Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr B. Davies a J. Jenkins.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
PWNC AWGRYMEDIG AR GYFER ADOLYGU PDF 118 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor gais gan Mr Alex Williamson o Ymddiriedolaeth WAVE yn gofyn i'r Pwyllgor edrych:
· a oedd unrhyw fylchau yn y darpariaethau presennol oedd ar waith yn Sir Gaerfyrddin yn ymwneud â rhagdybiaeth a chymorth blynyddoedd cynnar. · a oedd unrhyw fylchau yn y darpariaethau presennol oedd ar waith yn Sir Gaerfyrddin o ran gwasanaethau rheng flaen megis tai, refeniw a budd-daliadau a gwasanaethau cysylltiedig fel y Ganolfan Byd Gwaith ynghylch gweithredu arferion ymwybodol o drawma a/neu ddulliau ymwybodol o drawma.
Cyflwynodd Mr Alex Williamson ei achos a'i resymau i'r Pwyllgor ynghylch pam y dylid adolygu'r materion a godwyd. Diolchodd Mr Williamson i'r swyddogion am yr adroddiad a'u tryloywder wrth gydnabod y meysydd i'w gwella.
Dywedodd Mr Williamson wrth y Pwyllgor fod Ymddiriedolaeth WAVE ers 2010 wedi bod yn ymgyrchu i leihau lefel y plant oedd wedi profi camdriniaeth ac esgeulustod ar draws y DU o leiaf 70% erbyn 2030. Dywedodd y byddai nod o'r fath ond yn gyraeddadwy pe bai Ymddiriedolaeth WAVE yn gallu gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ledled y DU a gweithio gyda nhw i gyflawni cynlluniau gweithredu lleol. Roedd cynlluniau eisoes yn cael eu llunio ar draws nifer o gynghorau yn Lloegr a'r Alban. Fodd bynnag, nid oedd yr un awdurdod lleol yng Nghymru wedi ymrwymo eto a gofynnodd i'r pwyllgor ystyried a oedd posibilrwydd i Sir Gaerfyrddin fod y cyntaf. Dywedodd y Cadeirydd wrth Mr Williamson fod gweithio mewn partneriaeth y tu allan i friff y Pwyllgor Craffu ond o bosib bod hynny'n rhywbeth y gallai'r Tîm Comisiynu ei ystyried.
Cytunodd y Pwyllgor fod yr adroddiad a ddarparwyd gan swyddogion yn nodi safbwynt clir o ran y sefyllfa bresennol, ond dylai'r Pwyllgor fonitro'r cynnydd o ran mynd i'r afael â'r bylchau hyn. Awgrymodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd y dylai'r Pwyllgor adolygu'r Strategaeth Cymorth i Deuluoedd a oedd yn cael ei llunio ar hyn o bryd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Strategaeth Cymorth i Deuluoedd yn cael ei hychwanegu at y Blaengynllun Gwaith.
|
|
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2023/24 PDF 106 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Awst, 2023, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2023/24.
Roedd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhagweld gorwariant o £7,902k ar y gyllideb refeniw. Dangosodd y prif amrywiadau ar gynlluniau cyfalaf amrywiant disgwyliedig o -14k yn erbyn cyllideb net o £1,139k ar brosiectau gofal cymdeithasol, ac amrywiad o -£230k yn erbyn cyllideb net prosiectau'r Gwasanaethau Plant o £517k.
Amlygodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod y gorwariant cyllidebol a ragwelir ar Wasanaethau Plant o bryder sylweddol i sefyllfa'r gyllideb gorfforaethol, ac wrth gydnabod hyn sefydlwyd gweithgor i ymchwilio a nodi camau cywirol lle bo hynny'n bosibl. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y gweithgor yn cyfarfod yn wythnosol ac yn cael ei gadeirio gan y Dirprwy Brif Weithredwr ac yn cynnwys uwch-swyddogion o bob rhan o'r Cyngor, yn ogystal â thîm arweinyddiaeth y Gwasanaethau Plant.
Unwaith eto, mynegodd y Pwyllgor eu pryder bod yr adroddiad ond yn ymdrin â'r sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Awst. Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p ei bod wedi cymryd tua dau fis i greu ac adolygu'r adroddiadau, ac i'r adroddiad fynd drwy'r broses ddemocrataidd, ond rhoddodd sicrwydd i'r Pwyllgor fod y Tîm Cyfrifeg yn adolygu'r broses yn rheolaidd ond nad oeddent wedi gallu dod o hyd i ffordd o leihau'r amser roedd llunio'r adroddiadau yn ei gymryd. Soniwyd hefyd fod yr adroddiad yn rhagweld y flwyddyn gyfan ac nid mis Awst yn unig.
Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â'r cynnydd ariannol ar gyfer darparu gofal cartref a gwasanaethau i oedolion, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod y sefyllfa yn waeth oherwydd chwyddiant ac y byddai'n anodd ystyried hyn yn y gyllideb. Dywedwyd byddai cadw rhai swyddi'n wag (fel Gweithwyr Cymdeithasol) yn wrthgynhyrchiol gan y byddai costau comisiynu yn uwch.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
DOMICILIARY CARE PERFORMANCE UPDATE PDF 106 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yr oedd wedi gofyn amdano yn ymwneud â'r pwysau presennol ar ofal cartref, a'r effaith yr oedd hyn yn ei chael ar ryddhau cleifion o ysbytai. Bwriad yr adroddiad oedd rhoi sicrwydd bod cleifion yn cael cefnogaeth ddiogel i adael yr ysbyty ac roedd yn amlinellu'r pwysau a sut roedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymateb i'r pwysau hynny.
Yr adroddiad hwn oedd y trydydd diweddariad yr oedd y Pwyllgor wedi'i gael a oedd yn cynnwys y data diweddaraf a gasglwyd hyd at ddiwedd Medi 2023.
Amlygodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod gwelliannau wedi bod, yn enwedig ers mis Awst 2023, a bod hyn yn cyd-fynd ag ail-lansio'r Fframwaith Gofal Cartref ac ychwanegu 4 darparwr gofal newydd a oedd wedi cynyddu capasiti'r sector ymhellach. O ganlyniad, roedd twf cyffredinol wedi bod yn nifer yr oriau a gomisiynwyd ar gyfer gofal cartref, a gostyngiad mewn oriau ac yn nifer y bobl oedd yn aros yn y gymuned ac mewn ysbytai.
Nodwyd, er bod cynnydd wedi'i wneud, fod cryn dipyn o angen heb ei ddiwallu o hyd yr oedd angen ei fonitro er mwyn sicrhau bod pobl yn parhau i fod yn ddiogel wrth aros am ofal.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod cyfarfod yn cael ei gynnal bob pythefnos i adolygu arosiadau hir mewn ysbytai er mwyn sicrhau bod yr holl opsiynau wedi'u hystyried, gan leihau nifer y bobl oedd yn gorfod aros am gyfnod hir yn yr ysbyty. Hefyd, roedd paneli uwchgyfeirio yn cael eu cynnal ddwywaith yr wythnos a chai'r holl achosion anodd eu cyfeirio iddynt. Roedd yr adolygiadau hyn o gleifion arhosiad hir wedi lleihau'n sylweddol y niferoedd â hyd arhosiad o fwy na 100 diwrnod, a fyddai yn ei dro yn cael effaith gadarnhaol ar gomisiynu gofal cymdeithasol.
Nodwyd bod yr Awdurdod hefyd yn cynnig Delta CONNECT a thaliadau uniongyrchol i'r sawl oedd angen y gofal, a hefyd i'r gofalwr a oedd yn darparu gofal i gefnogi unigolion tra oeddent yn gofalu am rywun oedd yn aros am ofal.
Dywedwyd bod y twf yn nifer yr oriau a gomisiynwyd ar gyfer gofal cartref oddeutu 7% ar gyfer 6 mis cyntaf 2023-2024. Tua £1m oedd y gorwariant a ragwelwyd ar gyfer y flwyddyn bresennol - gan dybio byddai twf pellach yn Hydref - Mawrth. Cafodd hyn ei wrthbwyso'n rhannol gan y gostyngiad yn yr oriau roedd ein gwasanaeth mewnol yn eu darparu. Rhagamcanwyd tanwariant yn y gwasanaeth mewnol o £727k (adeg monitro'r gyllideb yn Awst 2023) o achos problemau recriwtio staff.
Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n ag ail-lansio'r fframwaith Gofal Cartref a'r sefyllfa cwympo'n ôl ar gyfer y gwasanaethau a ddarperir gan y comisiynu, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod cael 4 asiantaeth Gofal Cartref yn fanteisiol, oherwydd pe bai un yn mynd yn fethdalwr byddai tair asiantaeth arall ar gael. Rhoddwyd sylw i bwysigrwydd cael gwasanaeth mewnol i ddarparu parhad gofal ac ystyriwyd bod hynny'n elfen hanfodol o ddarpariaeth gofal.
Mewn ymateb i'r cyfeiriad ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 72 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad craffu canlynol.
· Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid · Seibiannau byr/gwasanaethau cymunedol ar gyfer plant anabl a’u teuluoedd
PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.
|
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 91 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 18 Rhagfyr 2023.
|
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 4YDD HYDREF, 2023 PDF 113 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 4 Hydref 2023 gan eu bod yn gywir.
|