Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Rhif | eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr K. Davies a F. Walters. |
||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig. |
||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [Ar ôl datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, arhosodd y Cynghorwyr S Davies a J.P. Hart yn y cyfarfod, ond fel sylwedyddion, ac ni wnaethant gymryd rhan yn y trafodaethau na'r bleidlais ddilynol].
Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan Dr P. Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Dr G. Shankar, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Athro K. Neal, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd a oedd yn crynhoi canlyniad yr adolygiad allanol a gomisiynwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ar yr achosion o TB yn ardal Llwynhendy.
Roedd y cyflwyniad yn canolbwyntio ar reoli iechyd y cyhoedd ac ymateb i bedwar cam yr achosion. Cafodd yr aelodau wybod bod cychwyn Tîm Rheoli Achosion (OCT) yn ystod y cam cyntaf wedi cael ei stopio cyn pryd ac yna cafodd ei ailgychwyn ar dri achlysur arall. Dangosodd canfyddiadau'r adroddiad fod yr ymateb cychwynnol yn annigonol, ond ers hynny roedd y prosesau wedi'u cryfhau'n sylweddol wrth gyflwyno gwasanaeth ffurfiol ar gyfer TB yn 2014 a nyrs TB bwrpasol yn 2019. Darparwyd i'r Pwyllgor drosolwg o'r cynnydd a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ynghyd â'r dysgu sefydliadol i reoli'r achosion yn well, a chydnabuwyd bod lle i ddatblygu ac i wneud gwelliannau pellach o ran hyn o beth.
Rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor fod yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad wedi'u derbyn yn llawn a bod cynllun gweithredu ar y cyd wedi'i roi ar waith o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i fynd i'r afael â'r materion a godwyd ac i sicrhau trefniadau gwaith agosach rhwng y ddau sefydliad.
Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn: Cyfeiriwyd at y casgliadau a nodwyd yn adran 8 yr adroddiad lle cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, er bod cyfradd genedlaethol TB yn parhau i ostwng, nad oedd ffigyrau ar gael y tu hwnt i 2018 ac nad oedd yn ymwybodol o unrhyw achosion newydd ers 2018.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch dyddiadau targed y cynllun gweithredu, eglurodd y Cyfarwyddwr Meddygol y byddai adroddiadau cynnydd ar y camau gweithredu, ynghyd â dyddiadau cwblhau targed wedi'u diweddaru, yn cael eu cyflwyno i gyfarfodydd y Pwyllgor Ansawdd a Diogelwch.
Mewn ymateb i ymholiadau gan y Pwyllgor, eglurodd yr Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, nad oedd sail gyfreithiol i orchymyn unigolion i fynd i glinigau gwasanaeth TB, ond cafodd cyfanswm o 50 a nodwyd fel cysylltiadau eu cyfweld i ganfod y rhesymau dros beidio â gwneud hynny, a byddai'r canlyniadau'n cael eu dadansoddi mewn ymdrech i fynd i'r afael â'r mater. Yn unol â chyfrifoldebau statudol Iechyd Cyhoeddus Cymru i gadw golwg ar glefydau heintus, rhoddodd y Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd grynodeb o brosesau monitro'r Tîm Rheoli Achosion i fonitro achosion gweithredol a chudd, y gwaith o broffilio achosion newydd a'r defnydd o dechnoleg i nodi achosion cysylltiedig.
Cyfeiriwyd hefyd at Adolygiad o Garfan y Cleifion TB dan arweiniad y Gr?p Cyflawni Anadlol a gynhaliodd adolygiad gan gymheiriaid o reoli achosion mewn amgylchedd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
||||||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2022/23 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2022, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2022/23.
Roedd yr adroddiad yn manylu ar orwariant amcanol o £6,329k o ran y gyllideb refeniw ac y byddai £503k o amrywiant mewn perthynas â'r gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2022/23. Hefyd tynnwyd sylw'r Pwyllgor at yr adroddiad arbedion a oedd yn nodi y rhagwelwyd y byddai £1,338k o arbedion rheolaethol yn cael eu cyflawni ar ddiwedd y flwyddyn mewn perthynas â tharged o £1,603k.
Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:- Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd drosolwg o'r sefyllfa'n genedlaethol ac yn lleol mewn perthynas â'r argyfwng ar hyn o bryd o ran capasiti mewn lleoliadau, ynghyd â'r newid o ran y galw am ddarpariaeth gwasanaeth iechyd meddwl i bobl ifanc ar ôl y pandemig. Rhoddwyd sicrwydd fod yr adran yn ymdrechu i sicrhau capasiti digonol mewn lleoliadau i ddiwallu anghenion pobl ifanc. Mewn ymateb i ymholiad dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau y gallai'r Awdurdod ystyried cysylltu â Llywodraeth Cymru gyda'r bwriad o ofyn am gymorth ariannol i gwrdd â gwariant sylweddol yn y dyfodol o ganlyniad i achosion annisgwyl ac acíwt. Yn ogystal, er gwaethaf y gwariant sylweddol ar gyfer lleoliadau y tu allan i'r sir a'r heriau a wynebir gan yr Awdurdod i ateb y galw o ran hyn o beth, nodwyd bod yr amseroedd aros o ran cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc yng Nghymru yn cymharu'n ffafriol â Lloegr a'r Alban.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
||||||||||
DIWEDDARIAD PERFFORMIAD GOFAL CARTREF Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn ogystal â chais y Pwyllgor yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2023, rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad diweddaru mewn perthynas â'r pwysau ar ofal cartref ar hyn o bryd a'r heriau y mae'r Awdurdod yn eu hwynebu i sicrhau bod digon o leoedd i ateb y galw. Roedd y Pwyllgor yn cydnabod yr heriau parhaus a wynebir gan y sector o ran y gweithlu yn genedlaethol a arweiniodd at faterion recriwtio a chadw gweithwyr gofal.
Roedd yr adroddiad yn manylu ar ddata perfformiad allweddol yn y meysydd canlynol: · Nifer yr oriau a gomisiynwyd ar gyfer gofal cartref; · Nifer yr oriau o ran aros am ofal yn y cartref; · Nifer y bobl sy'n aros yn y gymuned am ofal cartref; · Nifer y bobl sy'n aros yn yr ysbyty am ofal cartref ; · Nifer yr oriau a ryddhawyd o adolygiadau; · Datblygiadau yn y dyfodol o ran ehangu'r gwasanaeth yn fewnol a chomisiynu gofal cartref yn allanol; · Y camau a gymerwyd i liniaru'r risg.
Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:-
Wrth ystyried y datblygiadau o ran comisiynu allanol, canmolodd Aelod y gwaith o sefydlu'r bwrdd prosiect a gofynnodd am enghraifft o nifer, amlder a lledaeniad daearyddol y digwyddiadau a fynychwyd gan yr Hyrwyddwyr Gofal Cymdeithasol. Cytunwyd y dylid gwneud hynny.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y llwybr prentisiaethau gofal, rhoddodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion drosolwg o'r academi gofal mewnol, lle darparwyd profiad gwaith i 7 unigolyn ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd â chymhellion o ran dilyniant gyrfa a chyfleoedd achredu ffurfiol; roedd hyn yn ei dro yn rhoi gallu ychwanegol i'r Awdurdod fodloni'r galw yn y maes hwn. Roedd digwyddiadau recriwtio wedi'u targedu i hyrwyddo gwaith gofal fel gyrfa mewn ardaloedd o angen hefyd yn ffocws allweddol i'r adran. Canmolodd y Pwyllgor y Swyddogion o ran eu hymdrechion i fynd i'r afael â'r heriau recriwtio ac awgrymwyd y gellid gofyn i gynghorwyr gefnogi digwyddiadau gyrfa lleol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
|
||||||||||
ADOLYGIAD GORCHWYL A GORFFEN AR UNIGRWYDD YN SIR GAERFYRDDIN - ADRODDIAD DIWEDDARU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru i'w ystyried am y cynnydd a wnaed o ran y pedwar argymhelliad a ddeilliodd o'r Adolygiad Gorchwyl a Gorffen ar Unigrwydd yn Sir Gaerfyrddin a wnaed yn ystod blwyddyn y cyngor 2018/19, fel a ganlyn:
1. Cymryd agwedd strategol at unigrwydd. 2. Mynd i'r afael ag unigrwydd fel blaenoriaeth bwysig a rennir. 3. Canolbwyntio ar adeiladu a chefnogi asedau cymunedol. 4. Mynd i'r afael yn uniongyrchol â rhwystrau o ran cysylltu.
Rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor fod yr holl argymhellion a'r camau gweithredu cysylltiedig wedi'u cyflawni'n llwyddiannus ac y byddai adolygiad o'r argymhellion yn rhan annatod o broses cynllunio busnes yr Is-adran wrth symud ymlaen.
Roedd y canlynol ymhlith y cwestiynau/sylwadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:-
Cyfeiriwyd at y cynnydd a wnaed hyd yma mewn perthynas ag Argymhelliad 2, lle cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod y gwaith cychwynnol ar yr ymarfer o ran mapio'r holl wasanaethau ataliol yn Sir Gaerfyrddin wedi dechrau ac y byddai'n cael ei symud ymlaen fel maes blaenoriaeth, ac y byddai'r aelodau'n cyfrannu at y gwaith yn dilyn penodi'r Uwch-reolwr Darparu. Yn ogystal, yn sgil y pryderon a godwyd gan y Pwyllgor o ran unigrwydd mewn cyd-destun gwledig, nododd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig y gallai'r ymarfer mapio ystyried y gwahaniaethau rhwng 5 ardal ddaearyddol y sir a oedd yn adlewyrchu ardaloedd y fframwaith gofal cartref ac ardaloedd fframwaith y gwasanaethau ataliol gyda'r trydydd sector.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y Gr?p Gorchwyl dan arweiniad Cyngor Tref Caerfyrddin yn adolygu'r mater o unigrwydd, mynegodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig y gellid efelychu gwaith arall tebyg mewn ardaloedd lleol eraill a chydnabuwyd bod y mentrau cadarnhaol sydd ar y gweill i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw yn gysylltiedig â mynd i'r afael â'r agenda o ran unigrwydd.
Yn dilyn ymholiadau gan yr Aelodau, rhoddwyd crynodeb o'r amrywiaeth o adnoddau sydd ar gael i drigolion sy'n teimlo'n ynysig, yn unig neu'r rhai sy'n agored i niwed yn Sir Gaerfyrddin, a chytunwyd y byddai ymwybyddiaeth o'r gwasanaethau a'r digwyddiadau hyn, ynghyd â'u llwybrau mynediad yn cael eu hyrwyddo gan yr adran.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
|
||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn nodi rôl, swyddogaethau a gweithgareddau'r Awdurdod mewn perthynas â Diogelu Oedolion a'r Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid yn ystod blwyddyn y cyngor 2021/22.
Darparwyd crynodeb o'r cyd-destun cenedlaethol, rhanbarthol a lleol ynghylch Diogelu Oedolion i'r Pwyllgor, a oedd yn cynnwys trefniadau gweithredol lleol a gwybodaeth allweddol am berfformiad a gweithgarwch.
Rhoddodd yr adroddiad sicrwydd i'r Pwyllgor fod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a'r canllawiau statudol a nodwyd yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru wedi'u hymgorffori'n gadarn yng ngweithgarwch yr Awdurdod.
Cyfeiriwyd at y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol a ddarparodd y cyfeiriad strategol a'r trefniadau llywodraethu ar gyfer diogelu oedolion yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru ac a gryfhaodd ddull Sir Gaerfyrddin o sicrhau hawliau pob unigolyn i fyw bywyd heb gael ei gam-drin na’i esgeuluso.
Roedd y canlynol ymhlith y cwestiynau/sylwadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:-
Holodd Aelod ynghylch dyddiad gweithredu'r Trefniadau Diogelu Rhyddid (LPS) a oedd i fod i ddisodli'r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DOLS) a ystyriwyd "ddim yn addas i'r diben”. Cadarnhaodd yr Uwch-reolwr Diogelu/Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid na fyddai'r Trefniadau Diogelu Rhyddid newydd bellach yn cael eu gweithredu gan Lywodraeth y DU yn ystod y senedd hon; ond disgwylid y byddai fersiwn amgen yn cael ei rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru i gael gwelliannau o ran hyn o beth.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch heriau'r Awdurdod wrth gyflawni ei ddyletswydd statudol i gynnal asesiadau ar gyfer y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn sgil y pandemig Coronafeirws, rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor fod yr ymarferwyr allanol wedi ailddechrau cynnal asesiadau wyneb yn wyneb yn unol â'r safon a osodwyd gan yr Awdurdod. O ran hyn o beth, cafodd manteision cynnal asesiadau wyneb yn wyneb eu cydnabod gan y Pwyllgor.
Yn dilyn ymholiad a wnaed ynghylch gallu'r Awdurdod i ddarparu asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg, roedd yr Uwch-reolwr Diogelu/Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DOLS) yn falch o adrodd bod y tîm Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid i gyd yn siaradwyr Cymraeg rhugl ac ystyrir hyn yn rhywbeth hynod bwysig yng nghyd-destun asesiadau galluedd meddyliol. Cadarnhawyd bod comisiynu aseswyr allanol a benodwyd gan ddefnyddio arian grant gan Lywodraeth Cymru hefyd wedi cael ei gyflawni drwy gyfrwng y Gymraeg, ond roedd dal anawsterau o ran penodi meddygon sy'n siarad Cymraeg.
Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd yr Uwch-reolwr Diogelu/Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid fod yr holl bryderon diogelu a adroddwyd i'r Awdurdod lle roedd yr unigolyn yn bodloni'r meini prawf 'mewn perygl' wedi arwain at ymholiad.
Cyfeiriwyd at ganran yr awdurdodiadau brys o ran Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid a dderbyniwyd a gwblhawyd o fewn 7 diwrnod ar ôl iddynt ddod i law, a chanran yr awdurdodiadau Safonol a gwblhawyd cyn pen 21 diwrnod ar ôl eu dyrannu. Cadarnhaodd yr Uwch-reolwr Diogelu/Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DOLS) nad oedd targedau cwblhau wedi'u gosod o ran hyn o beth gan fod Dyfarniad y Goruchaf Lys [P yn erbyn Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer a P&Q yn erbyn Cyngor Surrey] i bob ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8. |
||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 9FED MAWRTH, 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd y Cadeirydd at gofnod 5.1 lle cafodd y Pwyllgor wybod bod llythyr wedi'i ddrafftio'n mynegi pryderon ynghylch annhegwch trefniadau cyllido presennol S.117 ac y byddai'n cael ei anfon at y Bwrdd Iechyd yn ddi-oed.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2023 gan eu bod yn gywir. |