Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Dydd Mercher, 5ed Gorffennaf, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr B. Davies a K. Davies.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2022/23 PWYLLGOR CRAFFU IECHYD A GWASANAETHAU CYMDEITHASOL pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol ynghylch ei waith yn ystod blwyddyn y cyngor 2022/23 . Roedd yr adroddiad wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Craffu baratoi adroddiad blynyddol sy'n egluro gweithgareddau'r Pwyllgor dros y flwyddyn flaenorol.

 

Roedd yr adroddiad yn bwrw golwg gyffredinol ar raglen waith y Pwyllgor a'r materion allweddol a ystyriwyd yn ystod y flwyddyn. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am sesiynau datblygu ac am ymweliadau safle a oedd wedi'u trefnu ar gyfer y Pwyllgor yn ogystal â data am bresenoldeb.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd 2022/23.

 

5.

GRWP GORCHWYL A GORFFEN Y PWYLLGOR CRAFFU IECHYD & GWASANAETHAU CYMDEITHASOL, DOGFEN CYNLLUNIO A CHWMPASU 2023/24 pdf eicon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno i gynnal adolygiad ynghylch cynnydd mewn gordewdra yn ystod plentyndod, a hynny ar ôl cais am awgrymiadau ar gyfer prosiectau posibl y Gr?p Gorchwyl a Gorffen. Y teitl arfaethedig ar gyfer y prosiect oedd "Cychwyn Iach ac Egnïol".

 

Yn ogystal, roedd angen i'r Pwyllgor gadarnhau'r aelodau a ddylai fod yn rhan o'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen, a ddylai gynnwys hyd at 7 aelod sy'n wleidyddol gytbwys.

 

Nodwyd bod cyfarfod cyntaf y Gr?p Gorchwyl a Gorffen wedi'i gynnal ar 18 Mai, 2023 pan oedd Cadeirydd ac Is-gadeirydd wedi cael eu penodi o blith aelodau'r Gr?p.  Bydd swyddogion yr Adran Cymunedau, Addysg a Gwasanaethau Plant a'r Uned Gwasanaethau Democrataidd yn cefnogi gwaith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen.

 

PENDERFYNWYD

 

5.1

cymeradwyo Dogfen Gwmpasu y Gr?p Gorchwyl a Gorffen;

5.2

cadarnhau nodau a chwmpas gwaith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen;

5.2

bod aelodaeth y Gr?p Gorchwyl a Gorffen fel a ganlyn:-

  • Y Cynghorydd Hazel Evans (Cadeirydd)
  • Y Cynghorydd Hefin Jones
  • Y Cynghorydd Meinir James
  • Y Cynghorydd Louvain Roberts (Is-gadeirydd)
  • Y Cynghorydd John Jenkins - Annibynnol
  • Y Cynghorydd Michelle Donoghue
  • Y Cynghorydd Rob Evans

5.3

Mai "Cychwyn Iach ac Egnïol" (gr?p oedran 0-11 mlwydd oed) yw teitl y Ddogfen Gwmpasu.

 

 

6.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 72 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad craffu canlynol.

 

·    Strategaeth Gwasanaethau Cymdeithasol 10 mlynedd

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.

 

7.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 4 Hydref 2023.

 

8.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 7FED MEHEFIN, 2023 pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 7 Mehefin, 2023 gan eu bod yn gywir.