Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Dydd Llun, 18fed Rhagfyr, 2023 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr B. Davies, B.A.L. Roberts a F. Walters.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

CYNLLUN RHEOLI CYFIAWNDER IEUENCTID BLYNYDDOL 2023/2024 pdf eicon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Sir Gâr ar gyfer 2023/24 ei gyflwyno i'r Pwyllgor.

 

Roedd y Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid yn amlinellu'r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid a'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid a ddarparwyd o dan un strwythur rheoli, a oedd yn darparu dull cyfannol o ddarparu gwasanaethau cymorth ieuenctid ledled Sir Gaerfyrddin. Roedd Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid hefyd yn manylu ar berfformiad y bartneriaeth yn ystod 24/22, a hefyd yn nodi'r blaenoriaethau a'r amcanion cynllunio gwelliannau am y flwyddyn i ddod, yn unol â'r egwyddorion 'plentyn yn gyntaf' cyffredinol ac ethos o welliant parhaus.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor gan yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod y portffolios yn gorgyffwrdd ac mai dim ond elfen Cyfiawnder Ieuenctid Statudol yr adroddiad oedd o dan gylch gwaith y Pwyllgor hwn. 

 

Rhoddwyd esboniad sut oedd y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn cael ei ariannu a bod y gyllideb yn dangos cynnydd o 20% ar gyfer 2023/24.  Fodd bynnag, nodwyd mai cyllid tymor byr oedd hwnnw ar gyfer gwaith Cyfiawnder Ieuenctid ac Atal, a bod angen cynllunio a monitro gofalus o ran y gwahanol ffynonellau grant.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt.  Dyma'r prif faterion:

  • Mewn ymateb i sylwadau ynghylch cynnydd elfennau o gynllun gweithredu hunanasesu 2022/24, ac os oedd y dyddiadau targed yn realistig, dywedodd swyddogion fod y cynllun yn ddeinamig ac mai ei fwriad oedd adrodd ar yr ymateb Cyfiawnder Ieuenctid i fframwaith a chanllawiau arolygu Arolygiaeth Prawf Ei Fawrhydi (HMIP).  Mynegwyd bod hunanasesu yn parhau i fod yn bwysig gan y byddai'n gyrru'r busnes yn ei flaen.  Nodwyd bod y cynllun yn ddogfen waith sy'n esblygu a byddai'n cael ei diweddaru drwy ddileu neu ychwanegu eitemau i adlewyrchu anghenion y gwasanaeth a newidiadau i ofynion polisi a statudol.  Dywedodd swyddogion wrth y Pwyllgor fod canlyniad arolygiad HMIP mis Tachwedd yn gadarnhaol iawn.
  • Mewn ymateb i bryderon a godwyd ynghylch plentyn nad oedd yn fodlon cael ei gyfeirio at CAMHS, rhoddwyd sicrwydd y gellid cael mynediad at wasanaethau eraill gan gynnwys y Tîm Iechyd Ieuenctid ac ymarferwyr wedi'u hyfforddi'n dda.  Dywedwyd hefyd, er na ellid gorfodi plentyn i dderbyn ymyriadau meddygol, fod dulliau eraill ar gael i amddiffyn y plentyn fel y Ddeddf Iechyd Meddwl a phwerau amddiffyn yr heddlu.
  • Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r Biwro, dywedwyd wrth y Pwyllgor taw mecanwaith o fewn Heddlu

Dyfed-Powys ydoedd, i fynd i'r afael â throseddu mewn ffordd oedd yn canolbwyntio ar y plentyn.  Roedd y system yn rhoi cyfle i'r plentyn wyro oddi wrth y system gyfiawnder gan fod penderfyniadau'r tu allan i'r llys yn cael eu defnyddio, lle roedd yr heddlu o'r farn y gellid ymdrin â phlentyn a'i wyro oddi wrth system y llysoedd.  Mae'r Biwro'n caniatáu i'r plant a'r dioddefwyr gael llais.

  • O ran recriwtio staff, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod staff ychwanegol wedi cael eu recriwtio ers llunio'r adroddiad, ond bod angen ystyried cynaliadwyedd wrth gynllunio oherwydd y ddibyniaeth bresennol ar gyllid grant fel y Gronfa Ffyniant Gyffredin a fyddai'n dod i ben ddiwedd mis Mawrth 2025.  Rhoddwyd gwybod i'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CHWARTER 2 2023/24 SY'N BERTHNASOL I'R MAES CRAFFU HWN GWELEDIGAETH, CAMAU GWEITHREDU A MESUR Y CABINET pdf eicon PDF 194 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 2023/24 am y Camau Gweithredu a'r Mesurau sy'n berthnasol i'r Pwyllgor Craffu hwn o ran Gweledigaeth y Cabinet. Dangosodd yr adroddiad y cynnydd fel yr oedd ar ddiwedd Chwarter 2 – 2023/24 o ran cyflawni yn erbyn Gweledigaeth y Cabinet.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt.  Dyma'r prif faterion:

·    Gofynnwyd beth oedd y problemau oedd wedi arwain at yr ôl-groniad o ran addasiadau a pha gamau oedd yn cael eu cymryd i wella'r problemau.  Dywedodd swyddogion mai dau brif achos yr ôl-groniad oedd y pandemig gan fod y gwaith wedi stopio bryd hynny ac yna'r gostyngiad mewn argaeledd contractwyr. Rhoddwyd sicrwydd bod nifer yr addasiadau llai oedd heb eu cwblhau yn lleihau'n gyflym a bod fframwaith gwaith bach newydd yn cael ei weithredu a fyddai'n caniatáu i'r awdurdod weithio'n uniongyrchol gyda chontractwyr llai a lleihau'r ddibyniaeth ar y contractwyr mwy. 

·    Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â mynediad at gymorth Iechyd Meddwl, dywedodd swyddogion eu bod yn edrych ar ffyrdd o weithio ar draws gwasanaethau oedolion a phlant gan ei fod yn cael ei gydnabod y gallai ymdrin â phroblemau iechyd meddwl yn gynnar atal oes o broblemau. Yn ystadegol, dechreuodd problemau tua 60% o'r oedolion oedd wedi cael diagnosis o broblemau iechyd meddwl cyn eu bod yn 14 oed felly roedd yn flaenoriaeth sicrhau bod pobl yn cael mynediad at y gwasanaeth priodol ar yr adeg iawn.  Gallai'r gwasanaeth gael ei ddarparu gan sefydliad trydydd sector, micro-fenter, llwybr llesiant yr awdurdod neu ymarferydd plant oedd yn mynd i mewn i gynorthwyo teuluoedd.  Mynegwyd bod cydweithio â'r Bwrdd Iechyd wedi gwella ynghyd â sefydlu'r rhif 111 opsiwn 2 i siarad ag ymarferydd iechyd meddwl pwrpasol.  Dywedwyd mai'r unig ateb oedd dull cydweithredol a bod cynorthwyo pobl â gorbryder neu iselder ar lefel isel yn bwysig i'w hatal rhag dioddef problemau iechyd meddwl gydol oes.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

6.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CWARTER 2 - 2023/24 (01/04/23-30/09/23) YN BRIODOL I'R PWYLLGOR CRAFFU HWN pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer Chwarter 2, a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed gogyfer â'r camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol a'r Amcanion Llesiant oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt.  Dyma'r prif faterion:

·    Mewn ymateb i ymholiad ynghylch yr amcan Dechrau'n Deg oedd oddi ar y targed a'r ymgysylltiad â theuluoedd, dywedodd swyddogion fod ymgysylltiad da ond bod ehangu ar y gweill a bod rhai meysydd yn her iddynt.

·    Mewn ymateb i her ynghylch rhai o'r targedau a monitro'r targedau hyn, dywedodd swyddogion mai dangosfwrdd yn unig oedd yr adroddiad a roddai gyfle i aelodau ofyn cwestiynau, ond roeddent yn cydnabod y byddai sylwadau mwy gwerthusol yn briodol ac yn ddefnyddiol i'r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

7.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 72 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol:

 

·         Strategaeth Gwasanaethau Cymdeithasol 10 mlynedd

·         Adroddiad Blynyddol - Diogelu

·         Seibiannau byr/gwasanaethau cymunedol ar gyfer plant anabl a’u teuluoedd

·         Gwasanaethau Plant – Cynllun Gweithredu

 

Cododd y Pwyllgor bryderon ynghylch nifer yr adroddiadau hwyr a'r diffyg rheswm dros beidio â'u cyflwyno.  Ymatebodd swyddogion drwy gadarnhau na dderbyniwyd adroddiad seibiannau byr/gwasanaethau cymunedol i blant anabl a'u teuluoedd oherwydd camsyniad gweinyddol.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Cynllun Gweithredu y Gwasanaethau Plant yn cael ei ddatblygu mewn tri cham, a phan fyddent wedi'u cwblhau'n llawn byddent yn cael eu cyflwyno at ddibenion craffu. Dywedodd y Pwyllgor wrth swyddogion fod hwn yn faes oedd yn peri pryder yr oedd gofyn ei fonitro a chraffu arno a byddai angen adroddiad ar gyfer y cyfarfod nesaf ym mis Ionawr 2024 (Ymgynghori ar y Gyllideb).

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.

 

8.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 25 Ionawr 2024.

 

9.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 28AIN TACHWEDD, 2023 pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 28 Tachwedd 2023 gan eu bod yn gywir.