Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd M.James.

 

Ar ran y Pwyllgor roedd y Cadeirydd wedi cydymdeimlo â'r Cynghorydd M. James yn dilyn salwch a phrofedigaeth diweddar yn y teulu.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

A. Evans

5. Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2022/23

6. Ymgynghori Ynghylch Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2023/24 i 2025/26

Mae ei fam yn gweithio yn Adran y Prif Weithredwr - Uned Gwasanaethau Democrataidd.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

3.

CWESTIYNAU CYHOEDDUS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.

CYNLLUN RHEOLI CYFIAWNDER IEUENCTID 2022/2023 pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2022/23 ei gyflwyno i'r Pwyllgor.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i'r trefniadau llywodraethu, arweinyddiaeth a phartneriaeth a oedd wedi arwain at ddatblygu'r Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid, a nodwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad, yn unol â gofynion deddfwriaethol Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998.

 

Roedd y Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid yn amlinellu'r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid a'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid a ddarparwyd o dan un strwythur rheoli, a oedd yn darparu dull cyfannol o ddarparu gwasanaethau cymorth ieuenctid ledled Sir Gaerfyrddin.  Roedd adran 8 o'r Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid yn manylu ar berfformiad y bartneriaeth yn ystod 2021/22, a hefyd yn nodi'r blaenoriaethau a'r amcanion cynllunio gwelliannau am y flwyddyn i ddod, yn unol â'r egwyddorion 'plentyn yn gyntaf' cyffredinol ac ethos o welliant parhaus.

 

Ar ran y Pwyllgor, cymeradwyodd y Cadeirydd waith ac ymrwymiad hanfodol y bartneriaeth a'r staff sy'n gweithio yn y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid a gofynnodd a oedd unrhyw waith yn cael ei wneud ynghylch dibyniaeth ar hapchwarae. Eglurwyd bod tîm penodol yn ymwneud â chamddefnyddio sylweddau a oedd yn gweithio'n uniongyrchol i roi cymorth neu os oedd angen cymorth pellach gallai unigolion gael eu cyfeirio at asiantaethau eraill fel rhan o'r trefniadau gweithio aml-asiantaeth.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2022/23 yn cael ei dderbyn.

5.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2022/23 pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Hydref 2022, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2022/23.

 

Rhagwelid y byddai Iechyd a Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn gorwario £5,358k o ran y gyllideb refeniw ac y byddai yna -£199k o amrywiant net yn erbyn y gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2022/23.

 

Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y pwysau cyllidebol sylweddol ar Wasanaethau Plant ac Anableddau Dysgu. 

 

Codwyd y cwestiynau / sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·         Gofynnwyd a oedd angen darparu Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor mai'r opsiwn a ffefrir bob amser fyddai i'r Sir roi cymorth a bod gwaith wedi'i wneud yn y tîm maethu i ehangu'r opsiynau cymorth sydd ar gael i osgoi defnyddio Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir. 

·         Gofynnwyd a fyddai'r gefnogaeth arbenigol i'r 2 berson ifanc ag anghenion cymhleth iawn yn ofyniad tymor hir gan y nodwyd bod gorwariant o £579k yn y maes hwn ar hyn o bryd.  Dywedwyd bod anghenion yr unigolion hyn ar y pecynnau gofal yn eithafol ac yn sylweddol ac yn anffodus nid oedd modd darparu hyn yn y Sir ar hyn o bryd.  Yn ogystal, roedd cynnydd wedi bod yn nifer y lleoliadau ac oherwydd tanwariant yn y maes hwn yn y blynyddoedd blaenorol nid oedd cyllideb ar gael.

·         Cyfeiriwyd at y gorwariant ar staff asiantaeth.  Dywedodd swyddogion fod polisi recriwtio a chadw staff ar waith a bod cryn dipyn o waith wedi ei wneud o ran lleihau nifer y gweithwyr cymdeithasol o asiantaethau.  Dywedwyd mai defnyddio staff asiantaeth fyddai'r eithriad, ac nid y norm.

·         Gofynnwyd am y wybodaeth ddiweddaraf am y mentrau a oedd ar waith ar gyfer recriwtio a hyfforddi gweithwyr cymdeithasol.  Dywedodd swyddogion fod hyn yn farchnad gystadleuol iawn a bod nifer cyfyngedig o weithwyr gofal cymdeithasol cymwys.  Yn ogystal â'r Academi Gofal a lansiwyd gan yr Awdurdod, roedd recriwtio tramor hefyd yn cael ei ddefnyddio ac roedd dau unigolyn o Nigeria wedi'u penodi'n amodol ar gwblhau gwiriadau cyn cyflogaeth.

·         Gofynnwyd i swyddogion beth oedd cost ychwanegol staff asiantaeth o'i gymharu â staff llawn amser.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y cyfraddau fesul awr yn amrywio'n sylweddol ond bod un pwynt cyswllt bellach yn ei le yn y tîm Gwasanaethau Plant ac Oedolion i gynnal trafodaethau ynghylch y cyfraddau fesul awr gydag asiantaethau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

6.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2023/24 TAN 2025/26 pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw y Cyngor 2023/24 i 2025/26 a oedd yn rhoi golwg gyfredol ar y gyllideb refeniw ar gyfer 2023/2024 ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2024/25 a 2025/26.  Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion y swyddogion ynghylch gofynion gwariant, ac roedd yn rhoi ystyriaeth i'r setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 14 Rhagfyr 2022.

 

Pwysleisiwyd er bod llawer o waith eisoes wedi'i wneud wrth baratoi'r gyllideb, dywedwyd mai datganiad sefyllfa cychwynnol oedd yr adroddiad hwn a fyddai'n cael ei ddiweddaru yn dilyn y broses ymgynghori.  Yn unol â hynny, atgoffwyd Aelodau bod yr adroddiad wedi'i ystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 9 Ionawr 2023 a bod aelodau'r Pwyllgor wedi mynychu digwyddiadau ymgynghori yn ddiweddar, a oedd yn rhoi cyfle i ddadansoddi a chael eglurhad ynghylch gwahanol agweddau ar y gyllideb.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai cynigion terfynol y gyllideb yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet ganol/diwedd Chwefror, a fyddai'n galluogi cyflwyno cyllideb gytbwys i'r Cyngor Sir ar 1 Mawrth 2023.  Fodd bynnag, oherwydd yr oedi yn y setliad dros dro, a'r effaith ganlyniadol ar gwblhau'r gyllideb gan Lywodraeth Cymru, ni fyddai'r setliad terfynol yn cael ei gyhoeddi tan 7 Mawrth 2023.

 

Nododd yr adroddiad, ar ôl addasiadau ar gyfer trosglwyddiadau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, mai 8.5% (£26.432 miliwn) oedd y cynnydd yn y setliad dros dro ar gyfer Sir Gaerfyrddin.  Roedd y Cyllid Allanol Cyfun wedi cynyddu felly i £338.017 miliwn yn 2023/24.  Er bod y setliad yn gynnydd sylweddol o'r ffigwr dangosol o 3.4%, roedd y model ariannol yn rhagweld gofyniad i arbed £20m dros gyfnod o dair blynedd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig.

 

Nodwyd bod £7.9m o gyllid ychwanegol wedi'i gyhoeddi ar gyfer Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg a'i ddosrannu i Lywodraeth Leol gan arwain at gynnydd o 8.5% i'r Awdurdod.  

 

Nodwyd bod pwysau chwyddiant yn drymach nag y bu ers degawdau ac y byddai'r cynnydd anochel mewn costau yn arwain at gwtogi cyllidebol.  Roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi grantiau penodol ar gyfer lefel Cymru ochr yn ochr â'r setliad dros dro.  Roedd y rhain yn weddol debyg o ran gwerth arian i'r blynyddoedd blaenorol.  Fodd bynnag, gyda'r cynnydd mewn chwyddiant a'r codiadau cyflog ar y lefel bresennol roedd yna doriadau gwirioneddol. 

 

Dywedodd llythyr y Gweinidog bod cyllid wedi'i ddarparu i dalu am y cynnydd yn y cyflog byw a bod yr holl gyllid wedi'i ddyrannu.  Byddai cost llawn codiadau cyflog yn y dyfodol yn gorfod cael eu darparu'n lleol.  Mae wedi bod yn heriol wrth lunio'r gyllideb gan nad oedd y rhagdybiaethau o ran cyflogau a chwyddiant a oedd wedi'u haddasu yn ddigonol i ddarparu cyllid i adrannau. 

 

Atgoffwyd aelodau, pan osodwyd y gyllideb yn flaenorol, 4% oedd y codiad cyflog y cytunwyd arno ar y pryd.  Cytunwyd ar gynnydd cyflog i'r rhan fwyaf o staff ar un gyfradd o 2K (sy'n cyfateb i 7.1% ar gyfartaledd) ar draws y gweithlu.  Byddai angen cynnwys 3.1% ychwanegol i gyllideb y flwyddyn nesaf.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CWARTER 2 - 2022/23 (01/07/22-30/09/22) YN ARBENNIG I'R PWYLLGOR CRAFFU HWN pdf eicon PDF 162 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2022 (Chwarter 2), a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed gogyfer â'r camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol a'r 13 Amcan Llesiant a oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor.

 

Nododd y Pwyllgor mai dim ond 3 o'r 13 amcan oedd yn heb gyrraedd y targed ac roedd yn gwerthfawrogi bod hyn yn rhannol oherwydd y pandemig a oedd wedi arwain at garfan o blant nad oedd wedi cael eu gweld na'u hasesu'n gynnar.  Rhoddwyd sicrwydd bod y tîm atal bellach yn gallu gweithio'n agosach gyda theuluoedd a bod y sefyllfa wedi gwella.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

8.

DIWEDDARIAD STRATEGAETH GOFAL CARTREF pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yr oedd wedi gofyn amdano yn ymwneud â'r pwysau presennol ar ofal cartref, a'r effaith yr oedd hyn yn ei chael ar ryddhau cleifion o ysbytai.  Bwriad yr adroddiad oedd rhoi sicrwydd bod cleifion yn cael cefnogaeth ddiogel i adael yr ysbyty ac roedd yn amlinellu'r pwysau a sut roedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymateb i'r pwysau hynny.

 

Roedd y canlynol ymhlith y cwestiynau/sylwadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:-

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch sut roedd yr Awdurdod yn cynyddu hyblygrwydd contractau a sut y byddai hyn yn effeithio ar gysondeb y ddarpariaeth o ran gofal, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol fod hyn yn cael effaith ar gysondeb y gofal a hefyd ar y gallu i ddarparu gofal ar yr adeg orau o ran pryd roedd angen ac eisiau'r gofal ar bobl. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr adroddiad yn nodi'r hyn yr oedd yr Awdurdod yn ei wneud i liniaru materion cyflenwi a sicrhawyd y Pwyllgor fod yr Awdurdod yn sicrhau nad oedd y gofal a ddarparwyd yn effeithio ar ddiogelwch.   Dywedwyd bod sefyllfa gyffredinol ynghylch hyblygrwydd y gofal a bod sgyrsiau anodd yn gorfod digwydd gyda theuluoedd ac unigolion ynghylch pa opsiynau ymarferol o ofal oedd ar gael.  Mewn rhai achosion, byddai'n rhaid cyfaddawdu ynghylch y pecyn gofal delfrydol ond byddai hyn dal yn well nag aros yn yr ysbyty.  Nodwyd bod tua 50 o unigolion mewn gofal preswyl dros dro ar hyn o bryd, y dylai'r mwyafrif ohonynt gael cymorth gartref.  Cafodd y sefyllfa ei disgrifio fel un deinamig a bod gwelliannau sylweddol wedi'u gwneud dros yr wythnosau diwethaf, ond roedd y sefyllfa'n parhau i fod yn anodd.  Dywedwyd bod yr Awdurdod yn ceisio cynnig contractau mwy hyblyg yn hytrach na'r rotâu anhyblyg traddodiadol i gynorthwyo gyda recriwtio a chadw staff.

·         Mynegwyd pryder y byddai'r cytundebau hyblyg yn arwain at ddiffyg parhad yn y gofal gydag unigolion yn cael nifer o wahanol ofalwyr.  Dywedwyd er bod nifer o bobl o bosibl yn darparu gofal gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod hyn yn cael ei gadw i'r un gr?p o bobl.  Cydnabuwyd bod y parhad hwn o fudd i'r unigolyn oedd yn derbyn y gofal ac i'r gofalwr.

·         Hefyd gofynnwyd am eglurhad ynghylch y defnydd o feicrofentrau Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y cynllun eisoes yn cael ei ddefnyddio yn Sir Benfro a'i bod yn ddyddiau cynnar iawn i Sir Gaerfyrddin. Megis dechrau oedd y cynllun gyda’r nod o gynorthwyo ardaloedd lle'r oedd yn anodd cael gofal cartref yn draddodiadol. Dywedwyd bod yr Awdurdod wrthi'n recriwtio aelod o staff i arwain ar y fenter.

·         Gofynnwyd a oedd pwysau ar yr Awdurdod i flaenoriaethu rhyddhau cleifion mewn ysbytai dros y rhai oedd eisoes yn aros am becynnau gofal.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod pwysau cyson o ran cydbwyso rhyddhau cleifion o ysbytai a rhestrau aros cymunedol a’i fod yn anochel y byddai'r rhai yn y gymuned yn aros yn hirach oherwydd yr angen i flaenoriaethu rhyddhau cleifion o ysbytai.  Er gwaethaf y capasiti  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

CYNLLUN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU IECHYD & GWASANAETHAU CYMDEITHASOL AR GYFER 2022/23 pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Flaengynllun Gwaith a baratowyd yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Craffu ddatblygu a chyhoeddi blaengynllun gwaith bob blwyddyn gan glustnodi materion ac adroddiadau sydd i'w hystyried mewn cyfarfodydd yn ystod blwyddyn y cyngor.

 

Nodwyd, oherwydd penderfyniad y Cyngor ym mis Medi 2022 i ddiwygio cylchoedd gwaith y pwyllgorau craffu, roedd y Pwyllgor wedi ailedrych ar ei flaengynllun  mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Ionawr.  Cytunodd y Pwyllgor ar yr eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod heddiw a'r eitemau ar gyfer 9 Mawrth 2023:

 

Nododd y Pwyllgor y diffyg adroddiadau o ran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Gwasanaeth Plant ar Flaengynllun y Cabinet a chytunodd i gwrdd eto ar 17 Chwefror i ystyried unrhyw adroddiadau perthnasol a ychwanegwyd ers hynny.

 

Cytunodd y Pwyllgor y byddai dal angen diweddariad ar Unigrwydd (Adroddiad Gorchwyl a Gorffen) yn unol â'i Flaengynllun blaenorol. Gellid dosbarthu hyn y tu allan i'r cyfarfod.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai Cynllun Busnes yr Adran Gymunedau 2021/22 - 23-24 a oedd fod i gael ei ystyried yn wreiddiol gan y Pwyllgor ar 24 Ionawr yn debygol o gael ei ohirio eto wrth i Gynlluniau Adrannol ar wahân gael eu hailddatblygu.  Byddai hyn yn cael ei gadarnhau'n ddiweddarach

 

PENDERFYNWYD yn UNFRYDOLy dylid cadarnhau Blaengynllun Gwaith y Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2022/23 a'i gyflwyno i gyfarfod mis Mawrth i'w gymeradwyo'n ffurfiol.

 

10.

EGLURHAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU. pdf eicon PDF 75 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol:

 

·         Cynllun Busnes

·         Adroddiad Blynyddol ynghylch Amcanion Llesiant

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.

 

11.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 5ED HYDREF, 2022 pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 5 Hydref 2022 gan eu bod yn gywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau