Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg - Dydd Iau, 1af Rhagfyr, 2022 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan D. Elias.  Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod angen i'r Cynghorydd S. Rees adael y cyfarfod yn gynnar er mwyn cyflawni gwaith arall ar ran y Cyngor.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip.

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

CYNLLUN CYFIAWNDER IEUENCTID SIR GAERFYRDDIN 2022/2023 pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Sir Gâr ar gyfer 2022/23 ei gyflwyno i'r Pwyllgor. 

 

Rhoddwyd ystyriaeth i'r trefniadau llywodraethu, arweinyddiaeth a phartneriaeth a oedd wedi arwain at ddatblygu'r Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid, a nodwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad, yn unol â gofynion deddfwriaethol Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998.

 

Roedd y Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid yn amlinellu'r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid a'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid a ddarparwyd o dan un strwythur rheoli, a oedd yn darparu dull cyfannol o ddarparu gwasanaethau cymorth ieuenctid ledled Sir Gaerfyrddin.  Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at adran 8 o'r Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid a oedd yn manylu ar berfformiad y bartneriaeth yn ystod 2021/22, a hefyd yn nodi'r blaenoriaethau a'r amcanion cynllunio gwelliannau am y flwyddyn i ddod, yn unol â'r egwyddorion 'plentyn yn gyntaf' cyffredinol ac ethos o welliant parhaus.

 

Cydnabu'r Pwyllgor waith hanfodol y bartneriaeth wrth geisio lliniaru effaith pandemig y coronafeirws er mwyn diogelu'r plant a'r teuluoedd mwyaf agored i niwed a chymhleth ar draws y sir.  Yn ogystal, dywedwyd bod sawl gr?p strategol wedi'u sefydlu i fynd i'r afael â'r gofynion oedd yn gysylltiedig â lles plant ac oedolion agored i niwed.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:

 

Bu i'r Pwyllgor ganmol ymroddiad ac ymrwymiad parhaus staff y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc yn ystod yr heriau welwyd adeg pandemig y coronafeirws.

 

Eglurwyd i'r Pwyllgor mai cynllun tu allan i'r llys oedd 'system Biwro' y sir, a oedd yn cael ei weithredu ar y cyd gan yr Awdurdod a'r Heddlu, ac mai ei fwriad oedd sicrhau ymyriadau cynnar fel nad oedd plant a phobl ifanc yn mynd i'r llys.

 

Mewn ymateb i ymholiad, eglurwyd i'r aelodau fod y wybodaeth oedd ar ffurf graff ar dudalen 19 o'r Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid, ynghylch 'math o drosedd', wedi'i chrynhoi, ac felly byddai'r wybodaeth yn cael ei hailgyflwyno'n llawn i'r Pwyllgor. Rhoddwyd sicrwydd hefyd i'r Pwyllgor y byddai adroddiadau'r dyfodol yn cynnwys geirfa gynhwysfawr i egluro'r rhestr lawn o fyrfoddau, a byddai allweddi'n cael eu darparu i alluogi darllenwyr i ddehongli'r graffiau'n hwylus.

 

Gofynnwyd cwestiwn ynghylch yr heriau a ragwelwyd o ran cyflawni'r blaenoriaethau a'r amcanion helaeth oedd wedi'u pennu ar gyfer y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn 2022/23. Eglurwyd i'r Pwyllgor fod y blaenoriaethau'n cyd-fynd yn strategol â disgwyliadau cenedlaethol, a'u bod yn unol â'r gofynion o ran adrodd am y prif ddangosyddion perfformiad. Pwysleisiwyd bod targedau uchelgeisiol wedi eu gosod er mwyn galluogi'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid i wneud pob ymdrech i sicrhau newid ystyrlon i blant a phobl ifanc yn y sir. Cyfeiriwyd hefyd at yr ymdrechion i hyrwyddo cyfranogi ac ymgysylltu cadarnhaol yn y dyfodol ar draws meysydd gwaith Cyfiawnder Ieuenctid, a byddai'r ffocws hwn yn cael ei gefnogi a'i gryfhau drwy weithredu strategaeth.

 

Mewn ymateb i ymholiad, roedd yn gysur i'r Pwyllgor gael clywed am yr amryw ddulliau, a gâi eu gweithredu drwy waith partneriaeth, a oedd yn mynd i'r afael ag  ecsbloetio plant o ran gangiau a llinellau cyffuriau, a'r cysylltiadau â chyflenwi cyffuriau a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2021/22 pdf eicon PDF 174 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad blynyddol drafft y Cyngor ar gyfer y cyfnod 2021/22 a oedd wedi ei lunio i fodloni'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.  Roedd yr adroddiad yn nodi'r cynnydd a wnaed o ran 13 Amcan Llesiant y Cyngor yn erbyn cefndir o amgylchiadau digynsail yn sgil pandemig Covid-19, ynghyd â hunanasesiad y Cyngor yn erbyn gofynion perfformiad y flwyddyn ariannol flaenorol.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai'r Adroddiad Blynyddol drafft yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu canlyniad y broses ymgynghori oedd yn ymwneud â gofynion perfformiad a nodwyd yn Atodiad 5C.

 

Ystyriwyd yr Amcanion Llesiant perthnasol oedd o fewn maes gorchwyl y pwyllgor, sef:

 

AMCAN LLESIANT 1:

Helpu i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn a gwella eu profiadau yn gynnar mewn bywyd.

AMCAN LLESIANT 2:

Helpu plant i ddilyn ffyrdd iach o fyw.

 

AMCAN LLESIANT 3:

Cefnogi a gwella cynnydd, cyflawniad, a deilliannau i'r holl ddysgwyr.

 

AMCAN LLESIANT 4:

Trechu tlodi drwy wneud popeth o fewn ein gallu i'w atal, gan helpu pobl i gael gwaith a gwella bywydau'r rheiny sy'n byw mewn tlodi.

AMCAN LLESIANT 12:

Hyrwyddo'r Iaith Gymraeg a Diwylliant Cymru.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:-

 

Mynegwyd pryder y gallai ffocws yr Awdurdod ar hyrwyddo'r Gymraeg; maes oedd eisoes yn perfformio'n dda, roi pwysau gormodol ar blant a'u teuluoedd mewn cyfnod o ansicrwydd yng nghyd-destun gofynion y flwyddyn academaidd oedd i ddod, o ystyried effaith y pandemig, gweithredu'r cwricwlwm newydd, a'r prinder adnoddau. Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg fod yr agenda ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg wedi ei gosod ar lefel genedlaethol drwy bolisi Llywodraeth Cymru.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y wybodaeth ar dudalen 87 o'r adroddiad, cadarnhawyd byddai'r geiriad yn cael ei adolygu oherwydd, er bo'r duedd hirdymor wedi gostwng, roedd y ffigwr ar gyfer 2021/22 yn gynnydd ar y flwyddyn flaenorol.

 

Cyfeiriwyd at y ffaith bod arian grant yr UE yn dod i ben a gofynnwyd am ddiweddariad am y ffrydiau cyllid eraill ar gyfer y Gwasanaethau Ieuenctid megis Cam Nesa, Cynnydd ac ymyriadau arddull NEET.  Cadarnhawyd i'r Pwyllgor fod y Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi dod yn lle arian grant yr UE, a'r disgwyl oedd y byddai oddeutu £38m yn dod i law Sir Gaerfyrddin i'w ddosbarthu i'r mannau yr oedd ei angen. Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd Pennaeth Strategaeth a Chymorth i Ddysgwyr y gellid cael gafael ar ffigyrau er mwyn cymharu lefel arian grant yr UE â lefel arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

 

Holodd Aelod pa gymorth oedd ar gael i ddiwallu anghenion y nifer cynyddol o blant oedd yn cael diagnosis o awtistiaeth, y cyfeirid ato yn Asesiad Llesiant 1. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant at heriau diwallu anghenion plant ag anghenion dysgu ychwanegol yng nghyd-destun y cyfyngiadau ariannol. Fodd bynnag, roedd buddsoddiad yn cael ei wneud i ddarparu amgylchedd diogel ar ffurf unedau arbenigol a gwasanaethau effeithiol.

 

Mewn ymateb i ymholiad  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad craffu canlynol:

 

  • Cefnogaeth i ddatblygu'r cwricwlwm ar draws yr ysgolion yn Sir Gaerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.

7.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adolygodd y Pwyllgor y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn ei gyfarfod nesaf i'w gynnal ar 23 Ionawr 2023, a oedd wedi deillio o Flaengynllun Gwaith y Pwyllgor am 2022/2023.  Pwysleisiwyd gan y Cadeirydd fod y Blaengynllun Gwaith yn ddogfen hyblyg y gellid ei diweddaru yn ôl y gofyn trwy gydol y flwyddyn wrth i wybodaeth newydd ddod i'r amlwg.  O ganlyniad, byddai sesiwn arall i gynllunio'r Blaengynllun Gwaith yn cael ei threfnu faes o law i adolygu blaenoriaethau'r Pwyllgor ar gyfer 2022/23, yn unol â Blaengynllun Gwaith y Cabinet.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

7.1

Nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 23 Ionawr 2023.

 

7.2

Trefnu Sesiwn Cynllunio Blaengynllun Gwaith yn Neuadd y Sir, maes o law, i adolygu blaenoriaethau'r Pwyllgor, yn unol â Blaengynllun Gwaith y Cabinet.

 

8.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 06 HYDREF 2022 pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2022 yn gofnod cywir.