Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd - Dydd Mercher, 20fed Tachwedd, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd D. Phillips a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau - Y Cynghorydd A. Lenny.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

 N. Lewis

5. Yr Hyn y mae'r Cyngor yn ei Wneud i Gyflymu'r Defnydd o Ynni Adnewyddadwy ar draws ei Sylfaen Asedau

Mae gan y Cynghorydd Lewis fuddiant personol a rhagfarnol yn yr eitem hon gan ei fod yn Rheolwr yn y Cwmni Menter Gymunedol - Ynni Sir Gâr. Mae'r Cynghorydd Lewis wedi cael gollyngiad i siarad ar faterion yn ymwneud â'r sector ynni ond nid i bleidleisio.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2024/25 pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2024/25 y Gwasanaethau Lle a Seilwaith a Diogelu'r Cyhoedd oedd o fewn ei gylch gwaith.  Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol, yn absenoldeb yr Aelod Cabinet dros Adnoddau yr adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Awst 2024.

 

Codwyd yr ymholiadau canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

 

  • Cyfeiriwyd at Atodiad B – Casgliad Gwastraff. Gofynnwyd am esboniad mewn perthynas â'r sylw a briodolwyd – 'Nid oedd modd cyflawni ffactor swyddi gwag o £84k'. Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Ariannol fod ffigwr corfforaethol cyffredinol o £2m i'w gyflawni mewn perthynas â swyddi gwag ar draws holl wasanaethau'r Cyngor, fel rhan o gydbwyso'r gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25. O fewn y ffigwr corfforaethol, sydd wedi'i rannu ar draws pob adran, rhagwelwyd y byddai'r adran hon yn profi diffyg o £84k. O ran y gyllideb casgliadau gwastraff, ychwanegodd y Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol mai'r rheswm dros y gorwariant oedd oherwydd trosiant staff a chynnal swyddi agored. Priodolwyd yr her i'r ffaith fod cadw swyddi gwag agored ar y gwasanaeth rheng flaen yn golygu na fyddai'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn ôl y disgwyl.

 

  • O ran Atodiad B - Costau Cynnal Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan, estynnwyd llongyfarchiadau ynghylch gwneud refeniw cymedrol o £16k o bwyntiau gwefru cerbydau trydan.

 

  • Cyfeiriwyd at Atodiad B – goleuadau priffordd, gwnaed sylw y bu gordaliad, gofynnwyd am ragor o fanylion. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod gan y Cyngor gontract ynni corfforaethol a oedd yn ymdrin â llawer o fannau mesur ledled y Sir, a oedd yn anochel yn destun amrywiadau blynyddol mewn costau ynni. 

 

Yn dilyn cynnydd mewn costau ynni, 2024/25, dywedwyd bod gostyngiad sylweddol ar draws y cyfrifon ynni corfforaethol yn galluogi lleihau'r bwlch yn y gyllideb. Roedd gwahaniaethau yn y lefelau o ostyngiad mewn costau ar draws mannau mesur unigol. Ar hyn o bryd roedd y tîm cyllid yn gweithio i ymchwilio i hyn a nodi ble roedd y gwahaniaethau.

 

  • Cyfeiriwyd at agweddau oddi ar y targed yn Atodiad G (iv). 

 

-   O ran Gwasanaethau Parcio, wrth gadarnhau bod yr ail gerbyd gorfodi bellach mewn lle, cydnabu Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y byddai rhywfaint o arbedion ond nid yr arbedion llawn yn cael eu gwneud eleni.

 

-   O ran Glanhau, cadarnhawyd bod y gwaith o resymoli biniau sbwriel wedi dechrau a bod 150 o finiau sbwriel wedi'u tynnu oddi ar y rhwydwaith ffyrdd hyd yn hyn. Roedd gwybodaeth i fod i gael ei dosbarthu i’r holl Gynghorwyr yn manylu ar ba finiau oedd wedi’u nodi i’w symud o fewn pob ward rhwng nawr ac Ebrill 2025.

 

  • Byddai ymatebion i’r ymholiadau canlynol yn cael eu dosbarthu i aelodau drwy e-bost oherwydd bod swyddogion yn gorfod casglu’r data gofynnol y tu allan i’r cyfarfod:-

 

-   Atodiad B - Mewn perthynas â’r Is-adran Drwyddedu a’r amrywiad o £175k, dywedwyd bod 40% o’r incwm wedi’i ragnodi ers 2005. Gofynnwyd felly a oedd y Cyngor wedi bod mewn cyswllt â Llywodraeth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

YR HYN Y MAE'R CYNGOR YN EI WNEUD I GYFLYMU'R DEFNYDD O YNNI ADNEWYDDADWY AR DRAWS EI SYLFAEN ASEDAU pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Gan fod y Cynghorydd Neil Lewis wedi datgan buddiant personol a rhagfarnol yn yr eitem hon yn gynharach, yn unol â’r gollyngiad a ganiatawyd, cymerodd ran yn y trafodaethau ond ni phleidleisiodd.]

 

Derbyniodd y Pwyllgor i'w ystyried, adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth fanwl am yr hyn y mae'r Cyngor yn ei wneud i gyflymu'r defnydd o ynni adnewyddadwy ar draws ei sail asedau.  Wrth gyflwyno’r adroddiad, eglurodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd fod yr adroddiad yn amlinellu’r cynnydd a wnaed, yn cynnwys y rhwystrau presennol ac yn darparu datblygiad posibl yn y dyfodol o ran gosod technolegau ynni adnewyddadwy.

 

Ynghyd â'r adroddiad, cafwyd cyflwyniad a oedd yn darparu gwybodaeth fanwl am gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn bennaf, a oedd yn ymdrin â'r meysydd canlynol:-

 

-   Symud tuag at Garbon Sero-net

-   Solar Cyfredol – Adeiladau annomestig

-   Enghraifft - Ysgol y Bedol

-   Fframwaith Re:Fit Cymru

-   Rhaglen Datgarboneiddio Gwres

-   Yr Ystâd Ddomestig – Rhaglen Ynni Adnewyddadwy

-   Yr Ystâd Ddiwydiannol

-   Potensial ynni adnewyddadwy

-   Nant y Caws

-   Cyfyngiadau

-   Ynni Adnewyddadwy yn Sir Gaerfyrddin

 

Holwyd ynghylch y canlynol mewn perthynas â'r adroddiad/cyflwyniad:-

 

·       Mewn ymateb i sylw a wnaed ynghylch y potensial o ddefnyddio llety gwarchod sy'n eiddo i'r Cyngor ar gyfer paneli solar, eglurodd y Swyddog Ynni Corfforaethol y gellid cynnwys y rhain o fewn cwmpas cam dau o'r prosiect re:fit.

 

·       Cyflwynwyd nifer o awgrymiadau i swyddogion yn tynnu sylw at nifer o fentrau amrywiol y gallai'r Cyngor eu hystyried ar gyfer datblygiad ynni adnewyddadwy posibl o fewn ei ystâd.

 

·       Diolchodd yr aelodau i'r swyddogion am y cyflwyniad cynhwysfawr a'u gwaith tuag at ymgysylltu ag ynni adnewyddadwy.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

 

6.

STRATEGAETH COED A CHOETIR AR GYFER CYNGOR SIR CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 139 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar y Strategaeth Coed a Choetir ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin.  Ynghlwm wrth yr adroddiad roedd y Strategaeth ddrafft a oedd yn ceisio barn y Pwyllgor cyn iddi gael ei hystyried i'w chymeradwyo gan y Cabinet.

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd wybod i'r aelodau am ddiben y strategaeth a baratowyd yn wreiddiol mewn ymateb i Gam Gweithredu 23 o Gynllun Cyngor Sir Caerfyrddin,  Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin. Dywedwyd bod y strategaeth bellach yn llawer ehangach ei chylch gorchwyl na’r hyn a nodir yng Ngham Gweithredu 23.

 

Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw fod y strategaeth yn nodi cyfrifoldebau’r oedd gan y Cyngor dros goed a choetiroedd, sut mae coed a choetiroedd yn cael eu rheoli, a pham, sut, a ble y gallai’r Cyngor sefydlu mwy o goed a choetiroedd ar y tir y mae’n ei reoli.

 

Dywedwyd bod mân newidiadau pellach wedi'u gwneud ers y diweddariad ar gynnydd datblygiad y Strategaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Craffu ym mis Chwefror 2023.

 

Holwyd ynghylch y canlynol mewn perthynas â'r adroddiad/strategaeth:-

 

  • Rhoddwyd awgrymiadau ynghylch y cyfleoedd amrywiol y gallai'r Cyngor eu defnyddio i blannu coetir ychwanegol e.e. ardaloedd cyfagos ag afonydd ac ardaloedd sydd wedi'u ffensio i ffwrdd i alluogi natur i ddilyn ei gwrs a fyddai'n ddulliau hawdd o gyflawni bioamrywiaeth. Mewn ymateb, diolchodd Swyddog Coed Cymru i'r Aelodau am yr awgrymiadau ac eglurodd y byddai'r amodau y byddai ar ardaloedd penodol eu hangen i fod yn amgylchiadau delfrydol ar gyfer canlyniad llwyddiannus.

 

  • Wrth ddysgu am y Prosiect Plannu Coed a chyfranogiad ac ymgysylltiad llwyddiannus Ysgol Gynradd y Bynea, awgrymwyd y dylai'r prosiectau hyn gael eu hadlewyrchu ar draws ysgolion Sir Gaerfyrddin drwy'r Cynghorau Tref a Chymuned.

 

  • Gofynnwyd faint o effaith y mae clefyd Coed Ynn yn ei chael ar ystâd y Cyngor o ran cost? Dywedodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd y byddai'r tîm archwilio priffyrdd  yn cynnal asesiad priffyrdd ar hyd ffyrdd A, B ac C ledled Sir Gaerfyrddin bob blwyddyn. Dywedwyd bod 4000 o goed wedi'u nodi llynedd a oedd yn dangos arwyddion o glefyd Coed Ynn. Roedd y rhan fwyaf o goed a nodwyd ar dir preifat. Roedd 158 o goed wedi'u nodi ar dir y Cyngor a fyddai’n cael eu cwympo. Yn ogystal, rhoddwyd gwybod i'r Aelodau bod y tîm yn cynnwys swyddog Clefyd Coed Ynn a bod penodiad diweddar ar gyfer prentis Swyddog Clefyd Coed Ynn wedi'i wneud.

 

  • Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â choed ansefydlog a choed peryglus ar dir preifat sy’n berygl i’r priffyrdd eglurodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd fod gan y tîm y pwerau i ymyrryd.

 

  • Mewn ymateb i sylwadau a wnaed ynghylch datgoedwigo, eglurodd Swyddog Coed Cymru y pwyntiau canlynol i’r Aelodau:-

 

-   Cydnabuwyd y gall dirywiad naturiol gymryd mwy o amser na phlannu coed, fodd bynnag roedd yn dibynnu'n fawr ar y sefyllfa gan y gallai plannu coed ddarparu ar gyfer datblygiad coetir cyflymach, ond byddai adfywio naturiol yn darparu ar gyfer coetir bioamrywiol naturiol.

 

-   O ran rhywogaethau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

DIWEDDARIAD YNGHYLCH GWEITHREDU ARGYMHELLION ADRODDIAD TERFYNOL Y GRWP GORCHWYL A GORFFEN YNGLYN Â THIPIO ANGHYFREITHLON pdf eicon PDF 75 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu saith argymhelliad Adroddiad Tipio Anghyfreithlon y Gr?p Gorchwyl a Gorffen.
 

 

Cyn yr Adolygiad Gorchwyl a Gorffen yn 2021/22, dywedwyd bod nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon wedi cyrraedd 4,800, ers yr Adolygiad cynhaliwyd nifer o gamau gweithredu drwy weithgarwch gorfodi a gwell cyfathrebu ac ar ddiwedd y llynedd roedd cyfradd y digwyddiadau tipio anghyfreithlon wedi gostwng yn sylweddol i ychydig dros 3,000. At hynny, dywedwyd bod ychydig dros 780 o achosion o dipio anghyfreithlon yn ystod chwarter cyntaf eleni, a oedd ar y trywydd iawn i gyd-fynd â'r ffigwr ar gyfer y flwyddyn flaenorol. Felly, roedd yn braf nodi bod y ffigurau hyn yn nodi gostyngiad amlwg mewn achosion o dipio anghyfreithlon yn ystod y 12-18 mis diwethaf.

 

Estynnodd Aelodau'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen eu diolch i swyddogion am eu gwaith ar y mater hwn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

 

8.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

9.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR

Dogfennau ychwanegol:

9.1

31 GORFFENNAF 2024 pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf 2024, gan eu bod yn gywir.

 

 

9.2

7 HYDREF 2024 pdf eicon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 7 Hydref, 2024, gan eu bod yn gywir.