Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Dydd Llun, 17eg Ebrill, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr K. Davies a F. Walters.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Y Cynghorydd

Eitem ar yr Agenda

Y Math o Fuddiant

S. Davies

4. Cyflwyniad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda mewn cysylltiad â'r adroddiad adolygu allanol, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ar yr achosion o TB yn ardal  Llwynhendy, Llanelli.

 

Mae'n gynghorydd ar gyfer Llwynhendy  ac mae gan aelod o'r teulu TB cudd.

J. P. Hart

4. Cyflwyniad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda mewn cysylltiad â'r adroddiad adolygu allanol, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ar yr achosion o TB yn ardal  Llwynhendy, Llanelli.

Mae gan aelod o'r teulu TB cudd.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

CYFLWYNIAD GAN FWRDD IECHYD PRIFYSGOL HYWEL DDA MEWN CYSYLLTIAD Â'R ADRODDIAD ADOLYGU ALLANOL, A GYHOEDDWYD YN DDIWEDDAR, AR YR ACHOSION O TB YN ARDAL LLWYNHENDY, LLANELLI pdf eicon PDF 666 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Ar ôl datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, arhosodd y Cynghorwyr S Davies a J.P. Hart yn y cyfarfod, ond fel sylwedyddion, ac ni wnaethant gymryd rhan yn y trafodaethau na'r bleidlais ddilynol].

 

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan Dr P. Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Dr G. Shankar, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Athro K. Neal, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd a oedd yn crynhoi canlyniad yr adolygiad allanol a gomisiynwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ar yr achosion o TB yn ardal Llwynhendy.

 

Roedd y cyflwyniad yn canolbwyntio ar reoli iechyd y cyhoedd ac ymateb i bedwar cam yr achosion.  Cafodd yr aelodau wybod bod cychwyn Tîm Rheoli Achosion (OCT) yn ystod y cam cyntaf wedi cael ei stopio cyn pryd ac yna cafodd ei ailgychwyn ar dri achlysur arall.  Dangosodd canfyddiadau'r adroddiad fod yr ymateb cychwynnol yn annigonol, ond ers hynny roedd y prosesau wedi'u cryfhau'n sylweddol wrth gyflwyno gwasanaeth ffurfiol ar gyfer TB yn 2014 a nyrs TB bwrpasol yn 2019.  Darparwyd i'r Pwyllgor drosolwg o'r cynnydd a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ynghyd â'r dysgu sefydliadol i reoli'r achosion yn well, a chydnabuwyd bod lle i ddatblygu ac i wneud gwelliannau pellach o ran hyn o beth.

 

Rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor fod yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad wedi'u derbyn yn llawn a bod cynllun gweithredu ar y cyd wedi'i roi ar waith o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i fynd i'r afael â'r materion a godwyd ac i sicrhau trefniadau gwaith agosach rhwng y ddau sefydliad. 

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:

Cyfeiriwyd at y casgliadau a nodwyd yn adran 8 yr adroddiad lle cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, er bod cyfradd genedlaethol TB yn parhau i ostwng, nad oedd ffigyrau ar gael y tu hwnt i 2018 ac nad oedd yn ymwybodol o unrhyw achosion newydd ers 2018.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch dyddiadau targed y cynllun gweithredu, eglurodd y Cyfarwyddwr Meddygol y byddai adroddiadau cynnydd ar y camau gweithredu, ynghyd â dyddiadau cwblhau targed wedi'u diweddaru, yn cael eu cyflwyno i gyfarfodydd y Pwyllgor Ansawdd a Diogelwch.

 

Mewn ymateb i ymholiadau gan y Pwyllgor, eglurodd yr Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, nad oedd sail gyfreithiol i orchymyn unigolion i fynd i glinigau gwasanaeth TB, ond cafodd cyfanswm o 50 a nodwyd fel cysylltiadau eu cyfweld i ganfod y rhesymau dros beidio â gwneud hynny, a byddai'r canlyniadau'n cael eu dadansoddi mewn ymdrech i fynd i'r afael â'r mater. Yn unol â chyfrifoldebau statudol Iechyd Cyhoeddus Cymru i gadw golwg ar glefydau heintus, rhoddodd y Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd grynodeb o brosesau monitro'r Tîm Rheoli Achosion i fonitro achosion gweithredol a chudd, y gwaith o broffilio achosion newydd a'r defnydd o dechnoleg i nodi achosion cysylltiedig.

 

Cyfeiriwyd hefyd at Adolygiad o Garfan y Cleifion TB dan arweiniad y Gr?p Cyflawni Anadlol a gynhaliodd adolygiad gan gymheiriaid o reoli achosion mewn amgylchedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2022/23 pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2022, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2022/23.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar orwariant amcanol o £6,329k o ran y gyllideb refeniw ac y byddai £503k o amrywiant mewn perthynas â'r gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2022/23.  Hefyd tynnwyd sylw'r Pwyllgor at yr adroddiad arbedion a oedd yn nodi y rhagwelwyd y byddai £1,338k o arbedion rheolaethol yn cael eu cyflawni ar ddiwedd y flwyddyn mewn perthynas â tharged o £1,603k.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:-

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd drosolwg o'r sefyllfa'n genedlaethol ac yn lleol mewn perthynas â'r argyfwng ar hyn o bryd o ran capasiti mewn lleoliadau, ynghyd â'r newid o ran y galw am ddarpariaeth gwasanaeth iechyd meddwl i bobl ifanc ar ôl y pandemig.  Rhoddwyd sicrwydd fod yr adran yn ymdrechu i sicrhau capasiti digonol mewn lleoliadau i ddiwallu anghenion pobl ifanc.  Mewn ymateb i ymholiad dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau y gallai'r Awdurdod ystyried cysylltu â Llywodraeth Cymru gyda'r bwriad o ofyn am gymorth ariannol i gwrdd â gwariant sylweddol yn y dyfodol o ganlyniad i achosion annisgwyl ac acíwt.  Yn ogystal, er gwaethaf y gwariant sylweddol ar gyfer lleoliadau y tu allan i'r sir a'r heriau a wynebir gan yr Awdurdod i ateb y galw o ran hyn o beth, nodwyd bod yr amseroedd aros o ran cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc yng Nghymru yn cymharu'n ffafriol â Lloegr a'r Alban. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

6.

DIWEDDARIAD PERFFORMIAD GOFAL CARTREF pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn ogystal â chais y Pwyllgor yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2023, rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad diweddaru mewn perthynas â'r pwysau ar ofal cartref ar hyn o bryd a'r heriau y mae'r Awdurdod yn eu hwynebu i sicrhau bod digon o leoedd i ateb y galw. Roedd y Pwyllgor yn cydnabod yr heriau parhaus a wynebir gan y sector o ran y gweithlu yn genedlaethol a arweiniodd at faterion recriwtio a chadw gweithwyr gofal.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar ddata perfformiad allweddol yn y meysydd canlynol:

·       Nifer yr oriau a gomisiynwyd ar gyfer gofal cartref;

·       Nifer yr oriau o ran aros am ofal yn y cartref;

·       Nifer y bobl sy'n aros yn y gymuned am ofal cartref;

·       Nifer y bobl sy'n aros yn yr ysbyty am ofal cartref ;

·       Nifer yr oriau a ryddhawyd o adolygiadau;

·       Datblygiadau yn y dyfodol o ran ehangu'r gwasanaeth yn fewnol a chomisiynu gofal cartref yn allanol;

·       Y camau a gymerwyd i liniaru'r risg.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:-

 

Wrth ystyried y datblygiadau o ran comisiynu allanol, canmolodd Aelod y gwaith o sefydlu'r bwrdd prosiect a gofynnodd am enghraifft o nifer, amlder a lledaeniad daearyddol y digwyddiadau a fynychwyd gan yr Hyrwyddwyr Gofal Cymdeithasol.  Cytunwyd y dylid gwneud hynny.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y llwybr prentisiaethau gofal, rhoddodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion drosolwg o'r academi gofal mewnol, lle darparwyd profiad gwaith i 7 unigolyn ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd â chymhellion o ran dilyniant gyrfa a chyfleoedd achredu ffurfiol; roedd hyn yn ei dro yn rhoi gallu ychwanegol i'r Awdurdod fodloni'r galw yn y maes hwn. Roedd digwyddiadau recriwtio wedi'u targedu i hyrwyddo gwaith gofal fel gyrfa mewn ardaloedd o angen hefyd yn ffocws allweddol i'r adran.  Canmolodd y Pwyllgor y Swyddogion o ran eu hymdrechion i fynd i'r afael â'r heriau recriwtio ac awgrymwyd y gellid gofyn i gynghorwyr gefnogi digwyddiadau gyrfa lleol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

6.1

Derbyn yr adroddiad.

 

6.2

Darparu i'r Pwyllgor enghraifft o nifer, amlder a lledaeniad daearyddol y digwyddiadau a fynychwyd gan yr Hyrwyddwyr Gofal Cymdeithasol. 

 

7.

ADOLYGIAD GORCHWYL A GORFFEN AR UNIGRWYDD YN SIR GAERFYRDDIN - ADRODDIAD DIWEDDARU pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru i'w ystyried am y cynnydd a wnaed o ran y pedwar argymhelliad a ddeilliodd o'r Adolygiad Gorchwyl a Gorffen ar Unigrwydd yn Sir Gaerfyrddin a wnaed yn ystod blwyddyn y cyngor 2018/19, fel a ganlyn:

 

1. Cymryd agwedd strategol at unigrwydd.   

2. Mynd i'r afael ag unigrwydd fel blaenoriaeth bwysig a rennir.   

3. Canolbwyntio ar adeiladu a chefnogi asedau cymunedol.   

4. Mynd i'r afael yn uniongyrchol â rhwystrau o ran cysylltu.      

 

Rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor fod yr holl argymhellion a'r camau gweithredu cysylltiedig wedi'u cyflawni'n llwyddiannus ac y byddai adolygiad o'r argymhellion yn rhan annatod o broses cynllunio busnes yr Is-adran wrth symud ymlaen.

 

Roedd y canlynol ymhlith y cwestiynau/sylwadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:-

 

Cyfeiriwyd at y cynnydd a wnaed hyd yma mewn perthynas ag Argymhelliad 2, lle cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod y gwaith cychwynnol ar yr ymarfer o ran mapio'r holl wasanaethau ataliol yn Sir Gaerfyrddin wedi dechrau ac y byddai'n cael ei symud ymlaen fel maes blaenoriaeth, ac y byddai'r aelodau'n cyfrannu at y gwaith yn dilyn penodi'r Uwch-reolwr Darparu.  Yn ogystal, yn sgil y pryderon a godwyd gan y Pwyllgor o ran unigrwydd mewn cyd-destun gwledig, nododd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig y gallai'r ymarfer mapio ystyried y gwahaniaethau rhwng 5 ardal ddaearyddol y sir a oedd yn adlewyrchu ardaloedd y fframwaith gofal cartref ac ardaloedd fframwaith y gwasanaethau ataliol gyda'r trydydd sector.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y Gr?p Gorchwyl dan arweiniad Cyngor Tref Caerfyrddin yn adolygu'r mater o unigrwydd, mynegodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig y gellid efelychu gwaith arall tebyg mewn ardaloedd lleol eraill a chydnabuwyd bod y mentrau cadarnhaol sydd ar y gweill i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw yn gysylltiedig â mynd i'r afael â'r agenda o ran unigrwydd.

 

Yn dilyn ymholiadau gan yr Aelodau, rhoddwyd crynodeb o'r amrywiaeth o adnoddau sydd ar gael i drigolion sy'n teimlo'n ynysig, yn unig neu'r rhai sy'n agored i niwed yn Sir Gaerfyrddin, a chytunwyd y byddai ymwybyddiaeth o'r gwasanaethau a'r digwyddiadau hyn, ynghyd â'u llwybrau mynediad yn cael eu hyrwyddo gan yr adran.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

7.1

Derbyn yr adroddiad.

 

7.2

Ymwybyddiaeth o'r adnoddau sydd ar gael i drigolion sy'n teimlo'n ynysig, yn unig neu'r rhai sy'n agored i niwed yn Sir Gaerfyrddin, ynghyd â'u llwybrau mynediad yn cael eu hyrwyddo gan yr is-adran.  

 

7.3

Cynnwys adroddiad diweddaru ar y gwaith atal ehangach, gan gynnwys y cynnydd a wnaed ar yr ymarfer mapio'r holl wasanaethau ataliol yn Sir Gaerfyrddin, ar Flaengynllun Gwaith y Pwyllgor ar gyfer 2023/24, a'r adroddiad hwn yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor ar ddechrau 2024.

 

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR DDIOGELU OEDOLION A THREFNIADAU DIOGELU RHAG COLLI RHYDDID (DOLS) (2021/22) pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn nodi rôl, swyddogaethau a gweithgareddau'r Awdurdod mewn perthynas â Diogelu Oedolion a'r Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid yn ystod blwyddyn y cyngor 2021/22. 

 

Darparwyd crynodeb o'r cyd-destun cenedlaethol, rhanbarthol a lleol ynghylch Diogelu Oedolion i'r Pwyllgor, a oedd yn cynnwys trefniadau gweithredol lleol a gwybodaeth allweddol am berfformiad a gweithgarwch.

 

Rhoddodd yr adroddiad sicrwydd i'r Pwyllgor fod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a'r canllawiau statudol a nodwyd yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru wedi'u hymgorffori'n gadarn yng ngweithgarwch yr Awdurdod.

 

Cyfeiriwyd at y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol a ddarparodd y cyfeiriad strategol a'r trefniadau llywodraethu ar gyfer diogelu oedolion yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru ac a gryfhaodd ddull Sir Gaerfyrddin o sicrhau hawliau pob unigolyn i fyw bywyd heb gael ei gam-drin na’i esgeuluso.

 

Roedd y canlynol ymhlith y cwestiynau/sylwadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:-

 

Holodd Aelod ynghylch dyddiad gweithredu'r Trefniadau Diogelu Rhyddid (LPS) a oedd i fod i ddisodli'r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DOLS) a ystyriwyd "ddim yn addas i'r diben”.  Cadarnhaodd yr Uwch-reolwr Diogelu/Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid  na fyddai'r Trefniadau Diogelu Rhyddid newydd bellach yn cael eu gweithredu gan Lywodraeth y DU yn ystod y senedd hon; ond disgwylid y byddai fersiwn amgen yn cael ei rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru i gael gwelliannau o ran hyn o beth.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch heriau'r Awdurdod wrth gyflawni ei ddyletswydd statudol i gynnal asesiadau ar gyfer y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid  yn sgil y pandemig Coronafeirws, rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor fod yr ymarferwyr allanol wedi ailddechrau cynnal asesiadau wyneb yn wyneb yn unol â'r safon a osodwyd gan yr Awdurdod. O ran hyn o beth, cafodd manteision cynnal asesiadau wyneb yn wyneb eu cydnabod gan y Pwyllgor.

 

Yn dilyn ymholiad a wnaed ynghylch gallu'r Awdurdod i ddarparu asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg, roedd yr Uwch-reolwr Diogelu/Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DOLS) yn falch o adrodd bod y tîm Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid i gyd yn siaradwyr Cymraeg rhugl ac ystyrir hyn yn rhywbeth hynod bwysig yng nghyd-destun asesiadau galluedd meddyliol. Cadarnhawyd bod comisiynu aseswyr allanol a benodwyd gan ddefnyddio arian grant gan Lywodraeth Cymru hefyd wedi cael ei gyflawni drwy gyfrwng y Gymraeg, ond roedd dal anawsterau o ran penodi meddygon sy'n siarad Cymraeg.

 

Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd yr Uwch-reolwr Diogelu/Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid fod yr holl bryderon diogelu a adroddwyd i'r Awdurdod lle roedd yr unigolyn yn bodloni'r meini prawf 'mewn perygl' wedi arwain at ymholiad.

 

Cyfeiriwyd at ganran yr awdurdodiadau brys o ran Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid a dderbyniwyd a gwblhawyd o fewn 7 diwrnod ar ôl iddynt ddod i law, a chanran yr awdurdodiadau Safonol a gwblhawyd cyn pen 21 diwrnod ar ôl eu dyrannu. Cadarnhaodd yr Uwch-reolwr Diogelu/Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DOLS) nad oedd targedau cwblhau wedi'u gosod o ran hyn o beth gan fod Dyfarniad y Goruchaf Lys [P yn erbyn Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer a P&Q yn erbyn Cyngor Surrey] i bob  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 9FED MAWRTH, 2023 pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at gofnod 5.1 lle cafodd y Pwyllgor wybod bod llythyr wedi'i ddrafftio'n mynegi pryderon ynghylch annhegwch trefniadau cyllido presennol S.117 ac y byddai'n cael ei anfon at y Bwrdd Iechyd yn ddi-oed.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2023 gan eu bod yn gywir.