ysgolion yr awdurdod. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr adran yn parhau i weithio ar ffyrdd arloesol o ddadansoddi data presenoldeb gan ddefnyddio offer meddalwedd i alluogi uwch-reolwyr i gael mynediad ar unwaith i ddata ac i ysgolion fonitro eu data a'i gymharu ag ysgolion eraill.  Hysbyswyd y Pwyllgor o'r ffigurau presenoldeb ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd a chafodd grynodeb o'r amrywiaeth o fentrau ac ymgyrchoedd a oedd yn ceisio sicrhau dull cryfach o weithredu a pherchnogaeth ar wella presenoldeb dros amser.

 

Roedd yr ail argymhelliad yn ceisio cryfhau prosesau gwella ysgolion, yn enwedig ar gyfer ysgolion uwchradd.  Adroddwyd bod strategaeth gwella ysgolion gynhwysfawr wedi'i chyfleu i holl aelodau'r tîm ac roedd yn canolbwyntio ar gryfhau cynnydd disgyblion a'r modd yr ymgysylltir â hwy a datblygiad proffesiynol athrawon sydd newydd gymhwyso, cynorthwywyr addysgu, ac arweinwyr y dyfodol. Roedd y prosesau gwella ysgolion yn cynnwys hunanwerthuso a monitro arferion dysgu proffesiynol yn rheolaidd ac yn gywir ac roedd yn galluogi arweinwyr i ddod i adnabod eu hysgolion yn well. Adlewyrchwyd hyn yn y ffaith fod llai o ysgolion yn derbyn argymhelliad o hunanwerthuso a monitro gan Estyn.  At hynny, roedd cydweithio rhwng ysgolion, gweithio mewn clystyrau ac arferion effeithiol wrth rannu digwyddiadau yn gwella prosesau gwella ysgolion ymhellach.

 

Y trydydd argymhelliad oedd mireinio ymagweddau at hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella. Yn hyn o beth, rhoddwyd mesurau ar waith er mwyn gallu nodi materion sy'n peri pryder yn gynnar trwy wneud gwell defnydd o dystiolaeth a data, defnyddio system sydd â sgoriau risg i flaenoriaethu materion i'w gwella a gwneud gwell defnydd o'r System Monitro Perfformiad a Gwella i adolygu gwybodaeth yn feirniadol yn erbyn meini prawf penodol.

 

Rhoddwyd sylw i'r sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor fel a ganlyn:-

 

Nododd y Pwyllgor ei ddiolchgarwch i'r Adran Addysg a Gwasanaethau Plant am ei chynnydd rhagorol hyd yma wrth fynd i'r afael â'r argymhellion a gyflwynwyd gan Estyn.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch gwelliannau a ragwelir mewn lefelau presenoldeb, eglurodd y Pennaeth Dros Dro - Effeithiolrwydd Ysgolion fod yr Awdurdod yn defnyddio dull cyfannol i fynd i'r afael ag anghenion lles bugeiliol ac unigol disgyblion a fydd, yn ei dro, yn effeithio'n gadarnhaol ar lefelau presenoldeb yn y tymor hir.  Adroddodd y Cyfarwyddwr Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fod heriau presenoldeb mewn ysgolion yn adlewyrchu'r sefyllfa genedlaethol ac roedd Llywodraeth Cymru, ar 3 Rhagfyr 2024, wedi cyhoeddi cyllid o £8.8m dros gyfnod o ddwy flynedd i gefnogi gwaith y Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd i wella lefelau presenoldeb.

 

Mewn ymateb i'r pryderon a godwyd mewn perthynas â'r pwysau ariannol sylweddol sy'n wynebu'r Awdurdod, nododd y Cyfarwyddwr Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ei fod yn hyderus y byddai cynnydd pellach yn cael ei wneud yn y maes  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

DIWEDDARIAD AR Y DDARPARIAETH ADDYSG ÔL 16 YN SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad i'w ystyried a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyd-destun cenedlaethol y corff comisiynu Medr ar gyfer Darpariaeth Addysgol Ôl-16.

 

Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd cydweithio rhwng ysgolion i wella cynigion pwnc, datblygu sgiliau dysgu annibynnol a sicrhau darpariaeth deg i bob disgybl, gan gynnwys y rheiny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod ysgolion wrthi'n datblygu eu darpariaeth a'u deilliannau trwy fwy o gydweithio ac ymgysylltu â dysgwyr.  Yn hyn o beth tynnwyd sylw'r aelodau at fanteision a heriau dulliau addysgu cydweithredol.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn darparu enghreifftiau o gydweithio a chynlluniau cyfredol ar gyfer 2025/26. Roedd y camau nesaf yn cynnwys cryfhau'r gwaith o gydlynu cyrsiau ôl-16 yn strategol, gwella'r ddarpariaeth Gymraeg, a datblygu cysylltiadau â phartneriaethau allanol.

 

Rhoddwyd sylw i'r sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor fel a ganlyn:-

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch darparu profiadau dysgu 'y tu allan i'r dosbarth' a 'byd go iawn', hysbyswyd y Pwyllgor mai'r nod oedd darparu cyfleoedd i gymryd rhan mewn penderfyniadau yn y byd go iawn o fewn cymdeithas fel modd o ddatblygu meddwl annibynnol a rhoi llais a hyder i ddysgwyr mewn sefyllfaoedd o'r fath. Yn unol â hynny, roedd prosiect wedi'i dreialu yn Ysgol Dyffryn Aman i gyflwyno cyfleoedd dysgu byd go iawn i'r cwricwlwm.

 

Cafwyd trafodaeth mewn perthynas â'r cynnydd sylweddol mewn costau cludiant ac roedd hyn yn cael ei weld fel rhwystr wrth ddarparu profiadau i ddisgyblion.  Yn unol â hynny, er mwyn cefnogi'r ddarpariaeth dysgu hybrid yn y dyfodol, cyflwynwyd awgrym i archwilio cyfleoedd ymhellach gyda sefydliad nid er elw Dolen Teifi a oedd yn ceisio darparu cludiant fforddiadwy a hygyrch i unigolion, sefydliadau a grwpiau yn siroedd Caerfyrddin a Cheredigion. 

 

Cyfeiriwyd at y diffyg trafnidiaeth gyhoeddus a oedd yn ei gwneud yn anodd i ddisgyblion fynychu lleoliad addysg o'u dewis.  Er nad oedd polisi cludiant ysgolion ôl-16 yr Awdurdod yn seiliedig ar ofyniad statudol, mynegwyd y gallai polisi integredig, trwy gydweithio rhwng ysgolion a cholegau, fod o fudd i ddysgwyr ôl-16 ledled y sir, ac yn enwedig y rheiny mewn ardaloedd gwledig.  Rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor bod sylwadau wedi'u gwneud i lobïo Llywodraeth Cymru am well trafnidiaeth gyhoeddus.

 

Croesawodd y Pwyllgor yr ymdrechion parhaus i wella'r cynnig ôl-16 mewn ysgolion, yn enwedig yng ngoleuni ymchwil a oedd yn dynodi y byddai'n well gan dros hanner y myfyrwyr coleg gael lleoliad chweched dosbarth mewn ysgol, pe bai'r pwnc y maent yn dymuno ei astudio ar gael iddynt.

 

Cyfeiriwyd at y ddarpariaeth ddysgu ôl-16 gyfyngedig sydd mewn ysgolion prif ffrwd ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).  Er nad oedd y model cyllido presennol o reidrwydd yn cefnogi'r ddarpariaeth hon, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod ysgolion yn ymdrechu i fodloni'r galw, fel sy'n amlwg mewn nifer o achosion llwyddiannus diweddar.  Ymhellach, nodwyd bod adolygiad o'r ddarpariaeth ADY yn parhau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r diweddariad ar y ddarpariaeth ôl-16 yn Sir Gaerfyrddin.

7.

DYSGU I OEDOLION YN Y GYMUNED pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar Ddysgu Oedolion yn y Gymuned a oedd yn amlinellu'r trefniadau cydweithredol rhwng gwahanol randdeiliaid yn Sir Gaerfyrddin. Roedd y bartneriaeth wedi'i strwythuro gyda Gr?p Strategol a Gr?p Gweithredol, a oedd yn cyfarwyddo gwaith partneriaid cyflawni ac yn hwyluso atgyfeiriadau a llwybrau dilyniant i ddysgwyr. Roedd y gwasanaeth yn darparu Sgiliau Hanfodol a Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yn bennaf i ddysgwyr ôl-16 cymwys ar draws sawl canolfan yn y sir. 

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y mecanweithiau cyllido ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned ac yn tynnu sylw at weithrediad llwyddiannus y Prosiect Herio, sef menter gan Lywodraeth y DU sy'n ceisio gwella sgiliau rhifedd oedolion. Daeth y prosiect â chyllid sylweddol i'r sir a rhagorodd ar ei dargedau trwy gofrestru dros 1040 o ddysgwyr.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi meysydd i'w gwella, megis cryfhau'r bartneriaeth strategol a hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg, ac roedd y ddau faes yn cael eu datblygu.  Roedd y cynlluniau i ddatblygu'r gwasanaeth yn y dyfodol yn cynnwys ehangu'r ddarpariaeth i gyrraedd mwy o oedolion yn y gymuned, yn enwedig grwpiau anodd eu cyrraedd.

 

Rhoddwyd sylw i'r sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor fel a ganlyn:-

 

Mynegodd y Pwyllgor ei ddiolchgarwch am weithrediad llwyddiannus y Prosiect Herio, a oedd wedi cael effaith gadarnhaol ar y gymuned, gyda chyfleoedd dysgu hefyd yn cael eu cynnig i rieni a gwarcheidwaid disgyblion yn y categori addysg ddewisol yn y cartref.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y Prosiect Herio, hysbyswyd y Pwyllgor fod cyllid wedi'i ymestyn hyd at fis Chwefror 2025, ac wedi hynny byddai'r prosiect yn debygol o ddod i ben.  Fodd bynnag, roedd trafodaethau'n parhau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch y posibilrwydd o gyllid pontio am gyfnod o flwyddyn.  Adroddwyd bod gwaith yn mynd rhagddo i weithredu'r strategaeth ymadael a gwaddol ar gyfer y Prosiect Herio, gan ymgysylltu â grwpiau dysgwyr i gynnig cyfleoedd iddynt bontio i Ddysgu Oedolion yn y Gymuned. Yn hyn o beth roedd diwrnodau agored a digwyddiadau gwybodaeth yn cael eu cynnal a strwythur newydd ar gyfer Dysgu fel Teulu yn cael ei ddatblygu i barhau â'r gwaith yr oedd y Prosiect Herio wedi'i ddechrau mewn ysgolion. Anogwyd y Pwyllgor i nodi ymateb cadarnhaol hyd yn hyn, gydag amrywiaeth o wybodaeth ar gael ar y wefan mewn perthynas â llwybrau dysgu i gefnogi dysgu parhaus.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r diweddariad ar Ddysgu Oedolion yn y Gymuned.

8.

DIWEDDARIAD AR Y DDARPARIAETH CYMRAEG I OEDOLION pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar sefyllfa bresennol y ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion ar gyfer Sir Gaerfyrddin.     Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu drwy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a leolir yn Aberystwyth, ers 1 Medi 2024.  Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r amrywiaeth o gyrsiau 'Dysgu Cymraeg' a gynigir ar wahanol lefelau, o ddechreuwyr i siaradwyr profiadol, ynghyd â'r niferoedd cofrestru presennol.

 

O ystyried y wybodaeth gyfyngedig a oedd yn yr adroddiad, gwnaed cais am ddarparu adroddiad diweddaru cynhwysfawr i'r Pwyllgor yng ngwanwyn 2025 ar drosglwyddo'r ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion o Gyngor Sir Caerfyrddin i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a fyddai hefyd yn cynnwys tueddiadau o ran ffigurau cofrestru a'r cyrsiau a ddarperir.  Gofynnwyd i gynrychiolydd o'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol fod yn bresennol i annerch y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

8.1

Bod yr Atgyfeiriad oddi wrth y Pwyllgor Craffu - Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol yn cael ei dderbyn;

 

8.2

Bod adroddiad diweddaru cynhwysfawr yn cael ei roi i'r Pwyllgor yng ngwanwyn 2025 ar drosglwyddo'r ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion o Gyngor Sir Caerfyrddin i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

 

9.

DIWEDDARIAD AR GAMAU GWEITHREDU Y PWYLLGOR CRAFFU pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â cheisiadau neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu - Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg.

 

Rhoddwyd sylw i'r sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor fel a ganlyn:-

 

EYP&WL24/25-04 – mewn diweddariad i'r Pwyllgor, cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg fod y mater wedi'i godi'n rheolaidd yng nghyfarfodydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gyfleu pryderon Awdurdodau Lleol i Ysgrifennydd y Cabinet mewn perthynas â'r ffaith nad yw'r mesur amddifadedd ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim yn addas i'r diben.  Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fod yr Awdurdod yn parhau yn ei ymdrechion i godi ymwybyddiaeth o'r buddion sydd i deuluoedd o wneud cais am statws Prydau Ysgol am Ddim.  Nododd y Pwyllgor yr effaith andwyol ar gyllidebau ysgolion o ganlyniad i'r gostyngiad yn nifer y teuluoedd sy'n gwneud cais am statws prydau ysgol am ddim ar ôl i brydau ysgol am ddim gael eu cyflwyno ar draws ysgolion cynradd, ac roedd yn cydnabod yr anawsterau posibl wrth nodi teuluoedd cymwys a allai fod angen cymorth i wneud cais.

 

EYP&WL24/25-01 – dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg y byddai rhagor o wybodaeth ar gael mewn perthynas â'r cyllid grant arloesi gwledig ar ôl ystyried y gyllideb ddrafft ar gyfer 2025/26.

 

EYP&WL22/23-27 – Nodwyd y byddai diweddariad ar gynnydd yn cael ei gylchredeg i'r Pwyllgor mewn perthynas â chyflwyno sesiynau rhagflas posibl, neu brofiad yn y gweithle fel Cynorthwywyr Addysgu er mwyn i fyfyrwyr prifysgol gael dealltwriaeth bellach o ofynion y rôl addysgu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

10.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 82 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 21 Ionawr 2025. 

 

Wrth adolygu Blaengynllun Gwaith y Pwyllgor ar gyfer 2024/25 a atodwyd i'r adroddiad, gwnaed cais am wybodaeth yn ymwneud â llesiant staff yn yr adran addysg ac mewn ysgolion.  Dywedodd y Cadeirydd y byddai modd ymgorffori gwybodaeth o'r fath yn y sesiwn ddatblygu ar Wasanaethau Cymorth Ymddygiadol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 21 Ionawr 2025.

11.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 15 HYDREF 2024 pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2024 yn gofnod cywir.