Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd M.J.A. Lewis.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig.

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

TRAWSFFURFIO, ARLOESEDD A NEWID (TAN), GAN GYNNWYS CYLLIDEBAU YSGOLION pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o'r Rhaglen Trawsnewid Ysgolion a gyflwynwyd yn 2017 i gynorthwyo ysgolion i wynebu heriau ariannol sylweddol.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y rhaglen yn ceisio defnyddio egwyddorion trawsnewid craidd yr Awdurdod o weithio ar y cyd a herio arferion presennol i helpu ysgolion i fanteisio ar gyfleoedd i arbed costau a gwelliannau i wasanaethau, drwy ddull cynaliadwy, ar draws amrywiaeth eang o weithgareddau, yn ogystal â chynnal deilliannau da i ddisgyblion.

 

Ar hynny, cafodd y Pwyllgor gyflwyniad a oedd yn nodi'r cynnydd a oedd wedi'i wneud hyd yn hyn i gyflawni'r meysydd blaenoriaeth allweddol, fel a ganlyn:

 

·   Meincnodi – cynhaliwyd ymarfer meincnodi gwariant arferol a chwricwlwm ar draws ysgolion uwchradd yn 2022/23 i rannu arferion da ymhlith ysgolion.

·   Templedi Effeithlonrwydd Ariannol– lluniwyd y templedi hyn i gefnogi trafodaethau â 9 ysgol mewn sefyllfaoedd ariannol heriol.

·   Gwasanaeth 'Tasgfan' Eiddo Ysgolion – cynllun peilot 2 flynedd wedi'i ariannu'n llawn ar waith ar draws ysgolion cynradd er mwyn gwella gwerth am arian.

·   Adolygiad o'r Gwasanaeth Cynnal a Chadw Tiroedd Ysgolion – datblygwyd manyleb Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) wedi'i ailfodelu i ddarparu mwy o hyblygrwydd i ysgolion sicrhau arbedion effeithlonrwydd drwy ddarparu dull pwrpasol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.

·   Gweithredu canfyddiadau'r Adolygiad o Gytundebau Lefel Gwasanaeth ysgolion – darparu dull gweithredu cyson â llinellau cyfathrebu clir er mwyn galluogi ysgolion i ddelio â materion.

·   Gweinyddu – Archwilio dulliau newydd, gan ddefnyddio modelau sy'n seiliedig ar glystyrau, o ran swyddogaethau cefn swyddfa a chymorth mewn ysgolion cynradd.

·   Caffael - Nodi cyfleoedd i wneud arbedion, gan gynnwys arbedion maint a dulliau o gaffael sy'n sicrhau'r gwerth gorau.

·   Cyfathrebu - ymgysylltu'n rheolaidd a rhannu arferion da rhwng ysgolion.

·   Arolygon Addasrwydd Ysgolion – lluniwyd templed newydd ac arolygon parhaus o bob ysgol i gefnogi sylfaen dystiolaeth ar gyfer Adolygiad o Gynlluniau Gwella Ysgol.

·   Polisi Plant sy'n Codi'n 4 oed - wedi'i ohirio tan 2024 wrth aros am ymchwiliad pellach i'r effaith a'r goblygiadau.

·   Modelau ariannu Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) - ymgysylltu â phenaethiaid i ddatblygu modelau ariannu newydd i gyd-fynd â Thrawsnewid ADY.

·   Adolygiad o Ddalgylchoedd Ysgolion i gael ei gynnal yn unol â'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:

 

Yn sgil y cyflwyniad ac mewn ymateb i ymholiad, eglurodd y Rheolwr Trawsnewid a Newid Ysgolion fod yr ymarfer meincnodi ar gyfer 2022/23 wedi'i gwblhau ar gyfer ysgolion uwchradd yn unig oherwydd materion logistaidd a dywedodd mai pwrpas yr ymarfer hwn oedd rhoi gwybodaeth i ysgolion i ysgogi trafodaethau a chefnogi prosesau gwneud penderfyniadau.  Cyfeiriwyd at ymarfer meincnodi blaenorol a gynhaliwyd ar draws ysgolion cynradd a oedd wedi'u rhannu yn ôl grwpiau maint.  Fodd bynnag, cydnabuwyd na fyddai grwpiau o'r fath o reidrwydd yn adlewyrchu carfanau ysgolion, yn enwedig oherwydd oedran amrywiol ystadau ysgolion, ac roedd hwn yn faes a fyddai'n cael ei ystyried yn y dyfodol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant y byddai cais yn cael ei wneud i benaethiaid ysgolion uwchradd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

ADRODDIAD INTERIM AR ADOLYGU ADDYSG ÔL 16 pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad interim i'w ystyried ynghylch yr Adolygiad o Addysg Ôl-16 a oedd wedi'i gynnal mewn ymateb i nodau'r Cynllun Busnes Addysg a Gwasanaethau Plant i greu ysgolion a gwasanaethau cryf a chynhwysol sydd wedi ymrwymo i ragoriaeth, tegwch a llesiant.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r cynnydd a wnaed i sefydlu egwyddorion cyffredinol o ran Hawliau ar gyfer Dysgu i ddatblygu'r dirwedd ôl-16 yn Sir Gaerfyrddin ac yn cynnig strwythur llywodraethu wedi'i ailfodelu yn seiliedig ar yr adborth a roddwyd gan ysgolion uwchradd ynghylch yr hyn yr oedd dysgwyr yn rhoi gwerth arno yn eu profiad a'u darpariaeth addysgol.  Yn hyn o beth, rhoddwyd crynodeb i'r Pwyllgor o'r themâu allweddol a oedd yn sail i'r egwyddorion hynny fel a ganlyn:

 

·       Perthynas, Perthyn, Llesiant ac Ethos.

·       Gwell Canllawiau Llwybrau a Sgiliau ar gyfer Annibyniaeth ac ar gyfer llwyddiant academaidd, a llwyddiant mewn gwaith a bywyd.

·       Tegwch drwy fwy o opsiynau Cymraeg.

·       Tegwch drwy ystod eang o opsiynau, yn enwedig opsiynau galwedigaethol.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, nodwyd bod y canfyddiadau yn cyd-fynd yn uniongyrchol â'r argymhellion sy'n deillio o Adolygiad Estyn o'r cwricwlwm 16-19 presennol yng Nghymru. 

 

Cyfeiriwyd hefyd at y gweithdy ymgynghori a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2023 a oedd yn rhoi cyfle i Aelodau'r Pwyllgor roi adborth ar yr adolygiad o addysg ôl-16.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:

 

Mynegwyd pryderon ynghylch y prinder cenedlaethol parhaus o ran recriwtio athrawon a allai atal yr Awdurdod rhag bodloni'r galw am opsiynau cyrsiau ychwanegol.  Cyfeiriodd y Pennaeth Strategaeth a Chymorth i Ddysgwyr at y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru o £800,000 o gyllid grant sydd ar gael ledled Cymru, drwy broses ymgeisio gystadleuol, i recriwtio a hyfforddi athrawon i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg.  Hefyd, eglurodd y Rheolwr Cwricwlwm a Rhwydweithiau Dysgu fod yr Awdurdod yn archwilio datblygu dysgu hybrid ymhellach, gan gynnwys menter 'e-sgol' i sicrhau bod amrywiaeth o bynciau yn cael eu darparu i ddysgwyr ledled Sir Gaerfyrddin.   

 

I gydnabod yr adborth a roddwyd gan ddysgwyr o ran y gwerth a roddir ar berthynas, rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor y byddai disgyblion yn cael model dysgu cymysg, a byddai pynciau craidd ar gael wyneb yn wyneb ar lefel leol, a phynciau ychwanegol yn cael eu cyflwyno ar-lein yn bennaf, gydag elfen o ddarpariaeth dysgu wyneb yn wyneb, i ddarparu profiad boddhaus i baratoi pobl ifanc ar gyfer addysg uwch, gan gynnal ymdeimlad o gymuned a pherthyn hefyd.

 

Cyfeiriwyd at adroddiad a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg a oedd yn nodi gostyngiad sylweddol yn nifer yr athrawon newydd gymhwyso sy'n gallu darparu addysg cyfrwng Cymraeg.  Amlinellodd y Pennaeth Strategaeth a Chymorth i Ddysgwyr y mesurau sydd ar gael i'r Awdurdod feithrin gallu drwy system hyfforddi gynhwysfawr i athrawon ddysgu Cymraeg neu wella'r hyder i gyflwyno gwersi drwy gyfrwng y Gymraeg. 

 

Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd ynghylch y lefel uchel o fyfyrwyr nad ydynt yn cwblhau eu Tystysgrif Addysg i Raddedigion, cymeradwyodd y Pennaeth Strategaeth a Chymorth i Ddysgwyr yr awgrym a wnaed i ymchwilio  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUNIAU DARPARU GWASANAETHAU IS-ADRANNOL DDRAFFT 2023-24 pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Cynlluniau Cyflawni Gwasanaeth Is-adrannol Drafft sy'n berthnasol i'r gyfarwyddiaeth Addysg a Gwasanaethau Plant ar gyfer 2023/24 fel a ganlyn:

 

·   Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant

·   Mynediad i Addysg

·   Strategaeth a Chymorth i Ddysgwyr

·   Gwasanaethau Plant

 

Roedd y Cynlluniau Cyflawni Gwasanaeth Is-adrannol Drafft yn pennu'r camau a'r mesurau strategol i'w gweithredu ym mhob is-adran er mwyn i'r Cyngor wneud cynnydd mewn perthynas â'i amcanion llesiant, ei flaenoriaethau thematig a blaenoriaethau'r gwasanaeth. Yn hyn o beth, cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg at y sesiwn ymgynghori a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2023 a oedd yn gyfle i'r Aelodau roi adborth ar y Strategaeth Gorfforaethol, a gymeradwywyd wedyn gan y Cyngor yn ei gyfarfod ar 01 Mawrth 2023.

 

O ran y Cynllun Cyflawni Gwasanaeth - Gwasanaethau Plant, cydnabuwyd bod yr elfennau sy'n berthnasol i'r Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg yn ymwneud â'r meysydd canlynol:

 

  • Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion

·       Seicoleg Addysg

·       Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:

 

O ystyried y cwricwlwm newydd, cafwyd ymholiad ynghylch y dulliau cymorth sydd ar waith i gynorthwyo ysgolion o ran y gofyniad i gadw cofnodion systematig i roi gwybod am gynnydd a galluogi arferion myfyriol.  Eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod mesurau rheolaidd ar waith ar gyfer y flwyddyn bresennol hyd nes i Lywodraeth Cymru ddatblygu amgylchedd data newydd.  Rhoddwyd sicrwydd bod yr Awdurdod, ynghyd â Partneriaeth, yn ymateb i'r gofynion newydd i ysgolion gefnogi a dangos tystiolaeth o ddilyniant sgiliau dysgwyr unigol yn unol â'r 6 maes dysgu a phrofiad, a byddai'r system hon yn cael ei chryfhau ymhellach a'i chyflwyno'n gyson ymhlith clystyrau ysgolion.

 

Roedd yr aelodau yn croesawu'r pwys sy'n cael ei roi ar y gwasanaeth cerdd ar gyfer Sir Gaerfyrddin a oedd yn cael ei ystyried yn wasanaeth hanfodol o ran elfen greadigol y cwricwlwm newydd.  Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod cyllid ychwanegol wedi ei dderbyn i alluogi'r Awdurdod i barhau i ddarparu'r gwasanaeth a chydnabuwyd bod yr Awdurdod mewn sefyllfa gadarnhaol i gael darpariaeth cerddoriaeth fewnol a oedd yn ymateb i anghenion disgyblion a chymunedau.  Dywedodd yr Arweinydd Strategol ar gyfer Effeithiolrwydd Ysgolion fod yr Awdurdod wedi arwain ei gynllun cenedlaethol ei hun ar gyfer cerddoriaeth i sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ar gyfer cerddoriaeth yn cyrraedd cynifer o ddysgwyr â phosibl.

 

Hefyd, roedd yr Arweinydd Strategol ar gyfer Effeithiolrwydd Ysgolion yn falch iawn o nodi y byddai'r gwasanaeth cerdd yn rhannu datblygiadau digidol yng Nghynhadledd Bett 2023 drwy arddangos pecyn 'soundtrap' a oedd yn cyfuno cerddoriaeth a phrofiadau digidol a ddatblygwyd ar y cyd ag ysgolion yn America.  Mewn ymateb i gais, cytunwyd y byddai arddangosiad a diweddariad cyffredinol yn cael eu cynnig i aelodau maes o law.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd wrth y Pwyllgor fod y nifer uchel o benaethiaid a fyddai'n ymddeol yn fuan yn peri risg i'r Awdurdod. Fodd bynnag, roedd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant yn falch o nodi bod sawl penodiad o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 71 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad craffu ynghylch y Strategaeth Gorfforaethol.

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.

8.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 82 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adolygodd y Pwyllgor y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn ei gyfarfod nesaf i'w gynnal ar 05 Mai 2023, a oedd wedi deillio o Flaengynllun Gwaith y Pwyllgor am 2022/23. Pwysleisiodd y Cadeirydd fod y Blaengynllun Gwaith yn ddogfen hyblyg y gellid ei diweddaru yn ôl y gofyn trwy gydol y flwyddyn wrth i wybodaeth newydd ddod i'r amlwg.

 

Cyfeiriwyd at y ddau adroddiad diweddaru a oedd yn deillio o'r Grwpiau Gorchwyl a Gorffen blaenorol.  Cytunodd y Pwyllgor i adolygu'r adroddiadau mewn sesiwn anffurfiol ar ddiwedd y cyfarfod ar 05 Mai 2023 lle gallai'r Pwyllgor ofyn am unrhyw wybodaeth bellach i'w hystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol, os bydd hynny'n berthnasol.

 

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 5 Mai, 2023.

9.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 23 IONAWR 2023 pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2023 yn gofnod cywir. 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau