Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr B. Davies, B.A.L. Roberts a F. Walters.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
CYNLLUN RHEOLI CYFIAWNDER IEUENCTID BLYNYDDOL 2023/2024 PDF 148 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Sir Gâr ar gyfer 2023/24 ei gyflwyno i'r Pwyllgor.
Roedd y Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid yn amlinellu'r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid a'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid a ddarparwyd o dan un strwythur rheoli, a oedd yn darparu dull cyfannol o ddarparu gwasanaethau cymorth ieuenctid ledled Sir Gaerfyrddin. Roedd Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid hefyd yn manylu ar berfformiad y bartneriaeth yn ystod 24/22, a hefyd yn nodi'r blaenoriaethau a'r amcanion cynllunio gwelliannau am y flwyddyn i ddod, yn unol â'r egwyddorion 'plentyn yn gyntaf' cyffredinol ac ethos o welliant parhaus.
Atgoffwyd y Pwyllgor gan yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod y portffolios yn gorgyffwrdd ac mai dim ond elfen Cyfiawnder Ieuenctid Statudol yr adroddiad oedd o dan gylch gwaith y Pwyllgor hwn.
Rhoddwyd esboniad sut oedd y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn cael ei ariannu a bod y gyllideb yn dangos cynnydd o 20% ar gyfer 2023/24. Fodd bynnag, nodwyd mai cyllid tymor byr oedd hwnnw ar gyfer gwaith Cyfiawnder Ieuenctid ac Atal, a bod angen cynllunio a monitro gofalus o ran y gwahanol ffynonellau grant.
Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt. Dyma'r prif faterion:
Dyfed-Powys ydoedd, i fynd i'r afael â throseddu mewn ffordd oedd yn canolbwyntio ar y plentyn. Roedd y system yn rhoi cyfle i'r plentyn wyro oddi wrth y system gyfiawnder gan fod penderfyniadau'r tu allan i'r llys yn cael eu defnyddio, lle roedd yr heddlu o'r farn y gellid ymdrin â phlentyn a'i wyro oddi wrth system y llysoedd. Mae'r Biwro'n caniatáu i'r plant a'r dioddefwyr gael llais.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 2023/24 am y Camau Gweithredu a'r Mesurau sy'n berthnasol i'r Pwyllgor Craffu hwn o ran Gweledigaeth y Cabinet. Dangosodd yr adroddiad y cynnydd fel yr oedd ar ddiwedd Chwarter 2 – 2023/24 o ran cyflawni yn erbyn Gweledigaeth y Cabinet.
Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt. Dyma'r prif faterion: · Gofynnwyd beth oedd y problemau oedd wedi arwain at yr ôl-groniad o ran addasiadau a pha gamau oedd yn cael eu cymryd i wella'r problemau. Dywedodd swyddogion mai dau brif achos yr ôl-groniad oedd y pandemig gan fod y gwaith wedi stopio bryd hynny ac yna'r gostyngiad mewn argaeledd contractwyr. Rhoddwyd sicrwydd bod nifer yr addasiadau llai oedd heb eu cwblhau yn lleihau'n gyflym a bod fframwaith gwaith bach newydd yn cael ei weithredu a fyddai'n caniatáu i'r awdurdod weithio'n uniongyrchol gyda chontractwyr llai a lleihau'r ddibyniaeth ar y contractwyr mwy. · Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â mynediad at gymorth Iechyd Meddwl, dywedodd swyddogion eu bod yn edrych ar ffyrdd o weithio ar draws gwasanaethau oedolion a phlant gan ei fod yn cael ei gydnabod y gallai ymdrin â phroblemau iechyd meddwl yn gynnar atal oes o broblemau. Yn ystadegol, dechreuodd problemau tua 60% o'r oedolion oedd wedi cael diagnosis o broblemau iechyd meddwl cyn eu bod yn 14 oed felly roedd yn flaenoriaeth sicrhau bod pobl yn cael mynediad at y gwasanaeth priodol ar yr adeg iawn. Gallai'r gwasanaeth gael ei ddarparu gan sefydliad trydydd sector, micro-fenter, llwybr llesiant yr awdurdod neu ymarferydd plant oedd yn mynd i mewn i gynorthwyo teuluoedd. Mynegwyd bod cydweithio â'r Bwrdd Iechyd wedi gwella ynghyd â sefydlu'r rhif 111 opsiwn 2 i siarad ag ymarferydd iechyd meddwl pwrpasol. Dywedwyd mai'r unig ateb oedd dull cydweithredol a bod cynorthwyo pobl â gorbryder neu iselder ar lefel isel yn bwysig i'w hatal rhag dioddef problemau iechyd meddwl gydol oes.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer Chwarter 2, a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed gogyfer â'r camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol a'r Amcanion Llesiant oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor.
Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt. Dyma'r prif faterion: · Mewn ymateb i ymholiad ynghylch yr amcan Dechrau'n Deg oedd oddi ar y targed a'r ymgysylltiad â theuluoedd, dywedodd swyddogion fod ymgysylltiad da ond bod ehangu ar y gweill a bod rhai meysydd yn her iddynt. · Mewn ymateb i her ynghylch rhai o'r targedau a monitro'r targedau hyn, dywedodd swyddogion mai dangosfwrdd yn unig oedd yr adroddiad a roddai gyfle i aelodau ofyn cwestiynau, ond roeddent yn cydnabod y byddai sylwadau mwy gwerthusol yn briodol ac yn ddefnyddiol i'r Pwyllgor.
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.
|
|
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 72 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol:
· Strategaeth Gwasanaethau Cymdeithasol 10 mlynedd · Adroddiad Blynyddol - Diogelu · Seibiannau byr/gwasanaethau cymunedol ar gyfer plant anabl a’u teuluoedd · Gwasanaethau Plant – Cynllun Gweithredu
Cododd y Pwyllgor bryderon ynghylch nifer yr adroddiadau hwyr a'r diffyg rheswm dros beidio â'u cyflwyno. Ymatebodd swyddogion drwy gadarnhau na dderbyniwyd adroddiad seibiannau byr/gwasanaethau cymunedol i blant anabl a'u teuluoedd oherwydd camsyniad gweinyddol.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Cynllun Gweithredu y Gwasanaethau Plant yn cael ei ddatblygu mewn tri cham, a phan fyddent wedi'u cwblhau'n llawn byddent yn cael eu cyflwyno at ddibenion craffu. Dywedodd y Pwyllgor wrth swyddogion fod hwn yn faes oedd yn peri pryder yr oedd gofyn ei fonitro a chraffu arno a byddai angen adroddiad ar gyfer y cyfarfod nesaf ym mis Ionawr 2024 (Ymgynghori ar y Gyllideb).
PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.
|
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 91 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 25 Ionawr 2024.
|
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 28AIN TACHWEDD, 2023 PDF 109 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 28 Tachwedd 2023 gan eu bod yn gywir.
|