Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr B. Davies a J. Jenkins.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

PWNC AWGRYMEDIG AR GYFER ADOLYGU pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor gais gan Mr Alex Williamson o Ymddiriedolaeth WAVE yn gofyn i'r Pwyllgor edrych:

 

·    a oedd unrhyw fylchau yn y darpariaethau presennol oedd ar waith yn Sir Gaerfyrddin yn ymwneud â rhagdybiaeth a chymorth blynyddoedd cynnar. 

·    a oedd unrhyw fylchau yn y darpariaethau presennol oedd ar waith yn Sir Gaerfyrddin o ran gwasanaethau rheng flaen megis tai, refeniw a budd-daliadau a gwasanaethau cysylltiedig fel y Ganolfan Byd Gwaith ynghylch gweithredu arferion ymwybodol o drawma a/neu ddulliau ymwybodol o drawma.

 

Cyflwynodd Mr Alex Williamson ei achos a'i resymau i'r Pwyllgor ynghylch pam y dylid adolygu'r materion a godwyd.  Diolchodd Mr Williamson i'r swyddogion am yr adroddiad a'u tryloywder wrth gydnabod y meysydd i'w gwella.

 

 

Dywedodd Mr Williamson wrth y Pwyllgor fod Ymddiriedolaeth WAVE ers 2010 wedi bod yn ymgyrchu i leihau lefel y plant oedd wedi profi camdriniaeth ac esgeulustod ar draws y DU o leiaf 70% erbyn 2030.  Dywedodd y byddai nod o'r fath ond yn gyraeddadwy pe bai Ymddiriedolaeth WAVE yn gallu gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ledled y DU a gweithio gyda nhw i gyflawni cynlluniau gweithredu lleol.  Roedd cynlluniau eisoes yn cael eu llunio ar draws nifer o gynghorau yn Lloegr a'r Alban. Fodd bynnag, nid oedd yr un awdurdod lleol yng Nghymru wedi ymrwymo eto a gofynnodd i'r pwyllgor ystyried a oedd posibilrwydd i Sir Gaerfyrddin fod y cyntaf.

Dywedodd y Cadeirydd wrth Mr Williamson fod gweithio mewn partneriaeth y tu allan i friff y Pwyllgor Craffu ond o bosib bod hynny'n rhywbeth y gallai'r Tîm Comisiynu ei ystyried. 

 

Cytunodd y Pwyllgor fod yr adroddiad a ddarparwyd gan swyddogion yn nodi safbwynt clir o ran y sefyllfa bresennol, ond dylai'r Pwyllgor fonitro'r cynnydd o ran mynd i'r afael â'r bylchau hyn. Awgrymodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd y dylai'r Pwyllgor adolygu'r Strategaeth Cymorth i Deuluoedd a oedd yn cael ei llunio ar hyn o bryd. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Strategaeth Cymorth i Deuluoedd yn cael ei hychwanegu at y Blaengynllun Gwaith. 

 

5.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2023/24 pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar  31 Awst, 2023, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2023/24.

 

Roedd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhagweld gorwariant o £7,902k ar y gyllideb refeniw. Dangosodd y prif amrywiadau ar gynlluniau cyfalaf amrywiant disgwyliedig o -14k yn erbyn cyllideb net o £1,139k ar brosiectau gofal cymdeithasol, ac amrywiad o -£230k yn erbyn cyllideb net prosiectau'r Gwasanaethau Plant o £517k.

 

Amlygodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod y gorwariant cyllidebol a ragwelir ar Wasanaethau Plant o bryder sylweddol i sefyllfa'r gyllideb gorfforaethol, ac wrth gydnabod hyn sefydlwyd gweithgor i ymchwilio a nodi camau cywirol lle bo hynny'n bosibl.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y gweithgor yn cyfarfod yn wythnosol ac yn cael ei gadeirio gan y Dirprwy Brif Weithredwr ac yn cynnwys uwch-swyddogion o bob rhan o'r Cyngor, yn ogystal â thîm arweinyddiaeth y Gwasanaethau Plant.

 

Unwaith eto, mynegodd y Pwyllgor eu pryder bod yr adroddiad ond yn ymdrin â'r sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Awst.  Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p ei bod wedi cymryd tua dau fis i greu ac adolygu'r adroddiadau, ac i'r adroddiad fynd drwy'r broses ddemocrataidd, ond rhoddodd sicrwydd i'r Pwyllgor fod y Tîm Cyfrifeg yn adolygu'r broses yn rheolaidd ond nad oeddent wedi gallu dod o hyd i ffordd o leihau'r amser roedd llunio'r adroddiadau yn ei gymryd.  Soniwyd hefyd fod yr adroddiad yn rhagweld y flwyddyn gyfan ac nid mis Awst yn unig.

 

Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â'r cynnydd ariannol ar gyfer darparu gofal cartref a gwasanaethau i oedolion, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod y sefyllfa yn waeth oherwydd chwyddiant ac y byddai'n anodd ystyried hyn yn y gyllideb.  Dywedwyd byddai cadw rhai swyddi'n wag (fel Gweithwyr Cymdeithasol) yn wrthgynhyrchiol gan y byddai costau comisiynu yn uwch.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

6.

DOMICILIARY CARE PERFORMANCE UPDATE pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yr oedd wedi gofyn amdano yn ymwneud â'r pwysau presennol ar ofal cartref, a'r effaith yr oedd hyn yn ei chael ar ryddhau cleifion o ysbytai.  Bwriad yr adroddiad oedd rhoi sicrwydd bod cleifion yn cael cefnogaeth ddiogel i adael yr ysbyty ac roedd yn amlinellu'r pwysau a sut roedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymateb i'r pwysau hynny.

 

Yr adroddiad hwn oedd y trydydd diweddariad yr oedd y Pwyllgor wedi'i gael a oedd yn cynnwys y data diweddaraf a gasglwyd hyd at ddiwedd Medi 2023.

 

Amlygodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod gwelliannau wedi bod, yn enwedig ers mis Awst 2023, a bod hyn yn cyd-fynd ag ail-lansio'r Fframwaith Gofal Cartref ac ychwanegu 4 darparwr gofal newydd a oedd wedi cynyddu capasiti'r sector ymhellach.   O ganlyniad, roedd twf cyffredinol wedi bod yn nifer yr oriau a gomisiynwyd ar gyfer gofal cartref, a gostyngiad mewn oriau ac yn nifer y bobl oedd yn aros yn y gymuned ac mewn ysbytai.

 

Nodwyd, er bod cynnydd wedi'i wneud, fod cryn dipyn o angen heb ei ddiwallu o hyd yr oedd angen ei fonitro er mwyn sicrhau bod pobl yn parhau i fod yn ddiogel wrth aros am ofal.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod cyfarfod yn cael ei gynnal bob pythefnos i adolygu arosiadau hir mewn ysbytai er mwyn sicrhau bod yr holl opsiynau wedi'u hystyried, gan leihau nifer y bobl oedd yn gorfod aros am gyfnod hir yn yr ysbyty. Hefyd, roedd paneli uwchgyfeirio yn cael eu cynnal ddwywaith yr wythnos a chai'r holl achosion anodd eu cyfeirio iddynt. Roedd yr adolygiadau hyn o gleifion arhosiad hir wedi lleihau'n sylweddol y niferoedd â hyd arhosiad o fwy na 100 diwrnod, a fyddai yn ei dro yn cael effaith gadarnhaol ar gomisiynu gofal cymdeithasol.

 

Nodwyd bod yr Awdurdod hefyd yn cynnig Delta CONNECT a thaliadau uniongyrchol i'r sawl oedd angen y gofal, a hefyd i'r gofalwr a oedd yn darparu gofal i gefnogi unigolion tra oeddent yn gofalu am rywun oedd yn aros am ofal.

 

Dywedwyd bod y twf yn nifer yr oriau a gomisiynwyd ar gyfer gofal cartref oddeutu 7% ar gyfer 6 mis cyntaf 2023-2024. Tua £1m oedd y gorwariant a ragwelwyd ar gyfer y flwyddyn bresennol - gan dybio byddai twf pellach yn Hydref - Mawrth.  Cafodd hyn ei wrthbwyso'n rhannol gan y gostyngiad yn yr oriau roedd ein gwasanaeth mewnol yn eu darparu.  Rhagamcanwyd tanwariant yn y gwasanaeth mewnol o £727k (adeg monitro'r gyllideb yn Awst 2023) o achos problemau recriwtio staff.

 

Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n ag ail-lansio'r fframwaith Gofal Cartref a'r sefyllfa cwympo'n ôl ar gyfer y gwasanaethau a ddarperir gan y comisiynu, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod cael 4 asiantaeth Gofal Cartref yn fanteisiol, oherwydd pe bai un yn mynd yn fethdalwr byddai tair asiantaeth arall ar gael.  Rhoddwyd sylw i bwysigrwydd cael gwasanaeth mewnol i ddarparu parhad gofal ac ystyriwyd bod hynny'n elfen hanfodol o ddarpariaeth gofal.

 

Mewn ymateb i'r cyfeiriad  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 72 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad craffu canlynol.

 

·    Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid

·    Seibiannau byr/gwasanaethau cymunedol ar gyfer plant anabl a’u teuluoedd

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.

 

8.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 18 Rhagfyr 2023.

 

9.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 4YDD HYDREF, 2023 pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 4 Hydref 2023 gan eu bod yn gywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau