Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd - Dydd Mercher, 31ain Gorffennaf, 2024 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd P. Cooper a G.B. Thomas.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR CRAFFU LLE, CYNALIADWYEDD A NEWID YR HINSAWDD 2023/24 pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CWARTER 4 - 2023/24 pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad diwedd blwyddyn ynghylch Perfformiad ar gyfer 2023/24 i'w ystyried. Roedd yr adroddiad yn dangos cynnydd y camau a'r mesurau a oedd yn gysylltiedig â'r Strategaeth Gorfforaethol ar ddiwedd 2023/24 a'r Amcanion Llesiant a oedd o fewn maes gorchwyl y Pwyllgor Craffu.

 

Rhoddwyd sylw i'r sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

  • Cyfeiriwyd at dudalen 3 yr adroddiad  Mewn ymateb i ymholiad ynghylch cwynion cam 2, eglurodd y Rheolwr Gwella Busnes, er bod yr adran yn ymdrechu i ddatrys materion o fewn y targed o 21 diwrnod, roedd natur rhai achosion yn gymhleth ac roedd angen amser ychwanegol i ymchwilio/datrys.

 

  • Cyfeiriwyd at y cynllun rheoli perygl llifogydd ar dudalen 6 yr adroddiad, a gofynnwyd am y diweddaraf o ran cynnydd. Eglurodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd fod y cynllun wedi'i ddatblygu a'i fod yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd.

 

  • Gan gyfeirio at y camau yn ymwneud â'r argymhellion ynghylch tipio anghyfreithlon a oedd yn deillio o’r adolygiad gorchwyl a gorffen ar dudalen 6 yr adroddiad, eglurodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol fod nifer o'r argymhellion wedi'u cyflawni, fodd bynnag, roedd gwaith yn parhau ar ddatblygu'r Strategaeth Tipio Anghyfreithlon gyda'r bwriad i’w chwblhau ddiwedd mis Mawrth 2025.  Nodwyd bod gostyngiad sylweddol wedi bod mewn tipio anghyfreithlon dros y 12 mis diwethaf ers cwblhau'r camau.   Yn ogystal, bu cynnydd ar gyfryngau cymdeithasol ynghylch tipio anghyfreithlon yn ogystal ag adrodd am yr Hysbysiadau Cosb Benodedig a'r llwyddiannau yn dilyn camau gorfodi.  Roedd trafodaethau'n cael eu cynnal gyda'r adran Cymunedau mewn perthynas â'r un pwynt cyswllt/tîm ar gyfer tipio anghyfreithlon gan ystyried yr adnoddau a'r goblygiadau staffio.  Ar ben hynny, roedd gwaith yn mynd rhagddo wrth ystyried un platfform i'r cyhoedd adrodd am dipio anghyfreithlon.

 

  • Gofynnwyd am ddiweddariad mewn perthynas â gweithredu ar ddatblygu Strategaeth Trafnidiaeth Gymunedol, tudalen 9 yr adroddiad.  Eglurodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol fod gwaith yn mynd rhagddo o ran datblygu'r strategaeth a'i fod ar hyn o bryd yn aros am ganlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol. Byddai goblygiadau'r Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol yn cael effaith ar y Strategaeth Drafnidiaeth Gymunedol.  Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y byddai Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnal ymarfer ymgysylltu â'r cyhoedd ym mis Medi / Hydref eleni i helpu i lywio a mireinio'r Strategaeth Drafnidiaeth Gymunedol.

 

  • Mewn ymateb i ymholiad ynghylch llwybr Beicio Dyffryn Tywi, rhoddodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol ddiweddariad i'r pwyllgor yn nodi bod yr ymchwiliad cyhoeddus wedi’i gynnal gan ddod i'r casgliad bod y Gorchmynion Prynu Gorfodol yn gallu bwrw ymlaen.  Rhoddwyd sicrwydd bod y cyllid yn ddiogel.

 

  • Cyfeiriwyd at y % yr ailgylchu sydd wedi'i halogi a welwyd ar dudalen 8 yr adroddiad.  Mynegwyd pryder bod canran fawr o'r ailgylchu a wnaed yn parhau i fod wedi'i halogi.  Dywedodd Rheolwr y Prosiect Trawsnewid Gwastraff fod proses gorfodaeth addysg ar waith yn y gwasanaeth oedd yn cael ei rheoli gan y criwiau gweithredol.  Byddai Hysbysiadau Cosb Benodedig yn cael eu rhoi yn dilyn proses o 3 cham addysg.  Mynegwyd pryder mewn perthynas â'r diffyg rheoli gwastraff mewn llety rhent  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

DIWEDDARIAD AR GYFER YSTYRIED GORCHYMYN DIOGELU MANNAU AGORED CYHOEDDUS YCHWANEGOL AR GYFER GORCHMYNION CWN SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus Ychwanegol ar gyfer Gorchmynion C?n Sir Gaerfyrddin.  Wrth gyflwyno'r adroddiad roedd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd wedi atgoffa'r Pwyllgor y cafwyd argymhelliad ar 24 Tachwedd 2022 i gyflwyno gwaharddiad ledled y Sir ar g?n yn mynd i gae chwaraeon wedi'i farcio a chyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig am y drosedd o beidio â gallu glanhau ar ôl eu ci.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi diweddariad i'r aelodau a'r opsiynau sydd ar gael i'r Awdurdod yn seiliedig ar gyngor cyfreithiol

 

Cafwyd y cwestiynau a'r ymholiadau canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

  • O ran y cynnig i roi Hysbysiad Cosb Benodedig am y drosedd o beidio â chodi baw ci, gofynnwyd sut y byddai hyn yn cael ei orfodi?  Dywedodd yr Aelod Cabinet er mai'r Heddlu oedd â'r gallu i stopio a gorfodi, y gobaith oedd y byddai perchnogion c?n yn cydymffurfio â'r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ychwanegol a byddai gwaith hyrwyddo yn atgoffa perchnogion c?n o'u cyfrifoldebau mewn cysylltiad â'r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus presennol a'r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ychwanegol hwn. Yn ogystal, roedd dibyniaeth ar aelodau'r cyhoedd i roi gwybod i'r Cyngor am berchnogion c?n anghyfrifol.

 

  • Awgrymwyd bod Swyddogion yn gweithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned i ddylunio arwyddion safonol i'w defnyddio ar draws y Sir i hysbysu'r cyhoedd am yr ardaloedd sy'n destun i'r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus a'r hyn sy'n ofynnol.

 

PENDERFYNWYD:-

 

6.1 Bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;

6.2 argymell i'r Cabinet y dylid cymeradwyo'r opsiwn a argymhellir i fynd i'r afael â materion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â ch?n yn yr adroddiad.

 

 

7.

STRATEGAETH FARCHOGAETH SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 132 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth Farchogaeth Caerfyrddin a oedd yn rhoi diweddariad ar ddatblygiad y Strategaeth Farchogaeth sydd ar ddod gan gynnwys cyfres o gamau gweithredu arfaethedig i'w cynnwys yn y ddogfen derfynol.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad mynegodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd ei ddiolch i'r tîm am ddarparu'r adroddiad a gofynnodd am sylwadau'r aelodau.

 

Cafwyd y sylwadau a'r ymholiadau canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

  • Cydnabuwyd bod y ddarpariaeth ar gyfer marchogaeth yn anghyson ledled y Sir. Nifer cyfyngedig o ardaloedd oedd ar gael lle gellid marchogaeth ceffylau yn ddiogel.  Roedd gwerthfawrogiad o'r pryderon a godwyd gan y gymuned farchogaeth o ran ffyrdd diogel i farchogaeth ceffylau.

 

  • Wrth gydnabod rheswm a rhesymeg y strategaeth, roedd pryder ynghylch yr agwedd ariannol wrth ei rhoi ar waith ac y byddai angen ystyried a chyllidebu ar gyfer hyn. Eglurodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol fod y Strategaeth yn cael ei datblygu gan ystyried adnoddau ariannol. Rhaid i'r camau gweithredu yn yr adroddiad fod yn gymesur a dangos y gwerth gorau yn ogystal â bod o fewn cyllideb bresennol y portffolio. Ar ben hynny, byddai'n ofynnol i ganlyniadau ddod o fewn y cyllidebau presennol, pe na bai hyn yn digwydd, byddent yn amodol ar gael cyllid grant neu gyllid ychwanegol.

 

  • Cyfeiriwyd at baragraff 7.5 o'r adroddiad - 7.5 Diwygio Mynediad yng Nghymru yn benodol o ran y frawddeg a oedd yn nodi 'Byddai un o'r diwygiadau arfaethedig yn golygu ymestyn hawliau i reidio beic neu farchogaeth ceffyl ar lwybrau troed cyhoeddus.’  Mynegwyd pryder y byddai'r cysylltiad rhwng llwybrau yn golygu y byddai'n rhaid i geffylau deithio ar briffordd gyhoeddus.  Cadarnhaodd y Rheolwr Mynediad Cefn Gwlad mai un o'r cynigion o fewn y Rhaglen Diwygio Mynediad Cymru oedd caniatáu beicio a marchogaeth ceffylau ar lwybrau troed cyhoeddus.  Gan fod hyn yn gynnar iawn yn y datblygiad, nid oedd yn bosibl pennu'r canlyniad.

 

PENDERFYNWYD nodi'r cynnydd a wnaed ar ddatblygu'r Strategaeth Farchogaeth.

 

 

8.

STRATEGAETH WASTRAFF SIR GAERFYRDDIN - CYNLLUN GWEITHREDU GLASBRINT pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyriaeth adroddiad ar Strategaeth Wastraff Sir Gaerfyrddin - Cynllun Gweithredu Glasbrint. Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith yn amlinellu'r bwriad i newid i fethodoleg gasglu glasbrint ailgylchu Llywodraeth Cymru.  Adroddwyd bod yr Awdurdod wedi cyrraedd ei darged ailgylchu o 70% o drwch blewyn ar gyfer 2024/2025.  Cyfeiriwyd at y cosbau ariannol sylweddol a fyddai'n cael eu rhoi pe bai'r Awdurdod yn methu â chyrraedd y targedau ailgylchu statudol.  Ar ben hynny, wrth ystyried rhwymedigaethau moesol yr Awdurdod i leihau ei ôl troed carbon, tynnwyd sylw at yr ymdrechion a wnaed hyd yma i symud tuag at system sy'n seiliedig ar egwyddorion economi gylchol.

 

Yn unol â hynny, er mwyn cyrraedd y targed disgwyliedig o 80% erbyn 2030, mynd i'r afael â materion halogi a darparu gwasanaeth cost-effeithiol, roedd yn ofynnol i'r Cyngor roi ail gam ei Strategaeth Wastraff ar waith a fyddai'n cyflwyno system gasglu newydd i gynyddu cyfraddau ailgylchu, lleihau gwastraff, a chyd-fynd ag amcanion Llywodraeth Cymru. 

 

Rhoddwyd ystyriaeth i'r rhesymeg a chyfres o opsiynau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

Cafwyd y sylwadau a'r ymholiadau canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

  • Ymatebodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol i nifer o gwestiynau a godwyd gan gynnwys y canlynol:-
  •  

-   Roedd trafodaethau parhaus yn cael eu cynnal gydag Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru i ddarparu gwelliannau diogelwch ar unwaith ar hyd yr A48 o ran mynediad ac allanfa safle ailgylchu Nant-y-caws.

 

-   Nid oedd y cynnig hwn yn effeithio ar y safleoedd Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

 

-   Ar ôl cwblhau Cam 1, roedd llawer wedi'i ddysgu o ran gweithredu, cynllunio a chyflawni. Cydnabuwyd bod heriau o ran y bocsys casglu gwydr, felly byddai’n allweddol cynllunio darpariaeth y cynwysyddion newydd.  Lluniwyd adroddiad llawn ar y gwersi a ddysgwyd ar y cyd â'r tîm Trawsnewid a oedd yn amlinellu beth oedd yr heriau a sut i'w goresgyn yn y dyfodol.  Yn ogystal, roedd y gefnogaeth gan WRAP Cymru yn amhrisiadwy o ran gweithredu, rhoi'r criwiau ar waith a'r ddarpariaeth.

 

-   Roedd cofrestr risg ariannol fanwl ar waith a oedd yn cael ei monitro'n barhaus.  Byddai unrhyw gynnydd mewn costau yn cael ei gyfathrebu yn unol â hynny.

 

-   O ran wythnos waith 4 diwrnod, eglurwyd bod achos busnes yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd yn y Gwasanaeth Gwastraff ar gyfer y patrwm gwaith newydd. 

 

  • Gofynnwyd am eglurhad ynghylch canoli'r gwasanaeth yn Nant-y-caws. Esboniodd Pennaeth Seilwaith yr Amgylchedd fod gwastraff sy'n cael ei gasglu yn Llanelli ar hyn o bryd yn cael ei anfon i orsaf drosglwyddo yn Nhrostre ac yna'n cael ei gludo  i Nant-y-caws ar lorïau. Mae cynnig wedi'i wneud i drosglwyddo staff depo Trostre, gosod y cerbydau yn Nant-y-caws gan ddileu'r broses o drosglwyddo gwastraff o Drostre i Nant-y-caws.  Cadarnhawyd y byddai darpariaeth y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Nhrostre yn parhau.

 

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 6 MEHEFIN 2024 pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion: