Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Dydd Llun, 3ydd Chwefror, 2025 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr C. Davies, H. Jones a F. Walters.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2024/25 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Hydref, 2024, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2024/25.

 

Roedd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhagweld gorwariant o £7,011k ar y gyllideb refeniw. Dangosodd y prif amrywiadau ar gynlluniau cyfalaf amrywiant disgwyliedig o £0k yn erbyn cyllideb net o £728k ar brosiectau gofal cymdeithasol, ac amrywiant o -£14k yn erbyn cyllideb net prosiectau'r Gwasanaethau Plant o £136k.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt. Dyma'r prif faterion:

 

  • Cyfeiriwyd at Atodiad B - Prif Amrywiannau. Dywedwyd bod cynnydd yn cael ei wneud mewn perthynas â'r adran 'Cartrefi Gofal Preswyl Pobl H?n', ond gofynnwyd pam nad oedd yr un cynnydd yn cael ei wneud yn yr un modd?  Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion, er bod galw a chymhlethdod achosion iechyd meddwl wedi cynyddu'n sylweddol, adroddwyd y byddai ffocws ar iechyd meddwl yn y dyfodol.  Byddai hyn yn cael ei drafod yn fanylach yn y sesiwn datblygu i aelodau craffu y prynhawn yma.

 

  • Gofynnwyd am eglurhad ynghylch adran Dysgu Anabledd - Amrywiannau Eraill Atodiad B. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol mai hwn oedd cyfanswm unrhyw amrywiannau bach yng nghyd-destun y gyllideb gyffredinol.

 

  • Cyfeiriwyd at y gorwariant o £321,000 ar Blant Digwmni sy'n Ceisio Lloches  (UASC), gofynnwyd a fyddai'r Swyddfa Gartref yn talu'r gost ychwanegol a sut y byddai'r costau'n cael eu hadennill?  Dywedodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd nad oedd hi'n gallu cadarnhau y byddai'r Swyddfa Gartref yn talu'r costau ychwanegol. Fodd bynnag, roedd gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd yn genedlaethol gan roi cyfle i Awdurdodau fynd i'r afael â'r ffaith bod diffyg.  Roedd gwaith i leihau'r diffyg wedi bod yn llwyddiannus, a oedd wedi arwain at ostyngiad sylweddol.  Ar ben hynny, roedd y model oedd ar waith ar hyn o bryd yn golygu na châi  unrhyw blant oedd yn cael eu dyrannu i ofal y Cyngor eu rhoi mewn lleoliadau a gomisiynwyd, gan ei fod bellach yn cael ei reoli'n fewnol o fewn darpariaeth cyllid y Swyddfa Gartref.  Esboniwyd fod y broblem mewn perthynas â'r unigolion ifanc a gyrhaeddodd yn nyddiau cynnar y system atgyfeirio orfodol, pan nad oedd seilwaith o fewn Cyngor Sir Caerfyrddin, ac felly nid oedd unrhyw opsiwn heblaw dibynnu ar leoliadau drud wedi'u comisiynu i ofalu amdanynt.  Adroddwyd bod gwaith yn cael ei wneud bob yn dipyn i adleoli'r unigolion ifanc hyn i leoliadau mwy fforddiadwy a fyddai'n diwallu eu hanghenion.  Rhoddwyd sicrwydd y byddai costau'r dyfodol yn lleihau oherwydd gostyngiad parhaus mewn gwasanaethau a gomisiynir a'r ddarpariaeth gofal mewnol lwyddiannus.

 

 

Yn ogystal â'r ymholiad blaenorol ac mewn cysylltiad ag ef, cyfeiriwyd at Comisiynu a Gwaith Cymdeithasol (UASC) yn Atodiad Ai – Cynigion Arbed a ddyfynnir yn eitem 5 yr Agenda.  Wrth nodi'r cynnig arbed o £400,000, gofynnwyd am y cynnydd oedd wedi cael ei wneud o ran dod â'r cymorth i UASC a Phobl Ifanc o fewn cyllid  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2025/26 TAN 2027/28 pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw y Cyngor 2025/26 i 2027/28 a oedd yn rhoi golwg gyfredol i'r Aelodau ar y gyllideb refeniw ar gyfer 2025/2026, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2026/2027 a 2027/2028.  Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion y swyddogion ynghylch gofynion gwariant, ac roedd yn rhoi ystyriaeth i'r setliad dros dro a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 11 Rhagfyr 2024.

 

Er bod llawer o waith eisoes wedi'i wneud wrth baratoi'r gyllideb, dywedwyd mai datganiad sefyllfa cychwynnol oedd yr adroddiad hwn a fyddai'n cael ei ddiweddaru yn dilyn y broses ymgynghori.  Yn unol â hynny, atgoffwyd Aelodau bod yr adroddiad wedi'i ystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 13 Ionawr 2025 a bod aelodau'r Pwyllgor wedi mynychu digwyddiadau ymgynghori yn ddiweddar, a oedd yn rhoi cyfle i ddadansoddi a chael eglurhad ynghylch gwahanol agweddau ar y gyllideb.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y setliad dros dro a gyhoeddwyd yn cynrychioli cynnydd o 4.1% ar gyfer Sir Gaerfyrddin, a oedd yn cyfateb i £25.1m gan ystyried y 'trosglwyddiadau i mewn'. Er bod gwerth ariannol y setliad ychydig yn uwch na ffigur cynllunio'r Cyngor, roedd diffyg ariannol sylweddol o hyd oherwydd maint y pwysau costau ychwanegol sy'n wynebu Sir Gaerfyrddin, yn enwedig o ran y cynnydd i gyfraddau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr.

 

O ran Grantiau Gwasanaethau Penodol Llywodraeth Cymru, byddai'r rhan fwyaf yn aros yr un gwerth ariannol â'r blynyddoedd blaenorol, a byddai'n hynny'n cael effaith niweidiol ar allbynnau oherwydd y cynnydd mewn chwyddiant yn gyffredinol a dyfarniadau cyflog. Roedd y cyllid gan Lywodraeth Cymru yn parhau i fod yn llai na gwir gost gwasanaeth, gan olygu i bob pwrpas y byddai angen i drethdalwyr Sir Gaerfyrddin lenwi'r bwlch ariannol.  Dywedwyd bod yr unig faes lle cafwyd cynnydd yn gysylltiedig â'r Grantiau Addysg Awdurdod Lleol, er bod y cynnydd hyd yn oed yma o £22 miliwn ar sail tebyg am debyg (tua 6%) a byddai'n ddigon i dalu costau ychwanegol dyfarniadau cyflog yn unig, ond nid i gynyddu allbynnau mewn gwirionedd.

 

Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at adran 3.5 o strategaeth y gyllideb lle rhoddwyd trosolwg o'r sefyllfa o ran cyllidebau dirprwyedig yr ysgolion i'r Aelodau.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am gamau gweithredu parhaus yr Awdurdod i liniaru'r gorwariant cyllidebol, ond arhosodd y gorwariant a ragwelir ar lefel gritigol ar draws nifer fawr o ysgolion yn y sir ac roedd posibilrwydd y byddai hyn yn ansefydlogi cyllid ehangach yr Awdurdod. Felly, y farn oedd ei bod yn annhebygol iawn y byddai gostyngiad pellach yn y gyllideb mewn gwirionedd yn cael ei gyflawni/y byddai modd ei gyflawni ar hyn o bryd.

 

Yn unol â hynny, cynigiwyd mynd i'r afael â'r gostyngiad drwy gynyddu'r dreth gyngor, gan gyfateb i oddeutu 3.5%, er mwyn atal y sefyllfa rhag gwaethygu wrth i gamau brys gael eu cymryd i sicrhau bod y gwariant yn unol â'r adnoddau presennol unwaith eto. Roedd y Cyngor yn cynnig cynnydd yn y Dreth Gyngor o 9.75% ar gyfer 2025/26.

 

Darparwyd i'r Pwyllgor drosolwg o'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CWARTER 2 - 2024/25 pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 - 2024/25 a oedd yn berthnasol i'r Pwyllgor Craffu hwn. Roedd yr adroddiad yn dangos cynnydd ar ddiwedd Chwarter 2 - 2024/25 y camau a'r mesurau oedd yn gysylltiedig â'r Strategaeth Gorfforaethol a'r Amcanion Llesiant.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt.  Dyma'r prif faterion:

 

  • Wrth gyfeirio at y mesur 'Oddi ar y targed' – 'Cyfanswm nifer y diwrnodau ar y Gofrestr Amddiffyn Plant i Blant a gafodd eu tynnu oddi ar y gofrestr yn ystod y flwyddyn', nodwyd er bod y mesur yn parhau i fod 'oddi ar y targed' nad oedd unrhyw bryderon gwirioneddol, gan fod yr Aelodau'n ymwybodol bod y tîm yn parhau i ddarparu cymorth hanfodol ac i weithio'n ddiflino yn y maes hwn, fel y nodwyd yn yr adran camau adferol.  Diolchodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd am y geiriau o gefnogaeth ac eglurodd fod hwn yn fwy o ddatganiad ffeithiol ac nad oedd yn cael ei ystyried yn darged mewn gwirionedd. Ychwanegodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod darn o waith yn cael ei wneud ar reoli perfformiad ar hyn o bryd lle roedd yn cael ei gydnabod nad y symbolau wyneb hapus, niwtral a thrist oedd y ffordd fwyaf defnyddiol o ddisgrifio amrywiadau cymhleth.  Cynghorwyd aelodau i gymryd gofal o ran y symbolau gan fod llawer ohonynt yn ceisio cynrychioli amrywiad ystadegol cyffredinol.  Byddai rheoli perfformiad yn y dyfodol yn defnyddio methodoleg ystadegol i ddangos tuedd yn ogystal ag amrywiad.

 

  • Wrth ganmol gwaith llwyddiannus Tîm Integreiddio'r Blynyddoedd Cynnar Dechrau'n Deg a Chwm Gwendraeth, gofynnwyd a fyddai hyn yn cael ei ymestyn i ardal Rhydaman.  Roedd gan y Pennaeth Plant a Theuluoedd a'r Cyfarwyddwr Cymunedau feddwl mawr o'r maes gwaith hwn a gwahoddodd y Pwyllgor pan fo'n briodol i ymweld â'r tîm i gael golwg uniongyrchol ar y gwaith mae'n ei wneud.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 2 - 2024/25.

 

 

7.

CYNLLUNIAU BUSNES 2025/26 pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Cynlluniau Busnes sy'n berthnasol i'r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2025/26 fel a ganlyn:

 

  • Plant a Theuluoedd
  • Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion
  • Y Gwasanaethau Integredig

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol mewn perthynas â Chynllun Cyflawni Is-adrannol Plant a Theuluoedd 2025-26:-

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt.  Dyma'r prif faterion:

 

 

  • Cyfeiriwyd at y strwythur adrannol a ddangosir yn y Cynllun Gwasanaethau Integredig Cyflenwi Rhanbarthol.  Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y cynllun lliwiau. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod angen diweddaru'r siart a byddai'n sicrhau bod hyn yn cael ei wneud.

 

  • Cyfeiriwyd at y tabl costau a ddarperir yn y Cynllun Gwasanaethau Integredig Cyflenwi Rhanbarthol.  Dywedwyd fod y wybodaeth hon yn ddefnyddiol a phwysig a diolchwyd i'r is-adran am ei hymdrechion i sicrhau cyllideb gytbwys, er ei bod yn ymddangos ar adegau fod Llywodraeth Cymru'n gwneud hynny'n her wirioneddol.

 

  • Cyfeiriwyd at y Cynllun Gwasanaethau Integredig Cyflenwi Rhanbarthol.   Mewn ymateb i ymholiad a godwyd yngl?n â'r amcan – I foderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor gwydn ac effeithlon, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod CGI wedi'i gyhoeddi'n ddiweddar fel partner digidol y Bwrdd Iechyd a bod gwaith eisoes wedi dechrau yn yr ardal ddiogelu.  O ran y golwg 360, y rhyngwyneb digidol ymhlith yr holl systemau amrywiol a ddefnyddiwyd bob dydd.  Roedd wedi cael ei gydnabod nad oedd gweithredu nifer o systemau yn addas ar gyfer y dyfodol a byddai gwybodaeth a roddwyd yn ganolog yn fuddiol ar gyfer mynediad 24/7 er mwyn rhoi darlun llawn o anghenion unigolyn a'r rhyngweithio â gwahanol asiantaethau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Cynlluniau Busnes 2025/26.

 

 

8.

CYNLLUN RHEOLI CYFIAWNDER IEUENCTID BLYNYDDOL 2024/2025 pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Gynllun Cyfiawnder Ieuenctid Blynyddol ar gyfer 2024/25 i'w ystyried.  Roedd yr adroddiad wedi'i ddatblygu a'i gytuno gyda phartneriaid cyfiawnder ieuenctid ac wedi'i gynllunio'n unol â'r Cynlluniau Cyfiawnder Ieuenctid a gyhoeddwyd yn ddiweddar: Canllawiau Ymarfer y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (Mawrth 2023) a'r Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid. Rhoddodd yr adroddiad adolygiad o'r perfformiad a'r datblygiadau dros y flwyddyn ddiwethaf a chynllun ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Dywedwyd bod y Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid ar gyfer 2024/25 wedi'i gymeradwyo gan y Bwrdd Rheoli Lleol cyn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ar 30 Mehefin 2024.  Yn ogystal, nododd yr Aelodau fod y cynllun yn adlewyrchu blwyddyn lwyddiannus iawn i'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn Sir Gaerfyrddin, a oedd wedi cael ei raddio'n 'rhagorol' mewn arolygiad gan Arolygiaeth Prawf Ei Fawrhydi ym mis Tachwedd 2023.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt.  Dyma'r prif faterion:

 

  • Roedd y maes gwaith hwn wedi cefnogi cannoedd o etholwyr a thrigolion ledled y sir, a chan mai dim ond am flwyddyn arall roedd y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gael, dywedwyd os oedd Llywodraeth Cymru o ddifrif am strategaethau cyfiawnder ieuenctid ac iechyd meddwl, fod yn rhaid i Lywodraeth Ganolog, Llywodraeth Cymru, a Bwrdd Iechyd Hywel Dda ystyried sut i ariannu'r maes gwaith hwn yn y dyfodol.

 

  • Cyfeiriwyd at Safonau ar gyfer Plant yn y System Cyfiawnder – Yn y Llys, Cynllun Gweithredu ar dudalen 21 o'r adroddiad.  Gofynnwyd a oedd modd cynnwys 'Mannau Problemus i'w Plismona', a byddai hyn yn rhoi modd dadansoddi'r ardaloedd mae angen eu targedu, gan alluogi blaenoriaethu adnoddau a rhannu llwyth gwaith.  Awgrymwyd cysylltu â'r Heddlu.  Eglurodd Prif Reolwr y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid fod eu perthynas â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn un oedd wedi'i hen sefydlu,  gyda'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Mr Dafydd Llewelyn, yn hyrwyddo'r gwaith ar draws ardal Dyfed-Powys.  Roedd Swyddfa'r Comisiynydd hefyd wedi ariannu gwahanol elfennau o'r gwaith, gan gynnwys atal, prosiectau rhanbarthol, ac, yn fwy diweddar, prosiect dulliau adferol.  Ar hyn o bryd roedd gwaith yn cael ei wneud gyda Swyddfa'r Comisiynydd i ddatblygu a chyflwyno cynllun busnes ar gyfer y flwyddyn nesaf a thu hwnt.

 

  • Gan gyfeirio at y ffigurau mewn perthynas â Phlant yn Derbyn Gofal (CLA), tudalen 12 yr adroddiad, bernid byddai cynnwys data cymharu Cenedlaethol yn ddefnyddiol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Blynyddol 2024/25 yn cael ei dderbyn.

 

 

9.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 72 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad craffu canlynol.

 

  • Diweddariad Cynnydd yn erbyn Gweledigaethau a Chamau Gweithredu'r Cabinet

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.

 

 

10.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 20 Mawrth 2025.

 

11.

DIWEDDARIAD GWEITHREDIADAU PWYLLGOR CRAFFU pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad diweddaru a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, a'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o'r cyfarfodydd blaenorol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

12.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 28AIN TACHWEDD 2024 pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 28 Tachwedd 2024 gan eu bod yn gywir.