Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg - Dydd Gwener, 5ed Mai, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224 088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig.

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

POLISI AR DDYFARNU GRANTIAU A'R IAITH GYMRAEG pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Polisi'r Cyngor ynghylch Dyfarnu Grantiau a'r Gymraeg sydd wedi'i baratoi er mwyn cydymffurfio â darpariaethau Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Roedd y Polisi yn darparu dull cyson o ymdrin â'r Gymraeg ar draws grantiau amrywiol y Cyngor, gan sicrhau cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg wrth ddyrannu grantiau a chan sicrhau bod gweithwyr y Cyngor yn gallu cynorthwyo cyrff trydydd parti i hyrwyddo'r Gymraeg yn effeithiol wrth gyflawni eu gweithrediadau.  Yn hyn o beth, nodwyd bod y Polisi yn cyd-fynd â Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg y Cyngor 2023-28 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:-

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch cymeradwyo'r Polisi a'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer dyfarnu grantiau, eglurodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth y byddai'r ddogfen, yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet, yn rhan ganolog o'r broses dyrannu grantiau ar draws holl adrannau'r Cyngor.  At hynny, byddai cymorth canolog yn cael ei ddarparu i'r adrannau perthnasol drwy gydol cyfnod gweithredol y grantiau a byddai'n galluogi mesur effaith y Polisi ar y Gymraeg. 

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth sicrwydd i'r Pwyllgor y byddai cefnogaeth a chymorth pwrpasol yn cael eu rhoi i ymgeiswyr yn ystod cam ymholiadau'r broses ymgeisio i sicrhau na fyddai Mentrau Bach a Chanolig (BBaChau) dan anfantais.  Yn hyn o beth, cydnabuwyd y byddai disgwyliadau'r Cyngor yn amrywio yn ôl y math o sefydliad, y gweithgaredd a'r swm o arian grant sy'n cael ei ddyfarnu.

 

Mewn ymateb i awgrym bod ceisiadau grant blaenorol yn cael eu hadolygu i sicrhau na fyddai busnesau bach a chanolig yn cael eu heithrio o'r broses, eglurodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth y byddai'r cynnig rhagweithiol o gymorth yn ychwanegu gwerth at weithgaredd y sefydliad perthnasol yn ei gyfanrwydd a'i nod oedd darparu dull datblygiadol i alluogi sefydliadau, drwy ddylanwad y Cyngor, i ddefnyddio'r Gymraeg a sicrhau ei hyfywedd.

 

Canmolodd y Polisi gan Aelodau'r Pwyllgor fel modd o nodi disgwyliadau'r Cyngor yn glir o fewn y broses dyfarnu grantiau i sicrhau effaith gadarnhaol ar weithgareddau cyrff trydydd parti ar y Gymraeg.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi ar Ddyfarnu Grantiau a'r Gymraeg a'i gyfeirio at y Cabinet i'w ystyried.

5.

DIWEDDARIAD AR ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad i'w ystyried ar gynnydd ar weithredu'r darpariaethau sydd wedi'u hymgorffori yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a oedd yn ceisio trawsnewid disgwyliadau, profiadau a chanlyniadau plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

 

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad a oedd yn manylu ar gynnydd y newid o Ddatganiadau Anghenion Addysg Arbennig (AAA) i Gynlluniau Datblygu Unigol (CDU) ar gyfer disgyblion ag ADY.  Dywedwyd y byddai'r broses weithredu'n cael ei gwneud yn raddol hyd at fis Awst 2025 ac y byddai'n arwain at dri chanlyniad categoreiddio posibl i blant a phobl ifanc. Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i'r adborth ar lefel llwyddiant y trawsnewid i'r system ADY newydd, a oedd yn cynnwys trosolwg o'r meysydd sy'n gweithio'n dda a'r rhai y mae angen mynd i'r afael â nhw o ran rôl Swyddogion ADY a Chydgysylltwyr, Blynyddoedd Cynnar ac Ôl-16 ar gyfer plant a phobl ifanc ag ADY, hyfforddiant a chefnogaeth, a hefyd y gwaith partneriaeth parhaus gyda gweithwyr iechyd proffesiynol.  Adolygodd y Pwyllgor y data ystadegol ar ddisgyblion ag ADY mewn ysgolion prif ffrwd a'r rhai sydd angen cymorth lleoliad arbenigol lle cydnabuwyd bod cynnydd sylweddol wedi bod yn y galw am ddarpariaeth Anhwylder Sbectrwm Awtistig (ASD) ers mis Medi 2021.

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:-

 

Mewn ymateb i ymholiad, esboniwyd y broses a'r meini prawf ar gyfer trosglwyddo Datganiadau AAA i Gynlluniau Datblygu Unigol ADY i'r Aelodau. Yn hyn o beth, cadarnhawyd y byddai pob disgybl sydd â Datganiadau AAA presennol yn cael eu hystyried ar gyfer CDU, ac y byddai disgyblion newydd yn mynd ymlaen yn uniongyrchol i'r broses CDU ADY. Ar ben hynny, roedd deddfwriaeth yn rhagnodi bod disgwyl i'r broses drosglwyddo o Ddatganiadau i Gynlluniau Datblygu Unigol gael ei chwblhau o fewn cyfnod o 12 wythnos gan ddefnyddio dull 'sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn' a chasglu gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau / rhanddeiliaid priodol. Ystyriwyd bod yr amserlen hon yn hydrin ar y cyfan, ac yn welliant ar y system AAA, er y cydnabuwyd y gellir bod oedi wrth aros am wybodaeth allweddol am ddysgwyr gan randdeiliaid.

 

Yn dilyn pryderon ynghylch anghysondebau posibl o ran ansawdd y Cynlluniau Datblygu Unigol, rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor bod cymorth canolog wedi'i ddarparu drwy drefniadau gweithio agos gydag ysgolion er mwyn sicrhau cysondeb o ran safon y Cynlluniau.  Ar ben hynny, er mwyn mynd i'r afael ag anghyfartaledd posibl o ran ansawdd Cynlluniau Datblygu Unigol ar draws ysgolion o wahanol feintiau, nodwyd bod rhaglen gynhwysfawr o gefnogaeth a hyfforddiant yn cael ei darparu yn unol â'r clystyrau ysgol a nodwyd.  Yn hyn o beth, canmolwyd yn fawr y cynnydd a wnaed gan gydgysylltwyr ADY wrth drosglwyddo o AAA i ADY.  Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant at arolygiadau Estyn a gwblhawyd yn ddiweddar ac adroddiad ar wahân a gadarnhaodd fod y ddarpariaeth ADY o fewn ysgolion Sir Gaerfyrddin yn rhagorol.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor mai'r syniad o Gynlluniau Datblygu Unigol oedd eu bod yn ddogfennau hyblyg a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

STRATEGAETH HYBU'R GYMRAEG 2023-28 pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg ar gyfer 2023-28 i'w hystyried, a baratowyd ar y cyd â Fforwm Strategol y Gymraeg fel rhan o gyfrifoldebau'r Cyngor drwy Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a'r Safonau Iaith ddilynol.  Roedd y strategaeth yn manylu ar sut y mae'r Cyngor yn bwriadu hyrwyddo'r Gymraeg a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ar draws y sir.

 

Nod y Strategaeth oedd ysgogi cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg, balchder a hyder yn yr iaith Gymraeg, mwy o ddefnydd o'r Gymraeg yn y gweithle ac ymhlith y gweithlu fel 'norm' a chymunedau Cymraeg ffyniannus.  Byddai cyfanswm o 9 ffrwd waith yn cael eu gweithredu fel cynllun gweithredu i gyflawni nodau'r strategaeth yn ystod ei chyfnod.  Byddai'r Strategaeth yn cael ei lansio'n ffurfiol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2023 yn Llanymddyfri.

 

Cyfeiriwyd at baragraff 6 o'r rhagair lle eglurodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg y byddai'r geiriad yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn:

 

“Ein dymuniad yn Sir Gaerfyrddin yw nid cynyddu niferoedd ac annog defnydd yn unig, ond hefyd i groesawu pobl i'r Gymraeg yn hyderus a heb ymddiheuriad.”

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:-

 

Gwnaethpwyd cais i'r gynrychiolaeth graffigol ar dudalen 57 o ddogfennaeth y cyfarfod gael ei labelu'n briodol.  Cytunwyd y dylid gwneud hynny.

 

Mynegwyd pryder yngl?n â'r diffyg dosbarthiadau Cymraeg wyneb yn wyneb sy'n cael eu cynnig mewn ardaloedd lleol er mwyn galluogi dysgwyr i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod y ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion yn gweithredu ar drefniant masnachfraint gyda Choleg Sir Gâr a bod gwaith yn cael ei wneud i wella ac ehangu'r ddarpariaeth.  Yn hyn o beth, nodwyd y byddai'r adran yn croesawu adborth a mewnbwn y Pwyllgor ar y ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion.

 

Croesawodd y Pwyllgor y strategaeth fel ffordd o gael effaith gadarnhaol ar hyfywedd y Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin a phwysleisiodd bwysigrwydd rhoi cyfle i drigolion glywed a defnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

 

PENDERFYNWYD

 

6.1

Labelu'r gynrychiolaeth graffigol ar dudalen 57 o ddogfennaeth y cyfarfod yn briodol.

 

6.2

Cymeradwyo Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg ar gyfer 2023-28 a'i chyfeirio at y Cabinet i'w hystyried.

 

7.

GWERTHUSIAD O AROLYGIADAU ESTYN AR DRAWS YSGOLION SIR GAERFYRDDIN, UNEDAU CYFEIRIO DISGYBLION A LLEOLIADAU ARBENIGOL pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad oedd yn rhoi trosolwg o ganlyniadau arolygu Estyn yn y sir dros y pum mlynedd diwethaf.  Daeth yr adroddiad i'r casgliad fod safonau ac arweinyddiaeth yn cael eu barnu'n dda neu'n well yn y mwyafrif o ysgolion, gyda lleiafrif yn unig o ysgolion yn cael eu rhoi mewn categori i'w gwella. Rhoddwyd trosolwg o'r fframwaith arolygu newydd a fabwysiadwyd gan Estyn ym mis Mawrth 2022 i'r Pwyllgor, ynghyd â chrynodeb o'r arfer cryf neu effeithiol a nodwyd gan arolygwyr Estyn i'w rannu ag eraill.

 

Adolygodd y Pwyllgor yr argymhellion gwella ysgolion a ddarparwyd gan Estyn ers mis Mawrth 2022 a rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor fod holl ganlyniadau Estyn wedi dylanwadu ar strategaethau gwella'r adran ar gyfer ysgolion, ffyrdd o weithio a'r rhaglen cymorth Dysgu Proffesiynol.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:-

 

Mynegwyd pryder ynghylch Rhaglen Arolygu Estyn yng ngoleuni'r newid i'r cwricwlwm newydd, ynghyd â'r effaith andwyol ar ddatblygiad dysgwyr o ganlyniad i bandemig y coronafeirws.  Eglurodd yr Arweinydd Strategol ar gyfer Effeithiolrwydd Ysgolion fod y newid mewn ffocws o ganlyniadau dysgwyr i'r cynnydd a wnaed gan ddysgwyr yn galluogi Estyn, ysgolion a'r Awdurdod i gymryd golwg gyfannol ar ddysgwyr, er mwyn diwallu anghenion dysgwyr unigol yn well.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

8.

DIWEDDARIAD AR GAMAU GWEITHREDU Y PWYLLGOR CRAFFU pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â cheisiadau neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol yn ystod blwyddyn y cyngor 2022/23.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

9.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 24 MAWRTH 2023 pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn amodol ar gynnwys presenoldeb aelodau cyfetholedig perthnasol, PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2023 fel cofnod cywir.