Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg - Dydd Gwener, 23ain Mehefin, 2023 1.30 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr K.V. Broom, L. Davies ac S. Rees.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Yr Aelod

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd M. J. A. Lewis

2.             4. Cefnogi Ymddygiad

 

Mae perthynas agos yn gweithio fel Seicolegydd yn yr Adran Addysg.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

CYNNAL YMDDYGIAD pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i'r Pwyllgor a oedd yn nodi'r sefyllfa bresennol mewn perthynas â chefnogi gwell ymddygiad ar draws ysgolion y sir.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod yr adolygiad o ymddygiad a gynhaliwyd ym mhob ysgol wedi arwain at ddatblygu Model Pedwar Cam o Gymorth Ymddygiad a Llesiant Emosiynol er mwyn darparu gwasanaethau cymorth ymddygiad teg a chyson ledled y sir.  Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg fod y tîm canolog yn yr Awdurdod Lleol wedi cael ei gryfhau a bod £500k o gyllid wedi'i roi i ysgolion uwchradd i gefnogi'r gwaith o weithredu'r Model Pedwar Cam a oedd yn cynnwys gwella sgiliau ysgolion a staff i ddiwallu anghenion dysgwyr, darparu cymorth 'yn yr ysgol' i staff a dysgwyr, cymorth arbenigol o ran Anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol mewn perthynas ag Addysg Heblaw yn yr Ysgol a darparu cymorth pwrpasol i rai o'r dysgwyr mwyaf agored i niwed yn yr Awdurdod Lleol.

 

Ar hynny, cafodd y Pwyllgor gyflwyniad manwl gan Bennaeth Ysgol Gyfun Coedcae a oedd yn canolbwyntio ar y ffordd yr oedd yr ysgol wedi creu diwylliant o ddiogelu a oedd yn darparu cymorth pwrpasol ac effeithiol iawn i sicrhau llesiant disgyblion ac i ddiwallu anghenion y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol.  Daeth arolygiad diweddar gan Estyn i'r casgliad bod safon y gofal, y cymorth a'r arweiniad i ddisgyblion yn rhagorol. Cafodd y Pwyllgor drosolwg o'r data cyd-destunol ynghylch proffil disgyblion sy'n mynychu'r ysgol a chydnabu'r gydberthynas rhwng y procsi ar gyfer amddifadedd â deilliannau addysgol, absenoldeb a safonau ymddygiad.  Roedd yr ymyriadau a'r mentrau a wnaed gan yr ysgol wedi arwain at werth ychwanegol cadarnhaol lle roedd disgyblion agored i niwed wedi rhagori ar lefelau cenedlaethol disgwyliedig cynnydd, safonau a deilliannau addysgol.

 

Er gwaethaf yr amrywiaeth o fesurau ymyrraeth a roddwyd ar waith gan yr ysgol, cydnabu'r Pwyllgor effaith anfantais tlodi ar fynediad disgyblion i'r ysgol.  Yn hyn o beth, darparwyd crynodeb o'r strategaethau i wella ymddygiad a phresenoldeb i'r Pwyllgor, ynghyd ag amlinelliad o'r mesurau a chymorth yr Awdurdod Lleol a fyddai'n cynorthwyo'r ysgol yn yr ymdrechion hyn.

 

Rhoddwyd sylw i nifer o arsylwadau ac ymholiadau, fel a ganlyn:

 

·       Mewn ymateb i ymholiad, rhoddodd y Swyddog Arweiniol ar gyfer Gwasanaethau Ymddygiad ac Unedau Cyfeirio Disgyblion drosolwg o ddarpariaeth y Tîm Cymunedol Cymorth Ymddygiad a oedd wedi'i hailgynllunio'n ddiweddar i adlewyrchu'r galw cynyddol gan ysgolion am ddarparu cymorth adweithiol a rhagweithiol.

 

·       O ran Ysgol Coedcae, cyfeiriwyd at y cynnydd sylweddol yn nifer y ceisiadau a wnaed gan athrawon am gymorth ar alwad ar gyfer ymddygiad yn ystod gwersi, yn enwedig i ddisgyblion blwyddyn 11.  Esboniwyd i'r Pwyllgor fod materion ymddygiad a phresenoldeb wedi dod i'r amlwg ymhlith disgyblion blwyddyn 11 yr oedd ganddynt y pwysau a'r pryderon ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r gofyniad i wneud yn dda mewn arholiadau, yn ogystal â'r tarfu addysgol a achoswyd gan y pandemig; ac roedd hyn yn adlewyrchu'r sefyllfa yn genedlaethol.  Hefyd dywedwyd ei bod yn ymddangos nad oedd cyfradd y gwaharddiadau cyfnod penodol yn cyd-fynd â nifer yr achosion o gymorth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

LEFELAU PRESENOLDEB YSGOLION pdf eicon PDF 158 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi lefelau presenoldeb ar draws ysgolion Sir Gaerfyrddin ers 2012. Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg at effaith andwyol sylweddol y pandemig coronafeirws ar bresenoldeb ysgolion, gan nodi bod ysgolion wedi cael anhawster i ailymgysylltu â dysgwyr a theuluoedd.  Dywedwyd bod presenoldeb ar draws ysgolion Sir Gaerfyrddin yn parhau i fod yn is na'r lefelau cyn y pandemig, ac mai salwch oedd y rheswm dros y rhan fwyaf o'r absenoldebau, er y nodwyd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi ailddechrau cyhoeddi data a mesur perfformiad yn llawn eto yn dilyn y pandemig coronafeirws.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi cymorth yr Awdurdod Lleol a roddir i ysgolion i wella a chynnal presenoldeb da disgyblion drwy waith ymgynghorol a gweithredol, a chafodd ei ategu gan ddata ystadegol i ddangos effaith ymyriadau o'r fath.

 

Rhoddwyd sylw i nifer o arsylwadau ac ymholiadau, fel a ganlyn:

 

·       Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd Rheolwr y Tîm Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion i'r Pwyllgor fod 'Ymgyrch Cwmpasu' yn fenter partneriaeth rhwng yr Awdurdod Lleol a'r Heddlu i roi gwybod i ysgolion am ddigwyddiadau trais domestig mewn achosion lle roedd disgyblion yn gysylltiedig â'r cyfeiriad hwnnw. Y nod oedd sicrhau bod cymorth emosiynol a/neu ymarferol yn cael ei ddarparu yn yr ysgol i'r disgyblion yr effeithiwyd arnynt, yn ôl yr angen. Eglurwyd ymhellach fod 'Ymgyrch Cwmpasu' yn fenter partneriaeth rhwng yr Awdurdod Lleol a'r Heddlu i ddiogelu plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o niwed rhag mynd ar goll.

 

·       Dywedwyd bod rhai disgyblion wedi ffynnu yn academaidd drwy'r dysgu ar-lein a ddarparwyd yn ystod y pandemig coronafeirws oherwydd yr hyblygrwydd a gynigiwyd. Yn unol â hynny, cafodd rhai disgyblion anawsterau wrth ailgydio yn y drefn ddyddiol a ddisgwylir mewn lleoliadau ysgol traddodiadol.   Cadarnhaodd y Swyddog Arweiniol ar gyfer Gwasanaethau Ymddygiad ac Unedau Cyfeirio Disgyblion fod heriau'r blynyddoedd diweddar wedi arwain at ddatblygu amrywiaeth o gynigion amgen i gynnwys o'r newydd y rhai a gafodd anawsterau o'r fath, gan gynnwys cynlluniau addysgol pwrpasol ar gyfer y rhai sy'n cael Addysg Heblaw yn yr Ysgol ac ymyriadau megis gwasanaethau cymorth bugeiliol i'r rhai mewn addysg brif ffrwd.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad am yr amcanestyniad tymor hwy ar gyfer lefelau presenoldeb, cyfeiriodd y Swyddog Arweiniol ar gyfer Gwasanaethau Ymddygiad ac Unedau Cyfeirio Disgyblion at brosiect EBSA (osgoi'r ysgol ar sail emosiwn) sydd newydd gael ei dreialu gyda'r nod o nodi rhesymau dros ymddieithrio er mwyn darparu strategaethau a chymorth i gynorthwyo disgyblion i ddychwelyd i amgylchedd yr ysgol neu nodi pecyn cymorth priodol i'r rhai nad ydynt yn gallu cymryd rhan mewn addysg brif ffrwd.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y gydberthynas rhwng rhieni/gwarcheidwaid yn gweithio gartref ac absenoldeb, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant at dystiolaeth anecdotaidd o broblemau yn ymwneud â phresenoldeb yn yr ysgol mewn achosion lle roedd rhieni/gwarcheidwaid yn gweithio gartref.  Amlygodd Aelod bwysigrwydd ymchwilio i'r maes hwn.

 

·       Amlygwyd pwysigrwydd rôl Swyddogion Presenoldeb a Llesiant gan aelod o ran pwysleisio effaith absenoldeb i rieni a gwarcheidwaid.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUNIO STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG - ADRODDIAD BLYNYDDOL pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg i'w ystyried a oedd yn manylu ar y cynnydd a wnaed yn ystod blwyddyn academaidd 2022/23 wrth weithredu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 10 mlynedd (2022-2032) yr Awdurdod.

 

Roedd yr adroddiad wedi'i baratoi yn unol â'r darpariaethau deddfwriaethol sydd wedi'u hymgorffori yn Adran 84 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod weithredu a monitro Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg i gynyddu addysg ddwyieithog mewn ysgolion ledled y sir.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cynllun gweithredu a atodwyd i'r adroddiad a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r 7 canlyniad a nodwyd yn y Cynllun i hwyluso dysgu mwy o blant meithrin a derbyn trwy gyfrwng y Gymraeg;  mwy o bobl ifanc yn astudio ar gyfer cymwysterau yn y Gymraeg (fel pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg; cynnydd yn y ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol; a chynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu'r Gymraeg (fel pwnc) ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Cyflwynwyd crynodeb o'r gwaith parhaus i drosglwyddo ysgolion i system categoreiddio ieithyddol newydd Llywodraeth Cymru yn yr adroddiad hefyd, ynghyd â throsolwg o'r sefyllfa bresennol o ran Tîm Datblygu'r Gymraeg, Safonau, gweithio mewn partneriaeth, cyllid grant a datblygiadau yn y dyfodol.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:-

 

·       Cyfeiriwyd at Gyfrifiad 2021 gan fynegi pryderon ynghylch nifer isel yr athrawon sy'n gallu cyflwyno dosbarthiadau drwy gyfrwng y Gymraeg.  Yn unol â hynny, cafwyd ymholiadau ynghylch y mentrau a weithredwyd i gyflawni'r amcan o gynyddu nifer y staff addysgu sy'n gallu addysgu'r Gymraeg fel pwnc ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, a rôl asiantaethau allanol yn hyn o beth.  Cyfeiriodd y Pennaeth Strategaeth a Chymorth i Ddysgwyr at yr anawsterau cenedlaethol parhaus i recriwtio ymgeiswyr i swyddi addysgu yn gyffredinol a'r angen i hyrwyddo addysgu fel gyrfa o ddewis.  Cyfeiriwyd hefyd at y Ganolfan Genedlaethol a fyddai'n archwilio gwelliannau i'r ddarpariaeth Gymraeg i ysgolion yn unol â chyflwyno Bil Addysg y Gymraeg sydd ar ddod.   Dywedwyd bod rhaglen gymorth hefyd ar waith i athrawon ddysgu, gwella neu wella eu hyder yn y maes hwn.  Cyfeiriodd Rheolwr Datblygu'r Gymraeg hefyd at yr amrywiaeth o lefelau hyfforddi a hyblygrwydd o ran cyrsiau i hwyluso mynediad at ddysgu i athrawon, a fyddai'n cael ei wella ymhellach yn y dyfodol yn dilyn darparu cyllid grant gan Lywodraeth Cymru.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad, cydnabuwyd yr heriau recriwtio ar gyfer y ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion gan y Pennaeth Strategaeth a Chymorth i Ddysgwyr a rhoddwyd sicrwydd bod gwaith yn mynd rhagddo i hyrwyddo a llenwi'r rolau hyn i ateb y galw am ddosbarthiadau Cymraeg yn y cymunedau.  Yn hyn o beth, cadarnhawyd y byddai adroddiad ar y ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn unol â'i Flaengynllun Gwaith ar gyfer 2023/24.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch lefel y sgiliau Cymraeg sydd eu hangen ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG, POBL IFANC A'R GYMRAEG 2022/23 pdf eicon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg a oedd yn rhoi manylion am y gwaith a gyflawnwyd gan y Pwyllgor yn ystod blwyddyn y cyngor 2022/23. Roedd yr adroddiad wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor ac roedd yn rhoi trosolwg o'r rhaglen waith a'r materion allweddol dan sylw, gan gynnwys hefyd unrhyw faterion a gyfeiriwyd at neu gan y Cabinet, adolygiadau Gorchwyl a Gorffen, sesiynau datblygu a phresenoldeb aelodau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad.

 

8.

DIWEDDARIAD AR GAMAU GWEITHREDU Y PWYLLGOR CRAFFU pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â cheisiadau neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg yn ystod blwyddyn y cyngor 2022/23.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

9.

BLAENGYNLLUN GWAITH Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG, POBL IFANC A'R GYMRAEG AR GYFER 2023/24 pdf eicon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn adolygu ei Flaengynllun Gwaith drafft ar gyfer 2023/24, a ddatblygwyd yn dilyn sesiwn cynllunio anffurfiol y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 11 Mai 2023.  Pwysleisiwyd bod y Blaengynllun Gwaith yn ddogfen hyblyg y gellid ei diweddaru trwy gydol y flwyddyn yn ôl y gofyn.

 

CYTUNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Blaengynllun Gwaith y Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg ar gyfer 2023/24.

10.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 82 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adolygodd y Pwyllgor y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn ei gyfarfod nesaf i'w gynnal ar 9 Hydref 2023, a oedd wedi deillio o Flaengynllun Gwaith y Pwyllgor am 2023/24.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg.

11.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 5 MAI 2023 pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn amodol ar newid teipograffyddol ar y rhestr o'r sawl oedd yn bresennol ar fersiwn Cymraeg y cofnodion mewn perthynas â'r Cynghorydd G. John, PENDERFYNWYD bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 5 Mai 2023 yn cael eu llofnodi gan eu bod yn gywir.