Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Cooper, K. Davies, D. Phillips a S. Godfrey-Coles.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol. Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2025/26 TAN 2027/28 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw y Cyngor 2025/26 i 2027/28 a oedd yn rhoi golwg gyfredol i'r Aelodau ar y gyllideb refeniw ar gyfer 2025/2026, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2026/2027 a 2027/2028. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion y swyddogion ynghylch gofynion gwariant, ac roedd yn rhoi ystyriaeth i'r setliad dros dro a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 11 Rhagfyr 2024.
Er bod llawer o waith eisoes wedi'i wneud wrth baratoi'r gyllideb, dywedwyd mai datganiad sefyllfa cychwynnol oedd yr adroddiad hwn a fyddai'n cael ei ddiweddaru yn dilyn y broses ymgynghori. Yn unol â hynny, atgoffwyd Aelodau bod yr adroddiad wedi'i ystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 13 Ionawr 2025 a bod aelodau'r Pwyllgor wedi mynychu digwyddiadau ymgynghori yn ddiweddar, a oedd yn rhoi cyfle i ddadansoddi a chael eglurhad ynghylch gwahanol agweddau ar y gyllideb.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y setliad dros dro a gyhoeddwyd yn cynrychioli cynnydd o 4.1% ar gyfer Sir Gaerfyrddin, a oedd yn cyfateb i £25.1m gan ystyried y 'trosglwyddiadau i mewn'. Er bod gwerth ariannol y setliad ychydig yn uwch na ffigur cynllunio'r Cyngor, roedd diffyg ariannol sylweddol o hyd oherwydd maint y pwysau costau ychwanegol sy'n wynebu Sir Gaerfyrddin, yn enwedig o ran y cynnydd i gyfraddau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr.
O ran Grantiau Gwasanaethau Penodol Llywodraeth Cymru, byddai'r rhan fwyaf yn aros yr un gwerth ariannol â'r blynyddoedd blaenorol, a byddai'n hynny'n cael effaith niweidiol ar allbynnau oherwydd y cynnydd mewn chwyddiant yn gyffredinol a dyfarniadau cyflog. Roedd y cyllid gan Lywodraeth Cymru yn parhau i fod yn llai na gwir gost gwasanaeth, gan olygu i bob pwrpas y byddai angen i drethdalwyr Sir Gaerfyrddin lenwi'r bwlch ariannol. Dywedwyd bod yr unig faes lle cafwyd cynnydd yn gysylltiedig â'r Grantiau Addysg Awdurdod Lleol, er bod y cynnydd hyd yn oed yma o £22 miliwn ar sail tebyg am debyg (tua 6%) a byddai'n ddigon i dalu costau ychwanegol dyfarniadau cyflog yn unig, ond nid i gynyddu allbynnau mewn gwirionedd.
Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at adran 3.5 o strategaeth y gyllideb lle rhoddwyd trosolwg o'r sefyllfa o ran cyllidebau dirprwyedig yr ysgolion i'r Aelodau. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am gamau gweithredu parhaus yr Awdurdod i liniaru'r gorwariant cyllidebol, ond arhosodd y gorwariant a ragwelir ar lefel gritigol ar draws nifer fawr o ysgolion yn y sir ac roedd posibilrwydd y byddai hyn yn ansefydlogi cyllid ehangach yr Awdurdod. Felly, y farn oedd ei bod yn annhebygol iawn y byddai gostyngiad pellach yn y gyllideb mewn gwirionedd yn cael ei gyflawni/y byddai modd ei gyflawni ar hyn o bryd. Yn unol â hynny, cynigiwyd mynd i'r afael â'r gostyngiad drwy gynyddu'r dreth gyngor, gan gyfateb i oddeutu 3.5%, er mwyn atal y sefyllfa rhag gwaethygu wrth i gamau brys gael eu cymryd i sicrhau bod y gwariant yn unol â'r adnoddau presennol unwaith eto. Roedd y Cyngor yn cynnig cynnydd yn y Dreth Gyngor o 9.75% ar gyfer 2025/26.
Darparwyd i'r Pwyllgor drosolwg o'r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
ADRODDIAD DATGANIAD BLYNYDDOL 2024 Y CYNLLUN RHEOLI ASEDAU PRIFFYRDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Datganiad Blynyddol 2024 y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith. Tynnodd yr Aelod Cabinet sylw at yr heriau sylweddol a oedd yn wynebu'r Awdurdod.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
Cymeradwyodd yr Aelodau y fenter ailgylchu cewynnau oedd â'r nod o drawsnewid un o feysydd rheoli gwastraff a gwella gwaith cynnal a datblygu seilwaith cynaliadwy ar yr un pryd. Drwy bartneriaeth â Nappicycle, cwmni rheoli gwastraff lleol, roedd prosiect wedi cael ei roi ar waith i ddefnyddio cewynnau wedi'u hailgylchu i arwynebu priffyrdd a ddewiswyd a lleihau'r effaith amgylcheddol o ran rheoli gwastraff ac adeiladu ffyrdd. Roedd y prosiect yn cynnwys ailddefnyddio cewynnau ar ôl defnyddwyr, gan eu dargyfeirio o safleoedd tirlenwi a'u trawsnewid yn belenni ffibrog oedd yn cael eu hintegreiddio i asffalt ar gyfer arwynebu ffyrdd. Dywedodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol fod hyn yn gam sylweddol at hyrwyddo economi gylchol, lle mae adnoddau'n cael eu hailddefnyddio ac yn cael pwrpas newydd yn hytrach na'u gwaredu ar ôl eu defnyddio unwaith. Awgrymwyd y byddai'n fuddiol cynnal ymarfer cysylltiadau cyhoeddus er mwyn egluro'r sefyllfa i'r cyhoedd. Dywedodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol fod datganiad i'r wasg wedi'i ddosbarthu ond cytunodd fod y fenter wych hon yn haeddu cael rhagor o gyhoeddusrwydd.
PENDERFYNWYD derbyn Datganiad Blynyddol 2024 y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd.
|
|
CYNLLUNIAU BUSNES 2025/26 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Cynlluniau Busnes sy'n berthnasol i'r Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd ar gyfer 2025/26 fel a ganlyn:
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol mewn perthynas â Chynllun Cyflawni Is-adrannol Seilwaith Amgylcheddol 2025-26:-
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol mewn perthynas â Chynllun Cyflawni Is-adrannol Lle a Chynaliadwyedd 2025-26:-
Mewn ymateb i ymholiad pellach am ddisgrifiad y cam gweithredu '.... byddwn yn newid ein harferion rheoli gyda'r nod o gynyddu bioamrywiaeth yr holl dir sy'n eiddo i'r Cyngor...', cadarnhaodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd fod hyn yn cynnwys ffermydd sy'n eiddo i'r Cyngor lle byddai cyngor a chymorth yn cael eu darparu yn ogystal â'u cyfeirio at y cyllid grant sydd ar gael.
|
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 10 Mawrth 2025.
O ran yr eitemau canlynol ar y rhestr, gofynnodd y swyddogion am arweiniad pellach gan y Pwyllgor ar ba wybodaeth i'w chynnwys:-
Wrth ystyried Llygredd Afonydd, cytunwyd bod y pwyllgor craffu wedi ystyried adroddiadau ynghylch y pwnc hwn lle canfuwyd bod llawer o'r cyfrifoldeb gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Hefyd, ar 29 Ionawr, 2025 roedd y Pwyllgor wedi cael ei wahodd i sesiwn friffio i'r Aelodau ar waith Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Byrddau Rheoli Maetholion ynghylch y cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yn hyn wrth fynd i'r afael â heriau sy'n gysylltiedig â maetholion yng ngorllewin Cymru. Cytunwyd i dynnu hyn oddi ar Flaengynllun Gwaith y Pwyllgor.
O ran yr adroddiad Trafnidiaeth yn Sir Gaerfyrddin, roedd y Pwyllgor hefyd wedi cael ei wahodd i Seminar i'r Aelodau ar 5 Chwefror 2025. Nod y seminar hon oedd darparu gwybodaeth am y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, felly cytunwyd y byddai'r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth yn ogystal â'r model masnachfreinio bysiau yng Nghymru.
PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 10 Mawrth, 2025, gan dynnu'r adroddiad ar Lygredd Afonydd.
|
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 20 TACHWEDD 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a oedd wedi ei gynnal ar 20 Tachwedd 2024 gan eu bod yn gywir.
|