Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg - Dydd Llun, 9fed Hydref, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

 

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

B. W. Jones

Eitem 5: Adolygiad Derbyn Disgyblion i Ysgolion Cynradd (Plant sy'n Codi'n 4 Oed)

 

Llywodraethwr Awdurdod Lleol yn Ysgol Feithrin Rhydaman

B. W. Jones

Eitem 6: Cyllidebau Ysgolion

Mae ei mab yn bennaeth ysgol yn Sir Gaerfyrddin.  Mae'r Cynghorydd Jones wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau sy'n caniatáu iddi siarad a chyflwyno sylwadau yn unig.

 

S. L. Rees

Eitem 4 - Arolygiad Estyn o Wasanaethau Addysg Llywodraeth Leol Sir Gaerfyrddin

 

Llywodraethwr Awdurdod Lleol yn Ysgol Penrhos

H. Jones*

Eitem 5: Adolygiad Derbyn Disgyblion i Ysgolion Cynradd (Plant sy'n Codi'n 4 Oed)

 

Mae ei fab yn mynychu un o'r ysgolion lle mae'r polisi Plant sy'n Codi'n 4 Oed ar waith.

*Gwnaed y datganiad ar ddechrau eitem 5.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

AROLYGIAD ESTYN O WASANAETHAU ADDYSG LLYWODRAETH LEOL SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 176 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorydd S. L. Rees wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r mater gael ei drafod ond ni phleidleisiodd yn ei gylch].

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried canlyniad arolygiad Estyn o Wasanaethau Addysg Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2023 yn unol â'r fframwaith Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol.

 

Roedd yr arolygiad yn rhoi sylw i 3 phrif faes yn ymwneud â deilliannau, gwasanaethau addysg ac arwain a rheoli. Daeth yr arolygiad i'r casgliad bod gwasanaethau addysg Sir Gaerfyrddin yn cael eu harwain yn gadarn gan uwch swyddogion ac aelodau etholedig, a oedd yn rhannu gweledigaeth glir ar gyfer addysg yn yr awdurdod.

Nododd yr arolygiad berthnasoedd gweithio cynhyrchiol gydag ysgolion a darparwyr eraill, a bod prosesau gwella ysgolion gwerthfawr a bwriadus ar waith.

 

At ei gilydd, ystyriwyd bod trefniadau moderneiddio ac ad-drefnu ysgolion yr Awdurdod yn gadarn, a bod darpariaeth addas ar waith i ddiwallu anghenion disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Cyfeiriwyd hefyd at y gwaith diweddar a wnaed gan wasanaethau addysg i fireinio eu darpariaeth i gefnogi a gwella ymddygiad mewn ysgolion, a braf oedd nodi bod canlyniadau cadarnhaol eisoes wedi dod i'r amlwg yn hyn o beth.

 

Nododd yr adroddiad fod deilliannau arolygiadau o ysgolion Sir Gaerfyrddin yn amrywio dros amser, er yn fwy diweddar, ers i Arolygiadau Estyn ailddechrau yn 2022, bod y gyfran sydd angen gweithgarwch dilynol gan Estyn wedi lleihau.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y meysydd i’w gwella a oedd wedi arwain at gyfanswm o 3 argymhelliad mewn perthynas â gwella presenoldeb disgyblion yn ysgolion yr Awdurdod, cryfhau prosesau gwella ysgolion, yn enwedig ar gyfer ysgolion uwchradd, a mireinio ymagweddau at hunanwerthuso a chynllunio gwelliant.

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg ei werthfawrogiad am ymdrechion rhagorol pawb a oedd yn gysylltiedig â hyn i sicrhau bod yr addysg orau posibl yn parhau i gael ei darparu i blant a phobl ifanc.

 

Rhoddwyd sylw i nifer o sylwadau ac ymholiadau, fel a ganlyn:

 

Croesawodd y Pwyllgor y farn gadarnhaol a nodwyd yn yr adroddiad a chanmolodd yr adran gwasanaethau addysg, ysgolion a disgyblion fel ei gilydd am yr adroddiad eithriadol, a oedd yn rhoi ffocws clir i'r Awdurdod yn y dyfodol wrth ddarparu gwasanaethau addysgol ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

 

Wrth ystyried y meysydd i'w gwella a nodwyd yn yr adroddiad, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am y cynnydd a wnaed mewn ymateb i bob argymhelliad ac fe'i sicrhawyd wrth nodi bod gwaith eisoes wedi dechrau i roi sylw i agweddau ar yr argymhellion cyn yr arolygiad gan eu bod eisoes wedi'u nodi drwy brosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant yr Awdurdod.  Cydnabu'r Pwyllgor yr ymrwymiad clir i wella presenoldeb disgyblion yn yr Awdurdod, ac roedd cynnydd eisoes wedi'i gyflawni mewn llawer o ysgolion.  Awgrymwyd y gellid rhoi cymorth i'r gwasanaeth addysg fynd i'r afael â'r mater cenedlaethol hwn drwy ddull partneriaeth sy'n cynnwys rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys aelodau'r Pwyllgor, rhieni, llywodraethwyr, athrawon, disgyblion a mewnbwn gan Lywodraeth Cymru i adolygu'r data sydd ar gael  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

ADOLYGIAD DERBYNIADAU YSGOLION CYNRADD (CODI'N 4 OED) pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorwyr B. W. Jones a H. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac wedi aros yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ynghylch yr eitem hon a'r bleidlais ddilynol].

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn adolygu trefniadau'r Awdurdod ar gyfer derbyn disgyblion i ysgolion cynradd. Roedd yr adroddiad wedi'i baratoi mewn ymateb i'r argymhellion a oedd yn deillio o'r Adolygiad Gorchwyl a Gorffen o'r ddarpariaeth bresennol ar gyfer addysg blynyddoedd cynnar, gofal plant a chyfleoedd chwarae a gynhaliwyd gan y Pwyllgor yn 2018/19.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o'r trefniadau presennol ar gyfer derbyniadau meithrin ac amser llawn i ysgolion cynradd yn Sir Gaerfyrddin, ynghyd â chymhariaeth o'r trefniadau derbyn amser llawn a rhan-amser â phob Awdurdod Lleol arall yng Nghymru yn seiliedig ar ymchwil. Yn hyn o beth, cadarnhawyd mai Sir Gaerfyrddin oedd yr unig Awdurdod yng Nghymru â pholisi 'plant sy'n codi'n 4 oed'.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r heriau sy'n cael eu hwynebu o ran lle a chapasiti ysgolion, anghysondeb ag Awdurdodau eraill, darpariaeth meithrin a blynyddoedd cynnar, cyllid a'r broses dderbyn ei hun.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried goblygiadau posibl unrhyw newidiadau i'r trefniadau presennol o ran canfyddiad rhieni, darpariaeth deg, ailddosbarthu cyllid a gofynion ymgynghori. Wrth roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am amserlenni, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant mai dyddiad gweithredu unrhyw newidiadau i drefniadau derbyn amser llawn dysgwyr fyddai mis Medi 2025, ac y byddai gwaith ymgynghori yn dechrau yn y dyfodol agos.  

 

Rhoddwyd sylw i nifer o sylwadau ac ymholiadau, fel a ganlyn:

 

Dywedwyd bod derbyn disgyblion bob tymor yn creu heriau i wasanaethau addysg o ran prosesau gweinyddu ac y gallai hefyd roi pwysau sylweddol ar ysgolion o ran trefnu ystafelloedd dosbarth.  Yn hyn o beth, awgrymwyd y gallai dyddiad dechrau penodol ym mis Medi fod yn ffordd briodol ymlaen, yn dibynnu ar ganlyniad yr ymarfer mapio a oedd ar waith ar hyn o bryd, yn ogystal â ffactorau eraill sy'n gysylltiedig â datblygu'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

 

Cydnabu'r Pwyllgor fod y gwahaniaeth sy'n cael ei greu yn sgil y trefniant blynyddoedd cynnar/meithrin economi gymysg yn cael ei ystyried yn annheg gan Gyrff Llywodraethu a chymunedau, yn enwedig oherwydd yr effaith andwyol ar ardaloedd gwledig.   Yn unol â hynny, dywedwyd y byddai dull cyson yn sicrhau darpariaeth deg. Rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor bod yr ymarfer mapio i nodi'r ddarpariaeth bresennol a gofynion pob ardal yn y dyfodol ar fin cael ei gwblhau.

 

Pwysleisiwyd cyfraniad pwysig darpariaeth addysg y blynyddoedd cynnar i'r Pwyllgor.  Yn hyn o beth, cydnabu'r Pwyllgor gymhlethdodau'r gwahanol ffactorau a'r goblygiadau sy'n ymwneud â'r adolygiad. Mewn ymateb i sylw y dylid defnyddio dull cyson, sef y dylai pob plentyn 3 oed yn y sir fod yn gymwys i gael addysg ran-amser yn ei ardal leol, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod y ddarpariaeth yn cael ei chynnig drwy drefniant blynyddoedd cynnar/meithrin economi gymysg ar hyn o bryd ac na ellid gwarantu gwneud yr holl ysgolion yn rhai  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYLLIDEBAU YSGOLION pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorydd B. W. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r mater gael ei drafod ond ni phleidleisiodd yn ei gylch].

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad cyllidebau ysgolion a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa'r Awdurdod ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ar 31 Mawrth 2023 ar gyfer ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig yn Sir Gaerfyrddin.  Darparwyd ffigurau cymaradwy hefyd ar gyfer 2020/21 a 2021/22. 

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:-

 

Cydnabu'r Pwyllgor fod cyllid grant ychwanegol sylweddol wedi bod ar gael i ysgolion gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig coronafeirws, a oedd wedi cael effaith gadarnhaol ar nifer o gyllidebau ysgolion ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd y Pennaeth Mynediad i Addysg nad oedd unrhyw achosion o Goncrit Awyredig Awtoclafiedig Cydnerth (RAAC) wedi'u nodi mewn ysgolion hyd yn hyn a bod arolygon ysgolion yn parhau yn hyn o beth.

 

Holwyd a oedd rhaglen gyfalaf yr Awdurdod yn gyraeddadwy i gyflawni'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yng ngoleuni'r penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth Cymru i dynnu'r model buddsoddi cydfuddiannol yn ôl o ran Band B ar gyfer Awdurdodau Lleol.  Eglurodd y Pennaeth Mynediad i Addysg y byddai rhaglen gyllido dreigl 3, 6 a 9 mlynedd yn cael ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2024 a fyddai'n gofyn am raglen gyfalaf ddiwygiedig yn seiliedig ar flaenoriaethau cyfredol a gallu'r Awdurdod i roi arian cyfatebol ar gyfer cyfalaf ar gyfradd ymyrryd o 65% ar gyfer prif ffrwd a chyfradd ymyrryd o 75% ar gyfer darpariaeth ADY ac ysgolion arbennig.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am y prif bwysau ariannol y mae ysgolion yn eu hwynebu, a oedd, ar y cyfan, i'w priodoli i gostau staffio.  Cydnabuwyd hefyd fod cyllidebau ysgolion yn cael eu pennu yn unol â'r fformiwla ariannu gyffredinol ar gyfer ysgolion ac yn seiliedig ar nifer y disgyblion.  Dywedwyd bod y mater diffygion ariannol ysgolion wedi'i waethygu ymhellach gan gostau cynnal a chadw adeiladau, lle nad oedd y ddarpariaeth gyllidebol bresennol yn ddigonol i dalu costau atgyweirio. Yn unol â hynny, eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod y diffygion cronnol yn y blynyddoedd i ddod yn parhau i beri pryder a risg sylweddol i'r Awdurdod y byddai angen eu hystyried fel rhan o'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

 

Cafodd y Pwyllgor grynodeb o'r dulliau cymorth parhaus a gynigir i ysgolion, a oedd yn cynnwys 'Panel Adolygu Newid' lle cafodd syniadau ar gyfer arbedion eu harchwilio gyda chynrychiolwyr o wasanaethau addysg, Adnoddau Dynol a Chyllid.

 

Mewn ymateb i ymholiad, rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant sicrwydd i'r Pwyllgor, o ganlyniad i'r dulliau cymorth a ddarparwyd gan yr Awdurdod, fod gan ysgolion bellach ymwybyddiaeth well o ofynion cynllunio cyllideb a gwariant. Fodd bynnag, roedd mesurau ymyrraeth arbennig ar gael i'r Awdurdod, os oedd angen, drwy rybudd ffurfiol a fyddai'n cael ei roi gan y Swyddog Adran 151 a'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant.

 

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

GRWPIAU FFOCWS STRATEGOL pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn crynhoi cyflawni amcanion busnes y Gwasanaeth Addysg drwy gyfres o Grwpiau Ffocws Strategol cydweithredol. Roedd yr adroddiad yn darparu crynodeb o'r 8 Gr?p Ffocws Strategol a oedd yn cyd-fynd â phob un o'r meysydd blaenoriaeth adrannol ac yn manylu ar gylch gwaith, aelodaeth, trefniadau cyfarfodydd a dulliau adrodd ar gyfer pob gr?p.

 

Byddai diweddariadau cynnydd yn cael eu darparu lle byddai'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar un flaenoriaeth ym mhob chwarter o'r flwyddyn, gan adolygu'r amcanion a chynnig diweddariadau/newidiadau yn ôl yr angen.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

7.1 Nodi'r adroddiad;

 

7.2 Bod adroddiadau cynnydd mewn perthynas ag argymhellion Arolygiad Estyn yn cael eu darparu i'r Pwyllgor yn y lle cyntaf ac yna diweddariad mewn perthynas â'r Gr?p Ffocws Strategol Cymunedau Cynaliadwy.

 

8.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 70 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad(au) craffu canlynol:

 

  • Y wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad Estyn o'r Ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion.
  • Strategaeth Gwasanaethau Cymdeithasol 10 Mlynedd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.

 

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 82 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 1  Rhagfyr 2023.  Wrth gywiro'r adroddiad, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant y byddai'r eitem sy'n ymwneud â darpariaeth y gwasanaeth cerdd i ysgolion yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth, er eglurwyd bod y gwasanaeth yn aros yn fewnol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 1 Rhagfyr 2023.

 

10.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 23 MEHEFIN 2023 pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2023 yn gofnod cywir.