Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd K. Davies.
|
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.
|
|||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||
STRATEGAETH EIRIOLAETH OEDOLION RANBARTHOL PDF 139 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y Strategaeth Eiriolaeth Oedolion Ranbarthol; diben y strategaeth oedd ceisio cymeradwyaeth i strategaeth eiriolaeth oedolion ranbarthol newydd sydd wedi'i datblygu gyda rhanddeiliaid drwy'r Gweithgor Eiriolaeth. Nod y Strategaeth oedd llunio trefniadau comisiynu i fodloni'r gofynion i sicrhau bod eiriolaeth o ansawdd da ar gael yn hwylus ac yn deg i'r rhai sydd ei eisiau, neu ei angen, yn rhanbarth Gorllewin Cymru yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Atgoffwyd y Pwyllgor mai'r pum maes blaenoriaeth allweddol oedd â'r nod o wella canlyniadau i'r rheiny oedd angen eiriolaeth oedd:
Bu i'r Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol achub ar y cyfle i ddiolch i Joshua Summers (awdur yr adroddiad) am ysgrifennu'r adroddiad.
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cefnogaeth ariannol ychwanegol ar gyfer Eiriolaeth, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod arian grant ychwanegol wedi'i sicrhau o dan y Gronfa Integredig Ranbarthol.
Croesawodd y Cadeirydd fod hyfforddiant yn cael ei roi i helpu unigolion i siarad drostynt eu hunain.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad.
|
|||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [Bu i'r Cynghorydd J.P. Jenkins ddatgan diddordeb cyn i'r Pwyllgor ystyried y Cynllun Cyflawni Drafft ar gyfer Cymorth Busnes a Chomisiynu. Arhosodd yn y cyfarfod ond ni bleidleisiodd.]
Ystyriodd y Pwyllgor y Cynlluniau Cyflawni Rhanbarthol Drafft ar gyfer Gwasanaethau Integredig, Comisiynu a Chymorth Busnes a Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Mae'r cynlluniau hyn yn pennu'r camau a'r mesurau strategol y byddai'r gwasanaethau o fewn yr Is-adran hon yn eu gweithredu er mwyn i'r Cyngor wneud cynnydd mewn perthynas â'i Amcanion Llesiant, ei flaenoriaethau thematig a blaenoriaethau'r gwasanaeth.
Nodwyd bod camau a mesurau ar gyfer cyflawni Ymrwymiadau Datganiad Gweledigaeth y Cabinet hefyd wedi'u cynnwys.
Gofynnwyd nifer o gwestiynau. Dyma'r prif faterion:
Cynllun Gwasanaethau Integredig · Mewn ymateb i eglurhad ynghylch Clwstwr Teifi, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod ardaloedd y Byrddau Iechyd yn wahanol i ardaloedd y Siroedd. O safbwynt cynllunio'r Bwrdd Iechyd, er bod rhan Teifi o'r clwstwr yn dod o dan Sir Ceredigion, cyfrifoldeb Sir Gaerfyrddin oedd y swyddogaeth Gofal Cymdeithasol. Dywedwyd nad oedd hyn yn cael effaith real ar wasanaethau, ar wahân i weithio gyda thîm gwahanol ar gyfer yr ardal arbennig honno o'r Sir. · Mewn ymateb i bryder a godwyd ynghylch risg LAS0002 a'r ffaith bod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi'r gorau i'w gyfraniadau tuag at leoliadau Adran 117 ar gyfer pobl h?n ac anableddau corfforol, esboniodd swyddogion fod hyn yn benodol ar gyfer gofal preswyl a bod cyllid yn ddibynnol ar y math o gr?p cleientiaid. Nodwyd bod rhaniad 50/50 o safbwynt oedolion ifanc. O safbwynt pobl h?n/anabledd corfforol, roedd trefniant gwahanol wedi bod ar waith gan y Bwrdd Iechyd am gyfnod ac roedd ymdrechion wedi'u gwneud ar lefel ranbarthol i gael tegwch ar draws y gwahanol grwpiau cleientiaid. Roedd gwaith wedi dechrau ar ddatblygu polisi traws-asiantaeth rhanbarthol, a oedd yn cynnig rhaniad 50/50 ar draws yr holl grwpiau, ond yn anffodus penderfynodd y Bwrdd Iechyd gyhoeddi polisi Bwrdd Iechyd yn unig yn hytrach na pholisi partneriaeth. Gofynnodd aelodau'r Pwyllgor am i lythyr gael ei anfon at y Bwrdd Iechyd yn mynegi eu pryderon yngl?n ag annhegwch y trefniadau cyllido hyn. · Dywedodd swyddogion mai dehongliad yr Awdurdod yn gyfreithiol oedd y dylid rhannu'r cyllid Adran 117 50/50 rhwng yr Awdurdod Lleol a'r Bwrdd Iechyd. Fodd bynnag, roedd dehongliad y Bwrdd Iechyd yn wahanol. Eglurwyd ymhellach fod Adran 117 mewn perthynas ag adran benodol o'r Ddeddf Iechyd Meddwl. Pe bai person yn cael ei gadw yn yr ysbyty o dan rai adrannau o'r Ddeddf Iechyd Meddwl byddai ganddynt yr hawl i ôl-ofal. Fel Awdurdod Lleol, y nod oedd edrych ar gysondeb ar draws yr holl wasanaethau. · Yn unol â Gweledigaeth y Cabinet i weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig di-dor lle bynnag y bo modd, dywedwyd bod gan Hywel Dda raglen, yr oedd llawer o oedi wedi bod mewn perthynas â hi, i agor canolfan iechyd amlddisgyblaethol yn Cross Hands a fyddai'n arwain at gau sawl meddygfa yn yr ardal. Gofynnwyd a oedd yr Awdurdod ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|||||||
GWASANAETHAU PLANT CYNLLUN DRAFFT CYFLAWNI GWASANAETH 2023-24 PDF 120 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Gynllun Cyflawni Gwasanaeth Drafft y Gwasanaethau Plant a oedd yn pennu'r camau a'r mesurau strategol y byddai'r gwasanaethau o fewn yr Is-adran yn eu gweithredu er mwyn i'r Cyngor wneud cynnydd mewn perthynas â'i Amcanion Llesiant, ei flaenoriaethau thematig a blaenoriaethau'r gwasanaeth.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Strategaeth Gorfforaethol wedi ei chymeradwyo gan y cyngor llawn (yn dilyn ymgynghoriad) ar 1 Mawrth ac mai'r Amcanion Llesiant perthnasol i'r pwyllgor craffu hwn oedd:
· Galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau'n Dda).
Nododd y Pwyllgor mai elfennau'r cynllun cyflawni gwasanaethau a oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor Craffu hwn oedd:
· Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant · Gwasanaethau Mabwysiadu · Y Blynyddoedd Cynnar, Cymorth i Deuluoedd ac Atal · Rhianta a Llesiant Plant · Diogelu (Gorllewin y Sir) a Mabwysiadu · Anabledd Corfforol a Nam ar y Synhwyrau · Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed · Arweinydd Rhianta Corfforaethol · Gwasanaethau Maethu · Cefnogi Teuluoedd · Diogelu Plant · Anghenion Cymhleth a Phontio · Cydgysylltydd Amddiffyn Plant · Diogelu (Dwyrain y Sir) a Gwella Gwasanaethau
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:
· Mynegwyd pryder ynghylch symud plant i wahanol leoliad addysgol/ysgol. Gofynnwyd am ddiweddariad yngl?n â'r sefyllfa o ran gwella'r cysylltiad rhwng gweithwyr cymdeithasol ac ysgolion, fel bo'r ysgol yn hollol ymwybodol o'r holl anghenion pan fo plant yn cyrraedd lleoliad newydd. Dywedodd swyddogion fod pob ymdrech yn cael ei gwneud i beidio â symud plant oedd yn derbyn gofal a bod yna dîm a oedd yn edrych ar y mater hwn. Pwysleisiwyd bod y berthynas roedd plant yn ei meithrin o fewn yr ysgol yn bwysig. Fodd bynnag, roedd achlysuron pan oedd symud ysgol er mwyn bod yn y gymuned roeddent yn byw ynddi o fudd i'r plant. O dan yr amgylchiadau hyn byddai'r ysgolion yn siarad â'i gilydd, a byddai'r cynlluniau'n cael eu trafod yng nghyfarfod adolygu'r plentyn sy'n derbyn gofal. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant sicrwydd i'r Pwyllgor fod y broses yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd gan y Pennaeth Plant a Theuluoedd a'r Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant. · Gofynnwyd i swyddogion sut byddai'r Cynnig 30 awr o Ofal Plant yn cael ei hyrwyddo gan ei bod yn ymddangos bod diffyg ymwybyddiaeth yngl?n â'r ddarpariaeth hon. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn mynd ati i hyrwyddo'r gwasanaeth hwn a bod gwaith parhaus yn digwydd gyda phartneriaid i hyrwyddo'r gwasanaeth. Dywedwyd y byddai cyflwyno'r gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd yn ei gwneud hi'n haws i rieni gael gwasanaethau a chael gwybod pa gymorth oedd ar gael iddynt. Dywedodd swyddogion wrth y Pwyllgor fod y niferoedd oedd yn manteisio ar y Cynnig yn Sir Gâr yn uchel. Er mwyn sicrhau bod teuluoedd cymwys yn ymwybodol o'r cynnig hwn roedd yr Awdurdod wrthi'n recriwtio swyddog cyfathrebu i gysylltu â'r teuluoedd hyn.
Penderfynwyd bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.
|
|||||||
ADRODDIAD PERFFORMIAD CWARTER 3 - 2022/23 YN ARBENNIG I'R PWYLLGOR CRAFFU HWN PDF 162 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer Chwarter 3, a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed gogyfer â'r camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol a'r 13 Amcan Llesiant oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor.
Nododd y Pwyllgor nad oedd 5 o'r 13 amcan yn cydymffurfio â'r targed, a bod y mesurau oedd ar waith yn cael effaith gadarnhaol o ran mynd i'r afael â hynny.
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.
|
|||||||
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 71 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol:
· Adroddiad Blynyddol - Diogelu · Strategaeth Gorfforaethol
PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.
|
|||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 88 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 17 Ebrill 2023.
|
|||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 24AIN IONAWR, 2023 PDF 123 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 24 Ionawr 2023 gan eu bod yn gywir.
|