Agenda a Chofnodion

moved from 17/10/24, Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Dydd Llun, 21ain Hydref, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr K. Davies a F. Walters.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Y Cynghorydd/    Swyddog

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd H. Jones

8. Polisi Codi Tâl – Newidiadau i'r Polisi Codi Tâl Gofal Cymdeithasol Presennol

 

Personol a rhagfarnol - roedd ei ddiweddar dad wedi derbyn gofal

Y Cynghorydd M. James

8. Polisi Codi Tâl – Newidiadau i'r Polisi Codi Tâl Gofal Cymdeithasol Presennol

 

Personol a rhagfarnol – modryb ei g?r yn derbyn gofal

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2023/24 pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2023/24 ynghylch perfformiad gwasanaethau gofal cymdeithasol yn y sir.

 

Roedd yn ofynnol yn statudol i'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol adrodd yn flynyddol wrth y Cyngor ar berfformiad yr ystod gyfan o Wasanaethau Cymdeithasol a'r modd y cânt eu darparu, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer eu gwella.

 

Nodwyd mai adroddiad drafft oedd hwn o hyd a byddai'n cael ei ddiwygio ymhellach cyn ei gwblhau.

 

Amlygodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol rai o'r prif faterion allweddol a nodwyd yn yr adroddiad. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol a'r staff perthnasol am eu gwaith caled i baratoi'r adroddiad.

 

Roedd y canlynol ymhlith y cwestiynau/sylwadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:-

 

·       Awgrymwyd y dylid cynnwys y gair plant yn eglurhad yr acronym (UASC).

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch ariannu gwelyau gofal nyrsio a'r effaith ar y gyllideb, dywedodd y Cyfarwyddwr wrth yr aelodau fod yr awdurdod yn ymgymryd â mentrau amrywiol i sicrhau bod gofal preswyl yn cyd-fynd yn agosach â gofynion gofal nyrsio.  Ni fu cynnydd cyfatebol mewn adnoddau nyrsio ardal, sy'n debygol o greu pwysau ychwanegol.  Mae oedi mewn gofal yn gyffredin, gan waethygu'r heriau wrth ddiwallu anghenion cleifion. Mae rôl yr awdurdod lleol yn hanfodol, mae'n ymwneud yn sylfaenol â sicrhau bod unigolion yn cael y gofal sydd ei angen arnynt.  Mae'r awdurdod yn cynnal perthynas gref gyda darparwyr gofal iechyd, gan ganolbwyntio ar fireinio llwybrau sy'n gysylltiedig â derbyniadau, cyfnodau o aros a phrosesau rhyddhau.

 

·       Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â manteision yn sgil awdurdod yn gweithredu ei gartrefi preswyl ei hun, dywedodd y Cyfarwyddwr na fyddai'r awdurdod yn dibynnu'n llwyr ar y sector preifat.  Rhagwelir y gallai tair uned gael eu sefydlu dros y 30 mlynedd nesaf ac mae'r awdurdod ar hyn o bryd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid iechyd.

 

·       Codwyd pryder am y nifer isel o g?ynion yr ymatebwyd iddynt o fewn yr amserlen benodol. Mewn ymateb, eglurodd y Cyfarwyddwr y sefyllfa drwy esbonio'r amserlenni statudol. Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y pwyllgor, fod mwyafrif y cwynion yn cael eu datrys yn llwyddiannus yng ngham I, o fewn yr amserlen ddynodedig. Fodd bynnag, mewn achosion lle mae'r materion yn fwy cymhleth, efallai y bydd angen ymestyn yr amserlen, ond dim ond gyda chytundeb yr holl bartïon dan sylw, sydd fel arfer yn digwydd yn ystod cam II

 

·       Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r Gymraeg, pwysleisiodd y Cyfarwyddwr fod cyfathrebu effeithiol yn hanfodol, a'i bod yn hanfodol defnyddio dewis iaith y cleient. Eglurodd y Cyfarwyddwr fod yn well gan rai unigolion gael asesiadau yn Gymraeg, ond eu bod yn gofyn i gael dogfennaeth yn Saesneg, sy'n nodi bod gwaith pellach i'w wneud yn y maes hwn.  Mae'n hanfodol osgoi sefyllfaoedd lle mae rhyngweithio yn Saesneg yn arwain at asesiadau israddol.

 

·       Gwnaed cais i gynnwys gwybodaeth ychwanegol yn yr adroddiad am waith Llesiant Delta, o ystyried ei rôl sylweddol yn yr awdurdod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

5.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2024/25 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 30 Mehefin 2024, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2024/25.

 

Roedd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhagweld gorwariant o £5,667k ar y gyllideb refeniw. Dangosodd y prif amrywiadau ar gynlluniau cyfalaf amrywiant disgwyliedig o £0k yn erbyn cyllideb net o £728k ar brosiectau gofal cymdeithasol, ac amrywiad o -£14k yn erbyn cyllideb net prosiectau'r Gwasanaethau Plant o £136k.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt. Dyma'r prif faterion:

 

·       Mewn ymateb i ymholiad am y cynllun peilot asiantaeth fewnol a ddechreuwyd yn ardal Llanelli ym mis Mai 2024, dywedodd y Pennaeth Tai wrth yr aelodau fod yna gynlluniau i ymestyn y dull hwn i Landeilo, Castellnewydd Emlyn a Sanclêr yn y dyfodol agos. Disgwylir wrth i'r asiantaeth fewnol ddatblygu, y bydd arbedion ychwanegol yn cael eu gwireddu, gan liniaru pwysau cost yn sylweddol.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r costau cyfreithiol o £300,00, rhoddwyd diweddariad i'r aelodau bod adolygiad yn cael ei gynnal, gan ystyried y posibilrwydd o recriwtio personél mewnol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

6.

ADRODDIAD ALLDRO CYLLIDEB REFENIW 2023/24 pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Alldro'r Gyllideb Refeniw ar gyfer 2023/24 a oedd yn nodi'r sefyllfa ariannol fel yr oedd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Nodwyd bod y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn dangos amrywiant net o -£8,786k o gymharu â chyllideb gymeradwy 2023/24.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:-

 

·       Crynodeb o'r sefyllfa ar gyfer y gwasanaethau gyda chylch gorchwyl y Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd;

·       Adroddiad ar Brif Amrywiannau cyllidebau y cytunwyd arnynt;

·       Amrywiannau manwl;

·       Manylion y sefyllfa Monitro Arbedion ar gyfer diwedd y flwyddyn.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac roedd y prif faterion fel a ganlyn:

 

·       Gofynnwyd a ellid cynnwys cyfeiriad at yr adroddiad Gorchwyl a Gorffen diweddar ar Ordewdra yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CYNGOR 2023/24 (DRAFFT) pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: yn ystod y drafodaeth fe wnaeth y Cynghorydd Alex Evans ddatgan buddiant yn y grantiau cyfleusterau i'r anabl a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol drafft y Cyngor ar gyfer cyfnod 2023/24 a oedd wedi'i lunio yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Rhaid i'r Awdurdod gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar berfformiad sy'n seiliedig ar ddull hunanasesu bob blwyddyn, ac o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 roedd hefyd yn ofynnol i'r Awdurdod gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar ei Amcanion Llesiant.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i'r wybodaeth yn yr Adroddiad Blynyddol sy'n berthnasol i gylch gorchwyl y Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Mewn ymateb i ddiweddariad ar y nifer sy'n manteisio ar y cynllun i atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig wrth y Pwyllgor fod data ar gael ac y byddai'n cael ei rannu y tu allan i'r cyfarfod.

 

·       Holodd y Pwyllgor am statws yr ôl-groniad am y grant cyfleusterau i'r anabl ac a oedd unrhyw gynnydd wedi'i wneud yn hyn o beth. Cydnabu'r Pennaeth Tai fod y maes hwn yn parhau i achosi heriau, ond mynegodd optimistiaeth y byddai'r cynnydd diweddar mewn adnoddau yn arwain at amseroedd cyflawni gwell.

 

·       Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â data ar gyfer gofal cartref mewn cartrefi gofal ac i breswylwyr yn eu cartrefi eu hunain, dywedwyd bod data cymharol ar gael ac y byddai'n cael ei ddosbarthu y tu allan i'r cyfarfod i'r aelodau.

 

·       Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod gan yr awdurdod sawl achos o breswylwyr yn darparu gofal i'w perthnasau gartref. Mae'r achosion unigol hyn yn cael eu gwerthuso'n rheolaidd yn yr ysbyty, a dim ond pan fydd yr holl opsiynau eraill wedi'u harchwilio, y mae unigolion yn symud i gartrefi gofal.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2023/24.

 

8.

POLISI CODI TÂL - TALIADAU GOFAL CYMDEITHASOL DIWYGIADAU I'R POLISI PRESENNOL pdf eicon PDF 183 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 (NODER: 1

1.     Ar ôl datgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon, fe wnaeth y Cynghorydd H. Jones ailddatgan buddiant yn yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth.

2.    Ar ôl datgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon, fe wnaeth y Cynghorydd M. James ailddatgan buddiant, arhosodd yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a phleidleisiodd.)

 

Gofynnwyd i'r Pwyllgor adolygu ac asesu'r newidiadau arfaethedig i'r Polisi Codi Tâl Gofal Cymdeithasol.

 

Y prif newidiadau a gynigir yn yr adroddiad oedd:

 

1.    Cyflwyno ffi Reoli Flynyddol ar gyfer Rheoli Dirprwyaeth, Penodeiaethau, ac achosion Diogelu Eiddo.

2.    Codi tâl ar Ddefnyddwyr Gwasanaeth mewn Cartrefi Gofal, y tâl llawn am Wyliau, arosiadau byr i ffwrdd o'r Cartref Gofal.

3.    Codi tâl llawn am dderbyniadau i'r ysbyty neu absenoldeb dros dro o'r Cartref Gofal am uchafswm gyfnod o 4 wythnos.

4.    Codi ffi weinyddol ar gyfer preswylwyr hunan-ariannu sy'n gofyn i'r awdurdod drefnu lleoliad mewn Cartref Gofal ar eu rhan.

5.    Cyflwyno ffi reoli am Daliadau Gohiriedig ffurfiol, a lle mae arwystlon yn erbyn eiddo.

6.    Newid sail y cyfrifiad ar gyfer 'Costau Ychwanegol' yn achos Lleoliadau'r Tu Allan i'r Sir.

7.    Diwygio'r polisi i gynnwys elfen nos y Lwfans Gweini (AA) neu Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) neu Daliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn yr Asesiad Ariannol.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac roedd y prif faterion fel a ganlyn:

 

·       Mewn ymateb i ymholiad, nododd yr aelodau y byddai ffi flynyddol o £520 ynghyd â ffi ychwanegol o £100 ar gyfer atgyfeiriadau newydd.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch codi tâl am absenoldebau dros dro pan fydd preswylydd yn yr ysbyty, eglurwyd y byddai'r penderfyniad yn dibynnu a oedd yr absenoldeb dros dro neu'n barhaol. Mewn achosion o'r fath, byddai opsiynau gofal eraill yn cael eu harchwilio. Byddai data cymharol ar y mater hwn yn cael ei ddosbarthu ar ôl y cyfarfod.

 

·       Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod yr adroddiad yn cyflwyno cymariaethau ag awdurdodau cyfagos ac yn nodi y byddai aliniad ffioedd rhwng y siroedd o fewn rhanbarth Hywel Dda.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

9.

RHAGLEN TRAWSNEWID GWASANAEUTHAU PLANT A THEULUOEDD DIWEDDARIAD pdf eicon PDF 223 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth hyd yma yn erbyn cynllun a mesurau rhaglen y Rhaglen Plant a Thrawsnewid. Mae'r gwasanaeth wedi datblygu gweledigaeth ac egwyddorion sy'n ofynnol ar gyfer swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol modern i blant.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt.  Dyma'r prif faterion:

 

·       Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r effaith ariannol oherwydd nad oedd Glyn Mwrwg yn agor fel cartref plant, dywedodd y Cyfarwyddwr wrth yr aelodau fod gwahanol opsiynau yn cael eu harchwilio a bod unrhyw oedi yn niweidiol yn ariannol, fel yr adlewyrchir yn y gwariant eleni.  Rhaid i'r awdurdod benderfynu a ddylid adeiladu cyfleusterau newydd, caffael rhai sy'n bodoli eisoes, neu addasu adeiladau presennol wrth reoli'r farchnad a'r gyllideb yn effeithiol.  Sir Gaerfyrddin sydd â'r nifer isaf o blant sy'n derbyn gofal yng Nghymru ac mae'r gwariant y pen yn is nag yn y rhan fwyaf o ranbarthau eraill, gyda llai o blant mewn gofal preswyl.  Mae hyn, ynghyd ag ysgolion, yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth ac mae gwasanaethau'r awdurdod yn parhau i berfformio'n gymharol dda.

 

·       Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth aelodau fod yr awdurdod wedi cyflwyno cynnig am grant ail-gydbwyso.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

10.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CWARTER 1 - 2024/25 (01/04/24-30/06/24) YN BRIODOL I'R PWYLLGOR CRAFFU HWN pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro Perfformiad 2024/25 ar gyfer Chwarter 1, a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed gogyfer â'r camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol a'r Amcanion Llesiant oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor.

 

Nododd y Pwyllgor fod 85% o'r camau gweithredu a'r mesurau ar y trywydd iawn yn gyffredinol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

11.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 72 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol:

 

·       Diweddariad Cynnydd yn Erbyn Gweledigaethau a Chamau Gweithredu'r Cabinet

·       Diweddariad Adroddiad Blynyddol Llesiant/Delta – wedi'i drefnu ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 28/11/24

·       Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid – wedi'i drefnu ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 28/11/24

·       Diweddariad ar y Strategaeth Cymorth Cynnar – wedi'i drefnu ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 28/11/24

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.

 

12.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 28  Tachwedd 2024.

 

13.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU IECHYD A GWASANAETHAU CYMDEITHASOL pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â cheisiadau neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystod blwyddyn y cyngor 2024/25.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu.

 

 

14.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 25 GORFFENNAF 2024 pdf eicon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 25  Gorffennaf 2024 gan eu bod yn gywir.