Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Dydd Mercher, 5ed Hydref, 2022 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd D. Owen. 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

M. James

4. Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol 2021/22

Mae aelod agos o'r teulu mewn cartref gofal yn y sir;

M. James

 

5. Cymeradwyo Strategaeth Dementia Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru

Mae aelod agos o'r teulu wedi cael diagnosis o ddementia;

H.A.L. Evans

 

5. Cymeradwyo Strategaeth Dementia Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru

Mae ei g?r wedi cael diagnosis o nam gwybyddol ysgafn.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2021/22 pdf eicon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd M. James wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2021/22 ynghylch perfformiad gwasanaethau gofal cymdeithasol yn y sir. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu heriau blwyddyn na welwyd ei thebyg o'r blaen oherwydd Covid-19 ac yn tynnu sylw at y meysydd hynny oedd i gael eu datblygu yn y flwyddyn gyfredol.

 

Roedd yn ofynnol yn statudol i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol adrodd yn flynyddol wrth y Cyngor ar berfformiad yr ystod gyfan o Wasanaethau Cymdeithasol a'r modd y cânt eu darparu, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer eu gwella.

 

Nodwyd mai adroddiad drafft oedd hwn o hyd a bydd yn cael ei ddiwygio ymhellach cyn ei gwblhau.

 

Roedd y canlynol ymhlith y cwestiynau/sylwadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:-

 

·       Cytunodd Pennaeth y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd i gadarnhau'r sefyllfa bresennol o ran y Grant Cymorth Tai;

·       Mewn ymateb i gwestiwn dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod y ffigwr o 57% o ran y rhai oedd wedi dweud eu bod yn gallu gwneud y pethau oedd yn bwysig iddynt, yn eithaf cyson â'r blynyddoedd blaenorol;

·       Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, mewn ymateb i ymholiad, y byddai'r Fframwaith Gofal Cartref newydd, gobeithio, yn mynd i'r afael â'r heriau sy'n gysylltiedig â darparu gofal cartref mewn ardaloedd gwledig a oedd wedi'u gwaethygu gan brinder gweithlu;

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch a oedd y gyfradd gyflog o £13 yr awr ar gyfer gweithwyr gofal cartref mewnol yn deg o ran eu cyfrifoldebau, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol er bod cyfraddau cyflogau ac amodau gwasanaeth wedi gwella'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yn Sir Gaerfyrddin, fod lle i wneud cynnydd.

·       Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod darparu gofal ymataliaeth dros nos i bobl a oedd yn gaeth i'r gwely yn heriol a bod yn rhaid edrych ar bob achos yn unigol gan ddefnyddio arbenigedd y nyrs ymataliaeth;

·       Mewn ymateb i sylw a wnaed am yr angen i gynyddu nifer y staff gofal sy'n gallu sgwrsio yn Gymraeg, dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod Bwrdd yr Iaith Gymraeg mewn Gofal Cymdeithasol a Thai y mae'n gadeirydd arno. Cynhaliwyd sesiwn gweithdy yn ddiweddar i adnewyddu ei strategaeth ac roedd cynllun gweithredu'n cael ei lunio ar hyn o bryd. Cytunodd i roi manylion am ganran y staff sy'n gallu siarad Cymraeg a phwysleisiodd y gofynnir i ddefnyddwyr gwasanaeth bob amser am eu dewis iaith. Roedd darpariaeth hefyd ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth â nam ar eu clyw.

 

PENDERFYNWYD

 

4.1 ARGYMELL I'R CABINET fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;

 

4.2 bod Cadeirydd y Pwyllgor yn anfon llythyr at Lywodraeth Cymru yn ailadrodd pwysigrwydd cryfhau'r strwythurau sydd ar waith o ran plant sy'n cael Addysg Ddewisol yn y Cartref.

5.

CYMERADWYO STRATEGAETH DEMENTIA PARTNERIAETH GOFAL GORLLEWIN CYMRU pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr M. James a H.A.L. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, a bu iddynt aros yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried.]

 

Ystyriodd y Pwyllgor Strategaeth Dementia Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru. Roedd y strategaeth ranbarthol hon wedi'i llunio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Ceredigion a Chyngor Sir Penfro, y Bwrdd Iechyd a phartneriaid yn y trydydd sector yn ogystal â phobl â dementia, eu gofalwyr, ac aelodau o'r teulu ledled Cymru.

 

Roedd yr adroddiad yn cefnogi sawl amcan allweddol yn y Cynllun Corfforaethol, a'r Amcan Llesiant i gefnogi pobl h?n er mwyn iddynt heneiddio'n dda a chadw'u hurddas a'u hannibyniaeth wrth wneud hynny. Byddai cymeradwyo'r Strategaeth yn galluogi gwasanaethau i gael eu darparu yn unol ag anghenion y gymuned.

 

Roedd yr adroddiad yn gofyn i Gyngor Sir Caerfyrddin gymeradwyo'r strategaeth a oedd yn mynd drwy'r broses ddemocrataidd yng Ngheredigion a Sir Benfro ar yr un pryd. Roedd eisoes wedi cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd.

 

Roedd y canlynol ymhlith y cwestiynau/sylwadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:-

·       Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod rhai elfennau o'r strategaeth eisoes yn cael eu cyflawni ond bod angen nodi'r gwasanaethau sydd ar gael ac unrhyw fylchau gyda'r bwriad o ddatblygu mentrau newydd, mwy di-dor;

·      Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig, mewn ymateb i gwestiwn, y byddai'r strategaeth yn ymdrechu i sicrhau mynediad teg i wasanaethau sy'n gysylltiedig â dementia ar draws y sir.

 

PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CABINET fod Strategaeth Dementia Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru yn cael ei chymeradwyo.

 

6.

ADRODDIAD ALLDRO CYLLIDEB REFENIW 2021/22 pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Alldro'r Gyllideb Refeniw ar gyfer 2021/22 a oedd yn nodi’r sefyllfa ariannol fel yr oedd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Nodwyd bod y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn dangos amrywiant net o -£2,264k o gymharu â chyllideb gymeradwy 2021/22.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:-

 

-        Crynodeb o'r sefyllfa ar gyfer y Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

-        Adroddiad ar Brif Amrywiannau cyllidebau y cytunwyd arnynt;

-        Amrywiannau manwl;

-        Manylion y sefyllfa Monitro Arbedion ar gyfer diwedd y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

7.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2022/23 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Monitro ynghylch y Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 30 Mehefin 2022, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2022/23. 

 

Roedd y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn rhagweld gorwariant o £538k ar y gyllideb refeniw.  Roedd y prif amrywiannau ar gynlluniau cyfalaf yn dangos gwariant llawn rhagweladwy o gymharu â chyllideb net o £397k.

 

Mewn ymateb i ymholiad cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod achlysuron yn y gorffennol pan oedd Llywodraeth Cymru wedi clustnodi symiau untro i alluogi darparu mwy o gapasiti i ateb y galw o ran iechyd a gofal cymdeithasol a gwrthbwyso pwysau gwir gost heb orfod torri gwasanaethau mewn mannau eraill.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn. 

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD 2021/22 pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd 2021/22. Paratowyd yr adroddiad hwn er mwyn cydymffurfio ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor sy'n nodi bod yn rhaid i bob Pwyllgor Craffu baratoi adroddiad blynyddol sy'n egluro gweithgareddau'r Pwyllgor dros y flwyddyn flaenorol.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnig trosolwg o waith y Pwyllgor yn ystod blwyddyn y cyngor 2021/22 ac yn cynnwys gwybodaeth ynghylch y canlynol:-

 

• Trosolwg o'r blaengynllun gwaith

Y materion allweddol a ystyriwyd

Materion oedd wedi'u cyfeirio at y Bwrdd Gweithredol neu Bwyllgorau Craffu Eraill, neu ganddynt

Adolygiad Gorchwyl a Gorffen

Sesiynau Datblygu

Presenoldeb yr Aelodau yn y cyfarfodydd

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn. 

 

9.

CYNLLUN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU IECHYD A GWASANAETHAU CYMDEITHASOL AR GYFER 2022/23 pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ei Flaengynllun Waith ar gyfer blwyddyn nesaf y cyngor. Roedd y Cynllun wedi'i lunio mewn sesiwn anffurfiol i'r Pwyllgor a gynhaliwyd ym mis Medi ac roedd yn nodi'r rhaglen waith bresennol ar gyfer 2022/23.

 

Nodwyd ei bod yn ofynnol yn ôl Cyfansoddiad y Cyngor i bob Pwyllgor Craffu ddatblygu a chyhoeddi blaengynllun gwaith blynyddol, gan nodi materion ac adroddiadau sydd i'w hystyried yn ystod blwyddyn y cyngor.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau Blaengynllun Gwaith y Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2022/23.

 

10.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU pdf eicon PDF 78 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol:-

 

·         Adroddiad Rheoli Perfformiad Chwarter 1

·         Adroddiad Blynyddol y Cyngor ar Amcanion Llesiant.

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiadau. 

 

 

11.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 26AIN IONAWR 2022 pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2022 yn gofnod cywir.